Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol oedd yn peri rhagfarn ag eitem 7 ar y rhaglen: Trosolwg ar Gwynion Moesegol.

Datganodd Julia Hughes gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen: Diweddariad ar Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned.

 

17.

Cofnodion pdf icon PDF 64 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arGorfennaf 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2022 i’w cymeradwyo.

Materion yn codi

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd yngl?n ag argaeledd dolenni i sesiynau hyfforddi ar dudalen yr Aelodau, dywedodd y Swyddog Monitro bod disgwyl i borth yr Aelodau ‘fynd yn fyw’ ym mis Medi a byddai recordiadau’r hyfforddiant a ddarparwyd yn rhan o broses gynefino’r Aelodau ar gael.  Gan gyfeirio at hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, eglurodd y Swyddog Monitro y byddai sesiwn hyfforddi ychwanegol yn cael ei darparu ar 12 Hydref, ac er ei bod yn bennaf ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned, byddai hefyd yn gyfle ychwanegol i’r Aelodau fynd iddi.  Gofynnodd y Cadeirydd a ellid darparu adroddiad cynnydd ar ddatblygu dolenni i sesiynau hyfforddi ar dudalen yr Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a hefyd ar bresenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi.

Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad ar weithredu’r Cod Ymddygiad a thrafodaethau a oedd wedi’u cynnal â Llywodraeth Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru yngl?n â therfynau amser ar gyfer argymhellion Adolygiad Penn.  Gofynnodd y Cadeirydd a oedd recordiad o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2022 ar gael.  Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd eto wedi gallu cael copi gan Gyngor Gwynedd ond byddai’n parhau i fynd ar ôl un.

Cymeradwywyd y cofnodion, yn amodol ar fân newid sillafu ar dudalen 7 fel y cynigiodd Gill Murgatroyd ac yr eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

Yn amodol ar fân newid sillafu, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

18.

Goddefebau

To receive any requests for dispensations.

 

Members of the press/public will be able to remain at the meeting whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision.  However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.

 

 

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

19.

Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol pdf icon PDF 78 KB

Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol a gynhaliwyd ar y 27 Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad oedd yn rhoi adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022.  Dywedodd fod y cyfarfod wedi trafod a chytuno sut y dylai’r Pwyllgor Safonau weithredu ei ddyletswydd newydd i wneud sylwadau ar gydymffurfiaeth â dyletswydd yr Arweinwyr Grwpiau i hyrwyddo ymddygiad da yn ei adroddiad blynyddol.  Eglurodd y Swyddog Monitro y dylid cyfrif methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd newydd yn achos posib’ o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad gan Arweinydd Gr?p.  Roedd sut yr adroddai’r Pwyllgor ar lefelau cydymffurfio’n hynod bwysig.  Roedd nodiadau’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022 wedi’u hatodi i’r adroddiad.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Gill Murgatroyd yngl?n ag ymgynghori ag Arweinwyr Grwpiau, cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod dogfennau am y broses arfaethedig wedi’u rhannu â’r holl Arweinwyr Grwpiau i roi cyfle iddynt gyfrannu ac ymateb.  Ar ôl trafod, cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â’r Arweinwyr Grwpiau a oedd heb ymateb i geisio cael cadarnhad nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau yngl?n â’r cynigion.  Dywedodd y Swyddog Monitro eto fod gan y Pwyllgor Safonau ddyletswydd i lunio Adroddiad Blynyddol o fewn 12 mis a oedd yn cynnwys sylwadau am lefelau cydymffurfio’r Arweinwyr Grwpiau.

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Jacqueline Guest ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

PENDERFYNWYD:

(a)       Bod y Pwyllgor yn cyflwyno’r ddyletswydd newydd i wneud sylwadau am gydymffurfiaeth Arweinwyr Grwpiau â’u dyletswydd i hyrwyddo ymddygiad da fel y trafodwyd ac y cytunwyd yn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol; a

(b)       Rhoi gwybod i’r Arweinwyr Grwpiau am y broses a fabwysiadwyd.

 

20.

Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 88 KB

Cynllunio a pharatoi ar gyfer Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i gynllunio a pharatoi at ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned.  Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud y cytunwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 10 Ionawr 2022 y byddai cyfres newydd o ymweliadau’n cael eu trefnu ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.  Yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor wedyn ar 6Mehefin 2022, cytunwyd y byddai hyn yn cael ei gynnwys fel eitem ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y canllawiau awgrymedig i gael eu mabwysiadu yn ystod ymweliadau wedi’u nodi yn adran 1.04 yn yr adroddiad.  Cyfeiriodd hefyd at yr arfer o’r blaen ar ôl cynnal yr ymweliadau, fod yr Aelodau Annibynnol yn darparu copi o unrhyw nodiadau a wnaed i Dîm y Gwasanaethau Democrataidd fel gwybodaeth gefndir a hefyd yn rhoi adborth ar lafar yn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gais gan Gill Murgatroyd, eglurodd y Cadeirydd a’r Swyddogion fod adborth cyffredinol yn cael ei roi er mwyn cysondeb i Gynghorau Tref a Chymuned ar ôl ymweliadau, ac adborth penodol yn cael ei roi ar gais.

 

Ymatebodd y Dirprwy Swyddog Monitro i gais gan David Davies am eglurhad ar y gweithdrefnau yr oedd Aelodau Annibynnol i’w dilyn pe bai eitemau cyfrinachol yn cael eu hystyried yn ystod ymweliadau â chyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned.  Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst hefyd a ddylai Aelodau Annibynnol fod yn bresennol ai peidio wrth i eitemau cyfrinachol gael eu trafod yng nghyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned.  Mewn ymateb, cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at gylch gwaith/pwrpas ymweliadau Aelodau Annibynnol, sef arsylwi ar weithdrefnau, a hyrwyddo safonau ymddygiad a chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Mark Morgan a David Davies yngl?n â thalu lwfansau a threuliau am fynd i gyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n codi’r mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Swyddogion Monitro yr wythnos honno a byddai’n rhoi adborth i’r Pwyllgor.

 

Cynigiwyd argymhelliad (1) yn yr adroddiad gan David Davies ac fe’i heiliwyd gan Mark Morgan.

Cynigiwyd argymhelliad (2) yn yr adroddiad gan Jacqueline Guest ac fe’i heiliwyd gan Gill Murgatroyd.

Cynigiwyd argymhelliad (3) yn yr adroddiad gan Mark Morgan ac fe’i heiliwyd gan David Davies.

Cynigiwyd argymhelliad (4) yn yr adroddiad gan Gill Murgatroyd ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

Cynigiwyd argymhelliad (5) yn yr adroddiad gan David Davies ac fe’i heiliwyd gan Mark Morgan.

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo i’r Swyddogion lunio rhestr o Gynghorau Tref a Chymuned a dyddiadau eu cyfarfodydd ar gyfer 2022/23 i’w hanfon at Aelodau Annibynnol er mwyn iddynt hwy ddewis i gyfarfodydd pa Gynghorau Tref a Chymuned roeddent am fynd;

 

(b)       Ysgrifennu at Gynghorau Tref a Chymuned yn egluro y bydd y broses o gynnal ymweliadau’n digwydd eto yn 2022/23;

 

(c)       Bod adrodd ar ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor yn seiliedig ar lwyth gwaith y Pwyllgor, ac eithrio lle’r oedd materion brys a bod angen adborth arnynt, a byddai’r rhain yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 85 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad a roddai grynodeb ar y cwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod wedi’i dorri. Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr adroddiad yn rhoi dealltwriaeth i’r Pwyllgor am nifer y cwynion a’r mathau o gwynion oedd yn cael eu gwneud a’r canlyniad ar ôl i Swyddfa’r Ombwdsmon eu hystyried.

Dywedodd y Swyddog Monitro fod 5 cwyn wedi’u derbyn ers yr adroddiad diwethaf.  O’r 3 achos yr oedd penderfyniad arnynt, ni ymchwiliodd yr Ombwdsmon i unrhyw un gan eu bod wedi methu prawf yr 2il gam. Er mwyn cyflymu’r gwaith o brosesu’r cwynion, roedd yr Ombwdsmon yn rhoi cynnig ar ddull gwahanol o asesu cwynion lle’r oedd yn penderfynu a oedd angen ymchwiliad ai peidio cyn rhoi gwybod i’r Swyddog Monitro neu Gynghorydd.  Roedd ymchwiliad i 4 cwyn ar fynd ar hyn o bryd (3 wedi’u gwneud yn 2022/23 ac 1 ar ôl ers 2021/22).  Roedd y cwynion oedd yn destun ymchwiliad yn ymwneud ag amryw faterion heb unrhyw batrwm cyffredin.  Roedd rhestr o’r cwynion a gafwyd yn ystod 2022/23 wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

Cynigiwyd argymhelliad yr adroddiad gan y Cynghorydd Antony Wren ac fe’i heiliwyd gan Gill Murgatroyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r nifer a’r math o gwynion.

 

22.

Diweddariad ar Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned pdf icon PDF 81 KB

Rhoi gwybod am gynnydd ar recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned newydd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi gwybod am gynnydd wrth recriwtio cynrychiolydd newydd i Gynghorau Tref a Chymuned.  Roedd angen i’r Pwyllgor Safonau gynnwys cynrychiolydd i Gynghorau Tref a Chymuned.  Roedd yn rhaid i’r cynrychiolydd fod yn Gynghorydd a oedd yn gwasanaethu ar Gyngor Tref neu Gymuned, ond ni allai fod yn Gynghorydd Sir hefyd.  Gofynnwyd i Gynghorau Tref a Chymuned enwebu ymgeiswyr posib’.  Roedd cyfanswm o 6 ymgeisydd ac roedd pob un wedi darparu ysgrif-bortread a oedd wedi cael ei anfon at yr holl Gynghorau.  Gofynnwyd i’r Cynghorau enwebu eu dewis cyntaf a’u hail ddewis fel cynrychiolydd.  Yr ymgeisydd oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau fyddai’n cael ei ddewis.  Pe bai’n gyfartal, byddai’r ymgeisydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau fel dewis cyntaf yn cael ei ddewis.  Byddai’r penodiad ffurfiol yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn ar 18 Hydref 2022.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Mark Morgan ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r broses i benodi cynrychiolydd i’r Cynghorau Tref a Chymuned.

 

23.

Diweddariad ar greu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch a oes digon o gefnogaeth i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad i’r Pwyllgor ar lafar yn nodi a oedd digon o gefnogaeth i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ar y mater gan ddweud bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cytuno i ddarparu cefnogaeth ysgrifennydd i Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol.  Soniodd am aelodaeth arfaethedig y Fforwm a nifer y cyfarfodydd a fyddai’n cael eu cynnal bob blwyddyn.  Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyflwyno cynigion yng nghyfarfod nesaf y Swyddogion Monitro ac y byddai’n rhoi gwybod i’r aelodau am ganlyniad y cyfarfod hwnnw yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 7 Tachwedd 2022.

 

24.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried. 

Awgrymodd Gill Murgatroyd y dylai’r eitem ar Adborth o Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned hefyd gael ei chynnwys i gael ei hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2022 a 9 Ionawr 2023.  Cytunwyd ar hyn.

Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd i’r eitem ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft, a oedd wedi’i threfnu i gael ei hystyried yn y cyfarfod i’w gynnal ar 6 Mawrth 2023, gael ei symud i 8 Mai 2023 er mwyn caniatáu cynnwys adborth gan Arweinwyr Grwpiau ar y ddyletswydd i hyrwyddo ymddygiad da fel y trafodwyd ac y cytunwyd yn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan Mark Morgan ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd.

 

25.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 6.30pm, a daeth i ben am 8.03pm)