Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020, yn amodol ar ddiwygio gwallau argraffyddol yng nghofnodion rhifau 4 a 6.

 

Materion yn Codi

 

Ynghylch cofnod rhif 5, cynghorodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai adroddiad ar hyrwyddo’r broses oddefebau mewn awdurdodau eraill yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y ddau gywiriad, y dylid derbyn bod y cofnodion yn gywir.

13.

Goddefebau

Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

14.

Eitemau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned

I drafod unrhyw faterion moesol neu waith y Pwyllgor Safonau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd cyfle i Gynghorau Tref a Chymuned godi unrhyw eitemau cyn y cyfarfod: ni dderbyniwyd dim.

15.

Cyfarwyddiadau gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru pdf icon PDF 81 KB

Ystyried y cyfarwyddiadau a gafwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru ar rôl y Swyddog Monitro yn nhrafodion, datgeliad a thystiolaeth ddienw Panel Dyfarnu Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried y cyfarwyddiadau a dderbyniwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru (APW) ar swyddogaeth y Swyddog Monitro mewn achosion APW, datgelu, a gwneud tystiolaeth tystion a thrydydd partïon yn ddienw.

 

Eglurodd y Swyddog Monitro fod y mater wedi codi yn dilyn ei gais ysgrifenedig i Lywydd APW am eglurder ynghylch y broses yn ystod achosion tribiwnlys.  Rhoddodd drosolwg o’r tri chyfarwyddyd ymarfer a gyhoeddwyd wedi hynny, sy’n helpu i sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder mewn tribiwnlysoedd, ond nad ydynt yn rhwymol yn gyfreithiol.  Byddai’n rhaid i’r Pwyllgor ystyried y rhain mewn unrhyw wrandawiadau yn y dyfodol.

 

Pasiwyd yr argymhelliad ar ôl iddo gael ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Johnson a Julia Hughes.  Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am gael cofnodi'r ffaith iddo ymatal rhag pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu’r cyfarwyddiadau ymarfer, ac yn cytuno i ystyried gweithredu egwyddorion tebyg (fel bo’n briodol) lle bo'r angen mewn unrhyw wrandawiad gerbron y Pwyllgor.

16.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 82 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad rheolaidd ar y nifer o gwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.

 

Ers yr adroddiad diwethaf, cyflwynwyd cyfanswm o 16 o gwynion. Fel y cytunwyd yn flaenorol, roedd y wybodaeth yn ddienw, gyda chyfeirinodau’n cael eu rhoi i wahaniaethu rhwng Cynghorau a Chynghorwyr unigol ar gyfer pob cyfnod. Tynnwyd sylw at un g?yn unigol a wnaed yn erbyn naw Cynghorydd ar yr un pryd, y bu’n rhaid ei hadrodd fel cwynion ar wahân.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Julia Hughes, cytunodd y Swyddog Monitro i ymchwilio a oedd y g?yn â’r cyfeirnod 16/7020 yn ymwneud â Chyngor Tref ynteu â Chyngor Cymuned. Ynghylch cyfeirnod 17/7925, eglurodd fod y geiriad coll yn dangos na thorrwyd y Cod, yn unol â’i gyngor ef.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Andy Trumper, eglurodd y Swyddog Monitro’r amserlenni targed sy’n berthnasol i amrywiol gamau’r broses. Dywedodd hefyd y gallai newidiadau o fewn Panel Dyfarnu Cymru helpu i gyflymu’r broses o pan wneir cwyn i pan gynhelir gwrandawiad y tribiwnlys achos yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Julia Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r nifer a’r mathau o g?ynion.

17.

Llawlyfr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) Rhifyn 23 (Hydref 2019 - Rhagfyr 2019) a'r llythyr blynyddol gan y OGCC pdf icon PDF 105 KB

Hysbysu’r Pwyllgor am gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus ac i rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad ar y deilliannau yn rhifyn diweddaraf Coflyfr Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y cyfnod o Hydref tan Ragfyr 2019. Rhoddodd drosolwg o’r ddwy g?yn yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod y cyfnod lle penderfynwyd nad oedd angen gweithredu ymhellach.

 

Ynghylch Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2019/20, crynhowyd canlyniadau’r ddwy g?yn oedd yn ymwneud â Chynghorwyr Sir. Nodwyd bod y 14 c?yn yn erbyn Cynghorwyr Tref/Cymuned, y caewyd pob un ohonynt ar ôl rhoi ystyriaeth gychwynnol iddynt, yn cynnwys naw oedd yn ymwneud â’r un digwyddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan Phillipa Earlam a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn fodlon, ar ôl adolygu’r achosion a grynhowyd yn Rhifyn 23 y Coflyfr, nad oes angen i Gyngor Sir y Fflint weithredu ymhellach i osgoi cwynion tebyg; ac

 

 (b)      Ar ôl ystyried llythyr blynyddol yr Ombwdsmon, ac ar ôl ystyried a gweithredu ar ddeilliannau’r achos a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru, ac ar ôl nodi nad ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’r cwynion eraill a wnaed yn ystod 2019/20, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oes angen gweithredu.

18.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodolgyfredol i’w hystyried.

 

Roedd angen eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod Ionawr 2021 ynghylch y broses o recriwtio aelod annibynnol i'r Pwyllgor gan fod tymor olaf y Cadeirydd yn mynd i fod yn dod i ben yn fuan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.