Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

8.

Cofnodion pdf icon PDF 78 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Mehefin 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2022 i’w cymeradwyo.   Cymeradwywyd y cofnodion, yn amodol ar fân newidiadau fel y cynigiodd Gill Murgatroyd ac yr eiliodd y Cynghorydd Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

Yn amodol ar y diwygiadau, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

9.

Rhaglen Gynefino ar gyfer Cynghorwyr pdf icon PDF 93 KB

Hysbysu’r Pwyllgor am y sesiynau hyfforddiant moesegol i’w darparu fel rhan o’r rhaglen gynefino ar gyfer Cynghorwyr ar ôl yr etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad amlinellodd y Swyddog Monitro’r themâu allweddol ar gyfer y sesiynau hyfforddiant sef ymddygiad priodol a dealltwriaeth o’r Cod.    Cyflwynwyd rhan gyntaf y Rhaglen Gyflwyno o fewn y pythefnos cyntaf ac roedd yn canolbwyntio ar ymddygiad.   Roedd y sesiynau presennol yn cynnwys datgan cysylltiad, goddefebau, rhoddion a lletygarwch gyda hyfforddiant manwl ar hyn i’r grwpiau gwleidyddol.    Gan gyfeirio at Gynghorwyr Tref a Chymuned, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y cynhaliwyd tair sesiwn gyda 43% o’r Cynghorwyr Tref a Chymuned wedi mynychu hyd yma.   Cynhelir sesiynau ychwanegol yn yr Hydref ar gyfer y cynghorwyr a gyfetholwyd dros yr haf.   Roedd y rhain yn sesiynau gorfodol ac roeddent yn cael eu recordio ar gyfer y rhai nad oeddent yn gallu mynychu’r sesiynau a drefnwyd.

 

            Holodd David Davies beth oedd y canlyniadau ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned os nad oeddent yn mynychu’r Sesiynau Cod Ymddygiad o gwbl.    Mewn ymateb eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r risg y byddent yn torri’r Cod yn cynyddu ynghyd â’r risg y byddai cwyn yn cael ei gyflwyno yn eu herbyn, a allai arwain at waharddiad.   Nid oedd yn sicr beth fyddai safbwynt yr Ombwdsmon ond cadarnhaodd y byddai gofyn iddo gadarnhau a yw’r cynghorydd wedi mynychu sesiwn hyfforddi ar y Cod.

 

            Gan gyfeirio at Gynghorwyr Sir eglurodd y Cadeirydd bod gofyniad i Arweinwyr Gr?p sicrhau bod eu haelodau’n cwblhau’r hyfforddiant.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod hynny’n gywir a bod yr holl Arweinwyr Gr?p wedi cytuno y gallai ef a’r Dirprwy Swyddog Monitro fynychu eu cyfarfodydd i ddarparu’r hyfforddiant iddynt.

 

            Eglurodd y Cynghorydd Antony Wren fod yr hyfforddiant yn hynod ddefnyddiol er bod gormod o wybodaeth.   Pan ofynnwyd a oedd y sesiynau’n cael eu storio, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai dolenni cyswllt i’r sesiynau hyfforddiant ar gael ar Dudalen yr Aelodau, sy’n cael ei datblygu ar yr Infonet.   Cytunodd y byddai’n cadarnhau pryd y byddent ar gael i’r Aelodau.   Holodd y Cadeirydd a fyddai modd cyflwyno’r wybodaeth yn y cyfarfod nesaf.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at God y Cyfansoddiad gyda 58 allan o 67 o’r Aelodau eisoes wedi mynychu’r hyfforddiant a holodd sut y byddent yn ymdrin â’r 9 sy’n weddill gan fod yr hyfforddiant yn orfodol.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod pob un heblaw un o’r Aelodau newydd wedi mynychu’r hyfforddiant ar gysylltiadau ac yn ogystal ag yntau a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn mynychu’r cyfarfodydd gr?p byddai recordiad ar gael i’r Aelodau.   Mewn ymateb i gwestiwn am gynghorwyr sydd newydd eu hethol, cadarnhaodd y Swyddog Monitro yn dilyn is-etholiad byddai unrhyw gynghorwyr newydd sy’n cael eu hethol yn cael cyfarfod wyneb yn wyneb gydag ef, a byddai’n darparu hyfforddiant bryd hynny. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan David Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r elfen foesegol o Raglen Gyflwyno’r Aelodau a gynhaliwyd ar ôl yr etholiadau, sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 a 2.

 

10.

Adrodd yn ôl o Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2022 pdf icon PDF 82 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2022 a gynhaliwyd ar ddydd MercherChwefror.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y cynhelir y cynadleddau bob dwy flynedd, ond bod cynhadledd 2020 wedi’i gohirio tan eleni.  Trefnwyd y cynadleddau gan y swyddogion monitro ym mhob rhanbarth, a thro Gogledd Cymru oedd hi eleni.  Adroddiad Penn oedd y canolbwynt a dyma’r adolygiad mwyaf a’r manylaf o’r Cod Ymddygiad ers ei gyflwyno gyda Deddf Llywodraeth Leol 2000.

 

            Darparodd drosolwg manwl o’r gynhadledd a chrynodeb o’r argymhellion a’r penderfyniad a wnaed, gyda rhannau yn gofyn am newidiadau i ddeddfwriaeth a rhannau y gellir eu mabwysiadu’n wirfoddol.  Cynhelir trafodaeth dros yr haf gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar y newidiadau i’r ddeddfwriaeth. 

 

            Argymhellodd y Cadeirydd bod aelodau’r Pwyllgor yn mynychu’r nesaf i wrando ar safbwyntiau awdurdodau eraill, yr Ombwdsmon a siaradwyr eraill.  Darparodd adolygiad manwl o’r cyflwyniadau, y testunau a drafodwyd a rhannu arferion gorau a oedd yn cynnwys trafodaeth am y Cod Ymddygiad.  Recordiwyd y gynhadledd, a holodd y Cadeirydd a oedd modd rhannu’r fideo.   Cadarnhaodd y Swyddog Monitro mai Gwynedd a gynhaliodd y sesiwn dros Zoom a byddai’n holi.  Cynhelir y gynhadledd nesaf yn Ne Cymru yn 2024.

 

            Roedd Gill Murgatroyd wedi mynychu’r gynhadledd hefyd, gan nodi ei bod yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol.   Cyfeiriodd at y trafodaethau gyda Phanel Dyfarnu Cymru a chynrychiolwyr LlC? o ran terfynau amser ar gyfer argymhellion Adolygiad Penn a holodd a oedd gan y Swyddog Monitro sylwadau am hyn.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n cyfarfod gyda LlC a swyddfa’r Ombwdsmon dros yr haf i drafod sut y gellir symud ymlaen a’u gweithredu. 

 

            Holodd David Davies a oedd unrhyw awgrym o ran a fyddai LlC yn derbyn holl argymhellion Penn neu a fyddai gwrthwynebiad gwleidyddol.   Eglurodd y Swyddog Monitro bod Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol wedi mynychu ond na roddodd unrhyw syniad o ran y tebygolrwydd y byddant yn derbyn yr argymhellion penodol yn dilyn trafodaethau gyda’r budd-ddeiliaid yr effeithir arnynt.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Jacqueline Guest a’i eilio gan Gill Murgatroyd.

 

PENDERFYNWYD:

Y croesawyd yr adroddiad ar y gynhadledd a bod y Pwyllgor yn cytuno i ymgorffori’r gwaith sy’n codi yn dilyn Adolygiad Penn o’r Drefn Foesegol yn y rhaglen waith wrth iddynt ddod i’r amlwg.

 

11.

Diweddariad ar greu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol pdf icon PDF 80 KB

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch a oes digon o gefnogaeth i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ddiben creu’r Fforwm gan nodi bod cefnogaeth ledled Cymru i sefydlu Fforwm Cenedlaethol i Aelodau Annibynnol.  Byddai’n cyfarfod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros yr haf i ddrafftio cylch gorchwyl a sefydlu terfynau amser ar gyfer y cyfarfodydd.  Cytunwyd y byddai diweddariad ar hyn yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan David Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Teresa Carberry

 

PENDERFYNWYD:

Croesawu cefnogaeth ar gyfer y Fforwm Safonau Cenedlaethol

 

12.

Adolygiad Parhaus o'r Cyfansoddiad pdf icon PDF 87 KB

Cytunoar raglen i adolygu’r holl Godau a Phrotocolau yn y Cyfansoddiad yn ystod tymor pum mlynedd y Cyngor hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor yn gyfrifol am adolygu codau a phrotocolau amrywiol i sicrhau eu perthnasedd.  Cynhelir hyn unwaith y tymor ac fe gyfeiriodd yr Aelodau at yr amserlen a gynigiwyd ar dudalen 126. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at God Ymddygiad yr Aelodau a restrwyd ar gyfer mis Rhagfyr 2022 a cheisio eglurhad gan ei fod hefyd wedi’i restru ar gyfer mis Gorffennaf 2023.  Cytunwyd y dylid symud y mater i gyfarfod mis Tachwedd 2022.

 

            Holodd David Davies a fyddai hyfforddiant ar gael ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor, yn enwedig ar gyfer y Protocol Cynllunio a Chod Ymddygiad yr Aelodau.  Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai hyfforddiant yn cael ei gynnwys ym mhob adroddiad sy’n cael ei adolygu.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan Gill Murgatroyd a’i eilio gan Jacqueline Guest.

 

PENDERFYNWYD:

Mabwysiadu’r amserlen ar gyfer adolygu codau a phrotocolau.

13.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 70 KB

Ermwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er ystyriaeth.  Bu trafodaeth yngl?n â’r eitemau ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gydag eglurhad gan y Swyddog Monitro. 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Teresa Carberry a’i eilio gan Jacqueline Guest.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd.

 

14.

Goddefebau

Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

15.

Aelodau'r wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 6.30pm a daeth i ben am 7.33pm)

 

 

…………………………

Y Cadeirydd