Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Julia Hughes yn datgan cysylltiad yn eitem 9: Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), gan ei bod yn aelod o’r Pwyllgor Safonau, Cyngor Sir Ddinbych 

 

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 66 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Medi 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2021.

 

Cywirdeb

 

Eitem 18, tudalen 7:  Roedd Gill Murgatroyd yn cyfeirio at y trydydd pwynt bwled ac yn dweud y byddai’r eitem ar ymweliadau Aelod Annibynnol i gyfarfodydd y Cyngor yn symud o fis Ionawr i fis Mehefin 2022.   Cytunwyd y byddai’r cofnodion yn cael eu diwygio.  

 

Materion sy'n codi

 

Eitem 14, tudalen 5:  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod y canfyddiadau wedi eu rhannu’n ffurfiol gyda Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Gr?p.

 

Eitem 16, Tudalen 6: dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd dyddiad Cynhadledd Safonau Cymru gyfan wedi’i gadarnhau eto ond byddai’n gwneud ymholiadau pellach. 

 

Eitem 17, tudalen 7:  Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau nad oedd dyddiad wedi’i gadarnhau ar gyfer y cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf eto. 

 

Yn ddarostyngedig i’r newid uchod, cafodd y cofnodion eu cynnig gan Mark Morgan ac eiliwyd gan Gill Murgatroyd.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir yn amodol ar y newid uchod.

 

22.

NEWID YN NHREFN Y RHAGLEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn cynnig y canlynol ar gyfer eitem 4: Goddefebau i gael eu symud i’r eitem olaf ar y rhaglen gan y byddai hyn yn hwyluso proses fyddai’n amharu llai ar y sawl sy’n bresennol yn y cyfarfod.   Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

23.

Adolygiad Penn o'r Fframwaith Safonau Moesegol pdf icon PDF 108 KB

Rhannu’radroddiad a baratowyd gan Richard Penn yn dilyn ei adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol ac ymateb LlC (os yw ar gael)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i rannu canfyddiadau’r adroddiad gan Richard Penn, cyn Brif Weithredwr (Cyngor Dinas Bradford yn fwy diweddar), yn dilyn ei adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol ac ymateb Llywodraeth Cymru (LlC)  

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir ac eglurodd fod telerau’r adolygiad fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Dywedodd fod dolen wedi’i darparu yn yr adroddiad i’r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r adroddiad Penn.   Dywedodd y Swyddog Monitro am ganfyddiadau adolygiad Penn fel y manylwyd yn yr adroddiad.   Roedd rhai o’r canfyddiadau yn ddatganiadau ac eraill yn argymhellion arfer gorau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mared Eastwood os byddai aelod wedi cael cynnig neu wedi derbyn hyfforddiant yn ymwneud ag ymddygiad gwael a fyddai hyn wedi’i gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw gwyn ffurfiol ddilynol neu ymchwiliad a gynhelir.     Eglurodd y Swyddog Monitro bod Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymryd hyfforddiant i ystyriaeth ac mae’n bosibl y byddai’n argymell bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn rhai achosion. 

 

 

 

Dywedodd Gill Murgatroyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi nodi pa ganfyddiadau yr oedd yn bwriadu eu gweithredu ac wrth gyfeirio at etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ym mis Mai 2022, gofynnodd pryd y gwneir hyn.   Eglurodd y Swyddog Monitro y disgwylir y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr cyn Mai 2022 ond mae’n bosibl y byddai newidiadau eraill yn digwydd ar ôl hynny.   

 

Gofynnodd Janet Jones sut y gallai Cynghorwyr Tref/Cymuned gael eu hannog a’u cefnogi i gymryd rhan mewn hyfforddiant.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod mynychu hyfforddiant yn wirfoddol ac awgrymodd y gall y Clerc roi copi o ganllawiau Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus i Gynghorau Tref a Chymuned; codi ymwybyddiaeth am ddarpariaeth hyfforddiant rhithiol a’r dewis o ddigwyddiad hyfforddiant yn cael ei gynnal gan Gyngor Tref neu Gymuned yn y dyfodol i gael ei ystyried. 

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y trydydd argymhelliad yn yr adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried pa un a oedd yn dymuno derbyn hyfforddiant ar gynnal gwrandawiadau nawr ac eto pan fyddai gwrandawiad yn cael ei gynnal.    Yn dilyn trafodaeth roedd y Cadeirydd yn cynnig bod y Pwyllgor yn derbyn hyfforddiant ar wrandawiadau pan oedd gwrandawiad ar ddigwydd yn unig.   Roedd Jacqueline Guest yn eilio’r cynnig.   Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

(b)       Bod y Swyddog Monitro yn archwilio pa un a all fforwm cenedlaethol i Aelodau Annibynnol gael ei sefydlu; a 

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn derbyn hyfforddiant ar wrandawiadau pan oedd gwrandawiad ar ddigwydd yn unig.  

 

24.

Sesiwn Friffio Cyn y Cyfarfod Fforwm Safonau pdf icon PDF 78 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am raglen arfaethedig y Gynhadledd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndir a dywedodd fod Cyngor Gwynedd wedi gwirfoddoli i gynnal cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau ym mis Tachwedd, fodd bynnag, mae’n bosibl y byddai’r Gynhadledd Safonau Ddwyflynyddol a drefnwyd yn gohirio hyn.    Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ddogfen y Fforwm, fel y manylwyd yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd unrhyw eitemau i’w trafod yr oedd y Pwyllgor yn dymuno eu rhoi ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.    Eglurodd y Swyddog Monitro ei fod wedi awgrymu nifer o eitemau yn adran 1.04 yr adroddiad ar gyfer ystyriaeth.   

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor gysylltu â’r Swyddog Monitro cyn diwedd yr wythnos gydag unrhyw awgrymiadau neu sylwadau pellach yr oeddent yn dymuno eu cynnig. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod aelodau’r Pwyllgor yn cysylltu â’r Swyddog Monitro gydag unrhyw awgrymiadau/sylwadau pellach ar y rhaglen ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau. 

 

25.

Eitemau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned

I drafod unrhyw faterion moesol neu waith y Pwyllgor Safonau a godwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

(a)       P?er cymhwysedd cyffredinol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a sut mae’n berthnasol i gynghorau tref a chymuned (cyflwyniad ar lafar)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cynghorau Tref a Chymuned wedi cael cyfle i godi unrhyw eitemau ymlaen llaw cyn y cyfarfod: ni dderbyniwyd dim.   

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned oedd yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno unrhyw eitemau ar gyfer trafodaeth: ni dderbyniwyd dim.

 

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro gyflwyniad ar lafar ar y p?er cymhwysedd cyffredinol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac eglurodd sut yr oedd yn berthnasol i Gynghorau Tref a Chymuned.  Dywedodd y Swyddog Monitro am y cyfleoedd a gyflwynwyd o dan y ddeddfwriaeth a allai fod o fudd i Gynghorau Tref a Chymuned.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Phillip Parry, Clerc Cynghorau Tref a Chymuned yn ymwneud â gwariant mewn perthynas ag Adran137, eglurodd y Swyddog Monitro bod y ddeddfwriaeth newydd yn b?er galluogi ac nid oedd yn cynnwys y cyfyngiadau a osodwyd gan Adran 137.  

 

26.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 86 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad rheolaidd arferol ar y nifer o gwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn honni bod y Cod Ymddygiad wedi’i dorri.   Dywedodd ers yr adroddiad diwethaf ym mis Gorffennaf 2021, derbyniwyd 5 cwyn, roedd 4 cwyn wedi eu datrys; ac roedd 1 yn parhau’n weddill.    Dywedodd am natur a thueddiad y cwynion.   Roedd rhestr o’r cwynion mewn ffurf cryno a dderbyniwyd yn ystod 2019/20 ynghlwm â’r adroddiad.    

 

Roedd y Cynghorydd Gladys Healey wedi mynegi pryder bod nifer o gwynion a wnaed oherwydd honiadau o fwlio.    Roedd y Swyddog Monitro yn cydnabod y pwynt a wnaed ac yn rhoi gorolwg byr o sut roedd y cwynion wedi eu llunio.   Dywedodd nad oedd honiadau o fwlio yn dystiolaeth bod bwlio wedi digwydd mewn gwirionedd.  

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r nifer a’r math o gwynion.

 

 

27.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) pdf icon PDF 79 KB

I rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ar gyfer 2020/21

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i rannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/21.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y Llythyr ynghlwm â’r adroddiad.     Mae’n rhaid i’r Llythyr gael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i’w cynorthwyo i graffu ar berfformiad y Cyngor ac adroddir ar gamau oedd yn ymwneud â hynny i OGCC erbyn 15 Tachwedd 2021.  

 

Adroddodd y Dirprwy Brif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Mewn perthynas â’r nifer o gwynion Cod a gaewyd yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â Chynghorwyr Sir y Fflint, roedd yna gyfanswm o 1 ble canfuwyd nad oedd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau.    Mewn perthynas â’r nifer o gwynion Cod a gaewyd yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â Chynghorwyr Tref a Chymuned yn Sir y Fflint, roedd yna gyfanswm o 11, 9 a arweiniodd at ganfyddiadau nad oedd unrhyw dystiolaeth o dorri amodau, 1 heb ei ymchwilio ymhellach ac 1 wedi’i dynnu’n ôl. 

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Llythyr Blynyddol yn egluro fod OGCC wedi cyflwyno cyhoeddiad newydd a elwir ‘Ein Canfyddiadau’.  Roedd y cyhoeddiad yn disodli’r llyfrau achos chwarterol ar gyfer y ddau achos yn ymwneud ag achosion gwasanaethau a Chod Ymddygiad a byddai’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.   Nid oedd unrhyw achosion ychwanegol wedi eu cynnwys yn y cyhoeddiad ‘Ein Canfyddiadau’ ar hyn o bryd. 

 

Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw ddata cymharol/meincnodi yngl?n â chwynion moesegol rhwng cynghorwyr.    Cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn trafod hyn gyda’r Swyddogion Monitro mewn Cynghorau eraill i ystyried cyflwyno cais ar y cyd i’r OGCC i wybodaeth fod ar gael.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a'i eilio gan y Cynghorydd Phillipa Earlam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried llythyr blynyddol OGCC ac ar ôl nodi’r cwynion a 

gyflwynwyd yn ystod 2020/21 naill ai wedi arwain at ganfyddiadau heb

dystiolaeth o dorri’r Cod neu wedi cau neu dynnu’n ôl, roedd y Pwyllgor 

wedi dod i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau.

 

28.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 70 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.

 

Diolchodd Gill Murgatroyd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am ddiweddaru’r Rhaglen i gynnwys y ceisiadau a wnaed yn y cyfarfod blaenorol.

 

Gan gyfeirio at yr eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod i’w gynnal ym mis Ionawr 2022, gofynnodd y Cadeirydd os gallai adroddiad ar y Gynhadledd Safonau gael ei gynnwys os oedd wedi’i gynnal ymlaen llaw.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Jonathan Duggan-Keen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol

 

29.

Goddefebau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Swyddog Monitro’r Cynghorydd Clive Carver a Pauline Cheryl Carver, Cynghorydd Cymuned Penarlâg i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer goddefeb oedd yn ymwneud â’r cynnig i gau Ardal Chwarae Vickers Close ac iddo fod yn safle i g?n.  

 

Eglurodd y Cynghorydd Clive Carver y byddai gan Gyngor Cymuned Penarlâg weithgor o Aelodau i brosesu ymatebion ymgynghori preswylwyr ac argymell y ffordd ymlaen i Gyngor Cymuned Penarlâg.   Heb oddefeb, ni fyddai barn preswylwyr lleol Penarlâg yn debyg o gael eu cynrychioli.

 

Roedd y Cynghorydd Clive Carver a Chynghorydd Cymuned Penarlâg Cheryl Carver yn ceisio goddefeb i ysgrifennu at neu siarad gyda swyddogion, i ysgrifennu at, siarad ac/neu ateb cwestiynau yng nghyfarfodydd y Cyngor/Pwyllgor; i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth; a phleidleisio yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Penarlâg.  Roedd manylion y buddiant sy'n rhagfarnu ar gyfer y ddau gais wedi eu manylu yn y ffurflenni cais.

 

Roedd y Swyddog Monitro wedi rhoi gorolwg a chyngor ar y broses goddefeb.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Clive Carver wybodaeth bellach mewn ymateb i gais am eglurhad o amgylch y paragraff perthnasol (c) yr oedd angen y goddefebau.

 

30.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r cyfarfod symud i sesiwn gaeedig – yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol (Hawl i Wybodaeth) 1985.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem yn cael ei hystyried i fod yn eithriedig yn rhinwedd paragraff 18C, Rhan 4, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

31.

Goddefebau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Cynghorydd Clive Carver a Chynghorydd Cymuned Penarlâg Pauline Cheryl Carver yn cael caniatâd i ysgrifennu neu i siarad gyda swyddogion, i ysgrifennu at, siarad a/neu ateb cwestiynau mewn cyfarfodydd y Cyngor/Pwyllgor neu Weithgor os yn siarad y tu allan i gyfarfod a gofnodir yn ffurfiol ond mae angen i 4 o bobl fod yn bresennol ac mae’n rhaid cadw cofnod o’r cyfarfod; os yn siarad mewn Pwyllgor, mae’n rhaid iddo fod yn bwyllgor ‘agored’ neu os yn siarad mewn Gweithgor mae’n rhaid cymryd cofnodion yn y cyfarfod.   

 

Nid oedd y Pwyllgor wedi rhoi goddefeb i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth neu bleidlais.   

 

Rhoi’r goddefeb am gyfnod o 12 mis gan ddod i ben ar 31 Hydref 2022 o dan baragraff (d) (i) a (j) Pwyllgor Safonau (Caniatau Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

 

32.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 6.30pm, a gorffennodd am 9.25pm)