Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai, yn amodol ar fân ddiwygiadau i eitemau 42 a 45 y cofnodion. Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley eu bod yn cael eu derbyn ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.

 

Aelodaeth y Pwyllgor

 

Cafwyd diweddariad gan y Swyddog Monitro yngl?n â chanlyniad y broses recriwtio a dywedodd y byddai’r ddau ymgeisydd a ffefrir yn cael eu penodi ar adegau gwahanol, wedi ei hwyluso gan ymddeoliad cynnar Phillipa Earlam.  Diolchodd y Cadeirydd i Phillipa am alluogi’r newid hwn ac am ei chyfraniadau gwerthfawr i’r Pwyllgor Safonau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion, yn amodol ar y diwygiadau, fel cofnod cywir.

3.

Goddefebau

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio pdf icon PDF 92 KB

I adolygu Cod Ymarfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i adolygu’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Rhoddodd drosolwg o’r newidiadau a oedd wedi eu atodi i’r adroddiad, a fyddai angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad a’r Cyngor Llawn.

 

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol er cysondeb:

 

·         Defnyddio ‘Cadeirydd’ drwy gydol y ddogfen (yn hytrach na ‘Cadeirwr’/’Cadeiryddes’)

·         Defnyddio'r un geiriad ar gyfer adrannau 5.5 a 5.8 er mwyn disgrifio Aelodau sydd ddim yn gallu cymryd rhan wrth drafod eitem yr oedd ganddynt safbwynt a bennwyd ymlaen llaw.

·         Defnyddio’r teitl cywir ar gyfer y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn adrannau 11 a 12.

 

Ar y sail yna, cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhelliad ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio a nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, ynghyd â’r newidiadau ychwanegol a godwyd gan y Pwyllgor hwn.

5.

Trosolwg o Gwynion Moesegol pdf icon PDF 86 KB

Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad rheolaidd ar nifer y cwynion moesegol yn honni toriad o’r Cod Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW).  Roedd y wybodaeth yn ddienw gyda chyfeirnodau wedi’u clustnodi er mwyn gwahaniaethu rhwng Cynghorau a Chynghorwyr unigol.

 

Cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro yngl?n â phwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor.  Gan ymateb i sylwadau yngl?n â chadeirio cyfarfodydd, roedd yn cytuno i gysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn holi yngl?n â’r posibilrwydd o sesiwn hyfforddi neu fideo i helpu Cadeiryddion Cynghorau Tref/Cymuned i gynnal ymddygiad yn ystod cyfarfodydd, a allai helpu i leihau nifer y cwynion.

 

Cynigiodd Gill Murgatroydy y dylid derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r nifer a’r math o gwynion.

6.

Adolygu'r Fframwaith Safonau Moesegol (Eitem ar lafar)

Diweddariad ar lafar gan y Swyddog Monitro a’r Cadeirydd am yr adolygiad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd o’r Fframwaith Safonau Moesegol gan Richard Penn ar ran Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cadeirydd yngl?n â chyfarfod y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru yr oedd hi wedi ei fynychu gyda Mark Morgan (Is-gadeirydd) a’r Swyddog Monitro.  Rhannwyd adborth ganddynt ar ystod o bynciau a gafodd eu trafod yn y cyfarfod, gan gynnwys ymgynghoriad ar adolygiad Y Fframwaith Safonau Moesegol sy’n cael ei wneud gan Richard Penn ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai Richard Penn yn cyflwyno’i argymhellion i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Medi 2021 er mwyn galluogi newidiadau i fodel y Cod Ymddygiad fel y bydd modd ei roi ar waith erbyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.  Fe atgoffodd y Pwyllgor am y sylwadau a wnaed yn flaenorol yngl?n â’r angen am hyblygrwydd o ran sancsiynau sydd ar gael i Banel Dyfarnu Cymru.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylid nodi’r adroddiad ac eiliwyd hyn gan Phillipa Earlam.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad ar lafar.

7.

Adolygiad a Sicrwydd ar Brotocol Aelodau/Swyddogion - diweddariad ar lafar

Cafodd Protocol Aelodau/Swyddogion ei adolygu yn gynnar yn 2020 gan y Cyngor.  Bydd diweddariad ar lafar yn cael ei roi ar ganlyniad adolygiad ychwanegol llai dwys o Brotocol Aelodau/Swyddogion a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Swyddog Monitro yngl?n â chanlyniad adolygiad ysgafn pellach o’r protocol ar gyfer Aelod/Swyddog, er mwyn rhoi sicrwydd fod gweithdrefnau priodol yn eu lle i hyrwyddo parch o’r ddwy ochr rhwng swyddogion ac Aelodau etholedig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylid croesawu a nodi’r adroddiad ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.

 

PENDERFYNWYD:

 

Croesawu a nodi’r adroddiad ar lafar.

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 77 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, gan nodi’r canlynol:

 

·         Cynnwys Adroddiad Penn o Fframwaith Safonau Moesegol ar y rhaglen i’r dyfodol (ym mis Tachwedd o bosib)

·         Cynnwys canlyniadau’r cyfarfod Cyswllt Moesegol ar y rhaglen i’r dyfodol (yn y cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr o Gynghorau Tref/Cymuned ym mis Tachwedd o bosib)

 

Cynigiodd Phillipa Earlam y dylid derbyn y newidiadau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi ei ddiwygio.

9.

Cynllunio Agenda’r cyfarfod Cyswllt ar Faterion Moesegol pdf icon PDF 93 KB

Cynllunio agenda ar gyfer Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor Safonau gyda Chadeirydd ac Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr Grwpiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad ar gyfer cynllunio rhaglen y cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor Sir ac Arweinwyr y Grwpiau.  Cyflwynwyd yr awgrymiadau canlynol i’w hystyried:

 

·         Canlyniad ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor.

·         Rhoi dyletswyddau deddfwriaethol newydd ar waith yn 2022. Rhannwyd yn breifat y canllawiau drafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yngl?n â’r dyletswyddau hyn (paragraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd)).

·         Cefnogi’r dyletswyddau newydd, yr awgrym y dylai aelodau etholedig sy’n dychwelyd fod yn rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer Aelodau newydd, ac y dylid cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer pob gr?p gwleidyddol, gyda chefnogaeth Arweinwyr y Grwpiau.

 

Er nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad yngl?n â chanlyniad yr holl ymweliadau â chyfarfodydd y Cyngor, roedd crynodeb o’r pwyntiau a godwyd wedi eu cynnwys yng nghofnodion cyfarfodydd blaenorol. Nododd y Cadeirydd fod cynnwys nodyn gweithredu ar bob rhaglen ffurfiol yn un o argymhellion yr adborth, ac fod hyn eisoes yn ei le.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan Gill Murgatroyd, cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro ar oblygiadau o ran adnoddau'r hyfforddiant a awgrymir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhellion a gyflwynodd y Swyddog Monitro.  Wrth eilio’r cynnig, diolchodd Phillipa Earlam i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Monitro am eu gwaith ar y mater hwn ac am fynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r rhaglen drafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf; ac

 

 (b)      Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod.

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.