Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 

Eitemau
Rhif eitem

55.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim

 

56.

Cofnodion pdf icon PDF 63 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019 a 6 Ionawr 2020.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019.        

 

(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020.

 

Materion yn codi

 

Tudalen 8, munud 53, cyfeiriodd Julia Hughes at y cytundeb y byddai eitem yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i alluogi'r Pwyllgor i ystyried creu is-bwyllgor er mwyn ystyried unrhyw geisiadau brys am oddefebau.  Esboniodd y Swyddog Monitro, gan fod y rheoliadau ynghylch sefydlu is-bwyllgor yn gymhleth, fod angen mwy o amser i gyflwyno adroddiad cynhwysfawr i'w ystyried.    

 

Gofynnodd Ken Molyneux a ellid darparu gwybodaeth i weld pa mor aml y bu'n rhaid i'r Pwyllgor ystyried ceisiadau brys am oddefebau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cofnodion yn cael eu cymeradwyo a'u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

 

57.

Goddefebau

To receive any requests for dispensations.

 

Members of the press/public will be able to remain in the room whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision.  However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.

 

 

Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn yr ystafell tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Dennis Hutchinson

                    

Gan nad oedd y Cynghorydd Hutchinson yn bresennol cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro y ddau gais am oddefebau.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Hutchinson wedi ceisio cael caniatâd i siarad am 5 munud fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 060587 – dymchwel 81 Drury Lane a chodi 56 o anheddau a datblygiad cysylltiedig.  Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at y buddiant sy’n rhagfarnu, fel y nodir yn y cais, ac esboniodd fod y Cynghorydd Hutchinson wedi dweud wrtho ei fod wedi gwerthu'r tir yr oedd yn berchen arno yn ddiweddar a oedd o fewn milltir i safle'r cais ac na allai'r penderfyniad ar y cais effeithio ar y trafodiad hwn hyd y gwyddai.  Fodd bynnag, roedd hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Drury a phe bai'r bwriad i ddatblygu tir yn 81 Drury Lane yn cael caniatâd cynllunio byddai angen gwneud cyfraniad ariannol i Ysgol Gynradd Drury yn unol â'r canllawiau cynllunio atodol perthnasol.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro hefyd at gais blaenorol am oddefeb a wnaed gan y Cynghorydd Hutchinson yngl?n â'r safle ond esboniodd fod hyn wedi bod mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio amlinellol lle nad oedd manylion pa gyfraniadau y gallai fod eu hangen yn hysbys.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Hutchinson yn gwneud cais am oddefeb i siarad am 5 munud yn unig fel aelod lleol, a chyfeiriodd at feini prawf perthnasol (f) o dan Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Phillipa Earlam y dylid caniatáu'r oddefeb fel mai dim ond am 5 munud y gallai'r Cynghorydd Dennis Hutchinson siarad fel yr Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 060587.  Yr oddefeb i'w chaniatáu am 12 mis.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan Phillipa Earlam a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at gais pellach am oddefeb a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson i siarad am 5 munud fel yr Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 060374 – addasu bwyty/bar diangen yn 13 o fflatiau yn 14 Mill Lane, Bwcle.  Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at y cysylltiad a ddatganwyd gan y Cynghorydd Hutchinson, fel y nodir yn y cais, a dywedodd, gan ei fod yn fuddiant personol ac nid yn rhagfarnu, nad oedd angen i'r cais am oddefeb gael ei ystyried gan y Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatau’r oddefeb o dan baragraff (f) o’r Pwyllgor Safonau (Caniatau Gollyniadau) (Cymru) 2001 i’rCynghorydd Sir y Fflint Dennis Hutchinson siarad am 5 munud yn unig fel Aelod lleol yn y Pwyllgor Cynllunio ar gais rhif 060587.  Yr oddefeb i'w chaniatáu am 12 mis gan ddod i ben ar 2 Chwefror 2021 ac i ymestyn i unrhyw gais cynllunio a oedd, ym marn y Swyddog Monitro, yn sylweddol debyg. 

 

58.

Cyswllt ar Faterion Moesegol gyda'r Cyngor pdf icon PDF 78 KB

Derbyn adborth am y cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth o'r cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ym mis Tachwedd 2019.  Dywedodd fod pob parti yn teimlo bod y cyfarfod wedi bod yn gynhyrchiol a chytunwyd y dylai'r Aelodau Annibynnol ymweld â chyfarfodydd llawn y Cyngor a'r Pwyllgor i arsylwi yn yr un modd ag yr oeddent wedi mynychu cyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned; ac y dylai cyfarfodydd o'r fath, yn y dyfodol, gynnwys Arweinwyr Gr?p.

 

Cytunwyd yn y cyfarfod y byddai Aelodau Annibynnol yn ymweld â chyfarfodydd y Cyngor Sir yn yr un modd ag yr oeddent wedi ymweld â chynghorau tref a chymuned.  Esboniodd y Swyddog Monitro fod gan y Cyngor chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Cynllunio a'r Pwyllgor Trwyddedu.  Roedd hefyd yn cyfarfod o bryd i'w gilydd fel Cyngor llawn lle'r oedd pob aelod yn bresennol a bod nifer o bwyllgorau cyflogaeth sy'n cyfarfod pan fo angen.  Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod yn bwysig, fel gydag ymweliadau gan Aelodau Annibynnol â Chynghorau Tref a Chymuned, fod yr ymarfer yn cael ei gynnal yn y ffordd gywir ac y dylid hysbysu Cadeirydd pob cyfarfod y byddai Aelod Annibynnol yn ymweld â'i gyfarfod.  Ni fyddai Aelodau Annibynnol yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ond byddent yn arsylwi ac yn rhoi adborth i'r Pwyllgor Safonau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Johnson bryder ynghylch gwrthdaro buddiannau pe gofynnid i Aelodau ystyried adborth ar ôl arsylwi cyfarfodydd y Cyngor yr oeddent wedi cymryd rhan ynddynt.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai Aelodau Annibynnol sy'n mynychu cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau yn gallu rhoi adborth ar eu profiad a fyddai'n adlewyrchu profiad aelod o'r cyhoedd a oedd yn bresennol.  Esboniodd y Swyddog Monitro mai diben yr ymweliadau gan Aelodau Annibynnol oedd arsylwi, er enghraifft, a oedd Cynghorwyr yn dilyn y Cod Ymddygiad, Safonau Sir y Fflint, Protocol Aelodau/Swyddogion, ac yn y Pwyllgor Cynllunio y Protocol Cynllunio.  Dywedodd na fyddai unigolion sy'n mynychu'r cyfarfodydd yn cael eu henwi yn yr adborth.

 

Awgrymodd Ken Molyneux, fel gydag ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned, y dylid darparu rhestr o'r gofynion i gynorthwyo Aelodau Annibynnol i ymgymryd â'r dasg hon. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai gofyn i Arweinydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd (Pwyllgorau) drefnu rota o ymweliadau ag Aelodau Annibynnol. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylai fod yn ofynnol i ddau Aelod Annibynnol ymweld â chyfarfodydd y Cyngor Sir.  Eiliwyd hyn gan Ken Molyneux ac fe'i cytunwyd gan y Pwyllgor.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai cyfarfodydd cyswllt moesegol yn y dyfodol gynnwys Arweinwyr Grwpiau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Patrick Heesom a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod Aelodau Annibynnol yn arsylwi cyfarfodydd llawn y Cyngor a'r Pwyllgorau;

 

(b)          Bod Arweinydd y Tîm Gwasanaethau Democrataidd (Pwyllgorau) yn trefnu rota o ymweliadau ag Aelodau Annibynnol; ac y

 

(c)          Dylai cyfarfodydd cyswllt moesegol yn y dyfodol gynnwys Arweinwyr Gr?p.

 

59.

Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru pdf icon PDF 49 KB

I ymateb i'r e-bost sydd ynghlwm.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at e-bost a gafodd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cyngor Sir Powys, ac eglurodd mai diben y neges oedd gofyn y canlynol :

 

(i)            bod y Pwyllgor Safonau yn ymgynghori ar eitemau posibl ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru ac yn rhoi adborth ar unrhyw awgrymiadau i'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Powys; a

 

(ii)          bod y Pwyllgor Safonau yn nodi pa fis ac amser fyddai orau ganddo ar gyfer y cyfarfod nesaf (Mawrth neu Ebrill 2020)

 

Cynigiodd y Cynghorydd Patrick Heesom fod y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro, yn cyflwyno eitemau posibl ar gyfer cyfarfod nesaf Fforwm y Pwyllgor Safonau.  Cafodd hyn ei eilio a'i gytuno'n briodol gan y Pwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Ebrill a'i ddechrau am 10.00 a.m. neu'n hwyrach.

 

60.

Materion Ymddygiad yn dilyn yr Etholiad pdf icon PDF 79 KB

Ystyried unrhyw g?yn foesegol yn dilyn yr etholiad diweddar

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried unrhyw gwynion moesegol yn dilyn yr etholiad seneddol diweddar.  Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd nad oedd y Cyngor (fel corff corfforaethol) a Chynghorwyr Sir yn ymwneud yn uniongyrchol â'r etholiad.  Yn y cyfnod cyn yr etholiad, gweithredodd y Cyngor ei brotocol cyn-etholiad i leihau'r risg o broblemau neu anawsterau. Atgoffodd y protcol hwn swyddogion o'r angen i sicrhau bod y Cyngor yn parhau'n ddiduedd yn ystod etholiad a thrwy gydol cyfnod yr ymgyrch. Roedd y Cyngor wedi ystyried yn ofalus pa faterion y byddai'n eu trafod yn y Pwyllgor neu yng nghyfarfodydd y Cyngor.

 

             Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr ymgyrch etholiadol wedi cael ei rhedeg yn dda gan bob ymgeisydd a pharti heb unrhyw achosion o ymddygiad gwael gan Gynghorwyr Sir nac unrhyw un arall.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom y Swyddog Monitro a'i dîm am eu gwaith yn ystod yr etholiad seneddol a dywedodd ei fod wedi'i reoli'n dda.

 

            Soniodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i gynnal safonau uchel drwy gydol yr etholiadau sydd i ddod, gan gyfeirio at etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel enghraifft.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Johnson a'i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

61.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 64 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r

Dyfodol.

 

Cofnodion:

Ystyriwyd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Tynnodd y Swyddog Monitro sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth, ac esboniodd, cyn dechrau'r cyfarfod nesaf, y byddai'n dangos system ddigidol newydd a oedd wedi'i chreu i gofnodi Datganiadau o Gysylltiad y gallai fod angen i Swyddogion eu gwneud.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Johnson y dylid cael eitem ar unrhyw rannau o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n berthnasol i waith y Pwyllgor Safonau.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr unig gynnig, i Arweinwyr Gr?p fod yn gyfrifol am gefnogi safonau moesegol, ar waith eisoes o fewn Sir y Fflint.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Arnold Woolley a'i eilio gan Ken Molyneux.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

62.

Gwrandawiad gerbron Panel Dyfarnu Cymru pdf icon PDF 78 KB

Derbyn diweddariad ar ganlyniad gwrandawiad diweddar Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â’r Cynghorydd A Shotton

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad gwrandawiad diweddar Panel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â'r Cynghorydd A Shotton.  

 

            Darparodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndirol a rhoddodd drosolwg o'r gwrandawiad ar 27, 28 a 29 Ionawr 2020, a gynhaliwyd yn Llys Ynadon Llandudno.  Esboniodd fod rhannau o'r gwrandawiad wedi'u cynnal yn breifat ac na ellid eu datgelu i'r Pwyllgor er mwyn cadw cyfrinachedd. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Tribiwnlys yr Achos wedi canfod drwy benderfyniad unfrydol fod y Cynghorydd A Shotton wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Awdurdod a'i fod wedi torri Paragraffau 6(1)(a) a 7(a) o'r Cod drwy, yn rhinwedd ei swydd swyddogol gan ddefnyddio neu geisio defnyddio ei safle'n amhriodol i roi mantais iddo'i hun neu sicrhau iddo’i hun neu ei Gynorthwyydd Personol neu greu neu osgoi iddo'i hun neu ei Gynorthwyydd Personol anfantais drwy roi cyfle i weld cwestiynau cyn ei chyfweliad am swydd barhaol Cynorthwyydd Personol;  a bod y Cynghorydd Shotton wedi torri 6(1)(a) o'r Cod Ymddygiad drwy anfon a/neu annog ei Gynorthwyydd Personol i anfon negeseuon amhriodol, i gynnwys negeseuon o natur rywiol, yn ystod oriau swyddfa.  Penderfynodd Tribiwnlys yr Achos drwy benderfyniad unfrydol y dylid gwahardd y Cynghorydd A Shotton rhag gweithredu fel aelod o Gyngor Sir y Fflint am gyfnod o dri mis.  Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan y Cynghorydd Shotton yr hawl i geisio caniatâd yr Uchel Lys i apelio yn erbyn y penderfyniad uchod. Byddai'r adroddiad llawn am y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Panel Dyfarnu Cymru maes o law.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod Tribiwnlys yr Achos wedi canfod nad oedd y Cynghorydd Shotton wedi torri'r Cod Ymddygiad mewn perthynas â thrydydd honiad a

gyfeiriwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.   Fodd bynnag, esboniodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor, o ganlyniad i'r honiad, wedi gwella ei weithdrefnau a bod yn rhaid i reolwr gymeradwyo cais i archebu car llog yn y dyfodol.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod gweithlu'r Cyngor wedi cael gwybod bod y Cynghorydd A Shotton wedi'i wahardd dros dro fel aelod o'r Cyngor am gyfnod o dri mis o ganlyniad i benderfyniad Panel Dyfarnu Cymru.  Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y Cynghorydd Shotton i gael ei drin, dros dro, fel aelod o'r cyhoedd a dim ond i rannau cyhoeddus o safle'r Cyngor yr oedd ganddo hawl i gael mynediad iddynt.  Yn yr un modd, cyfyngwyd ei hawliau i wybodaeth yn ystod y cyfnod hwn ac nid oedd ganddo hawl i unrhyw bapurau na gwybodaeth yn ymwneud â busnes cyfrinachol y Cyngor.  Roedd hysbysiad bod y Cynghorydd A Shotton wedi'i wahardd tan 29 Ebrill 2020 hefyd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.   Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'r Cynghorydd Shotton yn gallu ailddechrau ei rôl a'i gyfrifoldebau fel Cynghorydd Sir pan fyddai cyfnod y gwaharddiad yn dod i ben. 

 

Ymatebodd y Swyddog Monitro i'r sylwadau a godwyd ynghylch canfyddiadau'r Tribiwnlys Achos.  Yn ystod y drafodaeth, eglurodd fod gan y Cyngor ystod eang o bolisïau cyflogaeth a fyddai'n cael eu hadolygu  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r wasg na'r cyhoedd yn bresennol.