Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim.
|
|
Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.
Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn yr ystafell tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.
Nodwch:Bydd y Cynghorydd Carver yn gwneud cais i adnewyddu ei goddefeb. Ynghlwm, mae papurau’r cais gwreiddiol a byddwn yn amgáu’r ffurflenni diweddaraf unwaith y cânt eu derbyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro y cais canlynol am oddefeb i’w ystyried.
Y Cynghorydd Clive Carver
Oherwydd nad oedd y Cynghorydd Carver yn bresennol, cyflwynodd y Swyddog Monitro y cais am oddefeb. Dywedodd fod y Cynghorydd Carver yn ceisio goddefeb i ysgrifennu at swyddogion neu i siarad â nhw ac i ysgrifennu at gyfarfodydd y Cyngor/Pwyllgor, siarad ynddynt a/neu ateb cwestiynau ynddynt am faterion sy’n ymwneud â’r Hen Fragdy, Ryeland Street, Shotton. Roedd y Cynghorydd Carver, fel Aelod Lleol Penarlâg, yn dymuno cynrychioli dau breswyliwr a oedd yn byw yn ei Ward a oedd hefyd yn aelodau teulu a pherchnogion yr Hen Fragdy, a oedd wedi’i brydlesu gan Gyngor Sir y Fflint dros y 10 mlynedd diwethaf. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y cysylltiad sy'n rhagfarnu, fel a nodir ar y cais, ac eglurodd fel Cynghorydd Sir, nad oedd y Cynghorydd Clive Carver yn gallu darparu cymorth ar y mater hwn heb Oddefeb, ac roedd yn teimlo bod ei berthnasau wedi'u difreinio rhag cael eu cynrychioli gan eu Haelod Lleol; tasg y gallai ei gyflawni ar gyfer unrhyw un o’i etholwyr. Tynodd y Swyddog Monitro sylw at fanylion yr un cais a oedd wedi’i ystyried o’r blaen gan y Pwyllgor ar 13 Medi 2010 a dywedodd fod goddefeb wedi’i chymeradwyo ond ei bod wedi dod i ben bellach.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Carver yn gwneud cais am oddefeb i roi sylwadau ar ran ei etholwyr, a chyfeiriodd at feini prawf perthnasol (d) (f) a (j) dan y Cod Ymddygiad.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddog Monitro i’r sylwadau a gododd aelodau o ran yr angen i gadw ffydd y cyhoedd yng ngweithdrefnau moesegol y Cyngor. Awgrymodd Julia Hughes y gellid gofyn i Gynghorydd Sir arall gynrychioli’r preswylwyr yn y mater hwn yn lle’r Cynghorydd Carver.
Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley gymeradwyo’r oddefeb er mwyn i’r Cynghorydd Clive Carver allu ysgrifennu at swyddogion neu siarad â nhw i roi sylwadau ar ran aelodau ei deulu. Mae’r oddefeb i’w chymeradwyo am 12 mis, gan ddod i ben ar 5 Ionawr 2021. Eiliwyd y cynnig gan Julia Hughes.
PENDERFYNWYD:
Bod goddefeb yn cael ei chymeradwyo i Gynghorydd Sir y Fflint, Clive Carver, dan baragraffau (d), (f) a (j) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymeradwyo Goddefebau) (Cymru) 2001 i ysgrifennu at swyddogion neu siarad â nhw i gynrychioli aelodau ei deulu sy’n byw ym Mhenarlâg mewn materion sy’n ymwneud â’r Hen Fragdy, Ryeland Street, Shotton. Mae hyn yn caniatáu cyflwyno sylwadau llafar ac ysgrifenedig ar y mater i swyddogion Cyngor Sir y Fflint ar yr amod bod o leiaf un tyst wrth siarad â swyddogion, gan sicrhau bod o leiaf tri pherson yn rhan o’r sgwrs, y dylid ei chofnodi. Mae’r oddefeb i’w chymeradwyo am 12 mis, gan ddod i ben ar 5 Ionawr 2021. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Ystyriwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Cytunwyd y byddai eitem ar faterion Cod Ymddygiad (a allai fod wedi codi o gyfnod yr Etholiad) ac eitem ar Gysylltu â’r Cyngor ar Faterion Moesegol (adborth o’r cyfarfod a oedd ar y gweill gyda’r Arweinydd a Chadeirydd y Cyngor) yn cael eu cynnwys ar y Rhaglen i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 3 Chwefror 2020. Cytunwyd hefyd y byddai’r eitem am y Weithdrefn Adrodd Cyfrinachol, a oedd wedi’i threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf, yn cael ei gohirio i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Cytunwyd y byddai’r Swyddog Monitro yn cyflwyno eitem i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i edrych ar greu is-bwyllgor i alluogi’r Pwyllgor Safonau i ystyried ceisiadau brys ar gyfer goddefebau sy’n codi rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor a drefnwyd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
|