Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Chwefror 2020. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2020.
O ran cofnod 58, roedd y cyfarfod cyswllt moesegol nesaf wedi’i drefnu gyda’r Arweinwyr Grwpiau ar gyfer diwedd y mis. Bydd Arweiniydd Tîm y Gwasanaethau Democrataidd yn cyd-drefnu ymweliadau rota i arsylwi cyfarfodydd pwyllgor ar ôl iddi ddychwelyd oddi ar absenoldeb salwch.
Cymeradwywyd y cofnodion, yn amodol ar gywiriadau i gofnodion 57, 58 a 62, fel y cynigiwyd ac yr eiliwyd gan Ken Molyneux a’r Cynghorydd Woolley.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Goddefebau Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn yr ystafell tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Cofnodion: Dim. |
|
Adolygu Protocol Aelodau / Swyddogion Pwrpas: Ystyried diwygio'r Protocol Aelodau / Swyddogion fel rhan o adolygiad parhaus y Pwyllgor o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried diweddaru’r Protocol Aelodau / Swyddogion fel rhan o adolygiad parhaus y Pwyllgor o’r Cyfansoddiad. Yn ogystal ag adlewyrchu newidiadau mewn arferion gwaith, rhoddodd y diwygiadau arfaethedig ystyriaeth i waith diweddar ar Safon Sir y Fflint, yr adolygiad o ymdrin ag ymholiadau Aelodau a chanlyniad y Tribiwnlys Achos yr adroddwyd arno’n ddiweddar i’r Pwyllgor. Ar ôl cytuno ar y newidiadau arfaethedig, bydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei hysbysu amdanynt er mwyn argymell i’r Cyngor eu mabwysiadu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Heesom, cyfeiriodd y Swyddog Monitro at God Ymddygiad y Swyddogion sydd newydd ei ddiweddaru, sydd ar gael o fewn y Cyfansoddiad. Os oes gan unrhyw Aelod bryder, gallant ei godi gyda’r swyddog neu eu rheolwr atebol, sy’n gorfod mynd i’r afael ag unrhyw achos posib o dorri’r safonau. Gan fod gan weithwyr hawl i gyfrinachedd mewn perthynas â materion disgyblu, dim ond crynodeb lefel uchel o'r canlyniad yr oedd posib ei roi i’r Aelod fel adborth.
Cytunwyd ar y diwygiadau canlynol i fersiwn Saesneg y protocol:
· Adran 7.3: Tynnu ‘to’ o’r frawddeg gyntaf. Tynnu ‘Lead Members' a chynnwys cyfeiriad at Gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio, Trwydedu a Chynllunio i adlewyrchu’r amrywiol lefelau o gymorth a ddarperir. Nid oes angen priflythyren yn ‘services’ yn y frawddeg olaf. · Rhoi priflythyren yn ‘Member’ yn adrannau 5.3, 7.2, 9.1, 9.2 a 10.3. · Adran 9.2: rhoi ‘key’ o flaen ‘decisions under delegated powers’. · Adran 14.2: dylai ddarllen: ‘in relation to’.
Cynigodd y Cynghorydd Woolley yr argymhellion, a chawsant eu heilio gan Phillipa Earlam.
PENDERFYNWYD:
Argymell y dylai’r Cyngor fabwysiadu’r Protocol diwygiedig. |
|
Is-bwyllgor y Pwyllgor Safonau Pwrpas: I ystyried sefydlu is-bwyllgor y Pwyllgor Safonau i fynd i'r afael â cheisiadau brys am oddefebau sy'n codi rhwng cyfarfodydd y Pwyllgor a drefnwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ystyried rhinweddau sefydlu is-bwyllgor i benderfynu ar geisiadau am oddefebau pan nad oes cyfarfod cyfleus arall o’r Pwyllgor llawn wedi’i drefnu. Roedd hyn yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr a aildrefnwyd gyda’r cworwm lleiaf posib ar ôl ei ganslo i gychwyn, er mwyn ystyried un cais am oddefeb.
Wrth egluro’r darpariaethau angenrheidiol i sefydlu is-bwyllgor, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r opsiwn hwn yn cynnig llai o hyblygrwydd o ran aelodaeth. Aeth yn ei flaen i ddweud bod y Pwyllgor yn cyfarfod bob mis a bod y trefniant ym mis Ionawr wedi gweithio’n dda.
Siaradodd yr Aelodau o blaid yr awgrym hwn, gan nodi eu bod yn dymuno parhau gyda’r trefniadau presennol heb fod angen is-bwyllgor. Cynigiwyd ac eiliwyd hyn gan Julia Hughes a’r Cynghorydd Woolley.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, sicrhaodd y Swyddog Monitro y byddai’r Aelodau yn cael eu hatgoffa o’r angen i gyflwyno ceisiadau am oddefebau cyn gynted ag y bo modd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cytuno nad oes angen is-bwyllgor. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
Eitemau i’w cynnwys ar y rhestr ‘i’w trefnu’:
· Llyfr Achosion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. · Adolygiad o’r profforma i helpu Aelodau Annibynnol sy’n arsylwi cyfarfodydd y Cyngor. · Adborth o'r ymweliadau hynny.
Eitemau a ddangosir ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, ond sydd heb eu trefnu eto:
· Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru – i aros ar y rhestr nes bydd yr adroddiad nesaf wedi’i gyhoeddi. · Y broses oddefebau yng Nghynghorau Gwynedd ac Ynys Môn - i’w drefnu ar gyfer 27 Ebrill. · Amlder adrodd am y Trosolwg o Gwynion Moesegol – i’w drefnu bob blwyddyn ar yr un dyddiad â’r adroddiad diwethaf. · Gweithdrefn Adrodd Gyfrinachol – i’w thynnu oddi ar y Rhaglen gan ei bod yn dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor Archwilio.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |