Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Mehefin 2019. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2019.
Materion yn Codi
Cofnod 6: Roedd y wybodaeth am wasanaeth cyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a rhannu costau drwy gyd-benodi Clercod wedi’i gynnwys yn yr adborth i Gynghorau Tref a Chymuned ym mis Mehefin.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson a’r Cadeirydd, cytunwyd bod manylion cyrsiau hyfforddiant ar gyfer Clercod yn cael eu rhannu gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned.
Cofnod 7: Byddai eitem yn y dyfodol am ganllawiau'r hyn a oedd yn cyfrif fel gwaith / gweithgareddau y tu hwnt i rôl Cynghorydd yn cael ei chynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai'r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro'r weithdrefn sef y caniateir i'r ymgeiswyr siarad cyn gofyn iddynt adael yr ystafell, ynghyd ag aelodau'r cyhoedd, er mwyn i'r Pwyllgor allu penderfynu ar y goddefebau mewn amodau pwyllgor.
Cyngor Cymuned Penarlâg – Cais Cynllunio 060060
Cyflwynodd y Swyddog Monitro pedwar cais am oddefeb gan Gynghorwyr Cymuned Penarlâg; roedd dau ohonynt wedi’u diweddaru (Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver) a dau gais arall a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen (Cynghorwyr Joyce Angell a Bob Connah).
Roedd y pedwar cais yn ymwneud â chais cynllunio ar Dir Hamdden Herbert Gladstone a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor Cymuned. Gan fod holl Gynghorwyr Cymuned Penarlâg yn Ymddiriedolwyr y Tir Hamdden, fe'u cynghorwyd gan y Swyddog Monitro, drwy'r Clerc, ei fod yn gysylltiad personol ac sy'n rhagfarnu ac y byddai angen iddynt ofyn am oddefeb cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio. Nid oedd yr eithriad o dan baragraff 12(2) Cod Ymddygiad yr Aelodau yn berthnasol i geisiadau cynllunio.
Roedd y ceisiadau’n ceisio gwahanol lefelau o oddefeb. Ar gais y Cynghorydd Connah, ni allai’r Swyddog Monitro gofio bod y Pwyllgor wedi rhoi’r hawl i bleidleisio ar oddefebau tebyg yn y gorffennol. Dywedodd mai'r Cynghorwyr unigol oedd i benderfynu ar lefel y cysylltiad i’w ddatgan ac a oeddent yn dymuno cyfranogi tra bo’r eitem yn cael ei hystyried ai peidio, a allai olygu nad oes cworwm i'r cyfarfodydd hynny. Fel yr Aelod Lleol, byddai gan y Cynghorydd Carver yr hawl i siarad am bum munud ym Mhwyllgor Cynllunio'r Cyngor Sir pe bai'n cael goddefeb.
Gofynnwyd i’r Cynghorwyr Clive a Cheryl Carver, a oedd yn bresennol, i gyflwyno sylwadau.
Eglurodd y Cynghorydd Clive Carver bod y cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Glwb Pêl-droed Hawarden Rangers a bod y Cynghorydd Cheryl Carver yn dymuno siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio. Er ei fod yn cydnabod y cynsail ar geisiadau blaenorol, gofynnodd os yw'r oddefeb i bleidleisio'n cael ei gymeradwyo ar gyfer y Cynghorydd Connah, y dylid ymestyn hyn i'r tri ymgeisydd arall nad ydynt yn ceisio'r hawl i bleidleisio.
Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y Cynghorydd Carver bod 17 aelod ar y Pwyllgor Cynllunio na fyddai angen i'w penderfyniadau gael eu cadarnhau gan y Cyngor Cymuned llawn. Eglurodd gymhlethdod y cais oherwydd natur y safle.
Ar y pwynt hwn, cynigodd y Cynghorydd Woolley y dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd- yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985. Gofynnodd y Cadeirydd bod y rhai yn oriel y cyhoedd yn gadael yr ystafell cyn i’r pwyllgor drafod ac y byddent yn cael eu gwahodd yn ôl i glywed y penderfyniad.
Yn ystod y drafodaeth, ceisiwyd safbwyntiau a oedd anghenion gweddill Cynghorwyr Cymuned Penarlâg, sydd heb gyflwyno goddefeb, yn ystyriaeth berthnasol, a’r pwysigrwydd o osod cynsail. Cytunwyd y byddai'r ffurflen gais yn cael ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau i'r paragraffau lle gellir rhoi goddefeb.
Cynigodd y Cynghorydd Woolley bod y Cynghorydd Angell yn cael goddefeb ar y seiliau a nodwyd, ac fe gefnogwyd hyn. Cynigodd bod y Cynghorydd Connah ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Amrywio Trefn y Rhaglen Cofnodion: Cytunwyd y dylid newid trefn y rhaglen er mwyn symud eitem rhif 6 ymlaen er budd y rhai yn oriel y cyhoedd. |
|
ADRODDIADAU O YMWELIADAU AELODAU ANNIBYNNOL Â CHYNGHORAU TREF/CYMUNED Pwrpas: I dderbyn adroddiadau ar lafar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor ar eu hymweliadau â’r cynghorau canlynol:
· CyngorTref Cei Connah (Julia Hughes - 28.05.19 a 05.06.19) · CyngorCymuned Chwitffordd (Jonathan Duggan-Keen - 06.06.19) · CyngorCymuned Penarlag (Jonathan Duggan-Keen - 10.06.19) · CyngorCymuned Y Waun (Jonathan Duggan-Keen - 12.06.19) · CyngorTref Fflint (Julia Hughes - 24.06.19) Cofnodion: Cyflwynodd yr aelodau annibynnol canlynol eu hadroddiadau llafar:
Mr. Jonathan Duggan-Keen –Cynghorau Cymuned Penarlâg, Chwitffordd a Gwernaffield a Phantymwyn Mrs. Julia Hughes- Cynghorau Tref Cei Connah a'r Fflint
Yn ystod ei hadroddiad ar Gyngor Tref Cei Connah, nododd y Cadeirydd y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r holl Gynghorau Tref / Cymuned yn gosod trefniadau amgen i alluogi cyhoeddi rhaglenni a gwybodaeth berthnasol pe digwydd nad yw'r Clerc ar gael. Dywedodd hefyd y gallai aelod o’r cyhoedd sy’n holi am fynychu cyfarfod gael gwybod bod y cyfarfod yn debygol o fod yn un byr a’u cynghori yngl?n â’r gweithdrefnau, er enghraifft, sefyll pan fo’r Cadeirydd yn dod i’r ystafell, eu cynghori yngl?n â sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd neu egluro pam fod eitem yn cael ei heithrio rhag y wasg neu'r cyhoedd.
Gan nad oedd Clerc Cyngor Tref y Fflint wedi derbyn adborth gan y Pwyllgor Safonau a ddosbarthwyd dros e-bost, gofynnodd y Cadeirydd bod yr holl lythyrau adborth hyd yma'n cael eu postio ato. Awgrymodd hefyd y gofynnir i Glercod gadarnhau eu bod wedi derbyn llythyrau adborth a anfonwyd drwy e-bost.
Codwyd y pwyntiau canlynol a fydd yn cael eu hadrodd yn ôl i Gynghorau Tref a Chymuned:
· Byddai darparu arwyddion enwau ar gyfer aelodau pwyllgor yn cynorthwyo’r arsylwyr i adnabod y siaradwyr; · Pwysigrwydd nodi’r rhesymau dros ddatgan cysylltiad; · Darparu cyfarwyddiadau clir i leoliadau cyfarfod a meysydd parcio.
Ar ôl cynnal y pedwar ymweliad terfynol (gan gynnwys ymweliad y Cadeirydd i Gyngor Tref Shotton ar 8 Gorffennaf), byddai adroddiad cyffredinol yn cael ei gyflwyno i’r cyd-gyfarfod gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned ar 30 Medi.
PENDERFYNWYD:
Y derbynnir yr adroddiadau llafar ac y rhoddir adborth i’r Cynghorau Tref a Chymuned. |
|
Eitemau i'w Gohirio Cofnodion: Oherwydd y cyfyngiadau amser ac er mwyn rhoi ystyriaeth briodol i’r eitemau ar y rhaglen, cytunwyd y byddai eitemau 5 (y wybodaeth ddiweddaraf am Gynnydd Trosglwyddo Asedau Cymunedol) a 7 (Adborth gan y Fforwm Safonau) yn cael eu gohirio tan fis Medi. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 150 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Ystyriwyd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan nodi’r ddwy eitem sy’n cael eu gohirio o’r cyfarfod hwn.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 2 Medi a fyddai’n cynnwys Adolygu Safon Sir y Fflint a Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW). Cytunwyd na fyddai unrhyw hyfforddiant gan olygu y gellir dechrau am 6pm.
Byddai’r cyfarfod ar 30 Medi yn cynnwys adroddiad cyffredinol ar ymweliadau i Gynghorau Tref / Cymuned, yr eitem a awgrymwyd ar weithgareddau y tu hwnt i rôl Cynghorydd ac Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |