Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod arGorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021, fel y’u cynigiwyd gan Mark Morgan a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

13.

Goddefebau

Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.

 

Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

14.

Canfyddiadau Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd Pwyllgor pdf icon PDF 93 KB

Cyflwyno canfyddiadau'r ymweliadau â chyfarfodydd Pwyllgor Cyngor Sir y Fflint a gynhaliwyd gan aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad oedd yn crynhoi’r darganfyddiadau o ymweliadau a gynhaliwyd gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor â chyfarfodydd y Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Er y cafwyd adborth positif ar y ffordd yr oedd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal a’u cadeirio, gwnaed pedwar sylw i wella eglurder a dealltwriaeth i’r rhai oedd yn gwylio’r cyfarfodydd ar-lein.  Roedd mwyafrif yr awgrymiadau wedi cael eu rhoi ar waith ac roedd rhai’n gamau parhaus. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r darganfyddiadau cyn eu rhannu â Chadeiryddion y Pwyllgorau.

 

Awgrymodd Gill Murgatroyd y gellid, pan fo’n bosibl, labelu Aelodau Annibynnol neu Aelodau Cyfetholedig yn briodol pan oeddent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell i’w gwahaniaethu oddi wrth y Cynghorwyr.

 

Cynigiodd Mark Morgan y dylid rhannu’r darganfyddiadau â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Rhannu’r darganfyddiadau’n ffurfiol â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau.

15.

Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol pdf icon PDF 90 KB

Rhybuddio'rPwyllgor am fodolaeth a llinell amser ar gyfer adolygiad o'r fframwaith cyfan ar gyfer hyrwyddo ymddygiad da sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Fframwaith Safonau Moesegol sy’n cael ei gynnal gan Richard Penn ar ran Llywodraeth Cymru, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, roedd cyfres o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ac ymateb iddynt yn yr hydref. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth oedd ei hangen o ganlyniad i’r adolygiad yn cael ei phasio cyn diwedd y cyfnod llywodraeth leol hwn. Byddai’r adroddiad ac ymateb LlC yn cael ei roi ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor pan fyddai wedi ei gyhoeddi.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad ac aros canlyniad yr adolygiad.

16.

Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan pdf icon PDF 79 KB

Cynhelir Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan bob dwy flynedd.Gohiriwyd cynhadledd y llynedd tan eleni ac mae Swyddogion Monitro yng ngogledd Cymru wrthi’n gwneud y trefniadau.Nod yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau o raglen a fformat arfaethedig y Gynhadledd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar y paratoadau ar gyfer y Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan fyddai’n cael ei chynnal dros y we ddiwedd Hydref/Tachwedd 2021. Pan fyddai’r dyddiad wedi’i gadarnhau, byddai cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Jonathan Duggan-Keen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r paratoadau ar gyfer y gynhadledd.

17.

Adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol pdf icon PDF 81 KB

Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad oedd yn rhoi adborth o’r ail gyfarfod cyswllt moesegol a gynhaliwyd ym mis Awst.

 

Roedd y cyfarfod wedi cael ei groesawu a chytunwyd ar ystod o gamau gweithredu i gefnogi’r ddyletswydd sydd ar ddod i Arweinwyr Grwpiau i helpu i hyrwyddo ymddygiad da gan Aelodau etholedig.  Roedd Arweinwyr Grwpiau wedi cytuno i gael cyfarfodydd pellach a byddai gofyn iddynt gymeradwyo maes llafur drafft o gamau gweithredu i gael eu cyflwyno ar gyfer y broses sefydlu Aelodau yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022.

 

Siaradodd y Cadeirydd, Is-gadeirydd (Mark Morgan) a’r Cynghorydd Patrick Heesom – oedd yn bresennol – o blaid gwerth y cyfarfodydd cyswllt moesegol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Croesawu canlyniadau’r cyfarfod cyswllt moesegol a chytuno i gynnal trydydd cyfarfod yn y flwyddyn newydd.

18.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 57 KB

Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, ac awgrymwyd y newidiadau canlynol:

 

·         Os bydd ar gael, cynnwys Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol ar raglen y cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr Cynghorau Tref/Cymuned ar 1 Tachwedd 2021.

·         Y cyfarfod ym mis Ionawr 2022 i gynnwys eitem ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf.

·         Yr eitem ar ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor i gael ei symud o fis Ionawr i fis Mehefin 2022 er mwyn dechrau cynllunio’r broses o ailddechrau ymweliadau ym mis Medi 2022.

 

Cynigiodd Gill Murgatroyd y dylid derbyn y newidiadau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi ei diwygio.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.