Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Gorffennaf 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2021, fel y’u cynigiwyd gan Mark Morgan a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir. |
|
Goddefebau Derbynunrhyw geisiadau am oddefebau.
Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Canfyddiadau Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd Pwyllgor PDF 93 KB Cyflwyno canfyddiadau'r ymweliadau â chyfarfodydd Pwyllgor Cyngor Sir y Fflint a gynhaliwyd gan aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad oedd yn crynhoi’r darganfyddiadau o ymweliadau a gynhaliwyd gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor â chyfarfodydd y Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn.
Er y cafwyd adborth positif ar y ffordd yr oedd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal a’u cadeirio, gwnaed pedwar sylw i wella eglurder a dealltwriaeth i’r rhai oedd yn gwylio’r cyfarfodydd ar-lein. Roedd mwyafrif yr awgrymiadau wedi cael eu rhoi ar waith ac roedd rhai’n gamau parhaus. Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r darganfyddiadau cyn eu rhannu â Chadeiryddion y Pwyllgorau.
Awgrymodd Gill Murgatroyd y gellid, pan fo’n bosibl, labelu Aelodau Annibynnol neu Aelodau Cyfetholedig yn briodol pan oeddent yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell i’w gwahaniaethu oddi wrth y Cynghorwyr.
Cynigiodd Mark Morgan y dylid rhannu’r darganfyddiadau â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Rhannu’r darganfyddiadau’n ffurfiol â Chadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinwyr Grwpiau. |
|
Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol PDF 90 KB Rhybuddio'rPwyllgor am fodolaeth a llinell amser ar gyfer adolygiad o'r fframwaith cyfan ar gyfer hyrwyddo ymddygiad da sydd wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad y Fframwaith Safonau Moesegol sy’n cael ei gynnal gan Richard Penn ar ran Llywodraeth Cymru, fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori, roedd cyfres o argymhellion wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ac ymateb iddynt yn yr hydref. Byddai unrhyw ddeddfwriaeth oedd ei hangen o ganlyniad i’r adolygiad yn cael ei phasio cyn diwedd y cyfnod llywodraeth leol hwn. Byddai’r adroddiad ac ymateb LlC yn cael ei roi ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor pan fyddai wedi ei gyhoeddi.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad ac aros canlyniad yr adolygiad. |
|
Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan PDF 79 KB Cynhelir Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan bob dwy flynedd.Gohiriwyd cynhadledd y llynedd tan eleni ac mae Swyddogion Monitro yng ngogledd Cymru wrthi’n gwneud y trefniadau.Nod yr adroddiad hwn yw hysbysu’r Aelodau o raglen a fformat arfaethedig y Gynhadledd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar y paratoadau ar gyfer y Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan fyddai’n cael ei chynnal dros y we ddiwedd Hydref/Tachwedd 2021. Pan fyddai’r dyddiad wedi’i gadarnhau, byddai cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Jonathan Duggan-Keen.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r paratoadau ar gyfer y gynhadledd. |
|
Adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol PDF 81 KB Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad oedd yn rhoi adborth o’r ail gyfarfod cyswllt moesegol a gynhaliwyd ym mis Awst.
Roedd y cyfarfod wedi cael ei groesawu a chytunwyd ar ystod o gamau gweithredu i gefnogi’r ddyletswydd sydd ar ddod i Arweinwyr Grwpiau i helpu i hyrwyddo ymddygiad da gan Aelodau etholedig. Roedd Arweinwyr Grwpiau wedi cytuno i gael cyfarfodydd pellach a byddai gofyn iddynt gymeradwyo maes llafur drafft o gamau gweithredu i gael eu cyflwyno ar gyfer y broses sefydlu Aelodau yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022.
Siaradodd y Cadeirydd, Is-gadeirydd (Mark Morgan) a’r Cynghorydd Patrick Heesom – oedd yn bresennol – o blaid gwerth y cyfarfodydd cyswllt moesegol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Croesawu canlyniadau’r cyfarfod cyswllt moesegol a chytuno i gynnal trydydd cyfarfod yn y flwyddyn newydd. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 57 KB Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, ac awgrymwyd y newidiadau canlynol:
· Os bydd ar gael, cynnwys Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol ar raglen y cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr Cynghorau Tref/Cymuned ar 1 Tachwedd 2021. · Y cyfarfod ym mis Ionawr 2022 i gynnwys eitem ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf. · Yr eitem ar ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor i gael ei symud o fis Ionawr i fis Mehefin 2022 er mwyn dechrau cynllunio’r broses o ailddechrau ymweliadau ym mis Medi 2022.
Cynigiodd Gill Murgatroyd y dylid derbyn y newidiadau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi ei diwygio. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |