Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mai 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai, yn amodol ar fân ddiwygiadau i eitemau 42 a 45 y cofnodion. Ar y sail honno, cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley eu bod yn cael eu derbyn ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.
Aelodaeth y Pwyllgor
Cafwyd diweddariad gan y Swyddog Monitro yngl?n â chanlyniad y broses recriwtio a dywedodd y byddai’r ddau ymgeisydd a ffefrir yn cael eu penodi ar adegau gwahanol, wedi ei hwyluso gan ymddeoliad cynnar Phillipa Earlam. Diolchodd y Cadeirydd i Phillipa am alluogi’r newid hwn ac am ei chyfraniadau gwerthfawr i’r Pwyllgor Safonau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion, yn amodol ar y diwygiadau, fel cofnod cywir. |
|
Goddefebau Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Byddaelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio PDF 92 KB I adolygu Cod Ymarfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i adolygu’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Rhoddodd drosolwg o’r newidiadau a oedd wedi eu atodi i’r adroddiad, a fyddai angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad a’r Cyngor Llawn.
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol er cysondeb:
· Defnyddio ‘Cadeirydd’ drwy gydol y ddogfen (yn hytrach na ‘Cadeirwr’/’Cadeiryddes’) · Defnyddio'r un geiriad ar gyfer adrannau 5.5 a 5.8 er mwyn disgrifio Aelodau sydd ddim yn gallu cymryd rhan wrth drafod eitem yr oedd ganddynt safbwynt a bennwyd ymlaen llaw. · Defnyddio’r teitl cywir ar gyfer y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn adrannau 11 a 12.
Ar y sail yna, cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhelliad ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cynllunio a nodwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, ynghyd â’r newidiadau ychwanegol a godwyd gan y Pwyllgor hwn. |
|
Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 86 KB Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad rheolaidd ar nifer y cwynion moesegol yn honni toriad o’r Cod Ymddygiad a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW). Roedd y wybodaeth yn ddienw gyda chyfeirnodau wedi’u clustnodi er mwyn gwahaniaethu rhwng Cynghorau a Chynghorwyr unigol.
Cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro yngl?n â phwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor. Gan ymateb i sylwadau yngl?n â chadeirio cyfarfodydd, roedd yn cytuno i gysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn holi yngl?n â’r posibilrwydd o sesiwn hyfforddi neu fideo i helpu Cadeiryddion Cynghorau Tref/Cymuned i gynnal ymddygiad yn ystod cyfarfodydd, a allai helpu i leihau nifer y cwynion.
Cynigiodd Gill Murgatroydy y dylid derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r nifer a’r math o gwynion. |
|
Adolygu'r Fframwaith Safonau Moesegol (Eitem ar lafar) Diweddariad ar lafar gan y Swyddog Monitro a’r Cadeirydd am yr adolygiad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd o’r Fframwaith Safonau Moesegol gan Richard Penn ar ran Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cadeirydd yngl?n â chyfarfod y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru yr oedd hi wedi ei fynychu gyda Mark Morgan (Is-gadeirydd) a’r Swyddog Monitro. Rhannwyd adborth ganddynt ar ystod o bynciau a gafodd eu trafod yn y cyfarfod, gan gynnwys ymgynghoriad ar adolygiad Y Fframwaith Safonau Moesegol sy’n cael ei wneud gan Richard Penn ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru (LlC).
Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai Richard Penn yn cyflwyno’i argymhellion i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Medi 2021 er mwyn galluogi newidiadau i fodel y Cod Ymddygiad fel y bydd modd ei roi ar waith erbyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Fe atgoffodd y Pwyllgor am y sylwadau a wnaed yn flaenorol yngl?n â’r angen am hyblygrwydd o ran sancsiynau sydd ar gael i Banel Dyfarnu Cymru.
Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylid nodi’r adroddiad ac eiliwyd hyn gan Phillipa Earlam.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad ar lafar. |
|
Adolygiad a Sicrwydd ar Brotocol Aelodau/Swyddogion - diweddariad ar lafar Cafodd Protocol Aelodau/Swyddogion ei adolygu yn gynnar yn 2020 gan y Cyngor. Bydd diweddariad ar lafar yn cael ei roi ar ganlyniad adolygiad ychwanegol llai dwys o Brotocol Aelodau/Swyddogion a gynhaliwyd yn ddiweddar. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Swyddog Monitro yngl?n â chanlyniad adolygiad ysgafn pellach o’r protocol ar gyfer Aelod/Swyddog, er mwyn rhoi sicrwydd fod gweithdrefnau priodol yn eu lle i hyrwyddo parch o’r ddwy ochr rhwng swyddogion ac Aelodau etholedig.
Cynigiodd y Cynghorydd Arnold Woolley y dylid croesawu a nodi’r adroddiad ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Croesawu a nodi’r adroddiad ar lafar. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 77 KB Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, gan nodi’r canlynol:
· Cynnwys Adroddiad Penn o Fframwaith Safonau Moesegol ar y rhaglen i’r dyfodol (ym mis Tachwedd o bosib) · Cynnwys canlyniadau’r cyfarfod Cyswllt Moesegol ar y rhaglen i’r dyfodol (yn y cyfarfod ar y cyd â chynrychiolwyr o Gynghorau Tref/Cymuned ym mis Tachwedd o bosib)
Cynigiodd Phillipa Earlam y dylid derbyn y newidiadau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi ei ddiwygio. |
|
Cynllunio Agenda’r cyfarfod Cyswllt ar Faterion Moesegol PDF 93 KB Cynllunio agenda ar gyfer Cadeirydd cyfarfod y Pwyllgor Safonau gyda Chadeirydd ac Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr Grwpiau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad ar gyfer cynllunio rhaglen y cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau, Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor Sir ac Arweinwyr y Grwpiau. Cyflwynwyd yr awgrymiadau canlynol i’w hystyried:
· Canlyniad ymweliadau Aelodau Annibynnol â chyfarfodydd y Cyngor. · Rhoi dyletswyddau deddfwriaethol newydd ar waith yn 2022. Rhannwyd yn breifat y canllawiau drafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yngl?n â’r dyletswyddau hyn (paragraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd)). · Cefnogi’r dyletswyddau newydd, yr awgrym y dylai aelodau etholedig sy’n dychwelyd fod yn rhan o’r broses gyflwyno ar gyfer Aelodau newydd, ac y dylid cynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer pob gr?p gwleidyddol, gyda chefnogaeth Arweinwyr y Grwpiau.
Er nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn adroddiad yngl?n â chanlyniad yr holl ymweliadau â chyfarfodydd y Cyngor, roedd crynodeb o’r pwyntiau a godwyd wedi eu cynnwys yng nghofnodion cyfarfodydd blaenorol. Nododd y Cadeirydd fod cynnwys nodyn gweithredu ar bob rhaglen ffurfiol yn un o argymhellion yr adborth, ac fod hyn eisoes yn ei le.
Gan ymateb i gwestiwn gan Gill Murgatroyd, cafwyd eglurhad gan y Swyddog Monitro ar oblygiadau o ran adnoddau'r hyfforddiant a awgrymir.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey y dylid derbyn yr argymhellion a gyflwynodd y Swyddog Monitro. Wrth eilio’r cynnig, diolchodd Phillipa Earlam i’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Monitro am eu gwaith ar y mater hwn ac am fynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r rhaglen drafft ar gyfer y Cyfarfod Cyswllt Moesegol nesaf; ac
(b) Y dylid cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen derfynol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) mewn ymgynghoriad ag aelodau’r cyfarfod. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |