Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Ceisir enwebiadau ar gyfer Cadeirydd i’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Swyddog Monitro’r gofynion fel y nodir yn y Cyfansoddiad a gofynnodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd newydd i’r Pwyllgor.
Cafodd Julia Hughes ei henwebu gan Phillipa Earlam ac eiliwyd hyn gan Mark Morgan. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
Diolchodd Julia i’r Pwyllgor am eu henwebiad a’u cefnogaeth a thalodd deyrnged i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor, Mr Rob Dewey.
PENDERFYNWYD:
Penodi Julia Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor.
(O’r pwynt hwn, cadeiriodd Julia weddill y cyfarfod).
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Ceisir enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd i’r Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd i’r Pwyllgor. Cafodd Mark Morgan ei enwebu gan Phillipa Earlam ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Penodi Mark Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad gysylltiad a chynghori’r Aeoldau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol ag eitem rhif 7 ar y rhaglen - Adolygiad o Weithdrefnau Goddefeb yng Nghynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych.
Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol ag eitem rhif 9 ar y rhaglen - Llyfr Achosion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Rhifyn 24 (Ionawr 2020 – Rhagfyr 2020) hefyd oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ddinbych. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 1 Mawrth 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021 fel rhai cywir.
Materion yn codi: Eitem 35: dywedodd y Swyddog Monitro bod y Protocol wedi cael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu gan y Cyngor Sir. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Gr?p Strategaeth Cynllunio i ddechrau’r broses o drosglwyddo’r rhannau hynny o’r Protocol a oedd yn ymwneud â Chynllunio i God Canllawiau Cynllunio.
Eitem 36: Dywedodd y Swyddog Monitro, yn dilyn yr ymweliadau diweddar gan aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau i gyfarfodydd y Cyngor Sir, bod argymhellion ar gyfer gwelliannau wedi’u cynnwys yn y nodiadau gweithdrefnol i Gadeiryddion ar redeg cyfarfodydd a’u cynnwys ym mhecyn y rhaglen.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Johnson fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac fe eiliwyd hyn gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.
|
|
Goddefebau To receive any requests for dispensations.
Members of the press/public will be able to remain at the meeting whilst an application for dispensation is presented to the Committee and will be able to return to hear the Committee’s decision. However, under Paragraph 18C Schedule 12A Local Government Act 1972 the Committee will exclude the press and public from the meeting whilst it deliberates on any application for a dispensation.
Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau.
Bydd aelodau'r wasg / y cyhoedd yn gallu aros yn y cyfarfod tra bydd cais am ryddhad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor a bydd yn gallu dychwelyd i glywed penderfyniad y Pwyllgor. Fodd bynnag, o dan Baragraff 18C Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 bydd y Pwyllgor yn gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod tra bydd yn ystyried unrhyw gais am ryddhad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Adolygu'r Weithdrefn Goddefeb yng Nghynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam PDF 80 KB Cymharu a chyferbynnu sut mae Cynghorau eraill yng Ngogledd Cymru yn prosesu ceisiadau ar gyfer goddefeb
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i gymharu a chyferbynnu sut yr oedd Cynghorau eraill yng Ngogledd Cymru yn prosesu ceisiadau am oddefeb. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod yr adroddiad yn adolygu sut yr oedd Cynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam (y Cynghorau) yn delio â goddefebau.
Esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro nad oedd unrhyw geisiadau am oddefeb wedi cael eu gwneud rhwng 2019 a 2021 yn y Cynghorau hynny ac felly roedd yr adroddiad yn manylu ar y ceisiadau diweddaraf yr oedd pob un wedi delio â nhw. Cyfeiriodd at y gweithdrefnau ar gyfer ystyried ceisiadau yn y cynghorau a dywedodd eu bod yn debyg i rai Cyngor Sir y Fflint. Adroddodd y Dirprwy Swyddog Monitro ar y ceisiadau am oddefeb a dderbyniwyd gan y cynghorau fel y manylwyd yn yr adroddiad a’r penderfyniadau a wnaed.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan Jonathan Duggan-Keen ac fe’i eiliwyd gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r prosesau a gweithdrefnau i ddelio â cheisiadau am oddefeb gan Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned yng Nghynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam.
|
|
Presenoldeb Aelodau Annibynnol Ymweliadau â Chyfarfodydd Pwyllgor Derbyn adroddiadau llafar gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor am eu hymweliadau i’r cyfarfodydd canlynol:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem a oedd yn rhoi cyfle i aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau roi adborth o’r cyfarfodydd yr oeddent wedi’u harsylwi yn y Cyngor.
Mynychwyd y cyfarfodydd canlynol a rhoddwyd adborth ar lafar gan yr Aelod Annibynnol perthnasol yn ystod y cyfarfod:
Crynhodd y Swyddog Monitro'r prif bwyntiau a oedd yn codi o’r adborth fel a ganlyn:
Wrth gyflwyno eu hadroddiadau, dywedodd yr Aelodau Annibynnol bod y cyfarfodydd wedi cael eu cynnal a’u cadeirio’n dda a bod amrywiaeth dda o bynciau wedi cael eu hystyried a’u trafod. Wrth ymateb i’r sylwadau a’r pwyntiau pellach a godwyd gan Aelodau Annibynnol, cytunodd y Swyddog Monitro i ddarparu sesiwn hyfforddi yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol ar rôl a swyddogaeth y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi ymweliadau’r Aelodau Annibynnol i gyfarfodydd y Cyngor Sir.
|
|
Hysbysu’r Pwyllgor am gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achos Cod Ymddygiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro'r adroddiad. Esboniodd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi crynhoi’r cwynion yr oedd wedi’u hymchwilio bob chwarter yn y Llyfr Achosion Cod Ymddygiad. Wrth gyfeirio at ganfyddiadau (c) a (d), roedd y Llyfr Achosion ond yn cynnwys crynodebau o’r achosion hynny yr oedd y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru wedi cynnal gwrandawiadau ar eu cyfer ac wedi gwneud y canlyniad yn hysbys.
Esboniodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod y rhifyn hwn yn trafod y cyfnod o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2020 ac yn tynnu sylw at y 13 o gwynion a ymchwiliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y daethpwyd i’r casgliad nad oedd angen gweithredu ar 10 ohonynt; atgyfeiriwyd 2 ohonynt at y Swyddog Monitro perthnasol i’w hystyried gan eu Pwyllgor Safonau, ac fe atgyfeiriwyd 1 at Banel Dyfarnu Cymru.
Ymatebodd y Dirprwy Swyddog Monitro i ymholiad gan Gill Murgatroyd mewn perthynas â chanfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch cwyn a ymchwiliwyd iddi mewn perthynas â Chyn Aelod Cyngor Cymuned Laleston.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Paul Johnson a'i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn fodlon, ar ôl adolygu’r achosion a grynhowyd yn Rhifyn 24 y Llyfr Achosion, nad oedd angen i Gyngor Sir y Fflint weithredu ymhellach i osgoi cwynion tebyg.
|
|
Adroddiadau Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20 I ddarparu trosolwg o Adroddiadau Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro ddiweddariad ar lafar ar Adroddiadau Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, a chrynhoi dwy rôl statudol a chyfansoddiad Panel Dyfarnu Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y cynhaliwyd un tribiwnlys achos yn ystod 2018/19 a oedd yn ymwneud â Chyngor Sir Fynwy (Cyngor Cymuned Matharn ar hyn o bryd) a chynhadledd ffôn yn ymwneud â’r un gwrandawiad. Ni ystyriwyd unrhyw apeliadau gan yr Uchel Lys ac ni wnaethpwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn erbyn Panel Dyfarnu Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at wrandawiad yr achos, y canlyniad a chost yr achosion tribiwnlys ar gyfer 2018/19.
Wrth gyfeirio at Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2019/20, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod 3 tribiwnlys achos wedi’u cynnal yn sgil atgyfeiriadau gan yr Ombwdsman. Ni ystyriwyd unrhyw apeliadau gan yr Uchel Lys. Adroddodd ar yr achosion a benderfynwyd fel y crynhoir yn yr adroddiad. Cyflwynwyd un cais i apelio i Banel Dyfarnu Cymru mewn perthynas â chosb a ddyfarnwyd gan Bwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol a daeth yr apêl i ben yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol. I gloi, cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at gyfanswm gwariant Panel Dyfarnu Cymru ar gyfer 2019/20.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan Mark Morgan.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 76 KB For the Committee to consider topics to be included on the attached Forward Work Programme. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Gan gyfeirio at yr eitemau a restrwyd i’w hystyried yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol, dywedodd efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cyhoeddi dogfen ymgynghori ar y newidiadai i’r cod ymddygiad a byddai’n cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Gofynnodd i’r aelodau gynnig unrhyw awgrymiadau o ran yr eitemau yr oeddent eisiau eu cynnwys ar y Rhaglen.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cytundeb y byddai canfyddiadau’r ymweliadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor er gwybodaeth, ar ôl i’r holl ymweliadau gan Aelodau Annibynnol gael eu cwblhau. Byddai adborth hefyd yn cael ei roi i Arweinwyr Grwpiau. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n egluro os oedd unrhyw ymweliadau’n weddill ac os oeddent wedi’u cwblhau byddai adborth i Arweinwyr Grwpiau yn cael ei gynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf.
Awgrymodd Gill Murgatroyd y gellid, yn dilyn cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau, cynnal adolygiad byr i ystyried arferion a gweithdrefnau. Cytunwyd y byddai ôl-drafodaeth yn cael ei chynnal ar ôl pob cyfarfod i nodi os oedd angen gwneud gwelliannau. Cynigodd Gill Murgatroyd y dylid cefnogi’r cynnig ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson.
PENDERFYNWYD:
Cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 6.30pm, a daeth i ben am 8.09pm)
|