Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Tachwedd 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2018.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 32: Y canllawiau diweddaraf ar y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol gan CLlLC – cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod y canllawiau wedi’u dosbarthu i Gynghorwyr Sir a Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom y cafwyd adborth cadarnhaol ar y cyfarfod gan Gynor Cymuned Mostyn.
PENDERFYNWYD:
Y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai'r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Pwrpas: Derbyn unrhyw geisiadau am oddefebau. Cofnodion: Dennis a Jeannie Hutchinson, Cynghorwyr Tref Bwcle
Rhoddodd y Swyddog Monitro wybodaeth gefndirol ar gais am ollyngiad gan Gynghorydd Tref Bwcle, Dennis Hutchinson (a'i wraig), sydd ar hyn o bryd â chontract i ddarparu gwasanaethau yn y Sir. Fel rhan o adolygiad o lwybrau bysiau lleol, cytunodd y Cyngor Sir i gais gan Gyngor Tref Bwcle am amser ychwanegol er mwyn dod i gytundeb ar ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad, yn arbennig y gwasanaeth ‘Shopper Hopper’ a weithredwyd gan gwmni'r Cynghorydd Hutchinson. Roedd y ddau Gynghorydd yn ceisio gollyngiad i fod yn bresennol, heb gymryd rhan na phleidleisio, pan gaiff y mater ei ystyried yng nghyfarfod nesaf Cyngor Tref Bwcle.
Cafwyd trafodaeth ynghylch caniatáu i Gynghorwyr gyda chysylltiad sy'n rhagfarnu gael yr un hawliau ag aelodau’r cyhoedd o ran cael aros yn yr ystafell i arsylwi cyfarfodydd, heb gael effaith ar onestrwydd y ddadl. Nodwyd hefyd bod Cyngor Tref Bwcle eisoes wedi elwa o gael estyniad i ddyddiad cau’r ymgynghoriad a'i bod yn bosibl nad yw contractwyr bysiau eraill yn ymwybodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd yn arbennig i drafod y testun hwn.
Cynigodd Julia Hughes i wrthod y gollyngiad, ac eiliwyd hyn gan Jonathan Duggan-Keen. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Woolley i’w ymataliad o’r bleidlais gael ei gofnodi.
Y Cynghorydd Veronica Gay
Gofynnwyd i aelodau'r Pwyllgor ystyried cais am ollyngiad gan y Cynghorydd Sir a Chynghorydd Tref Saltney, Veronica Gay, a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r agenda. Fel aelod o gr?p cefnogi Dementia a gwirfoddolwr mewn Caffi Cofio misol, roedd y Cynghorydd Gay yn ceisio gollyngiad i wneud sylwadau llafar ac ysgrifenedig ar faterion penodol sy’n effeithio’r gr?p a’r Caffi, heb gymryd rhan yn y bleidlais.
Eglurwyd er iddo gael ei ystyried yn gysylltiad personol, bod y Cynghorydd Gay yn ceisio gollyngiad fel rhagofal diogelwch i’w galluogi i siarad a rhoi ei henw i sylwadau ysgrifenedig.
Mynegwyd barn ar werth cyfraniad gwybodaeth Cynghorydd Gay at sylwadau perthnasol heb hawliau pleidleisio. Teimlai rhai Aelodau ei bod yn aneglur a yw hwn yn wasanaeth cyhoeddus neu beidio, ac y dylid codi’r mater â Chynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas ag unigolion gyda sawl cysylltiad yn ceisio gollyngiad mewn amgylchiadau tebyg.
Cadarnhaodd Swyddogion delerau’r cais am ollyngiad gan gynnwys y cyfnodau amser a’r camau diogelu arferol. Cynigwyd ac eiliwyd hyn gan y Cadeirydd ac Edward Hughes. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn. Roedd y penderfyniad yn berthnasol i'r Cynghorydd Gay yn ei rôl fel Cynghorydd Sir yn ogystal â Chynghorydd Tref.
PENDERFYNWYD:
(a) Gwrthod y cais am ollyngiad gan Gynghorwyr Tref Bwcle, Dennis a Jeannie Hutchinson mewn perthynas â thrafod gwasanaethau bysiau lleol yng Nghyngor Tref Bwcle; a
(b) Bod Cynghorydd Sir y Fflint a Chynghorydd Tref Saltney, Veronica Gay, yn derbyn gollyngiad dan baragraffau (d) (e) (f) a (h) Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i roi sylwadau ar lafar ac yn ysgrifenedig i Gyngor Tref Saltney a Chyngor Sir y Fflint ar faterion yn ymwneud â gr?p cymorth Dementia Saltney a'r Caffi Cofio misol. Bydd ... view the full Cofnodion text for item 40. |
|
Ymweliadau gan Aelodau i Gynghorau Tref a Chymuned Cytuno ar broses a gweithdrefn ar gyfer adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ymweliadau a gyflawnir gan Aelodau i Gynghorau Tref a Chyngor, a sefydlu proses a gweithdrefn ar gyfer darparu adborth i Gynghorau Tref a Chymuned y mae’r Aelodau wedi ymweld â nhw. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad i gytuno ar fecanwaith ar gyfer rhoi adborth i Gynghorau Tref a Chymuned ar ymweliadau a gaiff eu cynnal gan aelodau annibynnol o’r Pwyllgor, fel y trafodwyd yn y cyfarfod diwethaf.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cyfres o argymhellion a ddrafftiwyd gan swyddogion i amlinellu’r dull gorau. Byddai darparu nodiadau ysgrifenedig o bob ymweliad i’r Swyddog Monitro yn ei alluogi i gynllunio agendâu yn seiliedig ar lwyth gwaith. Byddai’r argymhelliad i amgáu nodiadau ysgrifenedig gyda’r pecyn agenda cyhoeddus yn eu galluogi i gael eu hystyried gan y Pwyllgor cyn cyfarfodydd yn ogystal â'u defnyddio nhw fel adborth i Gynghorau Tref a Chymuned.
Mewn perthynas â rhaglen y dyfodol, awgrymwyd y gellid ailymweld â chynghorau mewn dwy flynedd i roi amser i ystyried yr adborth a chwblhau unrhyw newidiadau/hyfforddiant os teimlir bod angen. Gellid hefyd trefnu ymweliadau â chynghorau lle mae newidiadau sylweddol wedi bod i aelodaeth neu Glerc newydd. Fel arall, efallai y bydd Clercod yn dymuno gwneud cais am ymweliad, gyda rhybudd ymlaen llaw neu beidio.
Dywedodd y Swyddog Monitro os nad yw Aelodau yn dymuno i'w nodiadau ysgrifenedig gael eu cynnwys yn yr agenda, byddai'r rhain yn cael eu nodi fel papurau cefndirol a byddai angen i'r Pwyllgor gytuno ar yr adborth a roir i Gynghorau Tref/Cymuned ar bob achlysur. O ran dadansoddi tueddiadau, gellid darparu adroddiad unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i roi crynodeb o’r prif faterion a nodwyd yn ystod y cyfnod hwnnw er gwybodaeth o ran anghenion yr hyfforddiant.
Er bod rhai Aelodau o blaid rhannu adroddiadau ysgrifenedig, teimlai eraill y dylai'r Pwyllgor gytuno ar yr adborth ac y byddai adroddiadau ar lafar yn rhoi cyfle i gadarnhau unrhyw feysydd o ansicrwydd cyn cwblhau’r adborth. Awgrymwyd y gellid cynnwys adran am wybodaeth y wefan ar y ffurf templed a ddefnyddir i ysgrifennu nodiadau am yr ymweliadau.
Cynigodd Julia Hughes ddiwygiad i Argymhelliad 2 yn yr adroddiad, sef bod nodiadau ysgrifenedig gael eu hanfon ymlaen i’r Swyddog Monitro a’u hadrodd ar lafar i Aelodau mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Safonau i roi cyfle i ddiwygio a chadarnhau os oes angen. Byddai’r crynodeb o’r adborth yn cael ei gynnwys yn rhan o’r cofnodion a byddai ar gael i’r Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol. Eiliwyd hyn gan Mr. Ken Molyneux.
Cytunwyd hefyd y byddai adroddiadau yn cael eu hystyried yn nhrefn dyddiad yr ymweliadau oherwydd roedd Cynghorau Tref a Chymuned yn awyddus i dderbyn adborth cynnar. Byddai hyn hefyd yn rhoi cyfle iddynt gadarnhau unrhyw faterion sydd wedi’u camddehongli o bosibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio nifer yr adroddiadau adborth o ymweliadau â Chynghorau Tref a Chymuned a gaiff eu hystyried ym mhob cyfarfod er mwyn sicrhau nad yw’r agendâu wedi’u gorlenwi, oni bai bod angen rhoi gwybod am faterion brys pan gaiff y rhain eu gosod ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf. Caiff yr adroddiadau eu hystyried mewn trefn gronolegol;
(b) Bod y nodiadau ysgrifenedig (gan ddefnyddio’r templed cytunedig) yn ffurfio papurau cefndirol i agendâu. Bod adroddiadau ar lafar yn cael eu ... view the full Cofnodion text for item 41. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol DOCX 56 KB Pwrpas: Er mwyn i’r Pwyllgor ystyried testunau i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |