Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

13.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Rhaglen Waith bresennol y Pwyllgor ac Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan Aelodau. 

 

Yn dilyn cais am y wybodaeth ddiweddaraf ar Brosiect Mockingbird a Gofal Maeth, awgrymwyd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref, yn ogystal ag adroddiad ar wahân ar y Canolbwynt Diogelu.

 

Yn dilyn cais i ailddechrau ymweliadau i gwrdd â staff rheng flaen sy'n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Plant yn Sir y Fflint, fel yr argymhellwyd wedi’r ymchwiliad i farwolaeth Victoria Climbie. Awgrymwyd edrych ar hyn ym mis Medi / Hydref.  Byddai hyn yn rhoi amser i gysylltu â gwasanaethau gweithredol i drefnu ymweliad.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad ynghyd â'r ychwanegiadau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)         Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith yn ôl yr angen.

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

14.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 (Terfynol) pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Aelodau, sy’n cynnwys  y datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr Adroddiad Blynyddol a oedd yn crynhoi swyddogaethau gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella fel y’u nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA).  Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor ar gyfer sylwadau, a chyflwynwyd y drafft terfynol heddiw cyn ei gyhoeddi erbyn 31 Gorffennaf 2024. 

 

Yn dilyn cais am ddiweddariadau rheolaidd ar y Tu Allan i'r Sir, cytunwyd y byddai'r rhain yn cychwyn unwaith y byddai'r Gweithdy Aelodau wedi'i gynnal yn yr Hydref.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn cefnogi Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 a’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

15.

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-25 pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Diweddaru’r Aelodau ar raglen gyfalaf y blynyddoedd cynnar a derbyn cymeradwyaeth i:

·         symud ymlaen i’r cam dylunio ac adeiladu (i gwrdd â Llywodraeth Cymru a Llinell Amser y Prosiect)

·         penodi contractwr gan ddefnyddio Dyfarniad Uniongyrchol (fel y cytunwyd gyda’r tîm Dylunio)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a esboniodd fod Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru (LlC) yn edrych ar wella a datblygu adeiladau a lleoliadau ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar.  Cwblhawyd Cam 1 ym mis Mawrth 2024 a disgwylir i Gam 2 ddod i ben ym mis Mawrth 2025.  Darparwyd amlinelliad o'r amserlen dynn ar gyfer cyflawni Cam 2 ar gyfer y ddau safle yn y Fflint a Threuddyn.

 

Cytunwyd i ddosbarthu'r adroddiad Digonolrwydd Gofal Plant wedi'i ddiweddaru i Aelodau'r pwyllgor.

 

Yn dilyn cwestiwn ynghylch p’un a gysylltwyd â phob ysgol a chynnig cyfle i wneud cais, cytunodd y Prif Swyddog i gysylltu â Gail Bennett a rhoi ymateb.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cyflwyniad i Raglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2022-2025 ar gyfer cynllun Parc Cornist yn y Fflint, er mwyn symud ymlaen o’r cam ‘dechrau prosiect’ ac i ofyn am gytundeb â cham ‘dylunio ac adeiladu’ y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.

 

(b)          Bod y Pwyllgor yn cefnogi proses Dyfarnu Uniongyrchol i benodi contractwr profiadol i orffen erbyn terfyn amser LlC, sef 31 Mawrth 2025. Byddai'r dyfarniad drwy fframwaith presennol Pagoba.

 

(c)          Bod y Pwyllgor yn nodi bod Ysgol Terrig/Ysgol Parc y Llan, Treuddyn yn ail brosiect posibl, yn amodol ar waith pellach gyda phartneriaid. Pe bai opsiynau'n ddichonadwy o fewn yr amserlenni a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru, ceisir cymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen yn seiliedig ar yr amserlenni, y costau a'r cytundeb partneriaeth.

16.

Codi am Benodeiaeth pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y cynigion i godi ffi reoli ar unigolion y mae’r Cyngor yn Benodai Corfforaethol drostynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag awgrym o godi tâl am Benodiad am achosion a weinyddir drwy Dîm Asesu a Chodi Tâl yr Awdurdod Lleol. Rhoddwyd amlinelliad o'r ddau opsiwn sef Penodai'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Ddirprwy'r Llys Gwarchod (COP). Eglurwyd nad oedd hyn yn ymwneud â chynhyrchu incwm ond ei fod er mwyn sicrhau bod y costau'n cael eu talu.

 

Ar ôl i’r Cynghorydd Alasdair Ibbotson rannu trydydd opsiwn, teimlai'r Uwch Reolwr y byddai angen gwneud dadansoddiad manwl ar yr opsiwn hwn.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y set ganlynol o egwyddorion arweiniol y dylid eu gwirio’n gyson wrth redeg y cynllun hwn, er mwyn sicrhau ei fod:-

 

·         yn deg a chyfartal, 

  • yn glir,
  • mor syml â phosibl yn seiliedig ar y gallu i dalu costau (gallai fod tensiwn yn y dyfodol lle byddai’r gallu i dalu yn golygu na ellid ei adennill yn llawn) - byddai wedyn yn dod yn ôl i'r pwyllgor.
  • yn cael ei adolygu’n rheolaidd.  

 

Pe bai'r pwyllgor yn darparu'r amlinelliad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol ynghylch yr adolygiad, y gallu i dalu a'r canllawiau a awgrymwyd, yna byddai hynny'n galluogi'r tîm i symud ymlaen. Yna gallai'r Cabinet edrych arno cyn gwneud y penderfyniad terfynol.

 

Teimlai'r Cadeirydd y byddai codi'r trothwy i £6k yn diogelu'r rhai sydd â'r gallu lleiaf i dalu. Hefyd yn cysylltu unrhyw gynnydd â chredyd cynhwysol fel na allai ddod yn anfforddiadwy oherwydd cynnydd mewn costau i'r Cyngor.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o weithredu strwythur codi tâl ar gyfer achosion o Benodiadau a reolir gan awdurdodau lleol.

 

(b)      Bod y pwyllgor o blaid cynnwys opsiwn 3 yn yr ymgynghoriad.

16a

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyrir bod yr eitem ganlynol yn eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 14, Rhan 4 yn Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion contractau arfaethedig, ac mae budd y cyhoedd wrth beidio â datgelu’r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd o’i datgelu nes y bydd y contract wedi ei ddyfarnu.

 

Cytunodd y Pwyllgor i symud y cyfarfod i Ran 2.

17.

Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr Di-dâl

Pwrpas:        Ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau gofalwyr a chynigion ar gyfer comisiynu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ac roedd yn cynnwys gwybodaeth am y dyletswyddau statudol a osodwyd ar yr Awdurdod Lleol o ran cefnogi gofalwyr a'r gwasanaethau a ddarperir drwy Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Cadarnhawyd bod adolygiad o'r holl lwybrau a gwasanaethau wedi'i gynnal.  Darparwyd gwybodaeth am Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'r newidiadau a wnaed yn dilyn yr adolygiad.  Cynigiwyd bod Gwasanaethau Gofalwyr yn cael eu hailgomisiynu o fis Ebrill 2025 am gyfnod o bum mlynedd i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y Pwyllgor yn cydnabod yr adborth a gafwyd yn lleol mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr fel rhan o'r adolygiad.

 

(b)          Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chefnogi'r cynigion a wnaed ar gyfer ail-gomisiynu gwasanaethau gofalwyr am gyfnod o bum mlynedd yn dechrau o fis Ebrill 2025, yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer dyfarnu contractau gwerth dros £2 filiwn.

18.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.