Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

31.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Hilary McGuill ei bod wedi defnyddio’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio yn ddiweddar a datganodd y Cynghorydd Marion Bateman ei bod wedi defnyddio gwasanaethau NEWCES yn ddiweddar.

32.

Cofnodion pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Hydref 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellis at dudalen 8 y cofnodion lle’r oedd y Cynghorydd Paul Johnson wedi gofyn am gael gwneud diwygiad bach i’r argymhelliad a gofynnodd a oedd yr Aelodau wedi cael rhestr o’r gwasanaethau a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, gan na fyddai pawb wedi bod yn ymwybodol o beth oeddent.   Eglurodd nad oedd yn gweld y wybodaeth yn y papurau ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod a dywedodd os oedd argymhelliad am gael ei newid, dylai fod yr Aelodau wedi cael y wybodaeth ofynnol.  Dywedodd yr Hwylusydd ei fod yn wahoddiad gan y Cynghorydd Johnson i’r Aelodau gyflwyno unrhyw syniadau yn dilyn y cyfarfod.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yng nghyd-destun y cynigion a adroddwyd i’r Pwyllgor y tro diwethaf, y gwahoddwyd yr Aelodau i awgrymu syniadau yngl?n ag arbedion cyllideb ar draws yr holl Bwyllgorau Craffu, ond roedd yn deall pwynt y Cynghorydd Ellis, sef bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaeth cymhleth iawn ac yn ymateb i gyfrifoldebau statudol yn bennaf, gan wneud arbedion yn anodd iawn i’w canfod, ond ei bod yn syniad da i fod yn agored i unrhyw awgrymiadau.  Mewn ymateb i’r Cynghorydd Bateman, a oedd yn cytuno gyda sylwadau’r Cynghorydd Ellis, gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog roi mwy o wybodaeth am waith statudol ac anstatudol. Dywedodd y Prif Swyddog bod mwyafrif sylweddol o ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn statudol ac fe awgrymodd, cyn i’r trafodaethau am y gyllideb ddod i ben, y byddai eglurhad yn cael ei roi o ran pa feysydd gwasanaeth oedd yn gwbl statudol, ac fe groesawyd hyn gan yr Aelodau.

 

            Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Mel Buckley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

33.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol ac Olrhain Camau Gweithredu fel y nodwyd yn yr adroddiad a dywedodd wrth Aelodau bod y cwestiynau yr oeddent wedi’u hawgrymu wedi cael eu hanfon ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) er mwyn eu hystyried cyn y cyfarfod ym mis Ionawr.  Gwahoddodd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau eraill i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bateman y dylai rheolwr hefyd fod yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Ionawr i egluro ac o bosib i ddangos ‘E-Ymgynghoriad’. Ychwanegodd nad oedd ymgynghoriadau dros yn ffôn yn addas i bawb a dywedodd y gellid sylwi ar bethau eraill wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôn.  Cytunodd y Cynghorydd Maddison gyda hyn gan ychwanegu bod llawer iawn o bobl h?n heb fynediad at gyfrifiaduron / y rhyngrwyd / ffonau symudol.  Roedd yn ystyried bod E-Ymgynghoriad yn gwahaniaethu ar sail oedran ac roedd eisiau i BIPBC roi sicrwydd i Aelodau y gallai pobl h?n, nad oedd ar-lein, gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb.  Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod ‘E-Ymgynghoriad’ ar y rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i BIPBC yng nghyfarfod mis Ionawr ac y byddai’n anfon y sylwadau ychwanegol at BIPBC, fodd bynnag ni allai orchymyn bod un yn mynychu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill i gael cynnwys y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud yn sefydliadau preswyl y Cyngor pan yr oedd y Lleoliadau Tu Allan i’r Sir yn cael eu hadolygu.  Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a dywedodd y byddent yn gwneud hynny pan oedd yr eitem yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar y cyd ym mis Mehefin 2024.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ellis bryderon nad oedd pobl yn wardiau ochr yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn cael bwyd a diod, weithiau am ddyddiau, ac roedd eisiau codi’r mater gyda BIPBC yn y cyfarfod ym mis Ionawr a dywedodd y Cadeirydd y byddai hyn yn cael ei nodi.

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd at Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod rhai o’r eitemau yn dal i fynd rhagddynt ac y byddai’n ymateb i Aelodau pan yr oedd ganddi fwy o wybodaeth.  Cadarnhaodd bod Lleoliadau Tu Allan i’r Sir wedi cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ystyried hyn yn y cyfarfod ar y cyd ar 27 Mehefin ac y byddai’r sylw blaenorol a wnaed gan y Cynghorydd McGuill yn cael ei drafod.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.

34.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24. pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad canol blwyddyn ar berfformiad ar draws y Cyngor cyfan, gyda’r tabl yn adran 1.04 yn cynnwys pob portffolio.  Dywedodd mai’r atodiad oedd fwyaf perthnasol i’r Pwyllgor hwn a’r is-faes perthnasol oedd Lles Personol a Chymunedol a oedd â statws COG gwyrdd o 90% a statws COG coch o 10% ac o ran Lles roedd statws COG gwyrdd o 85% a statws COG coch o 15%.  Tynnodd sylw at rai mesurau fel a osodwyd yn yr atodiadau.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Debbie Owen, dywedodd y Prif Swyddog fod rhai blaenoriaethau yn cael eu cefnogi gan fwy nag un portffolio ac er nad oedd yn gyfrifoldeb ar Wasanaethau Cymdeithasol, roedd y maes cyffredinol o amgylchedd lleol glân, diogel gyda chysylltiadau da yn dod o dan y maes perfformiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill gwestiynau ynghylch gofal mewnol a recriwtio staff. Eglurodd y Prif Swyddog fod y ddarpariaeth fewnol yn cynnwys llu o wasanaethau, roedd llawer ohonynt wedi’u rheoleiddio ac felly roedd arnynt angen y staff gofynnol i ddarparu’r gwasanaeth ac roedd yr archwiliadau wedi’u rheoleiddio wedi cadarnhau bod ganddynt ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da yn y meysydd hynny. Fodd bynnag, nid oedd ganddo’r union nifer o swyddi gwag ond byddai’n darparu’r ffigwr ar ôl y cyfarfod.  Fe ychwanegodd fod recriwtio wedi gwella ers y pandemig.

 

Mewn ymateb i ail gwestiwn y Cynghorydd McGuill yngl?n â phlant yn gadael gofal a’r sefyllfa dai, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd ganddo’r wybodaeth benodol am y rhai sy’n gadael gofal ond cytunodd ei fod yn faes pryderus yr oeddent yn ei ystyried. Dywedodd fod gan ddigartrefedd broblemau y tu allan i Sir y Fflint ac roedd yn bryder mawr yn genedlaethol ac fe gytunodd ei bod yn iawn i’w nodi.  Dywedodd hefyd fod y portffolio wedi cynnal cyfarfodydd ar y cyd â Thai ac y byddai llety ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal yn flaenoriaeth mewn cyd-gyfarfod yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Mackie, eglurodd y Prif Swyddog bod y targed Taliad Uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn ond ei fod wedi ei gymhwyso i’r cyfnod hwn oherwydd ei fod yn ganran ac roedd y perfformiad ar gyfer y cyfnod ac nid y flwyddyn lawn.  Cytunodd gyda’r hyn a ddywedodd am y dyraniad o 12.7% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol i Bobl H?n ond dywedodd ei fod yn adlewyrchu’r sefyllfa yn genedlaethol oherwydd natur y gefnogaeth a ddarperir i bobl h?n.  Fodd bynnag, nid oedd i gyd yn hirdymor fel categorïau eraill ac roedd yn tueddu i ddenu canran lai o bobl a oedd eisiau taliadau uniongyrchol o’i gymharu â phobl ag anableddau gydol oes a oedd â mwy o daliadau uniongyrchol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mel Buckley a Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24;

 

(b)       Bod  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Comisiynu Gofal Cymdeithasol pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Cartrefi Gofal Pobl H?n yng Ngogledd Cymru. 

 

Trosolwg i Aelodau o Adnewyddiad y Fframwaith Gofal Cartref yng Ngogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-Reolwr - Diogelu a Chomisiynu bod yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i adrodd ar weithgarwch Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru a’r fframwaith a oedd wrthi’n cael ei ddatblygu, gan nodi bod comisiynu yn rhan fawr o’r gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Comisiynu wybodaeth gefndir i’r adroddiad cyn manylu ar y Cytundeb Gofal Cartref gan nodi bod Comisiynu yn weithgaredd cylchol i asesu anghenion ei boblogaeth leol o ran gwasanaethau gofal a chefnogaeth.  Eglurodd bod Cytundeb Gofal Cartref Gogledd Cymru yn brosiect rhwng y chwe awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd wedi bod yn weithredol ers 2018 ac y byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2025 a bod gwaith wedi dechrau i gwblhau’r cylch. Roedd y cytundeb yn rhestr o ddarparwyr a oedd wedi dangos eu gallu a’u cymhwysedd i ddarparu gofal cartref a oedd yn caniatáu iddynt brynu lleoliadau. Roedd y Cytundeb presennol yn cynnwys Gwasanaethau Gofal Cartref ar gyfer oedolion yn unig ond oherwydd ei lwyddiant, byddai’r broses ail-dendro yn cael ei hymestyn i gynnwys Gwasanaethau Gofal Cartref i Blant / Pobl Ifanc / Oedolion a’u Teuluoedd / Gofalwyr a Phobl H?n.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd McGuill, cadarnhaodd y Rheolwr Comisiynu bod 13 o Gartrefi Preswyl i Blant a Phobl Ifanc wedi’u cofrestru a oedd yn cynnwys cartrefi mewnol newydd.  O ran nifer presennol y Lleoliadau Tu Allan i’r Sir ar gyfer plant, dywedodd yr Uwch-Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod oddeutu 40 o blant mewn gofal preswyl fel arfer a byddai rhai ohonynt wedi’u lleoli yn yr 13 o gartrefi yn Sir y Fflint, ond rhoddodd sicrwydd bod yr holl blant mewn cartrefi cofrestredig ac y byddai’r data tu allan i’r sir yn cael ei ddarparu.

 

          Cwestiynodd y Cynghorydd Owen y gwahaniaeth rhwng lleoedd wedi’u cofrestru a lleoedd heb eu cofrestru. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu mai’r gwahaniaeth oedd bod lleoedd cofrestredig yn cael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol - Arolygiaeth Gofal Cymru. Rhoddodd enghraifft o Ofalwyr Micro heb eu cofrestru gan ddweud, er eu bod yn darparu gwasanaeth rheoledig, nid oedd yn ofynnol iddynt fod wedi cofrestru cyn belled â’u bod ond yn darparu gwasanaeth i bedwar unigolyn neu lai.

 

Holodd y Cynghorydd Mackie gwestiwn yngl?n â gofyniad Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi nad oedd darparwyr gwasanaeth yn cael gwneud elw a gofynnodd a oedd hyn yn cael unrhyw effaith ar Sir y Fflint ac os oedd unrhyw bryderon mewn perthynas â hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Comisiynu fod hyn yn cael effaith ac, hyd yma, roedd y ffocws wedi bod ar Wasanaethau Plant ond roedd dyheadau i ymestyn hynny. Eglurodd bod rhai darparwyr yn dewis camu’n ôl o wasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i’r fenter a oedd yn cynnwys gwasanaeth a oedd eisoes wedi cau yn Sir y Fflint, ond roedd darparwyr eraill yn ystyried hyn yn gadarnhaol ac yn trawsnewid eu model busnes i sefydliad nid er elw.  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.