Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

25.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

26.

Cofnodion pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Cadarnhau fel cofnod cywir o gofnodion y cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda Phwyllgor Addysg, Ieuenctid, Diwylliant a Gofal ar 29 Mehefin 2023 a chyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyd-gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2023 gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a chawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Gladys Healey.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Debbie Owen a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

27.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y rhaglen waith gyfredol gan ddweud y bu anawsterau o ran trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod cyfarfod ym mis Ionawr yn awr yn cael ei ystyried ac y byddai’n cael ei gadarnhau’n fuan.  Yn ychwanegol at yr eitemau eraill ar 7 Rhagfyr byddai hefyd fideo gan Double Click i roi diweddariad i’r aelodau.  Dywedodd bod adroddiad ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi’i restru’n amodol fel eitem ar gyfer y cyfarfod ar 6 Mehefin  yn dilyn cais gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.  Opsiwn arall, yn ôl disgresiwn y Pwyllgor, fyddai cyflwyno’r adroddiad i’r cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor sydd i’w gynnal ar 27 Mehefin.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie, oherwydd bod y ddau gyfarfod yn cael eu cynnal ym mis Mehefin, y byddai’n briodol i’r eitem fynd gerbron y cyd-gyfarfod ar 27 Mehefin.  Cytunodd yr hwylusydd y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at raglen y Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd yr Hwylusydd bod y gweithdy sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Westwood yn debygol o gael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr ynghyd ag adroddodd ar y camau gweithredu a olrheiniwyd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Debbie Owen.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Waith;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith yn ôl yr angen; a

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu nad ydynt wedi’u cwblhau eto.

28.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd â’r nod o adolygu a gwneud sylwadau ar y pwysau ar y gyllideb a’r gostyngiadau mewn costau sy’n rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Rhoddodd gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r broses o Osod Cyllideb 2024/25 a oedd yn rhoi sylw i’r materion canlynol:

 

  • pwrpas a chefndir
  • gofynion cyllidebol ychwanegol y Cyngor 2024/25
  • gofynion cyllidebol ychwanegol - risgiau parhaus
  • y sefyllfa gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol
  • crynodeb a chasgliadau
  • y camau nesaf yn y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/25
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 2
  • Proses gosod y gyllideb - Cam 3 (Terfynol).

 

Aeth yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig - Swyddog Arweiniol Oedolion, Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu a’r Prif Gyfrifydd (Gwasanaethau Cymdeithasol) ymlaen a’r cyflwyniad a oedd yn rhoi sylw i’r pwyntiau canlynol:

 

·         Pwysau  Costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol; a

  • Gostyngiadau i Gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Gofynnwyd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu’n drylwyr bwysau costau portffolios, opsiynau effeithlonrwydd a’r risgiau cysylltiedig, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol lle gellid o bosibl gwireddu effeithlonrwydd  costau.  Byddai crynodeb o ganlyniadau’r sesiynau hyn yn cael ei adrodd yn ôl i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Tachwedd, a fydd yn agored i bob Aelod.  Ar ôl derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, bydd yn ofynnol i gyfarfodydd Trosolwg a Chraffu mis Ionawr ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach y bydd eu hangen i lenwi’r bwlch sy’n weddill yn y gyllideb os yw’r Cyngor am fodloni ei rwymedigaeth statudol i osod cyllideb gyfreithiol a mantoledig ym mis Chwefror 2024.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Linda Thew ynghylch nifer y plant sydd mewn lleoliadau y tu allan i’r sir  Eglurodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) bod y term ‘y tu allan i’r sir’ yn cyfeirio at y plant y mae’r awdurdod yn comisiynu gofal ar eu cyfer y tu allan i ddarpariaeth y sir ei hun.  Roedd nifer o blant yn byw mewn cartrefi gofal preswyl yn sir y Fflint sy’n cael eu dosbarthu fel bod yn cael gofal ‘y tu allan i’r sir’ oherwydd nad yw’r gefnogaeth ar eu cyfer yn cael ei darparu gan y sir ei hun.  Roedd 37 o blant ar hyn o bryd mewn gofal preswyl sydd ddim yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol ond yn hytrach yn cael ei gomisiynu.  Nid yw hyn yn golygu eu bod yn cael cefnogaeth y tu allan i ffin ddaearyddol Sir y Fflint.  Roedd yna hefyd 32 o blant yn cael eu cefnogi gan asiantaethau maethu annibynnol.  Mae’r gyllideb Y Tu Allan i’r Sir o safbwynt gofal cymdeithasol yn cefnogi 69 o blant bob wythnos gyda chosau costau addysgol ar ben hynny.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thew hefyd at gost y swyddi Uwch Weithwyr Cymdeithasol newydd a gofynnodd am ddadansoddiad o gyfrifoldebau’r rôl.  Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu at yr Adolygiad o Weithwyr Cymdeithasol a’r pwysau ychwanegol yr oedd hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

Item 5 - Budget presentation slides pdf icon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

29.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Bod Aelodau’n nodi'r gwaith a'r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr  Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu adroddiad yn egluro bod dyletswydd ar bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno eu hadroddid blynyddol i’w Pwyllgor Craffu ac y byddai unrhyw adborth a geir heddiw’n cael ei anfon i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar eu rhan.  Dywedodd bod hyn yn rhan o’r gofyniad o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg i bob asiantaeth partner a Llywodraeth Cymru o waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ei weithgaredd yn ystod y flwyddyn a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Dywedodd bod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei rôl ei hun o ran rhannu cyfeiriad clir ar gyfer datblygiad gwasanaeth o safbwynt integreiddio iechyd a gofal chymdeithasol er mwyn sicrhau lles eraill.

 

Cyfeiriodd at bwyntiau allweddol yn adran 3 o’r adroddiad llawn a oedd wedi’i atodi i’r papurau

 

·         Cod Ymarfer Awtistiaeth

·         Cyfalaf

·         Rhaglen Plant a Phobl Ifanc

·         Rheolwr

·         Llwybr Safonau Gofal Dementia (Cymru Gyfan)

·         Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu

·         Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad

·         Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

·         Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.

·         Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant

·         Rhaglen Trawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

·         Gweithlu

 

Gofynnodd y Cynghorydd Healey am faint yr oedd yn rhaid i blant aros cyn gweld ymgynghorydd yngl?n â’u hiechyd meddwl, a dywedodd hefyd ei bod yn bryderus a fyddai plant sy’n cael prydau ysgol yn cael pryd o fwyd pe baent yn cael eu hanfon adref, e.e. oherwydd llifogydd.  Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad oedd y data wrth law ganddi ynghylch amseroedd aros am wasanaethau iechyd plant a phobl ifanc ond y byddai’n gwneud ymholiadau.  Eglurodd hefyd bod darpariaeth prydau ysgol am ddim yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei fwydo i mewn i’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad a bod asesiad o anghenion y boblogaeth yn ystyried niferoedd prydau ysgol am ddim hefyd, sydd yn helpu gyda chynllunio.  Dywedodd bob pob Asiantaeth Partner yn gyfrifol am ei waith ei hun yn ogystal â gwaith ar y cyd a bod Sir y Fflint wedi gweithio’n galed i gefnogi unigolion sy’n dibynnu’n drwm ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim.  Dywedodd er bod nifer fawr o ysgolion wedi cau’n ddiweddar oherwydd llifogydd, y cawsant eu cau’n fwriadol ar ôl 1pm fel bod y plant yn cael cinio.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylid holi  BIPBC y y tro nesaf y bydd cyfarfod ynghylch amseroedd aros i weld ymgynghorydd i blant ag anghenion iechyd meddwl.  Cyfeiriodd hefyd at adran 3.12 yr adroddiad yngl?n â’r rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a chanmolodd y canolbwyntiau cymunedol a fu’n llwyddiannus mewn helpu pobl i gefnogi eu hunain.  Roedd hefyd eisiau gwneud y pwyllgor y ymwybodol fod Sir y Fflint yn arwain ar werth cymdeithasol aa bod hyn yn dal i fod yn rhan allweddol o ymdriniaeth Sir y Fflint.   Dywedodd mai’r Gr?p Rhanbarthol y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r unig un yng Nghymru sydd wedi bod ar waith ers tua 3  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.