Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol fel un o gynrychiolwyr y Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.

29.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r cyfarfod.   Rhannwyd a chyhoeddwyd ymatebion i gwestiynau a godwyd gan Aelodau cyn y cyfarfod ar y wefan.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

Fel Prif Weithredwr dros dro, rhannodd Gill Harris y wybodaeth ddiweddaraf ar newidiadau strwythurol o fewn BIPBC sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn Sir y Fflint.   Rhoddodd wybod, yn dilyn mesurau ymyrraeth a gyflwynwyd ar gyfer gwasanaethau fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd, newidiwyd y sgoriau i adlewyrchu’r heriau presennol ac roedd cynnydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r cynllun hirdymor i wneud gwelliannau.   Er mwyn paratoi ar gyfer heriau’r gaeaf, roedd gwaith yn mynd rhagddo i wella gofal brys yr un diwrnod ar safleoedd acíwt a pharatoi canolfannau Gofal Sylfaenol brys mewn cymunedau iechyd.   Yn ogystal â hynny, roedd BIPBC yn gweithio gyda chydweithwyr i leihau effaith y gweithredu diwydiannol a oedd ar y gweill gan weithwyr y GIG.   Roedd cynllun peilot yn mynd rhagddo i sicrhau bod modd nodi cleifion a gaiff eu rhyddhau o gartrefi gofal ac roedd cefnogaeth dros y ffôn i gartrefi gofal yn cael ei hymestyn.   Gan gydnabod effaith argaeledd cyfyngedig gofal cymdeithasol, nodwyd bod 37 o gleifion yn ysbytai Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau i ganolfannau gofal priodol.   Ar hyn, diolchwyd i’r Cyngor a phartneriaid eraill am eu gwaith i gynyddu adnoddau mewn cymunedau.   I fynd i’r afael â’r heriau sylweddol mewn perthynas â gofal wedi’i gynllunio, roedd BIPBC yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru (LlC) i greu capasiti ychwanegol i gleifion sy’n aros am gyfnodau hir.   Gan anelu at gyflawni egwyddorion arfer orau, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda cholegau a LlC i ‘gael pethau’n iawn y tro cyntaf’.

 

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid BIPBC, nododd Sue Hill bod gwaith yn parhau gyda phartneriaid ar gamau lliniaru i fynd i’r afael â diffyg disgwyliedig o £10 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn a oedd wedi cael ei effeithio gan bwysau chwyddiant a dyraniadau cyflog.

 

Rhannodd y Cynghorydd Carol Ellis bryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai gan nad oedd modd rhyddhau cleifion, fel y soniwyd mewn adroddiad diweddar.    Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i gyflymu darpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a rhoddodd enghraifft o’r effaith ar unigolyn a gafodd ei atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol ddiwedd mis Awst.

 

Wrth rannu’r pryderon am y cyfnodau hir roedd ambiwlansiau’n aros y tu allan i ysbytai, rhoddodd Gill Harris sicrwydd o ymrwymiad BIPBC i fynd i’r afael â hyn, ac roedd gwaith sylweddol yn mynd rhagddo i gynyddu’r capasiti mewn Adrannau Brys drwy’r strategaeth Gofal Sylfaenol gan gynnwys cartrefi gofal a WAST.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion wybod bod 24 o drigolion yn Sir y Fflint yn aros i gael eu rhyddhau ar draws ysbytai acíwt a chymunedol ar draws y Sir (gan gynnwys Ysbyty Iarlles Caer), ac roedd disgwyl i bedwar ohonynt gael eu rhyddhau dros y dyddiau nesaf.   Sicrhaodd aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

Responses to questions pdf icon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

WAST Presentation Slides pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

30.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.