Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd Mackie - Eitem 5 Paragraff 2.2 - Ymddiriedolwr o Glwb ar ôl Ysgol.

12.

Cofnodion pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mehefin  2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

13.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ychwanegu dwy eitem ychwanegol - diweddariad ar yr Adroddiad Archwilio Cymru ar Gartrefi Gofal Pobl H?n - Comisiynu Cartref Gofal yng Ngogledd Cymru ac Adfywio’r Fframwaith Gofal Cartref.  Fe atgoffodd Aelodau bod sesiwn hyfforddiant ar Rianta Corfforaethol yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol ar Zoom a fyddai’n cael ei recordio.   Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu sicrwydd y byddai’r sesiwn ar Rianta Corfforaethol y diwrnod canlynol yn fanwl iawn ac y byddai’n nodi beth oedd Rhianta Corfforaethol ynghyd â beth oedd cyfrifoldebau’r Aelodau etholedig, ac wedi i’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol gael ei hadolygu, byddai gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal i gyd-fynd â’r hyfforddiant.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Marion Bateman y dylai rhai o’r bobl ifanc gyfarfod y Cynghorwyr fel y gwnaethant rai blynyddoedd yn ôl.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y byddai pobl ifanc yn helpu i ddylunio’r gweithdai ac y byddent hefyd yn eu mynychu pan maent yn cael eu cynnal yn yr Hydref.

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd fod dyddiad yn cael ei drefnu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd bod y bwrdd newydd wedi cael ei sefydlu rai misoedd yn ôl.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

14.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 – 26 - Diweddariad Blynyddol pdf icon PDF 151 KB

Darparu trosolwg o Adroddiad a Chynllun Gweithredu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (2022-2026), gan amlygu blaenoriaethau a cherrig milltir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd gyd-destun ehangach yr adroddiad ar sut yr oeddent yn bodloni’r ddyletswydd statudol ar gyfer yr awdurdod lleol o dan y Ddeddf Gofal Plant (2006).  Eglurodd bod eu ffocws bob amser ar ddwy elfen allweddol yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sef:-

 

·         Darparu gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg, sy’n ymateb i anghenion rhieni.

·         Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy’n berthnasol i ofal plant i rieni a’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhianta neu’n gofalu am blentyn.

 

Amlygodd y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad gan roi cyd-destun ehangach o fewn y gwasanaeth a gyda phartneriaid allweddol eraill.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-Gadeirydd yngl?n â chodau post a mynediad i ofal plant, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau nad oedd hynny’n digwydd ond eu bod yn cael eu dylanwadu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn arweiniad y Llywodraeth.  Dywedodd eu bod yn cael nifer benodol o blant y gallent eu derbyn ac os nad oeddent yn cyrraedd y nifer hon roeddent yn gallu cyflwyno ymhellach.

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd hefyd a oedd darpariaeth neu gyfleusterau crèche ar gael i blant bach allu cymysgu gyda phlant mewnfudwyr tra bod eu rhieni yn cael gwersi Saesneg. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod cyfleusterau yn Nh? Calon a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnal gofal plant ochr yn ochr â rhaglenni rhianta ond byddai’n gwirio ynghylch darpariaeth crèche; nid oedd ychwaith yn ymwybodol o unrhyw alw mewn perthynas â phlant bach yn cymysgu gyda phlant mewnfudwyr ond byddai’n ymchwilio i’r mater. 

 

Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am gyfranogiad gwahanol y sefydliadau penderfynwyd, oherwydd eu cymhlethdod, y byddai’n well aros tan y gweithdy i egluro hyn iddynt.  Wrth ymateb i’r cwestiwn arall a gododd am y defnydd o’r gair ‘tarfwr’ ym mharagraff 1.12, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ei fod mewn perthynas â’r gwahaniaethau rhwng Cyfle Cynnar a’r Cynnig Gofal Plant, yn enwedig o amgylch y ffioedd.  Eglurodd fod Sir y Fflint wedi gwneud yn si?r bod y ‘tarfwr’ yn gadarnhaol ac wedi treialu cyfradd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfrannu i’r Rhaglen Cyfle Cynnar a dywedodd ei bod yn awr wedi cynyddu’n genedlaethol i gyd-fynd â’r Cynnig Gofal Plant fel bod y ddwy raglen yn awr yn talu’r un gyfradd.  Ychwanegodd fod Dechrau’n Deg hefyd wedi newid i gyd-fynd â’r un gyfradd.

 

Derbyniodd yr Is-Gadeirydd y cynnig i gynnal gweithdy a gofynnodd am gael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a chytunodd yr Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd unrhyw hyfforddiant ar gyfer Gwarchodwyr Plant i helpu i gyfathrebu gyda rhieni a phlant nad ydynt yn siarad Saesneg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd y byddai’n anfon copi o gwricwlwm y Gwarchodwyr Plant ati er mwyn iddi gael gweld beth oedd yn ei gynnwys.  Nododd hefyd, o dan ddeddfwriaeth, bod  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-2 pdf icon PDF 130 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn crynhoi perfformiad y meysydd perthnasol i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd blwyddyn / Chwarter 4.  Er bod rhai o’r meysydd yn yr adroddiad y tu allan i Wasanaethau Cymdeithasol, roedd tebygrwydd o 80% felly roedd yn credu ei bod yn bwysig i edrych ar is-flaenoriaeth cyffredinol Cynllun y Cyngor sy’n fwyaf perthnasol i’r portffolio hwn.  Roedd yn falch o allu adrodd ar lefel dda o gynnydd ar weithgareddau ar draws y meysydd fel yr amlinellwyd ym mhwynt 1.04 yr adroddiad a dywedodd ei fod wedi siarad â Vicky Clarke o Gymunedau a Thai cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r gweithgarwch coch a ddengys ym mhwynt 1.05 yr adroddiad, gan gynghori’r Aelodau ei bod yn fodlon darparu unrhyw feysydd sicrwydd iddynt mewn perthynas â hyn.  Fe aeth ymlaen i roi trosolwg o’r meysydd eraill sydd wedi’u rhestru isod a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor hwn:-

 

·         Byw’n Annibynnol

·         Diogelu

·         Darpariaeth Uniongyrchol i Gefnogi Pobl yn Agosach i’w Cartrefi 2022/23

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â nifer o ddarparwyr Meicro-Ofalwyr o’i gymharu â nifer y defnyddwyr gwasanaeth, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn gywir oherwydd bod Meicro-Ofalwyr yn darparu gofal i fwy nag un person.  Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod tîm o bobl wedi cydlynu rhaglen dreigl ar gyfer recriwtio Micro-Ofalwyr a thrwy glywed gan eraill o amgylch y sector gofal i annog pobl i gymryd rhan.

 

Ymatebodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ac fe eglurodd bod y Llwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan yn rhan o lwybr ehangach a oedd yn cael ei ddatblygu gan Sir y Fflint a’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty.  Roedd rhan o hyn yn galluogi pobl a oedd wedi cael diagnosis o Ddementia i gael gwasanaeth tebyg lle bynnag yr oeddent yn byw yng Nghymru drwy gydol eu siwrnai a byddai’r gefnogaeth a’r cyngor yn addasu wrth i’w hanghenion newid.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y Bwrdd Iechyd â rôl arweiniol o amgylch y Strategaeth Dementia ac y byddent fel yr awgrymwyd, gyda chefnogaeth yr Aelodau, yn gwahodd cydweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyfarfod yn y dyfodol.  Gofynnodd yr Is-Gadeirydd i gael cynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd yn briodol i Iechyd Meddwl fod o dan ymbarél Dementia a Defnyddwyr Cyffuriau oherwydd bod gwahanol feini prawf ar gyfer iechyd meddwl ac ni ddylai cleifion fod ar yr un wardiau mewn ysbytai.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hwn yn bwynt teg a bod lle i wella mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl a bod Sir y Fflint yn gweithio’n galed iawn i gynnal gwasanaeth iechyd meddwl awdurdod lleol cryf.  Dywedodd eu bod yn parhau i fod â thimau yn y gymuned mewn cyfuniad gyda’r  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern)

I roi diweddariad i’r aelodau  am gynnydd datblygiad Maes Gwern yn Yr Wyddgrug

Cofnodion:

Ystyriwyd bod yr eitem hon wedi’i heithrio yn rhinwedd Paragraff(au) 14 o

Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).  Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Dave Mackie, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion drosolwg o’r cynnydd ar ddatblygiad Maes Gwern.  Cyfeiriwyd at y cyfleusterau presennol yn Nhri Ffordd, Bretton (gwasanaeth dydd sy’n darparu gweithgareddau mewn amgylchedd garddwriaethol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu) a Growing Places yn Shotton (sy’n darparu gwasanaeth tebyg ar gyfer oedolion gydag anghenion iechyd meddwl) ac fe nodwyd nad oeddent yn gallu ehangu ar gyfer datblygu gwasanaethau.  Cyflwynodd y Swyddog Contractau a Chydymffurfio Cefnogi Pobl wybodaeth gefndir i’r goblygiadau ariannol.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar ddatblygiad Maes Gwern ar gyfer adeiladu’r datblygiad newydd ar yr amod bod y grant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo.

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.