Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Eryr yn cadeirio’r cyfarfod hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Arnold Woolley yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cafwyd cadarnhad yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o Gr?p yr Eryr. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Arnold Woolley wedi cael ei benodi i’r rôl hon ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Arnold Woolley yn Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Tina Claydon y Cynghorydd Hilary McGuill yn Is-gadeirydd y Pwyllgor a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Hilary McGuill yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Ebrill a 27 Ebrill 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 eu cymeradwyo, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
Cafodd cofnodion y cyfarfod y cafodd ei gynnal ar 27 Ebrill 2023 eu cyflwyno, yn amodol ar aralleirio’r paragraff cyntaf ar dudalen 8 a’r gwall teipograffyddol ym mharagraff cyntaf eitem 60 - dylai fod yn “as” nid “at” (yn y fersiwn Saesneg) – eu cynnig gan y Cynghorydd McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill yn gofnod cywir; ac
(b) Yn amodol ar y newid y gofynnodd y Cynghorydd Mackie amdano, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ebrill, 2023 yn gofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a'r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a gofynnodd i'r Aelodau gysylltu â hi os oedd ganddyn nhw unrhyw eitemau i'w cynnig gan fod rhai lleoedd ar gael.Cadarnhaodd hefyd fod y ddwy eitem Tracio Camau Gweithredu wedi'u cwblhau a phan fo’n berthnasol, wedi'u hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Tina Claydon i adroddiad ar Gam-drin Domestig gael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a dywedodd yr Hwylusydd y byddai'n adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf ar ôl iddi wirio a oedd yn dod dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn oherwydd gallai ddod dan gylchoedd gwaith eraill. Awgrymodd y gellid cynnal cyfarfod cyd-bwyllgor i alluogi Aelodau eraill ymuno.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c)
Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y |
|
Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) PDF 367 KB Pwrpas: Derbyn adroddiad cynnydd ar y gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) longyfarch y Cynghorydd Woolley a’r Cynghorydd McGuill ar eu penodiadau’n Gadeirydd ac Is-Gadeirydd ac ychwanegodd ei fod ef a’r swyddogion yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor hwn mor effeithiol ag y gwnaethon nhw yn y gorffennol cyn trosglwyddo i’r Uwch Reolwr Oedolion a'r Rheolwr Gweithrediadau.
Cyflwynodd y Rheolwr Gweithrediadau yr adroddiad gan nodi bod Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) wedi’i ffurfio yn 2009 a oedd yn cael ei ariannu ar y cyd gan dri phartner sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir y Fflint ac mae ganddo unedau ym Mhenarlâg a Queensferry. Eu diben nhw oedd cyflenwi cyfarpar i leihau derbyniadau i'r ysbyty a chynyddu nifer y cleifion sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty er mwyn galluogi pobl i ymdopi'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Dywedodd hefyd fod 93% o'r eitemau yr oedden nhw’n eu casglu, pan nad oedd eu hangen nhw mwyach, yn cael eu hadnewyddu a'u gwirio o ran ansawdd cyn cael eu hailddefnyddio gan arbed tua £2.2 miliwn y flwyddyn.
Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill ddiolch i Jamie a'i staff am yr ymweliad y bore hwnnw i Uned Penarlâg a gofynnodd i'r Pwyllgor argymell penodi prentisiaid, i osgoi defnyddio contractwyr, a fyddai'n arbed hyd yn oed rhagor o arian, ac eiliodd y Cadeirydd hyn.
Cynigiodd y Cynghorydd Mackie bod y Pwyllgor yn diolch i Jamie a'i dîm am yr ymweliad a'r cyflwyniad a eiliodd y Cadeirydd, ac yr oedd yn dymuno eu llongyfarch nhw am barhau i wella'r cyfleusterau y maen nhw’n eu cyflenwi er mwyn parhau i arbed arian.
Gwnaeth y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddiolch i’r Aelodau am eu sylwadau caredig.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Claydon.
PENDERFYNWYD:
(a) Ymchwilio i’r posibilrwydd o gael prentisiaid yn gweithio gyda’r tîm;
(b) Bod llythyr gan y Pwyllgor yn cael ei anfon at y tîm yn eu llongyfarch nhw am eu gwaith;
(c) Bod yr Aelodau'n cydnabod y gwaith llwyddiannus y mae NEWCES yn ei wneud i gefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty a dychwelyd yn ddiogel o’r ysbyty; a
(d) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud o ran ailddefnyddio cyfarpar a’r arbedion o ran costau i bartneriaid sy'n cefnogi'r rhaglen ranbarthol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol PDF 90 KB Pwrpas: I dderbyn diweddariad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Therapi Galwedigaethol yr adroddiad ac eglurodd fod Therapi Galwedigaethol yn canolbwyntio ar yr hyn y mae pobl gyffredin o bob oed yn ei wneud yn eu bywydau bob dydd a’i fod yn eu cefnogi nhw i barhau i fod mor annibynnol â phosibl. Rhoddodd drosolwg byr o’r gwahanol dimau a grwpiau defnyddwyr gwasanaethau y buon nhw’n gweithio gyda nhw, fel y nodir yn yr adroddiad:-
· Ardal Leol · Ailalluogi · Pediatreg · Tîm Derbyn
Mewn ymateb i gwestiwn a gododd y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion, o safbwynt perfformiad, fod gan Sir y Fflint hanes gwych o ddarparu Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol cynhwysfawr ac mae’r ffaith mai ychydig iawn o swyddi gwag oedd ganddyn nhw yn wahanol i flynyddoedd blaenorol yn dangos hyn. Eglurodd nad oedd pobl yn aros am amser hir am Therapi Galwedigaethol a dywedodd fod atgyfeiriadau'n cael eu categoreiddio'n ôl lefel uchel, canolig neu isel a’u trin yn unol â hynny.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey faint o amser a gymerwyd i gasglu cyfarpar pan nad oedd ei angen mwyach. Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion mai dim ond pan fydden nhw’n cael eu hysbysebu nad oedd angen y cyfarpar mwyach y gallen nhw ei gasglu. Dywedodd, pe bai profedigaeth, y byddai cysylltu â nhw yn isel ar restr pobl a allai arwain at beidio â chasglu cyfarpar. Dywedodd wrth yr Aelodau fod swm sylweddol o gyfarpar NEWCES, y gellid ei adnabod yn rhwydd oddi wrth y cod bar, wedi'i ddychwelyd yn dilyn amnest o ran siopau elusen.
Ychwanegodd y Rheolwr Gweithrediadau fod Llywodraeth Cymru wedi gosod safon amser ymateb o 14 diwrnod i gasglu cyfarpar o adeg cael yr hysbysiad, ac yr oedden nhw wedi’i fodloni 100%. Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau pe bai rhywun yn cysylltu â nhw ar ôl profedigaeth a bod y cyfarpar yn achosi trallod, yna byddai'n cael ei gasglu o fewn 3 diwrnod.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am esboniad ynghylch rhestrau aros am gyfarpar a sut yr oedden nhw’n cael eu hadolygu. Eglurodd yr Uwch Reolwr Oedolion pan gysylltwyd â’r tîm Un Pwynt Mynediad am gymorth, bod asesiad trylwyr wedi’i gynnal, a dywedodd y gallai hwn gymryd llawer o amser gan fod angen iddyn nhw edrych ar y darlun llawn a oedd yn aml yn nodi materion eraill y gellid eu gwella. Esboniodd nad oedd cyfarpar yn angenrheidiol yn aml iawn gan mai'r cyfan sydd angen ei wneud yw ail-addysgu pobl sut i wneud pethau. Dywedodd hi eu bod nhw’n gweithio'n galed iawn i gadw'r rhestr aros o 3 mis yn isel a'u bod nhw’n cysylltu â phobl yn rheolaidd rhag ofn bod eu hamgylchiadau nhw wedi newid. Dywedodd hi nad oedd yn bryderus ynghylch hyd y rhestr gan y byddai'n well ganddi i bobl gael y cymorth a'r cyngor cywir. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai'n beryglus dosbarthu cyfarpar y gofynnwyd amdano fel mesur tymor byr cyn i bobl gael eu hasesu oherwydd efallai nad dyna'r hyn sydd ei angen arnyn nhw mewn gwirionedd. Ychwanegodd y Rheolwr Therapi ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Ymyrraeth a Chymorth Cynnar yn y Gwasanaethau Plant PDF 107 KB Pwrpas: Darparu trosolwg o waith y Ganolfan Cymorth Cynnar a datblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y Canolbwynt Cymorth Cynnar wedi’i ddatblygu yn 2017 i ddod ag asiantaethau at ei gilydd i dargedu cymorth i deuluoedd sydd mewn angen nad oedden nhw’n bodloni’r trothwyon statudol ar gyfer gofal cymdeithasol plant ond oedd â dangosyddion clir o ran anghenion a oedd yn aml yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod.
Eglurodd fod y galw am y gwasanaeth hwn wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd a bod mwyafrif yr atgyfeiriadau gan rieni plant rhwng 10 a 15 oed yn ceisio gwybodaeth a chyngor. Felly ar ddiwedd 2022 trefnwyd cyfres o weithdai a arweiniodd at ddatblygu’r gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a ddechreuodd weithredu ym mis Chwefror 2023. Roedd y gwasanaeth yn darparu cymorth i deuluoedd trwy sgyrsiau â thîm o weithwyr medrus.
Gofynnodd y Cynghorydd Debbie Owen am eglurhad ynghylch sut i gysylltu â'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gan ei fod yn wasanaeth newydd ar hyn o bryd, y dylai pobl gysylltu â'r Gwasanaethau Plant a gofyn am y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ond eu bod nhw’n edrych ar gael rhif ar wahân yn dibynnu ar y galw am y gwasanaeth.
Mewn ymateb i gais y Cynghorydd Mackie am eglurhad ynghylch y Canolbwynt Cymorth Cynnar a'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr atgyfeiriadau i'r Canolbwynt Cymorth Cynnar a oedd yn cymryd 4 i 6 wythnos, fod y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn hidlo'r rhai yr oedd angen gwybodaeth a chymorth arnynt yn hytrach na phecyn cymorth.
Awgrymodd y Cynghorydd McGuill, o ran yr eglurhad a roddwyd rhwng y Canolbwynt Cymorth Cynnar a'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, mai'r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ddylai fod yr unig rif cyswllt i rieni gysylltu ag ef i ofyn am gyngor ac yna gellid eu cyfeirio nhw at wasanaethau eraill pe bai angen. Gofynnodd hi hefyd am ddadansoddiad o'r atgyfeiriadau i gyd ac o ble yr oedden nhw’n dod gan fod yr adroddiad yn awgrymu eu bod nhw i gyd yn dod o Lannau Dyfrdwy - a chytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i'w ddosbarthu.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a ddaeth unrhyw atgyfeiriadau o’r ardaloedd gwledig. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw at y ffaith bod yr adroddiad yn adlewyrchu'r ardaloedd y cafodd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau ac y cafwyd atgyfeiriadau ledled Sir y Fflint.
Fel arsylwr, holodd y Cynghorydd Parkhurst pa gamau oedd yn cael eu cymryd o ran sicrhau bod gan ofalwyr ymlyniad cadarnhaol â'u plant. Mewn ymateb i hyn, dywedodd yr Uwch Reolwr ei bod hi’n gweithio'n agos gyda Gail Bennett a'i thîm a bod ei thîm hi’n gweithio'n agos gydag ymwelwyr Iechyd a’r Blynyddoedd Cynnar i gefnogi teuluoedd sydd ag anawsterau ag ymlyniad sy'n gysylltiedig â gwasanaethau mabwysiadu hefyd. Dywedon nhw fod ganddyn nhw gysylltiadau agos â phartneriaid statudol a gwasanaethau drws ffrynt hefyd.
Rhoddodd y Cynghorydd Mackie ei gefnogaeth i'r mentrau yr oedd y Rheolwr Gwasanaeth yn ymchwilio iddynt ac i ble y gallai'r ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 114 KB Pwrpas: Aelodau i ddarllen Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol drafft a rhoi adborth ar y cynnwys drafft a ystyrir i’w gynnwys, sy’n cynnwys datblygiadau allweddol y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyn cyflwyno'r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gydnabyddiaeth i Marianne Evans a Dawn Holt am ysgrifennu'r adroddiad a ddisgrifiodd yn ddeunydd pleserus, diddorol a chadarnhaol i’w ddarllen y cafodd ei ategu gan yr adborth a dderbyniwyd gan yr Aelodau.
Atgoffodd ef yr Aelodau bod yr adroddiad wedi’i lunio fel gofyniad statudol fel sydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r drafft gan ei fod yn bwriadu ei gyflwyno i’r Cabinet ar 20 Mehefin yn hytrach nag ar 18 Gorffennaf er mwyn caniatáu amser i’w gyhoeddi’n ddwyieithog.
Cyn agor i'r Aelodau am unrhyw sylwadau, dywedodd y Cadeirydd fod y strwythur a'r manylion yn galonogol iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod yr adroddiad cyntaf erioed y cafodd ei wneud 10 mlynedd yn ôl wedi'i anelu at y rheolydd yn ogystal â'r cyhoedd a oedd â gwahanol ofynion ond bod yr adroddiad hwn, a oedd wedi'i ysgrifennu'n dda iawn, wedi ymdrin â phopeth ac yr oedd wedi rhyfeddu faint o fentrau yr oedd wedi’u cyflwyno yn y cyfnod hwnnw.
Pwysleisiodd y Cynghorydd McGuill, pan ddaeth yn amser edrych ar y gyllideb, fod angen mwy o arian nag oedd ganddyn nhw ar y pryd gan fod yr arian yn cael ei wario ar y mentrau i gyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad drafft, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ni ar gyfer 2023/24. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |