Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

33.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

34.

Cofnodion pdf icon PDF 126 KB

I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y Cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin 2021.  Cymeradwywyd y cofnodion a’u cynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a fe’i  heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

35.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 110 KB

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn rhoi sylwadau ar bwysau ariannol y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r strategaeth gyllideb gyffredinol ac yn cynghori ar unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost yr hoffai eu harchwilio ymhellach

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun. 

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym Mehefin yn darparu’r sefyllfa ddiwygiedig ar y gyllideb ar gyfer 2022/23.  Cafodd y pwysau o ran costau a nodwyd eu hatgyfeirio ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod oll yn cyflawni adolygiad trylwyr.  Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu), Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu ac Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, gyflwyniad ar y cyd a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o gyfansymiau pwysau costau
    • Pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Pwysau Cyllideb Ysgolion
  • Crynodeb holl Bwysau Costau
  • Pwysau cyllideb y tu allan i’r sir
  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y Pwysau Gwasanaethau Cymdeithasol (1) mewn perthynas â Chartref Gofal Preswyl i Blant ac awgrymodd, gan fod y Pwyllgor wedi cytuno ar y swm hwn y llynedd, y dylai’r Pwyllgor gytuno ar y pwysau eleni.

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y newidiadau a gyhoeddwyd mewn perthynas ag Yswiriant Gwladol ac y byddai’r costau yn effeithio ar y Cyngor fel cyflogwr, a hefyd ar y sector preifat, ac y byddai’n cael goblygiadau ar gyllido’r sector preifat wrth symud ymlaen.   Cytunodd y Prif Weithredwr ac amlinellodd sefyllfa’r Cyngor.  Dywedodd fod hyn wedi cael ei uwchgyfeirio i Weinidogion a disgwylir y bydd cyrff sector cyhoeddus allweddol sy’n comisiynu a darparu gofal cymdeithasol yn cael ychwanegiadau er mwyn ysgwyddo eu costau Yswiriant Cenedlaethol eu hunain.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi rhoi achos ymlaen i Weinidogion gyda’r golwg y bydd darparwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael eu heithrio rhag cyfradd cyflogwyr Yswiriant Gwladol.

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at y pwysau o £1.952 miliwn o dan Gomisiynu Gofal Cymdeithasol a theimlai nad oedd hyn yn adlewyrchu’r prinder a phwysau cyfredol mewn perthynas â recriwtio staff - gyda phwysau o bosibl yn llawer uwch na £1.952 miliwn.  Gofynnodd faint o gyllid oedd wedi cael ei neilltuo yn y SACT i fodloni’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ a chostau ychwanegol darparwyr gofal, a faint o gymorth oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr fod llythyr gan chwe arweinydd y Cyngor yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth yr Heddlu, Ambiwlans, Iechyd a phartneriaid eraill, yn cael ei gyflwyno i LlC gyda gofyniad wedi ei gostio o amgylch y materion a godwyd er mwyn lleihau’r pwysau. 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dyfodol pwysau busnes mewn perthynas â Chartrefi Gr?p Gwasanaethau Plant, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod achos busnes wedi cael ei ddatblygu  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.32am)

 

37.

Attendance and Apologies

Dogfennau ychwanegol: