Agenda and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Hilary McGuill yn Gadeirydd y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Hilary McGuill wedi’i phenodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Hilary McGuill fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Claydon yn Is-Gadeirydd gan y Cynghorydd Cunningham ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Michelle Perfect. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Penodi Tina Claydon yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 20 Ionawr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cynghorydd Gladys Healy ei bod yn fodlon ar yr ymateb y mae wedi’i dderbyn yngl?n â chartrefi gwag ond roedd arni eisiau mwy o wybodaeth am yr holl eiddo gwag a beth sy’n digwydd iddyn nhw. Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau wedi cytuno’n ddiweddar y byddai Aelodau yn derbyn gwybodaeth am eiddo gwag yn rheolaidd.
Dywedodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod y mater a gododd y Cynghorydd Mackie yngl?n â chofnodion digidol gofal tymor byr wedi’i drafod gan y Gr?p Strategaeth Ddigidol; fodd bynnag roedd y cais ochr yn ochr â sawl blaenoriaeth arall a oedd yn cael eu hystyried. Gofynnodd y Cadeirydd am y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyfarfod nesaf y Gr?p Strategaeth Ddigidol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddant yn cysylltu â darparwyr meicro-ofal i ofyn am ganiatâd i gynnwys eu manylion ar restr o weithredwyr a fydd yn cael ei dosbarthu i bob cynghorydd.
Cynigiwyd cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022 gan y Cynghorydd Mackie, gyda’r Cynghorydd Cunningham yn eilio hynny.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |