Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

37.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

38.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Medi 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Wisinger a’u heilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

39.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol. Nododd fod gan y cyfarfod nesaf ar 9 Rhagfyr raglen drom a rhoddodd amlinelliad o'r eitemau oedd i'w cyflwyno.   Yna cyfeiriodd at gyfarfod 20 Ionawr a rhoddodd ddiweddariad o'r eitemau ar gyfer y cyfarfod hwnnw.  Cyfarfod mis Ionawr oedd yr olaf ym mlwyddyn y cyngor oherwydd yr Etholiadau lleol.  Os hoffai unrhyw aelod ychwanegu unrhyw eitemau ychwanegol at y Flaenraglen Waith gallent wneud hynny drwy gysylltu â hi.

 

                        Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, gan gadarnhau bod y wybodaeth am Apwyntiadau Meddygon Teulu wyneb yn wyneb a'r diweddariad ar Covid Hir wedi'u dosbarthu.  Ni chafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Sir y Fflint, ond cadarnhaodd yr eir i’r afael â hyn.    Yna cyfeiriodd at yr awgrym gan y Cynghorydd Marion Bateman bod y pwyllgor yn cerdded o amgylch canol tref neu Barc Manwerthu i gael dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd.  Nid oedd hyn yn cael sylw ar hyn o bryd ond roedd ar y radar a byddai'n cael ei gynnwys yn rhaglen y flwyddyn ddinesig newydd.  Roedd yr holl gamau gweithredu eraill wedi’u cwblhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

40.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyndiweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mark Polin, Jo Whitehead a Rob Smith o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod.

 

 

            Diolchodd Mark Polin (Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i ddod i'r cyfarfod i ddarparu ymatebion i'r cwestiynau a godwyd.   Roedd hwn hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y berthynas waith dda oedd yn bodoli rhwng y Byrddau Iechyd a’r Awdurdodau Lleol, yn enwedig yn ystod Pandemig Covid.  Eglurodd nad oedd modd datrys rhai o'r pwysau yn y byrdymor ond roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio lliniaru'r rhain.

 

 

            Diolchodd Jo Whitehead (Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i siarad, a thalodd deyrnged i'r Prif Swyddog, yr Uwch Dîm Arwain a Phartneriaid sy'n darparu gwasanaethau yn Sir y Fflint.  Roedd y gwaith hwn wedi galluogi modelau gwasanaeth gofal diddorol a blaengar a oedd yn gwneud gwahaniaeth i'r boblogaeth.  A hithau ond wedi bod yn ei swydd am 10 mis, roedd Jo Whitehead yn falch, er gwaethaf yr heriau, fod ffocws a rennir ar anghenion pobl Sir y Fflint.  Roedd BIPBC yn gofalu am boblogaeth o tua 700,000 a disgwylir i'r ystod oedran dros 85 gynyddu 154%.  Roedd cynlluniau hanfodol fel Marleyfield mor bwysig. 

 

 

            Yna rhoddodd Jo Whitehead wybodaeth am nifer yr achosion Covid a diweddariad ar y Rhaglenni Brechu a’r Pigiad Atgyfnerthu.  Roedd lefel y cleifion mewn ysbytai ledled Cymru mor uchel â mis Chwefror ond roedd paratoadau ar y gweill i weithredu'r Cynllun Ymchwydd ar gyfer UThD.  Roedd goblygiadau Covid Hir, effeithiau ar blant a gofalwyr hefyd yn cael eu hystyried.  Yna rhoddodd drosolwg o'u blaenoriaethau sefydliadol a'r Strategaeth Gwasanaethau Clinigol.   Darparwyd gwybodaeth hefyd am y tri phrif safle acíwt a oedd yn cynnwys Adrannau Achosion Brys, Mamolaeth ac ystod o wasanaethau craidd.  Roedd arian LlC wedi galluogi gwelliannau i safleoedd Maelor a Bangor, gyda thrafodaethau ar y gweill ynghylch creu nifer o ganolfannau triniaeth rhanbarthol.  Yna cyfeiriodd Jo Whitehead at y mentrau rhestrau aros a rhoddodd enghraifft i’r cleifion hynny a oedd yn aros am gataractau neu lawdriniaeth llygaid a oedd bellach yn teithio i Gilgwri, er mwyn lleihau amseroedd aros.

 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar y Timau Ardal, cadarnhawyd bod y Model Gweithredu yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno'r ddarpariaeth yn lleol ac yn ddiogel.   Roedd y strwythurau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd ac roedd Jo Whitehead am barhau i ganolbwyntio ar ardaloedd y Dwyrain, y Gorllewin a'r Canolbarth gan ddatblygu systemau rheoli gofal iechyd integredig. 

 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r uned mân anafiadau a addawyd yn cael ei gosod yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy.  Cadarnhawyd bod opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Glannau Dyfrdwy i liniaru'r achosion gofal brys yn y Maelor.  Nid oedd amserlen ar gyfer y gwaith hwn, ond roedd yn un o'r opsiynau y gobeithiwyd ei barhau.

 

Cwestiynau gan y Pwyllgor

 

1.         Rhowch ddiweddariad  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

Attendance and Apologies

Dogfennau ychwanegol:

42.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.