Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Margaret Parry-Jones 01352 702427  E-bost: margaret.parry-jones@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

13.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

14.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Wisinger a’u heilio gan y Cynghorydd Lowe.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a dderbyniwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru yngl?n â Gwasanaethau Iechyd Meddwl.  Dywedodd yr Hwylusydd y derbyniwyd ymateb eu bod yn gweithio ar y mater.

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

15.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Dywedodd y byddai eitem ar Drawsnewid Gwasanaethau Plant yn cael ei hychwanegu at y cyfarfod ar 9 Medi a’u bod yn aros am gadarnhad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pa un a oeddent yn gallu mynychu’r cyfarfod ar 4 Tachwedd.  Hefyd, ychwanegodd bod dau adroddiad wedi dod i’r cyfarfod ar 9 Rhagfyr sef Diweddariad ar Daliadau Uniongyrchol ac Adroddiad Diweddariad Gofal Ychwanegol a gwahoddwyd Aelodau i gysylltu os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent yn dymuno eu hychwanegu ar raglenni yn y dyfodol.

 

                        Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad olrhain camau ac hysbysodd yr aelodau eu bod yn aros am lythyr gan BIPBC yngl?n â diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda MT a Covid Hir.   Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw adborth gan y Fforwm Gwasanaethau Plant gan nad oeddent wedi cwrdd ers y cyfarfod diwethaf.  Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu eu bod yn dymuno cyfarfod y plant yn gyntaf er mwyn gallu penderfynu pa brif bwyntiau yr oeddent eisiau eu cyflwyno i’r Fforwm.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sy’n weddill.

16.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ystyried yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Aelod Cabinet wedi llunio’r Adroddiad Blynyddol oedd yn ofyniad statudol i adolygu’r gwasanaethau yn 2020/21 a’r flwyddyn i ddod.  Dywedodd gan mai hon oedd blwyddyn olaf y Prif Weithredwr, roedd yn addas iddo ysgrifennu’r cyflwyniad gan adael etifeddiaeth wych o gefnogaeth i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Aeth drwy brif faterion yr adroddiad a chanmol Double Click - Menter Gymdeithasol Iechyd Meddwl am y gwaith a wnaed ganddynt i lunio’r adroddiad a chytunodd y Pwyllgor gyda hynny.  Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen ADM a TSS fod yr adroddiad hwn wedi bod drwy’r broses ddylunio gyda Double Click a chroesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor cyn iddo gael ei gwblhau.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Partneriaethau ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol bod cael cyflawni gymaint mewn cyfnod mor anodd yn amlwg pa mor wych oedd y gwasanaeth a bod yr Adroddiad Blynyddol hwn yn sefyll allan fel un o’r adroddiadau gorau yn sgil yr amgylchiadau anodd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Wisinger am eglurhad yngl?n â Meddygfa Queensferry yn symud i Gei Connah a gofynnodd pa effaith fyddai’n ei gael ar breswylwyr h?n.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie fod hyn wedi’i atgyfeirio i’r Cyngor Iechyd Cymuned a bod symud i Gei Connah yn opsiwn ond roedd yna opsiynau eraill o fewn y cynnig oedd yn fwy lleol.  Dywedodd nad oedd yn ffafrio Cei Connah gan y byddai cleifion yn gorfod mynd heibio meddygfa arall er mwyn cyrraedd Canolfan Iechyd Cei Connah.  Roedd yn credu bod y mater yn mynd i gael ei godi gyda Chyngor Cymuned Queensferry.   Byddai’n hysbysu’r Pwyllgor am unrhyw ddiweddariadau cynnydd a dderbyniwyd drwy’r CIC.

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies am broblemau parhaus gyda Chanolfan Feddygol Cei Connah ac nad oedd gan Feddygfa Sant Marc unrhyw feddygon yn ystod un diwrnod a bod pob apwyntiad wedi’i ganslo.

 

Roedd cysylltiadau cludiant yn bryder i’r Cynghorydd Cunningham ac roedd y Cynghorydd Gladys Healey yn bryderus am brinder MTon a pham nad oedd yn bosibl eu recriwtio.

 

Cytunodd y Pwyllgor gyda’r Cadeirydd y dylai llythyr gael ei ysgrifennu i’r Bwrdd Iechyd gyda’r holl faterion a godwyd yn y cyfarfod.  Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylai’r llythyr gael ei anfon at Gyfarwyddwr Ardal y Bwrdd Iechyd ((Rob Smith) a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol (Gareth Bowdler) a’i fod yn hapus i gynorthwyo’r Hwylusydd i’w ysgrifennu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad terfynol, sy’n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a blaenoriaethau’r flwyddyn nesaf yn cael ei gymeradwyo.

17.

Y Blynyddoedd Cynnar pdf icon PDF 191 KB

Pwrpas:        Rhannu cyflawniadau'r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd a chynigion ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd fideo byr yn dangos y cynnydd hyd yma o rywfaint o’r gwaith cyfalaf oedd wedi digwydd o amgylch Sir y Fflint ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a Ariannwyd ar gyfer plant 3 i 4 oed a rhywfaint o’r Cyllid Cyfalaf Dechrau'n Deg a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Cadeirydd yn gofyn sut oeddem yn estyn allan at deuluoedd ble nad oedd Saesneg yn iaith gyntaf iddynt yn arbennig bobl Ewropeaidd Dwyreiniol nad oes ganddynt deulu yma i’w cefnogi gyda gofal plant i’w galluogi i weithio.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod y cynlluniau cyfalaf mawr yn bennaf ar gyfer Gofal Plant a Ariannwyd i blant 3 i 4 oed oedd yn cefnogi rhieni oedd yn gweithio a phlant a ariannwyd drwy’r Cynnig Gofal Plant.  Fodd bynnag, os byddai lleoedd ar gael, gallai’r lleoedd gofal plant fod ar gael i oedrannau eraill o blant yn seiliedig ar gofrestr lleoliadau AGC.   Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn newid meini prawf cymhwyster Cynnig Gofal Plant yn y dyfodol i gynnwys rhieni yn hyfforddi, a fyddai’n ehangu’r cwmpas.  O ran lleoedd Cyfle Cynnar, roedd y rhain wedi eu cysylltu â gofal plant ac addysg a oedd yn agored i unrhyw un â diddordeb.  Byddai gofal plant yn cael ei gofrestru yn y ffordd arferol i bobl ymgeisio ac roedd demograffeg yn cael ei fonitro i weld pwy oedd yn defnyddio’r cyfleusterau.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie y Rheolwr Cefnogi Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ar adroddiad ardderchog gan ei fod yn cynnwys cymaint o wybodaeth ym mhob paragraff yn adran un ac y byddai pob paragraff wedi gallu bod yn adroddiad ar wahân i’r Pwyllgor hwn.  Hefyd, ychwanegodd fod atodiad yn syml i’w ddarllen a’i ddeall.

 

Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman fod cynnydd ar yr adeilad newydd yn Ysgol Sychdyn yn datblygu’n da.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull ar gyfer darpariaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, a chydweithio gyda phartneriaid allweddol a datblygu Strategaeth Blynyddoedd Cynnar yn y dyfodol.

 

(b)       Bod y cynnydd ac effaith a gyflawnir drwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei nodi;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygiad rhaglenni gyda sail tystiolaeth gadarn o’r effaith a chost effeithiolrwydd wrth gomisiynu gwasanaethau blynyddoedd cynnar ac ymyrraeth gynnar.   A bod y cyngor a phartneriaid yn parhau i ddatblygu ei sail tystiolaeth leol ei hun i gefnogi ymyrraeth gynnar gadarnhaol a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi adnewyddu Fframwaith Rhaglenni Rhianta Sir y Fflint, ac yn cefnogi camau a gymerir i godi ymwybyddiaeth a budd rhaglenni rhianta gyda phartneriaid allweddol fel bod rhaglenni yn hygyrch ac ar gael i ateb anghenion rhieni.

18.

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pdf icon PDF 145 KB

Darparu asesiad o'r ymateb strategol a gweithredol i sicrhau gofal plant digonol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd y gorgyffwrdd, roedd yr eitem hon wedi’i chynnwys yn y cyflwyniad blaenorol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant oedd yn adroddiad statudol yn cael ei adolygu bob blwyddyn a byddai adroddiad llawn ar gael y flwyddyn nesaf.

 

Soniodd y Cynghorydd Mackie am 27 lle gofal plant cofrestredig o’i gymharu â diwedd y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i chwistrelliad o arian grantiau.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith parhaus ac ymrwymiad i ddarparu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol.

19.

Anableddau a Gwahaniaethu pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad yn unol â’r cais a gafwyd yn ystod cyfarfod mis Ionawr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o wahaniaethu ar sail anabledd.  Amlinellodd y gweithgaredd ar y gweill i hybu cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl yngl?n â’r materion canlynol a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor:-

 

·         Sicrwydd nad oes unrhyw wahaniaethu yn digwydd ar gyfer elfennau tai, swyddi ac addysg mewn bywyd, ar gyfer anableddau gweladwy ac anweladwy. 

·         Cyndyn i helpu pobl anabl h?n;

·         Cludiant;

·         Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r sylwadau a wnaed gan yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yngl?n â chau meddygfa Queensferry yn cael eu cynnwys yn y llythyr at Betsi Cadwaladr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad hwn a’r ddyletswydd economaidd cymdeithasol yn ei gwneud yn glir, wrth wneud penderfyniadau strategol, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr effaith sydd ganddynt ar bobl gyda nodweddion a ddiogelir y teimlodd y byddent yn ei wneud pryn bynnag.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Wisinger gydag anabledd mewn golwg pan oedd datblygwyr yn adeiladu datblygiadau mawr newydd, yna dylent gynnwys Meddygfeydd newydd yn y cam cynllunio ar gyfer y bobl ychwanegol gan fod llawer o feddygfeydd wedi dyddio ac yn llawn.    Cytunodd y Cynghorydd Mackie a dywedodd ei fod wedi’i godi yn y cyfarfod CIC a fynychodd a dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai yna ymgynghoriad gyda holl gleifion iddynt gyflwyno eu sylwadau.

 

Rhannodd y Cynghorydd Marion Bateman gyda’r Pwyllgor pan fydd datblygiad newydd yn cael ei adeiladu yn Sychdyn, gofynnwyd i bedwar t? fforddiadwy fod yn fyngalos oherwydd y diffyg tai newydd ar gyfer pobl anabl.  Roedd y rhain yn rhodd gan y Datblygwr.   Hefyd, awgrymodd pan fydd yn bosibl, dylai’r Pwyllgor gerdded o amgylch canolfannau tref i weld y problemau bob dydd mae person anabl yn gorfod ei wynebu.  Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hyn yn syniad ardderchog.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Partneriaethau a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor eu bod wedi bod yn gwthio i hyn gael ei gynnwys mewn polisi cynllunio ar gyfer rhaglenni adfywio trefi yn y dyfodol i gael cyfleusterau ar gyfer pawb gydag anableddau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Healy fod yna ganran o bobl nad ydynt yn datgan eu bod yn anabl oherwydd nad oedd y tâl yn gyfartal.  Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol  fod AD yn gweithio gyda gweithwyr i’w hannog i lenwi eu data monitro cydraddoldeb ar iTrent a fyddai’n eu galluogi i gwblhau archwiliadau Tâl Cyfartal.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Datblygiad Project Search yn rhan fechan ond pwysig o hyn i fynd i’r afael â mynediad i waith ar gyfer pobl anabl ac roeddent yn edrych am leoliadau o fewn y Cyngor ar gyfer Myfyrwyr Project Search ar hyn o bryd.

 

Cynigiwyd argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Lowe ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y camau a gymerir i leihau gwahaniaeth a hybu Cydraddoldeb i bobl anabl yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/21 cyn  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad mewn fformat newydd diwygiedig.  Dywedodd fod monitro’r gwasanaethau yn gadarnhaol yn bennaf ond bu’n flwyddyn heriol ac nad oedd cyflawni rhai gwasanaethau wedi cwrdd â’u targedau ond bod Gwasanaethau Oedolion a Phlant wedi bod yn wydn iawn ac wedi darparu lefelau da iawn o wasanaeth o ystyried amgylchiadau’r pandemig.

 

            Roedd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu wedi ehangu ar y dangosydd plant a adroddwyd oedd wedi rhedeg i ffwrdd.  Eglurodd fod gan Sir y Fflint bellach weithiwr ymroddedig oedd yn cwrdd â’r bobl ifanc i ganfod ble yr oeddent wedi bod a beth oeddent wedi bod yn ei wneud ac i gynnwys cynllun rheoli risg o amgylch y plentyn unigol.  Roedd hefyd yn helpu i ddatblygu darlun yngl?n â ble yr oeddynt yn ymgynnull gyda’i gilydd a ble bo’n briodol, roedd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r Heddlu.    Roedd y dangosydd yn dangos bod ychydig llai na 75% o blant wedi cael cyfweliad ac roedd data nawr yn cael ei chasglu i ddangos y sawl oedd wedi cael cynnig cyfweliad ond oedd wedi gwrthod rhoi gwell dangosydd.

 

            Mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd Ellis, eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu eu bod wedi parhau i recriwtio Gofalwyr Maeth drwy’r pandemig ac y byddai targedau wedi eu cyrraedd ond effeithiwyd arnynt gan faterion amseru gyda chyfarfod y Panel ym mis Ebrill.  Os byddai’r Panel wedi cyfarfod ym mis Mawrth, byddai’r targedau wedi eu cyflawni.

 

            Eglurodd mewn perthynas â’r cyfarfodydd Gr?p Teulu, roedd y galw wedi cynyddu yn ystod y pandemig - y targed oedd cefnogi 280 o deuluoedd ac roedd 382 o deuluoedd wedi eu cefnogi mewn gwirionedd.  Oherwydd y cynnydd yn y galw, roedd gwaith wedi’i wneud i ehangu’r gwasanaeth.

 

            Roedd Amddiffyn Plant yn dangos yn oren oherwydd y ffaith eu bod 1% i ffwrdd o’u targed.  Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu eu bod yn 94.14% a bod y targed yn 95% ac roedd chwarter 3 yn cyd-daro â chyfnod y Nadolig a allai fod yn amser heriol i gysylltu â theuluoedd.    Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r pwynt olaf yn ymwneud â’r materion ar duedd ar i lawr mewn adroddiad a bod hyn yn rhannol oherwydd y pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau oherwydd y pandemig ond roedd angen cynnal perfformiad ac na allent ddefnyddio hyn fel rheswm ar gyfer popeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd y 75% o’r rhai oedd wedi rhedeg i ffwrdd y rhai oedd wedi dychwelyd.    Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod pob plentyn sy’n rhedeg i ffwrdd yn dychwelyd ond roedd yn rhaid eu nodi ar goll os nad oeddent yn dychwelyd ar adegau penodol, hyd yn oed os oedd rhywun yn gwybod ble’r oedden nhw.  Roedd 75% ohonynt yn derbyn cyfweliad i siarad am ble’r oeddent wedi bod, y risgiau yr oeddynt yn destun iddynt a phwysigrwydd cadw at ffiniau.    Y 25% arall oedd y rhai oedd wedi gwrthod  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Ystyried goblygiadau cyfraniad llai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) tuag at becynnau gofal a ariennir ar y cyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu wedi cyflwyno’r adroddiad yn amlinellu sut yr oedd y cyllid wedi’i rannu a’r gwaith a wnaed i gefnogi Pecynnau Gofal a Ariennir ar y Cyd.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Ellis, dywedodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion nad oedd unrhyw un yn aros yn yr ysbyty am becyn gofal oni bai eu bod angen triniaeth.   O ran unrhyw anghydfod Gofal Iechyd Parhaus (GIP) neu gytundebau cyllid o fewn y Fframwaith 2014, roedd yn ddyledus ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gytuno ar leoliad neu ofal a chefnogaeth gartref cyn i’r broses anghydfod ddechrau ond nid oedd yr unigolyn yn aros yn yr ysbyty.    Roedd Cyllid Gofal Iechyd Parhaus yn berthnasol ar draws y bwrdd ac er bod Gwasanaethau Oedolion yn eithaf llwyddiannus gyda chyllid, roedd Gwasanaethau Plant yn her barhaus.  Roedd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu wedi cynghori bod yna 153 o achosion ar hyn o bryd ac anfonebau hwyr gyda 50 dros 60 diwrnod yn hwyr.

 

                        Cynigiodd y Cynghorydd Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd o’r dull rheoli cyllideb cadarn a rhagweithiol a gymerir gan Gyngor Sir y Fflint i sicrhau bod pecynnau gofal a ariennir ar y cyd yn cael eu rheoli’n dda yn ariannol; a

 

(b)       Bod y cynllun i gyflwyno swydd Swyddog Monitro GIP, yn cael ei gefnogi gan gyllid ‘Buddsoddi i Arbed’ yn cael ei nodi.

22.

Cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddaru Trosolwg a Craffu ar ein parodrwydd ar gyfer cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategola’r Rheolwr Budd-Daliadau gyflwyniad ar y cyd ar baratoadau’r Cyngor ar gyfer dechrau’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.  Roedd hyn yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus perthnasol i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau yn sgil anfantais economaidd-gymdeithasol.

 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

·         Beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol a beth mae’n ei wneud?

·         Telerau allweddol

·         Anghydraddoldebau canlyniadau

·         Enghreifftiau o dlodi

·         Dangos sylw dyledus – trywydd archwilio

·         Cyflawni’r ddyletswydd – beth ydym ni’n ei wneud

·         Canlyniadau gwell

·         Astudiaeth achos

·         Defnyddio’r Ddyletswydd

·         Ar ôl y Ddyletswydd

 

Darparodd y cyflwyniad enghreifftiau ehangach o dlodi a oedd yn cysylltu ag un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.   Roedd yr adroddiad yn cael ei rannu gyda’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu i godi ymwybyddiaeth o’r ymrwymiadau newydd.   Ymysg y camau gweithredu, byddai cynnwys canlyniadau Asesiad o Effaith Integredig ar adroddiadau pwyllgor yn gymorth i ddangos ystyriaeth o effeithiau posibl tlodi wrth wneud penderfyniadau strategol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd y Cyngor yn ei wneud am blant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim oedd yn gorfod hunan-ynysu oherwydd bod aelod o’u pod yn cael prawf positif weithiau ar sawl achlysur.    Roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi cadarnhau oherwydd yr holl waith a wneir yn ystod y cyfnod clo y llynedd ar daliadau uniongyrchol i deuluoedd a chefnogi Llywodraeth Cymru, roedd yr angen i dalu lwfans prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol wedi eu galluogi i wneud taliadau uniongyrchol i’r teuluoedd pan oedd plentyn yn gorfod hunan-ynysu.

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cynghorydd Marion Bateman ar dlodi digidol, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fel rhan o Gynllun y Cyngor roeddent yn edrych ar ddatblygu Pencampwyr a fyddai’n mynd gyda dyfeisiau a chefnogi pobl i fynd ar-lein.    Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau yn y cyfamser, roedd staff Sir y Fflint yn cysylltu yn gallu sganio ac e-bostio dogfennau a hefyd llenwi ffurflenni yn electronig ar eu rhan.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Marion Bateman yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cunnigham.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau am barodrwydd y Cyngor i fodloni’r ddyletswydd newydd.

23.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o weddill y cyfarfod

ar gyfer yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

24.

Y diweddaraf ar y Strategaeth Rhianta a Maethu Corfforaethol (Eitem ar lafar)

Pwrpas:        I roi gwybod i Aelodau am newidiadau i Faethu yn genedlaethol allai effeithio ar Sir y Fflint ac mae’n cynnwys gwybodaeth sensitif iawn.

Cofnodion:

                        Roeddy Swyddog Marchnata a Recriwtio wedi rhannu newyddion ar Fenter Genedlaethol i wella Recriwtio Gofal Maeth ar gyfer Awdurdodau Lleol i gael ei lansio canol-Gorffennaf.  Eglurodd y cefndir ar gyfer maethu a’r gwahaniaeth rhwng maethu Awdurdod Lleol a busnesau yn hysbysebu ar gyfer Gofalwyr Maeth i sefydliadau gwneud elw.

 

                        Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod heddiw i wneud Aelodau yn ymwybodol o gyhoeddiad yng nghanol Gorffennaf ac y byddai’r Swyddog Marchnata a Recriwtio yn dychwelyd ac yn rhoi cyflwyniad unwaith yr oedd wedi mynd yn fyw.

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

25.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.