Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

12.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

13.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 22 Hydref a 11 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Wisinger.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

 

14.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’i Brif Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

Wrth ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan y Cynghorydd McGuill, esboniodd y Prif Weithredwr eu bod yn disgwyl 1,000 uned yr wythnos o frechlyn rhif un yn ystod y pythefnos cyntaf, gyda niferoedd sylweddol yn dilyn hynny. Roedd dau frechlyn arall yn dynn wrth ei sodlau, yn disgwyl i gael eu cymeradwyo a’u trwyddedu. Nid yw profi am wrthgyrff yn berthnasol ar hyn o bryd a bydd pawb yn cael cynnig brechlyn yn eu tro.

 

Holodd y Cynghorydd Cunningham sut byddai’r brechlynnau’n cael eu storio ac a fyddai agor a chau oergelloedd yn effeithio arnyn nhw. Esboniodd y Prif Weithredwr fod hyn oll dan reolaeth ac mai’r prif reswm dros roi’r brechlyn mewn ysbytai yn unig ar hyn o bryd oedd yr angen i gael cyfleusterau a allai gadw’r brechlyn ar dymheredd isel. Rhyw dro’r flwyddyn nesaf bydd y brechlynnau mwy hylaw yn cael eu rhoi gan Feddygon Teulu a Fferyllfeydd Cymunedol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Lowe, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gallai pobl o ardaloedd Haen 1 a Haen 2 deithio’n rhydd i mewn i Gymru, ac i’r gwrthwyneb, ond ni ddylai pobl symud allan o ardaloedd Haen 3.

 

Holodd y Cynghorydd Ellis ynghylch symud cleifion o’r Ysbyty i Gartrefi gofal a dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw dystiolaeth fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nac unrhyw Fwrdd Iechyd arall wedi torri’r rheolau rhyddhau cleifion ac na ddylai unrhyw un gael ei ryddhau i sefydliad gofal heb brawf negyddol addas, a chadarnhawyd hyn gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol).

 

Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion y cafwyd achosion o’r haint mewn Cartref Gofal yn Nhreffynnon a’i fod wedi ei reoli’n dda a bod disgwyl iddo fod ar agor erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

 

O’r tri brechlyn, holodd y Cynghorydd Gladys Healey pa un fyddai Cymru yn ei dderbyn, gan wybod mai’r brechlyn Pfizer yw’r drutaf. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Deyrnas Unedig yn cael yr holl frechlynnau a oedd wedi eu caffael ac y byddai cyflenwad digonol ohonyn nhw ar gael.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

 

15.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu cyfredol i gael ei ystyried a dywedodd y byddai’r diweddariad am Arosfa yn cael ei symud i’r cyfarfod ar 4 Mawrth 2021 ac na fyddai Rhan 9 Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol 2019/20 bellach yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor gan y byddai eisoes wedi bod gerbron y Cabinet ym mis Rhagfyr. 

 

                        Dywedodd yr Uwch-reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod disgwyl i breswylwyr symud i mewn i Ofal Ychwanegol Treffynnon ar 21 Ionawr 2021 ac y byddai’n holi am ddiweddariad ynghylch sut mae pawb yn setlo yn eu cartrefi newydd, ac adrodd yn ôl ar gais y Cadeirydd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, drwy ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

16.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) grynodeb byr o’r Strategaeth Adfer a nododd fod mwyafrif helaeth y gwasanaethau wedi parhau ar lefel uchel drwy gydol y cyfnod argyfwng, gan gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i bobl ddiamddiffyn. Gwelodd rhai gwasanaethau newid yn y galw tra bod eraill wedi aros yr un fath. Esboniodd fod rhai gwasanaethau wedi cael eu haddasu, lle bo’r angen, er mwyn defnyddio dulliau cymysg, gyda rhai pobl yn y swyddfa fel bo’r angen.  Gwelwyd hefyd bwysau sylweddol yn ddiweddar o ran argaeledd Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref ond roedd pethau’n fwy sefydlog erbyn hyn ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau cyn i’r drefn frechu gael ei rhoi ar waith. Roedd ef a’r Aelod Cabinet wedi bod yn cwrdd â’r holl dimau gweithredol er mwyn dangos gwerthfawrogiad o’u hymroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd heb ddychwelyd i’r drefn arferol ac esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd wedi bod yn bosibl cynnal rhai gwasanaethau seibiant ar gyfer pobl h?n, nid oedd rhai gwasanaethau dydd wedi agor yn llawn, nid oedd gwasanaethau seibiant i Blant – Arosfa a chyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb wedi bod yn digwydd ond roedden nhw wedi cael eu cynnal yn rhithiol. Roedd rhai bellach yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Ychwanegodd y byddai rhai newidiadau’n cael eu hadolygu ac, o bosib, yn cael eu cadw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd digon o staff ar gael i fonitro sefyllfa’r plant a oedd ddim yn mynychu’r ysgol ac yn cael eu haddysg gartref ac ychwanegodd y byddai’n codi hyn gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.   Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai Gweithwyr Cymdeithasol ym maes Addysg oedd y gwasanaethau rheng flaen pan na fyddai plant yn mynychu’r ysgol ac o safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol nid oedden nhw wedi dod ar draws unrhyw broblemau. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cydweithio â nhw i gefnogi pobl a theuluoedd y plant hynny a oedd methu mynychu’r ysgol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi holi a oeddem yn monitro Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac rydym yn gwneud hynny’n rhagweithiol.

 

Dymunai’r Cadeirydd wybod beth sydd wedi ei golli o safbwynt diogelu drwy beidio â bod yn y swyddfa. Ni chredai’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eu bod wedi colli rhyw lawer, a bod angen dysgu o hyn ar gyfer y dyfodol, a’u bod wedi addasu’n wych gan fod pobl ifanc yn llawer mwy cyfforddus gyda thechnoleg a dulliau digidol. O safbwynt iechyd a lles, roedd caniatáu i grwpiau bychain o staff fynd i’r swyddfa i greu ‘pod’ yn gam rhagweithiol iawn gan fod y staff yn hiraethu am y cyswllt roedden nhw’n ei gael yn y swyddfa wrth drafod achosion.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Ellis ynghylch y cyfeiriadau at y gofrestr risg a chleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod yn pryderu am y pwysau ond eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ar gyfer perfformiad y gwasanaeth yn erbyn y dangosyddion perfformiad a osodwyd yn gynnar yn y cyfnod adrodd a phwysleisiodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol mewn sawl ffordd gan fod nifer o feysydd wedi cael eu cynnal.

 

   Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Cunningham, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y gwasanaethau mabwysiadu wedi ymdopi’n eithaf da gydag effaith y sefyllfa argyfwng a’u bod yn gwella.  Adolygwyd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth mabwysiadu ac mae pob un o Awdurdodau Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer y gwasanaeth.Cadarnhaodd mai’r Cynghorydd Kevin Hughes yw cynrychiolydd y Cyngor ar y panel.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

18.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant gan gynnwys ‘Gweithdrefnau Diogelu Newydd’ pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ystadegol i Aelodau yngl?n â DiogeluOedolion a Phlant.  Darparu trosolwg o’r Gweithdrefnau Diogelu newydd a’r wybodaeth ynghylch lansio a defnyddio gweithdrefnau newydd o fewn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu gyflwyniad byr am yr adroddiad cyn trosglwyddo’r awenau i Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu a ddywedodd wrth yr Aelodau mai Sir y Fflint oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru, o ran Diogelu Oedolion a Phlant, i gymryd camau cyflym er mwyn symud at gyfarfodydd rhithiol pan ddaeth y cyfnod clo i rym. Yna rhoddodd adroddiad manylach am y canlynol:-

 

 

·         Effaith COVID 19 ac ymateb yr Uned Ddiogelu

·         Diogelu Oedolion dan amodau COVID 19

·         Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Newydd

·         Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

·         Diogelu Oedolion ac Oedolion sydd mewn Perygl

·         Diogelu Plant a’r Gofrestr Amddiffyn Plant

·         Nifer y Cynadleddau Achosion Diogelu Plant a gynhaliwyd

·         Plant sy'n Derbyn Gofal

·         Cysylltiadau â’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu oherwydd sefyllfa’r argyfwng yn ystod y cyfnodau ynysu.Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu y gwelwyd cynnydd bach o safbwynt diogelu oedolion yn neufis cyntaf y cyfnod clo ond na welwyd newid sylweddol dros y chwe mis diwethaf. Gyda phlant, y categori uchaf yn y 2 flynedd ddiwethaf o gofrestru oedd cam-drin emosiynol yn gysylltiedig â thrais domestig a’r categori uchaf yn y 12 mis diwethaf oedd esgeulustod. Mae angen gwell dealltwriaeth o’r newid a welwyd yma. Byddai’n ddiddorol gweld ai cam-drin emosiynol yw’r categori uchaf erbyn hyn, yn hytrach nag esgeulustod, pan gawn ni’r data ar gyfer y 6 mis diwethaf. Mae nifer o ardaloedd wedi nodi cynnydd mewn trais domestig ond nid yw hynny’n wir am Sir y Fflint.

 

   Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas ag Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020 a darparwyd gwybodaeth ychwanegol; a

 

(b)       Bod yr aelodau yn nodi’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth.

 

19.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Cymunedau pdf icon PDF 121 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am gynnydd, a’r cynlluniau cyflenwi i’r dyfodol, ar gyfer Brosiect er mwyn sicrhau newid trawsffurfiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion gyflwyno’r Arweinydd Lles a Phartneriaeth a aeth â ni drwy’r adroddiad a oedd yn esbonio’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch y newid i raglen y Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol, sy’n un o 4 yng Ngogledd Cymru. Nododd fod effaith sefyllfa’r argyfwng wedi bod yn sylweddol a bod gweithwyr ac adnoddau ariannol wedi cael eu harallgyfeirio er mwyn ymateb i’r gwaith ymateb cychwynnol yn yr argyfwng.

 

            Nododd y Cadeirydd ei phryderon ynghylch swydd sydd wedi bod yn wag ers diwedd mis Hydref. Dywedodd yr Arweinydd Lles a Phartneriaeth fod y swydd wedi ei rhewi ar hyn o bryd oherwydd gostyngiad yn y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan nodi nad oedd hi’n amser doeth i groesawu aelod newydd o staff pan y gallai’r swydd, o bosibl, ddod i ben ym mis Mawrth.

 

            Roedd y Cynghorydd Bateman yn falch o’r Gwasanaeth Cefnogi Seibiant i rai â Dementia. Dyma wasanaeth newydd lle bydd Gweithwyr Cefnogi yn treulio nosweithiau ac yn aros dros nos yng nghartrefi unigolion am hyd at 2 noson yn olynol gan fod eu hanghenion wedi gwaethygu, ac er mwyn peidio â gorfod symud y claf.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Arweinydd Lles a Phartneriaeth am ei gwaith ardderchog. Ychwanegodd fod y Rhaglen Drawsnewid wedi cael ei haddasu ar frys er mwyn cefnogi’r ymateb i sefyllfa’r argyfwng. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd Lles a Phartneriaeth fod rhywfaint o waith wedi cael ei wneud ar lefel ranbarthol drwy’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol a oedd yn ymwneud â chefnogi pobl h?n yn bennaf.  Prynwyd sawl ipad ac roedden nhw ar gael i bobl h?n er mwyn eu helpu gyda sesiynau ymgynghori rhithiol gydag Ymgynghorwyr mewn ysbytai, ac i’w helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a bod ar eu pen eu hunain. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio eiriolwyr digidol.

                       

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi ac yn sicrhau bod y meysydd allweddol sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid yn briodol ac y byddan nhw’n cefnogi anghenion lleol yn Sir y Fflint; a

(b)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod y bydd effaith y Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn llai gan fod llai o gyllid ar gael ar gyfer 2021/22 a bod y manylion ynghylch blaenoriaethu gweithgareddau yn 2021/22 yn cael eu trafod pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn.

 

 

20.

Cefnogi’r Gweithlu Gwaith Cymdeithasol pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg o’r gwaith a gwblheir i gefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso y mae eu rhaglen astudio wedi’i heffeithio gan COVID-19 a darparu manylion y rhaglen dysgu a datblygu a luniwyd i gefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd ac ymarferwyr profiadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu grynodeb bras o’r adroddiad gan roi trosolwg o’r gwaith ychwanegol sy’n cael ei wneud i gefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso o fewn y Cyngor, a bod sefyllfa’r argyfwng wedi tarfu ar y ddau faes canlynol

 

  • Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
  • Datblygu ein Gweithwyr Cymdeithasol

 

Diolchodd y Cynghorydd Bateman i’r Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu am ei hymateb cyflym nid yn unig i’r cwestiynau blaenorol roedd hi wedi eu codi ond hefyd am yr wybodaeth fanwl roedd hi newydd ei chyflwyno.

 

Roedd y Cynghorydd Mackie hefyd yn falch o’r ffordd roedd pethau’n mynd, yn enwedig y ffordd mae Prifysgol Glynd?r wedi newid yr hyn roedden nhw’n ei wneud er mwyn cyd-fynd â’r Awdurdod, sy’n dangos perthynas dda.   

 

   Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod aelodau’n cael gwybod am effaith y pandemig COVID ar waith dysgu a datblygu ym maes gwaith cymdeithasol;

(b)     Bod aelodau’n nodi gwaith y Cyngor i gefnogi’r gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso presennol; a

(c)     Bod aelodau’n cael gwybod am ein cynigion ar gyfer datblygu Gweithwyr Cymdeithasol yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer i fod yn Ymarferwyr Profiadol.

 

21.

Adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Gwyno a Chanmol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2019-20 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi adroddiad i’r aelodau o nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod 2019/20, gan gynnwys eu themâu a chanlyniadau ac unrhyw wersi a ddysgwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiad er gwybodaeth yn unig.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod aelodau yn nodi effeithiolrwydd y drefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth.

 

 

22.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.