Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Hilary McGuill yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol.    Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Hilary McGuill wedi cael ei phenodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd McGuill fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Wisinger y Cynghorydd Gladys Healy fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Lowe. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 66 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020 eu cymeradwyo, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Wisinger a Jean Davies, yn amodol ar ddiwygiad gan y Cynghorydd Gladys Healey bod ei henw llawn yn cael ei gynnwys yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

5.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai o a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briffiadau sefyllfaol a gafodd eu rhoi i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am brofion, nid cyfrifoldeb y Cyngor oedd hyn. Bu cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am brofion yng Nghymru ac roedd trafodaethau’n cael eu cynnal am flaenoriaethu profion i weithwyr allweddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd.

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg yr Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pump Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig.Roedd newidiadau i gylch gwaith y Pwyllgor yma’n cynnwys pynciau roedd y Pwyllgor wedi bod yn rhan o’u datblygu o’r blaen.

 

Fe soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd bod pynciau megis Blynyddoedd Cynnar a Chefnogaeth i Deuluoedd yn cael eu hystyried ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Rhoddodd yr Hwylusydd sicrwydd i Aelodau y byddai pynciau eang fel y rhain yn parhau i gael eu cynnal fel cyd gyfarfodydd gyda’r pwyllgor priodol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Mackie a'i eilio gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.

7.

Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestri risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol

·         Amcanion adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau adferiad

·         Adferiad cymunedol

·         Cynllun a pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd

 

Ymysg y prif gyflawniadau yn ystod y cyfnod ymateb, oedd dosbarthu cyfarpar diogelu personol, diolch i ymdrechion Vanessa Johnson, Steve Featherstone a’u tîm.O ran Adferiad Cymunedol, byddai adroddiadau am waith cydweithredol ar Anghydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd Meddwl a Lles yn dod nôl i’r Pwyllgor iddynt gael eu hystyried.O ran perfformiad, er na fu hi’n bosibl mabwysiadau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn sgil sefyllfa’r argyfwng, mae gwaith wedi parhau ar y Cynllun treigl er mwyn tynnu’r blaenoriaethau allweddol allan i’w mabwysiadu i gefnogi’r adferiad. Gofynnir i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ail-lunio eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn 2020/21 gyda ffocws penodol ar gynllunio adferiad i gefnogi ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am wasanaethau maethu a mabwysiadu, rhoddodd yr Uwch Reolwr:Plant sicrwydd am waith parhaol a buddsoddiad yn y gwasanaethau hynny sy’n ffurfio rhan o fusnes craidd y portffolio.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Prif Weithredwr a thîm swyddogion am eu gwaith.Gan ymateb i gwestiwn, rhoddodd swyddogion wybodaeth am barhad gwasanaethau ar gyfer gofalwyr ifanc a’r fenter i ddatblygu cerdyn adnabod ar gyfer mynediad blaenoriaeth i wasanaethau fel rhan o’u rôl.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Risgiau Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Ariannol

·         Gweithlu

·         Rheoleiddio Allanol

·         Gwasanaethau Oedolion

·         Gwasanaethau Plant

·         Gwasanaethau Oedolion a Phlant

 

Roedd y sefyllfa risg gyffredinol yn bositif gyda gostyngiad yn nifer y risgiau coch ers mis Mehefin a chynnydd yn nifer y risgiau oedd yn gostwng neu wedi dod i ben.Tra bod gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir wedi parhau yn faes blaenoriaeth, mae cydweithio gyda phartneriaid a datblygu datrysiadau amgen wedi helpu i leihau gwariant yn ystod y cyfnod.Cafodd rhai risgiau eu nodi sydd yn allweddol i adferiad, megis bodloni anghenion cleientiaid sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty oedd yn dangos tueddiad gwell gan fod cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty bellach yn cael eu prosesu’n effeithiol gan gydweithwyr ym maes Iechyd.Yng Ngwasanaethau Plant, parhaodd y tîm i weithio gyda’r adran Addysg i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod oedd yn parhau i fod yn risg coch, serch hynny  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Recovery Strategy presentation slides pdf icon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru 2019/20 pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn i hysbysu’r  o gynnwys Llythyr Perfformiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar a gyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am gynnwys llythyr Perfformiad Blynyddol diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar 2 Gorffennaf 2020. Roedd y llythyr yn seiliedig ar dystiolaeth a data perfformiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod trwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chanlyniadau o archwiliadau, gweithgareddau â ffocws a ffurflenni hunanwerthuso.Yn sgil yr argyfwng cenedlaethol, ni fu hi’n bosibl cynnal cyfarfod adolygiad perfformiad blynyddol rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru a swyddogion.

 

Ymysg yr uchafbwyntiau yn yr adroddiad, fe siaradodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion am lwyddiant ‘Prosiect Search’ sef rhaglen cefnogi gwaith ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am y potensial o gynnal adolygiadau ar-lein gyda phlant sy'n derbyn gofal yn defnyddio platfform megis ‘Zoom’. Dywedodd yr Uwch Reolwr:Plant fod cyfarfodydd digidol yn cael eu defnyddio’n fwy aml a’u bod yn boblogaidd iawn ymysg y plant eu hunain.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at gwestiwn cynharach a chadarnhaodd fod y panel maethu yn parhau fel arfer.O ran casgliadau’r Llythyr Perfformiad Blynyddol, fe groesawodd yr adborth cadarnhaol a llongyfarchodd y tîm am safon y gwasanaethau.Gan ymateb i ymholiadau, rhoddodd yr Uwch Reolwr:Plant sicrwydd i Aelodau am gryfder a safon y cyngor a roddwyd gan y tîm Cyfreithiol, ac nid oedd ganddo unrhyw bryderon.Fe siaradodd hefyd am roi plant mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio a oedd wedi dod yn broblem cenedlaethol cynyddol yn ystod y cyfnod o argyfwng. Fe soniodd am enghreifftiau o sefyllfaoedd lle nad oedd modd osgoi sefyllfa o’r fath gan fod pob dewis arall wedi’i archwilio a diffyg argaeledd ar y pryd, a’r holl fesurau diogelu oedd ar waith i gefnogi’r unigolyn.  Roedd trafodaethau wrthi’n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd y gallai’r Cyngor sefydlu ei leoliadau ei hun wedi eu rheoleiddio i allu derbyn plant mewn cyfnod o argyfwng.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymateb cynhwysfawr gan swyddogion.Yn dilyn adborth cadarnhaol gan Aelodau yn canmol tîm y Gwasanaethau Cymdeithasol, gofynnodd bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu llythyr ffurfiol ar ran y Pwyllgor i ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Wisinger a Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau â chynnwys llythyr Perfformiad Blynyddol ac asesiad Arolygiaeth Gofal Cymru o berfformiad yr awdurdod yn ystod blwyddyn 2019/20;

 

 (b)      Bod yr oedi yng Nghynllun Adolygu Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei nodi ac y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhoi gwybod i’r awdurdod pan fydd y rhaglen o archwilio yn ail-ddechrau; a

 

 (c)      Bod llythyr diolch yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at Brif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm o swyddogion am ganlyniadau cadarnhaol yr adroddiad.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.