Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

61.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 30 Ionawr a 10 Chwefror 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020 a 10 Chwefror 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Andy Dunbobbin a Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

62.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad blynyddol statudol yn crynhoi ei farn ar berfformiad swyddogaethau gofal cymdeithasol y Cyngor a blaenoriaethau ar gyfer gwella.  Byddai’r adroddiad – a gynhyrchwyd mewn arddull electronig gan Double Click Design & Print – yn helpu i hwyluso gwerthusiad perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Cymdeithasol.  

 

Cafodd Aelodau eu cyflwyno i Emma Murphy, y Swyddog Cynllunio a Datblygu, Comisiynu a Pherfformiad, oedd yn disgrifio’r dull i werthuso deilliannau o flaenoriaethau y llynedd a nodi blaenoriaethau ar gyfer 2020/21.  Wrth fanylu’r heriau a chyflawniadau, roedd yr adroddiad yn amlygu ymrwymiad a gwerthoedd y sawl oedd yn gweithio o fewn gofal cymdeithasol i wneud gwahaniaeth i bobl yn Sir y Fflint. 

 

Roedd y Cadeirydd yn canmol swyddogion a Double Click am yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o brif gyflawniadau gan gynnwys agor canolfan gofal dydd Hwb Cyfle oedd ar y rhestr fer mewn tri chategori Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) 2020.  Roedd hefyd yn amlygu llwyddiant parhaus gyda’r rhaglen Cynnydd i Ddarparwyr ac estyniad parhaus cartref gofal T? Marleyfield.  Lansio’r tîm Therapi Amlsystematig – menter newydd mewn partneriaeth gyda Wrecsam a’r model cyntaf o’r math yma yng Nghymru – byddai’n helpu i wella bywydau pobl ifanc.

 

Fel Aelod o'r Cabinet, cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr heriau sy’n codi o’r pandemig COVID-19 ac roedd yn canmol cyflawniadau ac ymroddiad timau o fewn y gwasanaeth i gefnogi oedolion a phobl ifanc.    Aeth ymlaen i ddiolch i Double Click oedd yn paratoi i ailagor eu busnes. 

 

Fel Aelod o'r Bwrdd Double Click, roedd y Cynghorydd Cunningham yn datgan ei falchder yn y busnes ac yn diolch i’r Cyngor am ei gefnogaeth.

 

Wrth groesawu canfyddiadau’r adroddiad, roedd y Cynghorydd Mackie yn codi materion ar fformatio a chyflwyniad y ddogfen yr oedd swyddogion yn dweud oedd yn derbyn sylw.  Roedd swyddogion yn nodi cais y Cynghorydd Mackie y dylai adroddiadau fod yn hygyrch ar bob math o ddyfeisiau electronig cludadwy, gan gynnwys ffonau symudol a byddai dangos data y tu ôl i ganrannau a chymhariaeth gyda pherfformiad blaenorol neu genedlaethol yn helpu i ddarparu cyd-destun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ellis bod diffyg gwybodaeth ar gefnogaeth i unigolion gydag awtistiaeth yn yr adroddiad ac roedd yn mynegi pryderon am achos penodol yn ymwneud â thynnu gwasanaethau arbenigol y tu allan i’r sir.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-Reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu i ddarparu mwy o eglurder ar wasanaethau awtistiaeth.    Rhoddodd sicrwydd bod y mater yngl?n â’r cyfleuster arbenigol yn derbyn sylw a bod swyddogion yn ymgysylltu gyda theuluoedd yr effeithiwyd arnynt.

 

Mynegodd y Cynghorydd Hinds ei gwerthfawrogiad i’r tîm am eu gwaith yn ystod y cyfnod heriol diweddar.  Byddai’r Prif Swyddog yn cyfleu hyn i’r timau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd White gymeradwyo’r argymhelliad, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Adroddiad Blynyddol.

63.

Cefnogaeth a ddarperir i Gartrefi Gofal Sir y Fflint yn ystod Pandemig COVID-19 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Cefnogi dull y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu darpariaeth o gymorth i’r sector cartref gofal lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) adroddiad ar y camau a gymerir gan Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r sector cartref gofal lleol.

 

Cyn yr achosion COVID-19, profwyd pwysau cenedlaethol ar gyllid a recriwtio yn y sector gofal yn Sir y Fflint.    Yn ystod y pandemig, roedd y Cyngor wedi cryfhau partneriaethau ymhellach gyda darparwyr drwy lefel digynsail o gefnogaeth i’w 27 o gartrefi gofal i gefnogi rhai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn.  Roedd y trefniadau cadarn a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig yn cynnwys Swyddog Monitro Contract i gysylltu gyda phob cartref gofal a’r system ‘pwynt rhannu’ i rannu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid allweddol.  Roedd cyfarfodydd telegynhadledd amlasiantaeth gyda darparwyr gofal i godi materion a rhannu canllawiau cenedlaethol newidiol wedi derbyn ymateb da a byddent yn parhau. 

 

Ar y dulliau profi, roedd holl weithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal wedi eu profi rhwng Mai a Mehefin boed yn symptomataidd ai peidio.    Ers hynny, roedd gweithwyr yn holl leoliadau cartref gofal, gan gynnwys gofal ychwanegol wedi eu profi bob wythnos; byddent yn cael eu profi yn llai aml os byddai’r gyfradd ‘R’ yn gwella.  Roedd y drefn os byddai yna brawf positif mewn cartref gofal angen i’r sefydliad cyfan gael prawf a dechrau cyfnod ynysu.  Er bod 16 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint mewn sefyllfa ‘coch’ (achosion positif) pan oedd y pandemig ar ei waethaf, roedd y nifer wedi gostwng nawr i dri.    Pan oedd y pandemig ar ei waethaf roedd timau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol wedi eu trefnu i ddarparu cefnogaeth ychwanegol mewn cartrefi gofal ac roedd trefniadau ‘ar alwad’ ar benwythnos wedi ymestyn i gynnwys uwch swyddogion. 

 

Cytunodd yr Uwch-Reolwr i rannu sleidiau cyflwyniad ar ddarpariaeth cyfarpar diogelu personol yn dilyn y cyfarfod.    Roedd cyflenwadau yn cael eu dosbarthu dwywaith yr wythnos i’r 27 sefydliad cartref gofal gan y gr?p o wirfoddolwyr a hyfforddwyd mewn safonau Gwasanaethau Cymdeithasol.    Roedd effeithiolrwydd y dull hwn drwy Wasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru wedi’i gydnabod fel arfer orau mewn adroddiad cenedlaethol a rhannwyd gyda gwasanaethau ar draws Cymru. 

 

Defnyddiwyd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi taliad 10% i gartrefi gofal o ganol mis Mawrth hyd at ddiwedd Mehefin, ar gyfer costau ychwanegol sy’n codi o’r pandemig fel cryfhau dulliau glanhau, goruchwylio gweithwyr ac ati.

 

Roedd y Cadeirydd yn croesawu parhad cyfarfodydd o bell wythnosol a dychwelyd canlyniadau profion yn amserol.  Mewn ymateb i gwestiwn ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr cartref gofal, dywedodd yr Uwch-Reolwr fod Gr?p Tasg a Gorffen yn adolygu canllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyraniad. 

 

Roedd y Cynghorydd White yn canmol safbwynt y Cyngor ar gau cartrefi gofal yn gynnar yn y Sir oedd wedi helpu i leihau lledaeniad yr haint.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad i’r timau o fewn y Cyngor a chartrefi gofal am eu hymdrechion i gadw preswylwyr yn ddiogel.    Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey i’w diolch gael ei drosglwyddo i’r Uwch Reolwyr Diogelu a Chomisiynu a Phlant a Gweithlu am helpu  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.