Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn ystod y cyfarfod blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Llais y Bobl Sir y Fflint yn cadeirio’r cyfarfod hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Sam Swash yw Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd yr Hwylusydd y Pwyllgor bod y Cyngor Sir wedi penderfynu y byddai Gr?p Llais y Bobl Sir y Fflint yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Cafodd y Pwyllgor wybod yr enwebwyd y Cynghorydd Sam Swash fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor.

 

Roedd y Cynghorydd Swash yn dymuno cofnodi ei ddiolch i’r cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Sam Swash yn Gadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigodd y Cynghorydd Marion Bateman y Cynghorydd Debbie Owen.  Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mel Buckley y Cynghorydd Gladys Healey.  Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Fran Lister.

 

Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Ionawr a 9 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 a 9 Chwefror 2024 i’w cymeradwyo.

 

Cymeradwywyd y cofnodion ar gyfer y ddau gyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Cofnodion 18 Ionawr 2024 a Chofnodion 9 Chwefror 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

5.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Rhaglen Waith bresennol y Pwyllgor ac Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

6.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybodaeth i Aelodau mewn perthynas â darpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant ar y cyd o fewn ffiniau’r sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth a’r Uned Ddiogelu yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r Uned Ddiogelu, ei swyddogaethau statudol a’r meysydd sy’n cael eu cynnwys yn y pum gwasanaeth.  Cyflwynwyd gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) hefyd, y gwaith ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Plant a’r cysylltiadau gyda’r Grwpiau Rhanbarthol. 

 

Yn dilyn cwestiwn am sicrwydd, awgrymodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) y dylid ychwanegu adroddiad yn amlinellu cryfderau a heriau’r Hwb Diogelu newydd at Raglen Waith y Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn cysylltiad â Diogelu Sir y Fflint  ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd; 

 

(b)     Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth; a

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn fodlon bod y Broses Ddiogelu ar gyfer Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint yn gadarn.

7.

Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad  darparodd Cydlynydd Strategaeth Pobl H?n ac Arweinydd Lles a Phartneriaethau’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd datblygu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed yn Sir y Fflint.   Darparwyd diffiniad o Gymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed gydag amlinelliad o sut y rhennir ffocws cymunedau sy’n gyfeillgar i oed gyda’r holl adrannau a phartneriaid er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried wrth ddylunio prosiectau.

 

·                Gwaned cais i lobïo BT i geisio cyfradd wasanaeth is ar gyfer defnyddwyr data isel.  Byddai hyn yn galluogi pobl h?n i fforddio prynu Gwasanaethau Rhyngrwyd a Llinell Dir.

·                Gwnaed cais bod y Bws Dementia ar gael i’r Aelodau er mwyn iddynt brofi’r hyfforddiant a ddarperir.

·                Gwnaed cais y dylid gwahodd y Tîm Heneiddio’n Dda i fynychu cyfarfod Cyngor Tref Cei Connah i drafod mentrau sy’n gyfeillgar i oed ymhellach.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)    Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i ddatblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed yn Sir y Fflint gan gynnwys y cais llwyddiannus am aelodaeth gyda Rhwydwaith Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd; a

 

(b)    Bod y Pwyllgor yn ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a chydweithrediad parhaus i’r holl dimau gwasanaeth i gynorthwyo i ddatblygu Sir y Fflint fel lle gwych i fyw ar gyfer y boblogaeth sy’n heneiddio.

8.

Adroddiad Archwilio Ffioedd Gohiriedig pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y cynnydd yn dilyn yr Adroddiad Archwilio Taliadau Gohiriedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr (Diogelu a Chomisiynu) yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y Cynllun Taliadau Gohiriedig a’r adolygiad a gynhaliwyd gan Archwilio Mewnol i sicrhau tryloywder, gyda gorgyffwrdd gyda’r gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau adennill dyledion.   Cadarnhawyd y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Yn dilyn awgrym gan Aelod cytunwyd bod adroddiad ar Asesiadau Ariannol a Thaliadau’n cael ei ychwanegu at y Rhaglen Waith ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)    Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ar y camau gweithredu a gymerwyd ers cwblhau’r adroddiad Archwilio Mewnol; a

 

(b)    Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod y camau gweithredu sy’n weddill yn cael eu cyflawni o fewn y terfynau amser a nodwyd yn yr adroddiad archwilio a bod y cynnydd yn cael ei fonitro’n effeithiol.

9.

Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Bod yr aelodau’n darllen Adroddiad Blynyddol Drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn rhoi adborth ar y cynnwys a ystyriwyd, sy’n cynnwys y datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr Adroddiad Blynyddol  a oedd yn amlinellu cyflwr y gwasanaeth, yn tynnu sylw at agweddau cadarnhaol a heriol ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Croesawodd adborth gan Aelodau y gellir ei ystyried cyn datblygu’r drafft terfynol.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 ac yn darparu adborth i Swyddogion cyn ystyried cyflwyniad terfynol yr adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2024.

10.

Adroddiad a Chynllun Gweithredu Archwiliad Gwerthuso Perfformiad AGC o'r Gwasanaethau Cymdeithasol (Tachwedd 2023) pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad Archwiliad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd fis Tachwedd 2023, yn cynnwys y cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar yr argymhellion yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y Cynllun Gweithredu yn ymateb i adroddiad  yr Arolwg Gwerthuso Perfformiad.  Tynnwyd sylw’r pwyllgor at rannau penodol o’r adroddiad gyda’r Prif Swyddog yn nodi ei fod yn adroddiad cadarnhaol ar gyflwr y gwasanaeth a gefnogir yn dda yn Sir y Fflint gyda nifer o’r datblygiadau arfaethedig yn derbyn cefnogaeth yr Arolygydd.

 

Nododd y Cadeirydd gan mai dyma gyfarfod olaf y Prif Swyddog, ei fod yn cynnig y dylid diolch i Neil am ei wasanaeth.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canlyniad yr adroddiad; a

 

(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun gweithredu dilynol.

11.

AELODAU O'R WASG A'R CYHOEDD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.