Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

54.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

55.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Mackie ei fod wedi siarad gyda Mr James Hunt gan Nanny Biscuit mewn perthynas i rannu syniadau fel y nodwyd yn nhudalen 7 y cofnodion ar 2 Mawrth 2023.

         

                      Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023 eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Debbie Owen.

                        

          PENDERFYNWYD:

 

          Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

56.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol yn nodi nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a oedd wedi’u rhestru.   Bydd dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol o fis Medi yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo yn y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor i’w gynnal ar 4 Mai 2023.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Ellis i ychwanegu eitem ynghylch Mynediad at Feddygon teulu oherwydd y nifer o gwynion yr oedd wedi’i gael am bobl yn methu â chael apwyntiadau Meddyg Teulu.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ellis ysgrifennu ati gyda’r problemau yr oedd wedi’i gael, ac yna byddai’n ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ran y Pwyllgor.

 

Hefyd roedd y Cadeirydd eisiau ychwanegu eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i drafod yn y Cyd-gyfarfod nesaf gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, ac yr oedd wedi trafod gyda’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) cyn dechrau’r cyfarfod.  Dywedodd y Prif Swyddog ei fod wedi cael cyflwyniad cadarnhaol gan unigolyn ifanc gydag anabledd a oedd yn hunan-eiriolwr ac wedi helpu ei hun ac eraill i mewn i’r byd gwaith, ac wedi awgrymu ei bod yn cael ei gwahodd i roi cyflwyniad i Aelodau yn y cyfarfod ar y cyd sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mehefin.  Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.

           

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd David Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

58.

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Archwilio Cymru pdf icon PDF 850 KB

Pwrpas:        Rhoi sicrwydd i’r Aelodau bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru wedi eu cymryd i ystyriaeth yn Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

59.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

60.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Aelodau i ddarllen Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol drafft a rhoi adborth ar y cynnwys drafft a ystyrir i’w gynnwys, sy’n cynnwys datblygiadau allweddol y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

61.

Lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

Pwrpas:        I’r aelodau adolygu’r polisi ar gyfer trefnu a rheoli lleoliadau heb eu cofrestru na’u rheoleiddio pan fydd eu hangen dan amgylchiadau eithriadol.