Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

23.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

 

24.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Materion yn codi.

 

Cododd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon pellach ynghylch diffyg monitro plant sy’n cael eu haddysgu gartref.  Dywedodd yr Uwch Reolwr: Plant a’r Gweithlu bod hyn yn parhau i fod yn fater byw yng Nghymru ac yn parhau i fod yn bryder sylweddol i’r Comisiynydd Plant.  Cefnogodd yr aelodau yr awgrym i anfon llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor Addysg a Phobl Ifanc at y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac anfon copi at y Comisiynydd Plant.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie i gymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Wisinger.

 

PENDERFYNIAD:

 

I gymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac i’r Cadeirydd eu llofnodi.

           

25.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried.  Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol ac estynnodd wahoddiad i’r aelodau godi unrhyw eitem i’w hystyried i’w cynnwys yn y blaenraglen waith.

 

Gan gyfeirio at yr adroddiad olrhain camau gweithredu a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, dywedodd Yr Hwylusydd nad oedd unrhyw gamau gweithredu i’w cwblhau o’r cyfarfodydd blaenorol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylid rhoi diweddariad ar y broses frechu.  Dywedodd y Cadeirydd bod neges e-bost wedi’i dosbarthu gan y Prif Weithredwr gyda’r strategaeth frechu yn atodiad, a oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth.  Dylid cyfeirio cwestiynau allweddol am y broses frechu at y Prif Weithredwr drwy e-bost.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Cindy Hinds i’r Pwyllgor ystyried adroddiad ar anabledd a gwahaniaethu.  Dywedodd y Prif Swyddog mai’r Cynghorydd Polisi Strategol oedd y swyddog a oedd yn arwain y maes gwaith hwn am ei fod yn fater corfforol.  Byddai ymholiadau pellach yn cael eu gwneud i ganfod sut y gellid ymateb i’r cais hwn.

           

            PENDERFYNIAD:

 

(a)       I nodi’r Blaenraglen Waith;

 

(b)       Y byddai’r Hwylusydd, mewn cydweithrediad â Chadeirydd y Pwyllgor yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed yn cwblhau’r camau gweithredu i’w cwblhau.

 

 

26.

Cynllun y Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 93 KB

Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda ffocws penodol ar bortffolio'r Pwyllgor.  Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chrynodeb byr o’r Cynllun.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Perfformiad Strategol roi amlinelliad o’r cynllun drafft a’r broses ar gyfer ei ddatblygu ymhellach  Dywedodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol wrth y Pwyllgor bod nifer o elfennau yn y cynllun wedi’u diwygio.  Dywedodd bod yr amcanion Llesiant wedi’u hymgorffori yn y cynllun a bod gwaith pellach wedi’i wneud yn datblygu’r themâu.  O ran monitro’r Cynllun, ychwanegodd mai’r nod oedd gallu arddangos effaith fel awdurdod o safbwynt strategol.  Dywedodd y byddai’n croesawu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau i’w cynnwys, a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforol ym mis Chwefror cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth/Ebrill.  Byddai gwaith ar Ran 2 y Cynllun yn dechrau maes o law i ddatblygu tasgau, cerrig milltir, mesurau a risgiau.  Dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig o ystyried yr amgylchiadau presennol.

 

Croesawodd y Cynghorydd David Mackie gynnwys y maes blaenoriaeth: Llesiant Personol a Chymunedol a oedd yn gynhwysfawr ac wedi’i gyflwyno’n dda yn ei farn ef.  Gofynnodd am wybodaeth bellach ar y canlynol, fel yr amlinellwyd ar dudalen 25 y Cynllun:

 

·         Y gwasanaeth Well Fed yn y cartref

·         Gwasanaeth prydau bwyd Ysbyty yn y Cartref

·         Gwasanaeth prydau symudol

 

Tynnodd y Cynghorydd Mackie sylw at ddyblygiad ar dudalen 27 (archwilio cyfleoedd i ddatblygu hwb i bobl ifanc ddigartref) sy’n ymddangos mewn dwy adran.  Gan gyfeirio at dudalen 28, gofynnodd a ddylai’r pedwerydd pwynt bwled (cefnogi ein tenantiaid i gael mynediad at dechnoleg a chynyddu cymunedau digidol) fod yn yr adran cymunedau digidol.  Ar dudalen 30, cyfeiriodd at yr adran Economi Gylchol ac, yn benodol, y pedwerydd pwynt bwled a oedd angen eglurhad pellach, yn ei farn ef.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gellir cael gwybodaeth bellach fanwl ar yr uchod gan y Rheolwr Budd-daliadau, sef y swyddog sy’n arwain y maes gwaith hwn.

 

Esboniodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol y broses ar gyfer adolygu cynnydd y cynllun ar ôl ei fabwysiadu, a dywedodd y byddai adroddiad perfformiad yn cael ei gyflwyno ar y Cynllun cyfan i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda’r meysydd perthnasol wedi’u hamlygu ar gyfer pob pwyllgor penodol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth gynharach ar fonitro addysgu gartref ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y Cynllun.  Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healy â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd y dylid cynnwys y maes hwn yn y Cynllun.  Awgrymodd y Prif Swyddog y gellir cynnwys y mater o addysgu gartref yn adran Addysg a Sgiliau y cynllun.  Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis bod hyn yn ddyhead ac awgrymodd y gellir ei gynnwys o dan tlodi plant mewn cysylltiad â chael mynediad at dechnoleg, cyfarpar a llyfrau ar gyfer addysgu gartref.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol bod parhau i adolygu addysgu gartref yn bwysig.  Esboniodd y gwahaniaeth rhwng plant a oedd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Gofalwyr Ifanc – Contract Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) pdf icon PDF 144 KB

Craffu’r perfformiad a’r canlyniadau a ddarperir i Ofalwyr Ifanc drwy gontract newydd a model gwasanaeth ar gyfer GOGDdC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at safon wych yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir.  Estynnodd wahoddiad i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Phrif Swyddog Gweithredol NEWCIS i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno newidiadau arwyddocaol a chadarnhaol i ofalwyr sy’n oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr ac nad ydynt yn derbyn tâl, a oedd wedi arwain at gyfle i adolygu’r contract gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, a ddaeth i ben ym mis Mawrth y llynedd.  Roedd pedwar gofalwr ifanc wedi bod yn rhan o’r broses dendro, drwy gefnogi swyddogion fel partneriaid cyfartal.  Roedd hyn yn cynnwys siapio’r gwasanaeth, dewis cwestiynau a chyfweld darpar ddarparwyr gwasanaeth a oedd wedi arwain at ddyfarnu’r contract i NEWCIS.

 

Wrth gyfeirio at y Cerdyn Adnabod newydd ar gyfer Gofalwyr Ifanc, dywedodd y byddai’r cerdyn newydd yn adeiladu ar seiliau’r cerdyn A2A a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Sir y Fflint.  Ychwanegodd fod Sir y Fflint wedi penderfynu mabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer datblygu Cerdyn Adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, gan weithio gyda Chynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Roedd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid, gan gynnwys lansio’r cerdyn newydd a’r posibilrwydd o gynnwys sêr proffil uchel, a oedd yn cael ei gynllunio ar gyfer 16 Mawrth 2021 i ddynodi diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Mynegodd Prif Weithredwr NEWCIS ei balchder yn dilyn ennill y contract ym mis Gorffennaf y llynedd.  Er nad oedd cyfyngiadau Covid 19 wedi’u cynnwys wrth lunio’r tendr, nid oedd wedi atal cynnydd, ac roedd hyn wedi annog mwy o arloesedd wrth gyflenwi gwasanaethau drwy gyfarfodydd rhithwir oherwydd y cyfyngiadau ar gyfleoedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd disgwyl y byddai cymysgedd o gysylltiadau rhithwir ac mewn person.  Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn brysur iawn ac roedd gweithio gyda gofalwyr ifanc wedi bod yn brofiad positif iawn i staff NEWCIS, ond roedd yn cydnabod hefyd y bu rhai achosion anodd.  Cyfeiriodd at y cynnydd sylweddol yn nifer y cyfranogwyr yn y grwpiau o dan 18 oed a 18-25 oed.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd yn hyderus y byddai NEWCIS yn parhau i ddarparu gwasanaeth da a chyfeiriodd at gysylltiadau rhanbarthol da gyda Credu a oedd yn darparu gwasanaethu gofalwyr ifanc i ardaloedd awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at Wrecsam a Sir Ddinbych fel esiamplau.  Roedd yn bleser arbennig gan y Prif Swyddog Gweithredol gyhoeddi bod gofalwr ifanc wedi’i gyflogi gan NEWCIS ym mis Rhagfyr a bod cyllid ar gael i gefnogi gofalwr ifanc i ddechrau ei fusnes ei hun.  Disgrifiodd frwdfrydedd y bobl ifanc, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig presennol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.11 yr adroddiad a oedd yn datgan bod 201 o atgyfeiriadau newydd wedi’u derbyn rhwng Gorffennaf a Medi 2020.  Esboniodd y Prif Swyddog Gweithredol mai’r cyhoeddusrwydd mewn partneriaeth â’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn bennaf gyfrifol am hyn ac yn sgil  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Diweddariad Marleyfield House pdf icon PDF 97 KB

Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion adroddiad a oedd yn disgrifio’r cynnydd.  Dywedodd bod y prosiect 32 gwely i  ehangu T? Marleyfield ym Mwcle yn mynd rhagddo yn awr, gan gynyddu’r capasiti mewnol o 90 i 112.  Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roedd y cynnydd wedi bod yn sylweddol a’r dyddiad cwblhau oedd 21 Mai 2021, gyda’r dyddiad agor yn ystod ail wythnos Mehefin 2021.  Byddai’r preswylwyr yn symud i mewn fesul cam.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr bod cyllid cyfalaf ar gael i adnewyddu’r T? Marleyfield gwreiddiol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i du allan a thu mewn i'r adeilad er mwyn diweddaru ei ymddangosiad.  Estynnodd wahoddiad i’r Pwyllgor ymweld â’r eiddo cyn iddo gael ei agor, yn unol â chanllawiau Covid-19 a dywedodd y gellir cydlynu’r ymweliad hwn drwy’r Cadeirydd a Hwylusydd y Pwyllgor yn agosach at yr amser.  Esboniodd y byddai’r model cymorth yn cynnwys 16 lleoliad i ryddhau, er mwyn asesu ac adfer, “cyfleuster camu i lawr” ac 16 o leoliadau ychwanegol tymor hwy, a chynnal rhywfaint o hyblygrwydd o ran y lleoliadau er mwyn cyflawni anghenion gwasanaeth.  Ychwanegodd y byddai’r hyn a ddysgwyd wrth agor T? Treffynnon yn sail i’r gwaith o asesu ac adfer lleoliadau.  Derbyniwyd cefnogaeth dda gan BCUHB a sicrhawyd cyllid ar gyfer uwch ymarferydd nyrsio yn ogystal â chefnogaeth gan nyrsys ardal, a byddai meddyg ymgynghorol yn gyfrifol am oruchwylio’r gwelyau.

 

Croesawodd y Cynghorydd Carol Ellis y diweddariad, a dywedodd ei bod yn falch iawn o’r cynnydd a gyflawnwyd a’i bod yn edrych ymlaen at agoriad y cyfleuster ym Mwcle.  Diolchodd i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Gwasanaeth a’r holl staff perthnasol a hefyd i arweinydd blaenorol y Cyngor am symud y fenter hon yn ei blaen ar ran trigolion Bwcle a Sir y Fflint.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan Carole Ellis a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.

 

PENDERFYNIAD:

 

(a)       Mae’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Ehangu T? Marleyfield fel blaenoriaeth strategol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

(b)    Mae’r Pwyllgor yn nodi gweithgareddau allweddol y prosiect ar ddod, gan

        gynnwys datblygu a chyflwyno’r model gweithredol gyda’r Bwrdd Iechyd.

 

29.

Plas yr Ywen (Gofal Ychwanegol Treffynnon) pdf icon PDF 107 KB

Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth am gynnydd cyfleuster gofal ychwanegol newydd gwerth £8.5 miliwn yn Nhreffynnon.  Er y dylai’r cyfleuster fod wedi agor ym mis Mawrth 2020, dywedodd bod y rheoliadau tân wedi newid cyn ei agor a bod hyn wedi golygu gwneud gwaith pellach er mwyn cyflawni’r rheoliadau newydd.  Hefyd, roedd Covid-19 wedi creu heriau ychwanegol, ac roedd hyn wedi golygu mwy o amser i gwblhau’r datblygiad.  Bydd y cyfleuster yn cynnig 55 o randai moethus gyda nifer ohonynt yn cael eu clustnodi ar gyfer pobl â Dementia.  Ychwanegodd bod datrysiad digidol clyfar newydd yn cael ei ddefnyddio yng nghynllun Plas yr Ywen (Hwb Byw Appello), a oedd yn cynnwys nodweddion fel larwm argyfwng digidol, galwadau llais a fideo, hysbysiadau, mynediad drws fideo, cydnawsedd teleofal a chysylltedd cartref clyfar.  Y buddiannau i’r staff oedd cofnodion galwadau a hanes 7 niwrnod, rheoli dyfeisiau larwm gwddf, rhybuddion a hysbysiadau oes batris.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr, er bod y lleoedd yn llawn fis Mawrth y llynedd, nid oedd angen lle mwyach ar rai o’r bobl y dyrannwyd lle ar eu cyfer, am resymau amrywiol.  Darparodd sicrwydd bod 45 o geisiadau ac y byddai pobl yn symud i mewn cyn gynted ag y byddai’n ymarferol.  Y nod oedd dilyn traean angen lefel uchel, traean lefel canolig a thraean nad oes angen cymorth arnynt eto.  Roedd y staff a oedd wedi’u recriwtio wedi’u dosbarthu i feysydd gwaith arall i ddarparu gofal, e.e. T? Treffynnon.  Byddai’r dyddiad agor yn cael ei adolygu ym mis Chwefror, gyda’r bwriad o agor yng nghanol mis Mawrth, yn amodol ar y mesurau cyfyngiadau symud.


Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion a’i thîm am eu gwaith rhagorol.  Cytunodd y Cadeirydd â sylwadau’r Cynghorydd Mackie, a diolchodd i’r Uwch Reolwr a’i thîm am eu cyflawniadau yn ystod y cyfnod heriol presennol.

 

Croesawodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol y sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau.  Cyfeiriodd at Gynllun y Cyngor a sut yr oedd y ddarpariaeth yn cael ei chynyddu er mwyn gwneud yn si?r bod Sir y Fflint yn ddarparwr arweiniol yn y Sir a dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn dangos ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth fewnol ymhellach yn y dyfodol.  Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau gan y Prif Swyddog a dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn parhau i adeiladu cyfleusterau gofal ychwanegol yn y dyfodol, ac awgrymodd nad oedd ardaloedd fel Penyffordd, Brychdwn ac ardaloedd eraill yn derbyn darpariaeth yn y cyfnod presennol.

                       

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan David Wisinger a chawsant eu                   heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd Cynllun Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen a’r amserlen weithredol.

 

 

30.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.