Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 22 Medi 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2020, a gynigiwyd gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

12.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol a dywedodd fod y Parth Gwarchod Iechyd, oedd yn cynnwys Cyngor Sir Y Fflint fel un o’r pedwar Awdurdodau Lleol oedd yn rhan o’r parth, wedi cael effaith gadarnhaol ar Covid-19 yn lleol. Eglurodd fod yr Awdurdod yn barod am y cyfnod atal byr cenedlaethol fyddai’n dod i rym yng Nghymru am 18.00 o’r gloch ddydd Gwener 23 Hydref. Adroddodd y Prif Swyddog am drefniadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo a’u bod yn cydymffurfio â gofynion ac ysbryd cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru. Rhoddodd ddiweddariad byr yngl?n â sefyllfa Cartrefi Gofal a gwasanaethau allweddol mewn sefydliadau gofal cymdeithasol eraill yn Sir y Fflint o ran effaith Covid-19.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod fod gwasanaethau’n cael eu cynnal a derbyniadau i ysbytai’n cael eu hatal ble bynnag bo modd er mwyn cadw unigolion yn ddiogel a chadw systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio’n effeithiol. Adroddodd fod paratoadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn cael eu gwneud ar ‘gynllun gadael’ pan ddoi’r cyfnod clo i ben ar 9 Tachwedd, ac roedd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn ymwneud yn llawn â’r trafodaethau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis a oedd y rhaglen i frechu plant cynradd rhag y ffliw ar y gweill. Holodd hefyd a oedd data ar gael yngl?n â nifer yr achosion Covid-19 sy'n cael eu trin ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n ymgynghori gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth Addysg ac yn rhoi diweddariad i’r Cynghorydd Ellis ar ôl y cyfarfod yngl?n â’r rhaglen brechu rhag y ffliw mewn ysgolion. Gwnaeth sylw hefyd ar y sefyllfa brechu mewn ysbytai oherwydd Covid-19 a dywedodd fod y cynnydd yn nifer yr achosion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi rhoi peth pwysau ar ysbyty Maelor o ganlyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi hynny.

13.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at gyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 11 Tachwedd, i ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig:Amlinelliad o Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22. Cyfeiriodd yr Hwylusydd hefyd at gyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 3 Rhagfyr a dywedodd y byddai’r eitem ar Gytundeb Gofalwyr Ifanc – GOGDDC yn cael ei symud i’r cyfarfod dilynol a drefnwyd ar gyfer 21 Ionawr 2021.  Dywedodd hefyd efallai y byddai’r diweddariad ar y Prosiect Gweddnewid Cymuned yn cael ei symud i gyfarfod yn y dyfodol hefyd. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Dywedodd fod y cam gweithredu oedd yn deillio o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi wedi ei gwblhau ac nad oedd unrhyw gamau eraill i weithredu arnynt.   

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Michelle Perfect ac eiliwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, drwy ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

14.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi cipolwg ar y cynllunio adferiad ar gyfer portffolio’r Pwyllgor hwnnw.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod diweddariad i gofrestr risg y portffolio a chamau gweithredu lliniaru risg i’w gweld yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad. Rhoddodd wybod fod manylion y diweddariad ar amcanion adfer portffolio'r gwasanaeth wedi eu nodi i’r Pwyllgor ym mharagraff 1.05 yr adroddiad ac adroddodd ar yr ystyriaethau allweddol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, ble roedd gwasanaethau wedi eu hadfer yn rhannol, y byddai’r oriau gwaith a’r defnydd arferol yn unol â chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.  Cyfeiriodd at y cyfnod clo presennol a dywedodd y byddai rhai gwasanaethau yn cael eu hatal yn ystod y ‘cyfnod atal byr’ ond byddai rhai yn parhau ar gyfer pobl a phlant hynod ddiamddiffyn.   

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch ar ran y Pwyllgor i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i barhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig. Llongyfarchodd y Prif Swyddog hefyd am gyflawniadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion drwy gydol heriau’r flwyddyn hon.   

 

Gwnaeth y Cynghorydd Cindy Hinds sylw ar fater iechyd meddwl a gofynnodd a oedd cynnydd wedi bod yn yr unigolion oedd yn dioddef salwch meddwl o ganlyniad i effaith Covid-19.  Ymatebodd y Prif Swyddog bod cynnydd wedi bod yn nifer y rhai oedd yn dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod y saith mis diwethaf gan fod rhai yn ei chael yn anodd wynebu effeithiau seicolegol cyfnod clo.  O ran cefnogaeth i’r gweithlu, eglurodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda MIND a bod rhaglen o gefnogaeth i gynorthwyo pob unigolyn oedd angen cymorth o fewn y gweithlu.

 

Ategodd y Cynghorydd Dave Mackie sylwadau’r Cadeirydd yngl?n â llwyddiant perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn lliniaru effaith Covid-19 ac awgrymodd y dylid newid yr argymhelliad yn yr adroddiad i ddarllen   Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gofrestr risg diweddaraf a’r camau gweithredu er mwyn lliniaru risg o fewn portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gofrestr risg diweddaraf a’r camau gweithredu i liniaru risg ym mhortffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

15.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Gweddnewid Plant pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am gynnydd, a’r cynlluniau cyflenwi i’r dyfodol, ar gyfer Brosiect er mwyn sicrhau newid trawsffurfiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad ar gynnydd a chynlluniau’r dyfodol ar gyfer prosiect i sicrhau newidiadau trawsnewidiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd fod Gogledd Cymru wedi sicrhau £3m o arian grant ar gyfer Rhaglen Drawsnewid ranbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol i blant. Gan weithio ar batrwm rhanbarthol, cyflwynwyd y rhaglen ar sail Ardal. Roedd prosiect Ardal y Dwyrain yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam. Eglurodd yr Uwch Reolwr y byddai’r prosiect yn helpu rhieni ag anghenion iechyd meddwl isel/cymedrol; dod â staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gynnig asesiad dwys a chefnogaeth therapiwtaidd i bobl ifanc nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS ond eu bod yn dangos anghenion sylweddol ac angen cefnogaeth; a datblygu Cartref Gofal preswyl lleol i fodloni anghenion pobl ifanc tra roeddent yn ceisio aduno gyda’u teulu neu ddod o hyd i leoliad maethu/preswyl lleol mwy hirdymor.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr am y prif ystyriaethau yngl?n â’r ffrydiau gwaith uchod o fewn y Prosiect Gweddnewid Plant. Wrth gyfeirio at yr ail ffrwd waith, eglurodd yn ystod y pandemig, fod tîm Therapi Aml Systematig wedi ei benodi, hyfforddi a’i lansio. Roedd y Tîm yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol er mwyn meithrin gwydnwch teuluoedd rhwng 3 a 5 mis. Roedd y ffocws ar atal methiant y teulu a lleihau’r galw i roi plant yn y system ofal heb bod angen. Cyflwynodd Donna Watts, Rheolwr y tîm Therapi Aml Systematig a gofynnodd iddi roi crynodeb o’r Gwasanaeth.    

 

Eglurodd Rheolwr y Therapi Aml Systematig fod y Tîm wedi bodloni’r meini prawf er mwyn gweithredu’r Therapi o dan ofynion trwyddedu llym gan gynnwys cymhwysedd i ymarfer drwy hyfforddiant dwys.   Roedd y Therapi Aml Strategol yn fodel clinigol oedd yn gweithio gyda phob system o amgylch y plentyn gan gynnwys addysg, dylanwadau cymunedol, ac unrhyw oedolion/bobl eraill o bwys yn y teulu. Roedd y gwasanaeth yn becyn penodol o ofal oedd yn cynnig triniaeth yn y cartref 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.  Yn ystod ei chyflwyniad rhoddodd y Rheolwr enghreifftiau o sut roedd y Therapi Aml Strategol wedi llwyddo i newid bywydau unigolion o ganlyniad i’r driniaeth a’r gefnogaeth a roddwyd.Yr Awdurdod oedd y cyntaf yng Nghymru i’w ddefnyddio.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd yngl?n â’r ffordd y gwneid atgyfeiriad at y Gwasanaeth Therapi Aml Strategol, eglurodd y Rheolwr fod pob atgyfeiriad yn gorfod dod drwy’r Gwasanaethau Plant, boed yn atgyfeiriad gan Gyngor Sir y Fflint neu gan Brifysgol Betsi Cadwaladr. Wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o’r gwasanaeth, roedd mwy o atgyfeiriadau’n dod. Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu, drosolwg byr o’r llwybr atgyfeirio a dywedodd fod pob atgyfeiriad a wneid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei archwilio gan banel i benderfynu ar y llwybr gorau ar gyfer pob achos er mwyn cael y budd mwyaf o’r gwasanaeth Therapi Aml Strategol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dave Mackie i gefnogi’r gwasanaeth Therapi a llongyfarchodd Reolwr y Therapi a’r swyddogion  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Project Search pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar lwyddiant interniaethau Project Search y llynedd a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gohort y flwyddyn nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr:Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion, adroddiad i roi diweddariad yngl?n â llwyddiant interniaid y llynedd ar Brosiect Search a darparu gwybodaeth yngl?n â chohort y flwyddyn nesaf. Eglurodd fod Prosiect SEARCH yn rhaglen gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol gan ei bod wedi ymrwymo i greu gweithlu ymroddgar sy’n cynnwys pobl ag anableddau. Cynlluniwyd Prosiect SEARCH fel rhaglen interniaeth naw mis di-dal sy’n gosod interniaid (pobl ifanc rhwng 18-24 sydd ag Anabledd Dysgu) mewn amgylchiadau gwaith go iawn ble byddan nhw’n dysgu pob agwedd ar sicrhau a chadw swydd.  Mae cyfres o dri interniaeth sy’n para am 10-12 wythnos yn galluogi interniaid i archwilio gyrfaoedd a datblygu sgiliau gwaith gwerthadwy. Mae’r interniaid yn derbyn cefnogaeth gan fentoriaid adrannol, hyfforddwyr sgiliau, a chymhwyso ac addasu’r gweithle. Y nod ar gyfer pob unigolyn yw sicrhau gwaith cystadleuol yn eu cymuned ac mae nifer o'r interniaid wedi cael cyflogaeth am dâl yn Sir y Fflint.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr am gynlluniau wrth symud ymlaen i’r dyfodol. Dywedodd, wrth baratoi ar gyfer ail flwyddyn Prosiect SEARCH, eu bod yn chwilio ac yn sicrhau nifer o gyfleoedd newydd am interniaeth. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn cwmpasu datblygu rhaglen i gefnogi pobl dros 25 mlynedd allai fod wedi methu â chael mynediad at gyfle yn y gorffennol.  Dywedodd mai hon fyddai'r rhaglen gyntaf o'i bath yn Ewrop.

 

Siaradodd y Cynghorydd Christine Jones i gefnogi’r Prosiect a dywedodd fod y bobl ifanc wedi mwynhau eu cyfnod ar y rhaglen yn fawr iawn, a’u bod wedi ennill hyder a phrofiad drwy’r amrywiaeth o gyfleoedd y cawsant fod yn rhan ohonynt. Dywedodd fod Prosiect SEARCH yn Sir y Fflint yn cael ei ddarparu rhwng Cyngor Sir y Fflint, Hft, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Choleg Cambria, a mynegodd ei diolch am waith caled ac ymroddiad pawb fu’n gysylltiedig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis faint o bobl ag anabledd dysgu oedd wedi eu cyflogi’n uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint a hefyd wedi eu cyflogi yn ardal Cyngor Sir y Fflint. Cytunodd yr Uwch Reolwr y byddai’n darparu’r wybodaeth i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.    

 

Gwnaeth y Cynghorydd Gladys Healey sylw mai dim ond 2% o bobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru oedd mewn cyflogaeth am dâl, a dywedodd fod angen annog cyflogwyr i wneud mwy i helpu pobl ddod o hyd i waith.  Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y cynnydd a wnaed hyd yma gyda chyflogwyr lleol, gan nodi cyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel enghraifft, a dywedodd fod cyflogwyr yn awyddus i gefnogi pobl ag anableddau dysgu.   

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Paul Cunningham y gellid cysylltu â Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy, cytunwyd, yn dilyn y cyfarfod y byddai’r uwch Reolwr yn gofyn am ddiweddariad gan Gadeirydd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy ac yn gwneud cais am gefnogaeth bellach i’r dyfodol. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddog, Uwch Reolwyr a’u timau am eu gwaith arloesol wrth fentro ar gynlluniau newydd i gefnogi a datblygu pobl o fewn y  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.