Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: NEWCES, Uned 3, Ffordd Manor, Parc Busnes Penarlâg, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy, CH5 3US

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

50.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

 

 

51.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Materion yn Codi

 

Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd yngl?n â’r cynnydd o ran ymestyn Cartref Preswyl Marleyfield, cadarnhaodd Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig bod y cynnydd fel a ddisgwylid hyd yn hyn ac y byddai adroddiad yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf.

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am Plas y Wren, rhoddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig wybod bod Plas y Wren i fod i agor fel y disgwyl yn fuan ym mis Mawrth 2020.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Mackie bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

 

52.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a tynnodd sylw at gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Chwefror.  Roedd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw.  Cyfeiriodd yr Hwylusydd hefyd ar gyfarfod y Pwyllgor oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 a oedd yn cael ei gynnal yn Hwb Cyfle.  Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol.  Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau ar hyn o bryd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

 

 

53.

Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg i aelodau o’r gwasanaeth presennol a ddarperir gan y Gwasanaeth Offer Cymunedol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd wedi’i leoli ym Mhenarlâg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig adroddiad i ddarparu trosolwg o’r gwasanaeth cyfredol a ddarparwyd gan NEWCES.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dweud bod y Gwasanaeth wedi darparu a gosod dros 30,000 o gyfarpar y flwyddyn ledled Gogledd Ddwyrain Cymru ac wedi ail-ddefnyddio 90% o’r offer a gafodd ei ddychwelyd.   

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr bod darparu offer cymunedol yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo annibyniaeth pobl anabl o bob oed.  Roedd darparu’r cyfarpar yn aml yn golygu bod unigolyn yn gallu ymdopi’n annibynnol heb fod angen gwasanaethau eraill ac yn cynyddu cyfraddau rhyddhau o’r ysbyty yn arw ac yn cefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty.  Roedd y Gwasanaeth hefyd yn galluogi darparu gwasanaethau eraill yn ddiogel ac yn effeithiol gan gynnwys cefnogaeth gyda gofal personol gan gynnwys gofal gartref, ail-alluogi, gofal canolradd, gofal cartref nyrsio a phreswyl.  Mae NEWCES yn darparu cyfarpar i unigolion yn y gymuned gan gefnogi bob ysbyty yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n cynorthwyo rhyddhau cyflym ac yn helpu gyda throsglwyddiadau wedi’u hoedi mewn gofal. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod NEWCES yn cael ei gydnabod fel arweinydd ar lefel Cymru gyfan ac yn rhagori ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol yng Nghymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd yr Uwch Reolwr bod angen i unrhyw un oedd yn gwneud cais am gyfarpar cymunedol angen cael asesiad proffesiynol i ddechrau.  Cafodd y Gwasanaeth 21,000 o atgyfeiriadau yn y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey os oedd NEWCES yn gweithio gyda’r GIG i gyflawni arbedion ar gyfarpar, a nododd enghraifft bod y GIG wedi llogi gwelyau bariatrig gan gwmni preifat lle gellid cyflawni arbedion drwy ddefnyddio’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan NEWCES.  Awgrymwyd y gellid codi hyn gyda chynrychiolwyr BIPBC yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor sy’n cael ei gynnal ar 10 Chwefror. 

 

Siaradodd yr Aelodau i gefnogi’r gwasanaethau rhagorol sy’n cael eu darparu gan NEWCES a chanmol yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig a’r Rheolwr Gwasanaeth, NEWCES am eu cyflawniadau.  Awgrymodd y Cynghorydd Cindy Hinds bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am waith y NEWCES a’r cyfleusterau sy’n cael eu darparu yno.  Cytunwyd y byddai’r Hwylusydd yn cysylltu gyda’r Prif Swyddog a Chyfathrebu Corfforaethol i gyhoeddi datganiad i’r wasg.      

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)          Nodi’r gwaith llwyddiannus y mae NEWCES yn ei wneud i gefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty a dychwelyd yn ddiogel o’r ysbyty; a

 

(b)          Bod y gwaith arwyddocaol a wnaed mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth gan gynnwys cefnogi’r rhaglen rhanbarthol, yn cael ei gydnabod.

 

54.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Weithgarwch Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Nodi’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac ymateb i unrhyw feysydd i’w gwella a nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i nodi’r adborth cadarnhaol oeddent wedi’i gael gan AGC a’r ymateb i unrhyw feysydd i’w gwella a nodwyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dweud bod AGC wedi cynnal 6 diwrnod o weithgarwch gyda chanolbwynt gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2019 yn ystyried Diogelu Oedolion a gwaith yr Uned Ddiogelu yn Fflint, y cynlluniau Gofal Ychwanegol a dull gweithredu’r Cyngor i roi Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, Cymorth Cynnar a phrofiadau’r plant sy'n derbyn gofal Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod adborth swyddogol gan AGC am y gweithgareddau uchod wedi bod yn gadarnhaol a’u bod wedi amlygu nifer o feysydd lle roedd y Cyngor yn perfformio’n dda iawn ac roedd deilliannau da yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl yn y gymuned.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog gyfle i’r Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu, yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig a’r Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adrodd am ganfyddiadau AGC yn eu meysydd gwasanaeth nhw. 

Canmolodd yr Aelodau yr amrywiaeth arloesol o wasanaethau a ddarperir ac roedden nhw’n teimlo bod hyn yn greiddiol i drawsnewid ansawdd bywyd sawl unigolyn. 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau a’r sylwadau a godwyd am faterion fel addysg rhyw ac atal, iechyd meddwl a lles a bwlio.

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Nodi’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan yr AGC yn dilyn eu gweithgarwch diweddar gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 (b)      Nodi ymateb y Cyngor i unrhyw feysydd gwella a nodwyd gan AGC yn ystod y flwyddyn; a 

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cael gwybod am weithgarwch pellach gan AGC yn Sir y Fflint.

 

55.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Allport wybod am ei ymweliad â Llys Gwenffrwd gan ddweud ei fod wedi bod yn ymweliad cadarnhaol a llawn mwynhad ac nad oedd unrhyw faterion i’w hadrodd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod am ei hymweliad i gartref gofal preswyl yr Hafod a rhoi sylwadau am y cyfleusterau rhagorol sy’n cael eu darparu a’r staff gwych sydd yno.   Eglurodd bod defnyddwyr gwasanaeth wedi codi mater yngl?n â diffyg socedi trydan ac roedd hynny’n cael ei ddatrys.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

 

56.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.