Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ian Smith gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, oherwydd ymgysylltiad agos aelod o’i deulu.

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Mehefin  2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

13.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a godwyd o’r cyfarfodydd blaenorol.  Eglurodd bod y camau gweithredu sydd i’w penderfynu yn parhau ar yr adroddiad tracio camau gweithredu tan y bydd wedi'u datrys, ac yn cael eu hadrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd  y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 3 Hydref.   Dywedodd bod eitem ychwanegol ar y Strategaeth Mabwysiadu Gofal Maeth yn cael ei ychwanegu ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Gan gyfeirio at yr eitemau sydd i’w trafod yn y cyfarfod i’w gynnal ar 12 Rhagfyr, dywedodd yr Hwylusydd y bydd eitem ychwanegol ar y Strategaeth Anabledd Dysgu Rhanbarthol yn cael ei gynnwys ar agenda’r cyfarfod.

 

Dywedodd yr Hwylusydd y bydd eitem ar yr Adolygiad o Strategaethau Atal Lleoliadau Tu allan i'r Sir yn cael eu cynnwys ar y rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i'w ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol, gan ystyried cael gr?p tasg a gorffen neu weithdy os bydd angen yn dilyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo.

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

14.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig pdf icon PDF 256 KB

Pwrpas:  Darparu aelodau gydag adroddiad cynnydd o weithrediad lleol y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr – Diogelu a Chomisiynu adroddiad ar ddiweddariad ar gynnydd gweithrediad lleol o’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS). 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Anabledd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at fenter Llywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ledled Cymru.  Dywedodd bod gan Rhanbarth Gogledd Cymru gyllideb blynyddol o £615,800 i ddatblygu IAS a oedd yn bennaf yn cyflenwi costau staffio ar gyfer y Gwasanaeth, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol.  Soniodd Rheolwr Gwasanaethau Anabledd am y brif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd at sut mae’r gwasanaeth yn gweithredu, data perfformiad, goblygiadau o ran adnoddau a rheoli risg. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Anabledd defnyddiwr gwasanaeth i’r cyfarfod a gwahoddodd hi i roi gwybodaeth am ei phrofiad personol o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.  Soniodd y defnyddiwr gwasanaeth am y gefnogaeth a buddion a chafodd gan y gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a’r gwahaniaeth yr oedd wedi gael ar ei bywyd.  Hefyd dywedodd am ei dyheadau am y dyfodol a lle’r oedd yn teimlo y gellir gwneud gwelliannau pellach i’r Gwasanaeth.  Diolchodd y Cadeirydd i’r defnyddiwr gwasanaeth am ei phresenoldeb ac am ei hymatebion i gwestiynau’r Aelodau.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis am yr amseroedd aros i asesu pobl sydd yn dangos Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Anabledd bod yr amser aros am asesiad ar hyn o bryd yn 26 wythnos, fodd bynnag, nid oedd y Gwasanaeth yn foddhaol a roedd yn trefnu i weithwyr iechyd proffesiynol eraill, nyrsys enwol, therapyddion iaith a lleferydd, i gyflawni hyfforddiant i'w galluogi i gyflawni asesiadau.  Eglurodd nad oedd rhaid i unigolion aros am ddiagnosis cyn cael cymorth.   

 

Soniodd y Cynghorydd Ellis am y dyraniad blynyddol o £615,800 ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru i ddatblygu IAS, a mynegodd safbwynt na fydd hyn yn ddigonol i fodloni anghenion y Gwasanaeth.  Dywedodd bod y rôl a chyfrifoldeb ychwanegol yn cael ei roi ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i lenwi’r bwlch yn narpariaeth gwasanaeth i Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig, heb y cyllid ar gyfer yr adnoddau. Cynigiodd y Cynghorydd Ellis i gynnwys argymhelliad ychwanegol yn yr adroddiad i gofnodi bod y Pwyllgor yn bryderus ynghylch y ffaith nad oedd y swm o adnoddau a ddyrannir i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ddigonol i fodloni galw’r gwasanaeth.  Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham yn eilio.

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)      I nodi diweddariad ar y gwasanaeth awtistiaeth integredig Gogledd Cymru;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn fodlon bod cynnydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i fodloni’r dyletswyddau ar ran y rhanbarth;

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn bryderus nad yw’r swm o adnoddau a ddyrannir i'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn ddigonol i fodloni galw’r Gwasanaeth; a

 

 (d)      I nodi’r gwahaniaeth y mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi’i gael ar bobl sydd ag Awtistiaeth.

 

15.

Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion pdf icon PDF 373 KB

Pwrpas:  Rhoi adroddiad i’r aelodau o’r nifer o gwynion a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y cyfnod 18 – 19, yn cynnwys eu themâu a chanlyniadau ac unrhyw wersi a ddysgwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cwynion, Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad ar y nifer o gwynion a ddaeth i law gan Wasanaethau Cymdeithasol yn ystod cyfnod 18-19, gan gynnwys themâu eang, canlyniadau a gwersi a ddysgwyd.  

 

Rhoddodd y Swyddog Cwynion wybodaeth gefndir.  Dywedodd bod y niferoedd o gwynion ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn îs o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol a dywedodd bod cynnydd cadarnhaol yn y nifer o ymatebion i gwynion o fewn yr amserlenni.  O’r 3695 o oedolion sy’n cael gofal a chymorth gan Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ystod 2018-19, roedd tua 1% wedi gwneud cwyn am y gwasanaeth a dderbyniwyd.  Dywedodd bodd cynnydd yn y nifer o ganmoliaethau a ddaeth i law.  Dywedodd y Swyddog Cwynion bod 2.5% o’r 2188 o blant a theuluoedd sydd wedi cael gofal a chymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol Plant wedi cwyno am y gwasanaeth a dderbyniwyd, a oedd yn debyg i bob blwyddyn.   

 

Soniodd y Swyddog Cwynion am y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch y nifer o gwynion a ddaeth i law, y problemau a godwyd a'u canlyniadau.  Esboniodd bod yr holl gwynion yn cael eu harchwilio a’u defnyddio i wella'r ddau wasanaeth fel rhan o broses ‘gwersi a ddysgwyd’.

 

Rhoddodd y Cadeirydd sylw am y gost o ymchwilio cwynion Cam 2 ar gyfer 2018/19. Soniodd y Swyddogion ar y nifer o gwynion Cam 2 wedi cynyddu ac eglurodd bod y Rheoliadau yn nodi bod pob cwyn Cam 2 yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn cael eu comisiynu i Ymchwilwyr Annibynnol.  Rhoddodd Swyddogion sylw ar fuddion ymchwiliad annibynnol a oedd yn sicrhau didueddrwydd a gallai atal achosion rhag dwysau a chostau ychwanegol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis i’r cwynion a wnaethpwyd ynghylch ansawdd gofal mewn cartref neu gan ofalwr, a cheisiodd gadarnhad ar sefyllfa statudol yr Awdurdod o ran darpariaeth gofal.  Cyfeiriodd y Uwch-Reolwr, Gwasanaethau Cymdeithasol, Arweinydd Oedolion, at Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 lle mae gofyn i'r Awdurdod gyflawni asesiad.  Eglurodd am y gwaith a gyflawnir gyda recriwtio a chadw staff.  Hefyd cyfeiriodd at y cynllun y taliad uniongyrchol sydd wedi galluogi unigolion gael dewis o ran darpariaeth gofal a ‘phrynu’ gwasanaethau cynnal.   Hefyd soniodd yr Uwch-Reolwr am y gwaith a gyflawnir gyda’r sector annibynnol a darparwyd cartref gofal preifat, a chyfeiriwyd at y pecynnau ailalluogi, trefniadau camu'n ôl, a phrosiectau gofal- micro, i gefnogi unigolion i ddychwelyd gartref neu cartref gofal preswyl ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn fodlon bod gweithdrefn gwyno cadarn mewn lle; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn parhau i gael adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

16.

Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus y GIG yng Nghymru pdf icon PDF 230 KB

Pwrpas:  Darparu gwybodaeth i Aelodau ynghylch ymateb bwriedig y Cyngor i Ymgynghoriad Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu, adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar ymatebion arfaethedig y Cyngor i ymgynghoriad CHC i Lywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch Gofal Iechyd Parhaus yn Sir y Fflint, ymateb cyntaf Sir y Fflint i’r ymgynghoriad CHC Oedolion, ac ymateb cyntaf Sir y Fflint i ymgynghoriad CHC Plant a Phobl Ifanc. 

 

                        Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu Gareth Jones, y Swyddog Cynllunio a Datblygu - Gwasanaethau Cymdeithasol i roi cyflwyniad ar  Fframwaith Cenedlaethol yr Ymgynghoriad Gofal Iechyd GIG Parhaus.  Roedd y cyflwyniad yn trafod y prif bwyntiau a ganlyn:

 

  • beth yw Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
  • Ymgynghoriad CHC Oedolion – crynodeb o newidiadau (Llywodraeth Cymru)
  • safbwyntiau cychwynnol o weithlu (Oedolion) Sir y Fflint
  • sut mae meysydd gofal gwahanol yn cael eu rhannu i lefelau o angen
  • safbwyntiau ychwanegol ac adborth
  • gwahaniaeth rhwng ethos Taliadau Uniongyrchol
  • cyfraniad personol ychwanegol
  • safbwyntiau cyntaf gan weithlu Sir y Fflint (Plant a Phobl Ifanc)
  • y camau nesaf
  • argymhellion

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei gyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Cunningham sylw ar y swm sy’n ddyledus gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r Awdurdod, lle'r oedd y rhaniad yn y costau gofal a gytunwyd i CHC yn destun dadl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Eglurodd yr Uwch-Reolwr, Diogelu a Chomisiynu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd taliad yn dod i law pan fydd penderfyniad wedi’i nweud ar unrhyw achosion sy’n ddyledus.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a phryderon a godwyd gan y pwyllgor, cytunwyd y byddai’r Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad drwy rwydweithiau proffesiynol a phersonol, a bod ymateb ar y cyd i’r ymgynghoriad yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.

 

PENDERFYNIAD:

 

 (a)      Bod yr Aelodau yn ymwybodol o sefyllfa Sir y Fflint ac yn cael eu hysbysu’n ddigonol i ymateb i’r ymgynghoriadau fel unigolion;

 

(b)      Bod yr Aelodau yn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad â rhwydweithiau proffesiynol a phersonol; a

 

 (c)       Bod ymateb ar y cyd yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor.

 

17.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Craffu a Throsolwg Gofal Iechyd a Chymdeithasol bod gofyniad ar y Pwyllgor bod yr holl Aelodau yn cyflawni Ymweliadau Rota, a bydd yn trefnu i ddosbarthu dyddiadau ymweliadau newydd sydd i'w cyflawni yn y dyfodol agos.  Bydd sesiwn hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer aelodau newydd o'r Pwyllgor i’r ymweliadau rota. 

 

18.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.