Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

37.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Derbyn diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac Ysbyty'r Wyddgrug. 

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Mr RobSmith, Cyfarwyddwr Rhanbarth y Dwyrain, Nikki Palin, Arweinydd Tîm RN, a Dr  Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Rhanbarth y Dwyrain, i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndirol a gwahoddodd gynrychiolwyr BIPBC i roi diweddariad ar Ofal Sylfaenol  a Gwasanaethau Cymunedol.  

 

Rhoddodd Mr Rob Smith a Nikki Palin gyflwyniad ar y cyd ar Dîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain – cefnogi cleifion yn agosach at adref. Eglurodd Mr. Smith mai cleifion a’u teuluoedd sydd yw canolbwynt yr holl gynlluniau a datblygiadau a bod BIPBC yn gweithio ar y cyd â’r Awdurdod er mwyn darparu triniaethau a gofal i bobl yn eu cartrefi. Roedd prif bwyntiau’r cyflwyniad fel a ganlyn:

 

·         cyflwyniad a chefndir – lle oeddem ni

·         y weledigaeth – Tîm Adnoddau Cymunedol Rhanbarth y Dwyrain

·         gwaith prosiect – Tîm Adnoddau Cymunedol

·         gwaith hyd yma

·         y camau nesaf 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Smith a Ms Palin am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey â phwy fyddai trigolion yn gysylltu am help yngl?n â materion gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gofal Cymdeithasol i Blant, amddiffyn plant, a iechyd meddwl. Eglurodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig fod un rhif cyswllt ar gyfer yr holl wasanaethau ac roedd y Tîm Dyletswydd Argyfwng yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau. Cytunodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu i ddarparu gwybodaeth am y rhif cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith yngl?n â thriniaeth chwistrellu clustiau, dywedodd  Dr Gareth Bowdler fod y broses wedi newid a bod cleifion bellach yn cael eu hasesu gan y tîm gwasanaethu chwistrellu clustiau ac nad oeddynt o reidrwydd yn cael eu hatgyfeirio at feddyg ar gyfer y driniaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill sut mae gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu, a allai arwain at glaf yn mynd i’r ysbyty, yn cysylltu â gwasanaethau pwynt mynediad sengl.  Eglurodd Mr. Smith mai’r bwriad oedd cydweithio’n agosach gyda’r gwasanaethau brys, fodd bynnag roedd yn cydnabod fod angen gwaith pellach ar hyn. 

 

Dywedodd Dr. Bowdler mai’r cam gweithredu cywir oedd galw gwasanaeth y tu allan i oriau y meddyg teulu a chysylltu â’r gwasanaethau Adnoddau Cymunedol. Dywedodd y Cynghorydd McGuill fod hyn yn anodd gan fod gwasanaeth y tu allan i oriau meddygon teulu yn cael ei weithredu gan feddygon teulu gwahanol i feddygon teulu BIPBC.

 

Eglurodd Mr. Smith fod y rhan helaethaf o achosion atal salwch ac atgyfeiriadau gwasanaeth ambiwlans yn digwydd yn ystod y dydd. Dywedodd fod y gwasanaeth wedi gwella pan oedd ar y rhan fwyaf o bobl angen y gwasanaeth, sef yn ystod y dydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod angen mwy o sicrwydd fod gan feddygon teulu gyswllt cryf â’r gwasanaeth y tu allan i oriau er mwyn lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai yn hytrach na galw’r ambiwlans allan a defnyddio gwasanaethau y mae’n bosib nad oes eu hangen.

 

Eglurodd Mr. fod y rhan fwyaf o bobl yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:  I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw adroddiadau ar ymweliadau gan Aelodau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Martin White ddiolch personol a chanmoliaeth i staff Cartrefi Gofal Marleyfield House a Llys Gwenffrwd a siaradodd am y gofal gwych a ddarperir yn y ddau gartref.  Gofynnodd pe gellid pasio ei ddiolch ymlaen i'r staff.

 

Croesawodd y Cynghorydd Christine Jones y sylwadau positif gan y Cynghorydd White a soniodd am y bwriad i ymestyn y ddarpariaeth yn Marleyfield House yn y dyfodol. Mynegodd y Cadeirydd ei diolch personol hefyd am y gofal a roddwyd i aelod o’r teulu tra’n aros yn Marleyfield House. 

 

Mynegodd Aelodau eu diolch a’u canmoliaeth am y gwasanaethau gofal diwyro a gynhaliwyd yn ystod y tywydd gwael diweddar.

 

Yn ystod y drafodaeth cytunwyd anfon llythyr o ddiolch ar ran y Pwyllgor at staff Gwasanaethau Gofal Preswyl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

39.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor, i’w gynnal ar 25 Ionawr 2018, yn cael ei gynnal yn Llys Jasmine, Yr Wyddgrug.

 

Wrth ystyried yr eitemau ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol , soniodd y Cynghorydd David Healey am yr angen i osgoi dyblygu gwaith gyda’r Pwyllgor Throsolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol   Cyfeiriodd at y r Hwb Help Cynnar a chyflwyno’r ddarpariaeth gofal plant am ddim y gellid ei gyflwyno i gyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg a Ieuenctid a Gofal Iechyd a Chymdeithasol. Cytunwyd trefnu cyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol ac Addysg a Ieuenctid cyn gynted â phosib.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Cindy Hinds cytunwyd gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Ambiwlans i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin 2018.

 

Cyfeiriodd Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu at lythyr blynyddol y Cyfarwyddwr a dywedodd y byddai ceisiadau yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor sydd i'w gynnal ar 29 Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 (c)     Trefnu cyd gyfarfod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Gofal Iechyd a Chymdeithasol ac Addysg a Ieuenctid cyn gynted â phosib; a

 

(d)      Gwahodd cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Ambiwlans i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin 2018.

40.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol.