Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Mai 2018.

 

 

Cofnodion:

            Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018.

 

Materion yn Codi

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Ian Smith, cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddarparu rhestr esboniadol o’r byrfoddau a ddefnyddid yn yr adroddiadau a gyflwynid i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol fel cynrychiolydd y Cyngor Iechyd Cymunedol.

 

Datganodd y Cynghorydd Gladys Healey gysylltiad personol fel cynrychiolydd y Cyngor Iechyd Cymunedol hefyd.

12.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwrpas:  Darparu diweddariad cyffredinol ar Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol. 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Rob Smith, Cyfarwyddwr Ardal y Dwyrain, Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Jane Bryant, Cyfarwyddwr Nyrsys Ardal, a Dr Gareth Bowdler, Cyfarwyddwr Meddygol Ardal y Dwyrain, i’r cyfarfod. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol yn fras. Soniodd Jane Bryant am yr ystod o wasanaethau nyrsio a chymunedol a oedd ar gael i gefnogi pobl a oedd yn dymuno cael gofal gartref. Bu iddi drafod y gefnogaeth a roddwyd i gleifion a oedd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i’w galluogi i gael gofal a thriniaeth gartref ac aros yn eu cymuned.

 

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau Gofal Sylfaenol gan Dr Gareth Bowdler ac fe soniodd am yr amodau a’r telerau gwell i gyflogi meddygon teulu.  Disgwylid iddynt gynorthwyo wrth gynnig gwaith i feddygon yn Sir y Fflint i fynd i’r afael â’r prinder wrth recriwtio.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu diweddariad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rita Johnson at gau Ysbyty’r Fflint a cholli gwelyau a gofynnodd a oedd Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn gallu ymdopi â'r galw. Cadarnhaodd Jane Bryant fod yr ysbyty yn gymharol llawn, ond roedd y Metron yn gweithio gydag Ysbyty Glan Clwyd a meddygon teulu i sicrhau bod gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.  Roedd hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar drin cleifion gartref o fewn oriau gwaith a thu hwnt fel maes allweddol i'w ddatblygu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y staff mewn Unedau Mân Anafiadau. Teimlai ar rai achlysuron nad oedd y staff yn gymwys/hyderus i roi triniaethau e.e. pwythau neu roi diferwyr mewn gwythiennau, a oedd yn golygu bod angen i gleifion ymweld ag Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai staff nyrsio symud rhwng prif Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau i gynnal sgiliau. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill hefyd y gallai cleifion fod yn awyddus i beidio â chael eu rhyddhau o’r ysbyty gan na fyddent o fewn cyrraedd profion diagnostig yn syth, fel fyddai cleifion yn yr ysbyty.

 

Cytunodd Dr Gareth Bowdler fod angen sicrhau bod gan staff nyrsio mewn Unedau Mân Anafiadau y gallu a’r sgiliau cywir ac roedd hwn yn faes datblygu a oedd yn brif flaenoriaeth. Cyfeiriodd Rob Smith at yr adolygiad o ddarpariaeth gofal brys a oedd yn cael ei gynnal ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, a edrychai ar welliannau gan gynnwys cysylltiadau mwy clos rhwng meddygon teulu, Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau. Roedd integreiddio a symud staff rhwng gofal sylfaenol ac Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau'n cael ei ystyried. Cydnabu Dr Bowdler fod lle i wella wrth gynllunio i ryddhau cleifion ac un o’r cysyniadau allweddol oedd y dylid dechrau cynllunio i ryddhau claf cyn gynted ag y mae wedi'i dderbyn. O ran profion diagnostig, dywedodd Dr Bowdler fod gwaith ar fynd i  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwrpas:  Cael cyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Gig Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar berfformiad ambiwlansiau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Cofnodion:

            Croesawodd y Cadeirydd Andrew Long, Rheolwr Ardal y Gogledd, a Richard Lee, Rheolwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a gwahoddodd hwy i roi cyflwyniad ar berfformiad ambiwlansiau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

            Dywedodd Andrew Long mai pwrpas y cyflwyniad oedd egluro'r trawsnewid a oedd wedi bod yng ngwasanaethau ambiwlans Cymru, tynnu sylw at rai o'r datblygiadau cadarnhaol, ac egluro lle roedd angen gwneud mwy o waith. Dywedodd ei fod hefyd yn gyfle i rannu profiadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru o weithredu’r Model Ymateb Clinigol hyd yma, amlygu beth oedd wedi'i ddysgu wrth wneud hynny, ac edrych ar gyflwyno'r Model Ymateb Clinigol yng nghyd-destun newid sefydliadol a newid systemau ehangach. Dyma oedd prif bwyntiau’r cyflwyniad:

 

  • GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • amodau i newid – ein hamgylchedd gweithredu
  • cynllunio gwasanaethau ambiwlans mewn gofal heb ei drefnu
  • beth wnaethom ni?
  • symud o ymateb coch i felyn
  • sut mae’r dyfodol yn edrych i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’n staff a’n cleifion?
  • rhai sy’n galw’n aml
  • gwrando a thrin
  • effeithiolrwydd y ddesg glinigol a desg glinigol yn yr Heddlu
  • perfformiad, ymateb a galw
  • oriau coll mewn ysbytai
  • ffordd newydd ymlaen

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at y broblem lle’r oedd rhai’n galw’r gwasanaethau ambiwlans yn aml pan nad oedd arnynt angen triniaeth feddygol frys nac angenrheidiol. Soniodd am gynllun yn Lloegr lle’r oedd unigolion yn cael rhif ‘cyfaill’ i gysylltu ag o yn gyntaf i asesu’r alwad ac osgoi galw ambiwlans os nad oedd ei hangen. Cyfeiriodd Richard Lee at y fenter Galwyr Cyson i ddelio â rhai oedd yn galw’r Gwasanaeth Ambiwlans dro ar ôl tro ac fe enwodd enghraifft lle’r oedd rhywun wedi galw'r gwasanaethau brys 600 gwaith mewn blwyddyn.  Dywedodd ei fod angen cefnogaeth, ond nid triniaeth feddygol. Trafododd y dewisiadau eraill i’w hystyried cyn anfon ambiwlans os nad oedd angen triniaeth feddygol ar frys a chyfeiriodd at feddyg teulu, ymweliad gan nyrs gymunedol, cefnogaeth gan y trydydd sector neu ddarparu cludiant arall, fel enghreifftiau.  Dywedodd y bu llwyddiant wrth leihau y nifer o weithiau roedd ambiwlans wedi'i hanfon a dywedodd fod yr ystafelloedd rheoli’n atal tua 2,000 o achosion y mis lle nad oedd angen ambiwlans. Cyfeiriodd hefyd at y fenter 'Dod i fy ngweld' a oedd yn cynnwys anfon y gwasanaeth GIG 'cywir' i drin claf. 

 

Gan drafod amseroedd ymateb ambiwlansiau, dywedwyd wrth yr Aelodau bod llai nag 20 galwad i’r gwasanaeth ambiwlans yn achosion brys coch. Y targed ar gyfer galwadau coch oedd 7 munud 59 eiliad, a allai gynnwys ymatebwyr cyntaf cymunedol yn cyrraedd o fewn y cyfnod hwnnw. Manteisiodd y Swyddogion ar y cyfle i bwysleisio pa mor bwysig oedd gosod diffibriliwr ar adeiladau mawr fel Neuadd y Sir, sy'n gallu achub bywydau ac sy'n costio llai na £1,000.

 

Cyfeiriodd y Swyddogion at y cynnydd o ran hyfforddi uwch-ymarferwyr parafeddygol i ddarparu sgiliau ychwanegol i’r gwasanaeth a dywedwyd bod cyllid yn cael ei sicrhau ar hyn o bryd i ddarparu uwch-ymarferydd yng ngorsaf ambiwlans Dobbshill. Dywedodd y Cynghorodd McGuill, er bod un  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Strategaeth Iechyd Meddwl Ranbarthol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:  I ystyried a chefnogi’r Strategaeth Ranbarthol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd Lesley Singleton, Pennaeth Strategaeth a Phartneriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl, i gyflwyno’r adroddiad. Cyflwynodd Lesley Singleton Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a oedd yn gynllun 5 mlynedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl a gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Cyngor, i wella gwasanaethau i ddinasyddion Gogledd Cymru. Pwysleisiodd fod y Strategaeth wedi’i datblygu gan ganolbwyntio ar ddull deilliannau'r unigolyn a dywedodd nad beth roedd pobl ei eisiau neu ei angen oedd y model traddodiadol ar gyfer Iechyd Meddwl yn y gorffennol.  Roedd y pwyslais ar gadw pobl yn eu gwely eu hunain gyda gwasanaethau o’u hamgylch a sicrhau bod cymunedau’n gallu cefnogi iechyd emosiynol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Lesley Singleton am gyflwyno'r Strategaeth a gwahoddodd unrhyw gwestiynau.

                                                                                             

Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am roi meddyginiaeth a mynegodd bryder y gallai meddyginiaeth sy’n cael ei rhoi i bobl ifanc achosi iddynt fod yn gaeth iddi yn y dyfodol. Cydnabu Lesley Singleton y pryderon a dywedodd fod angen deall pa ddeilliannau roedd pobl eu heisiau ac addasu ymyraethau ar gyfer angen unigol. Sicrhawyd yr Aelodau gan Andrew Grafton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, fod unrhyw feddyginiaeth a roddir yn cael ei chyfrif yn angenrheidiol a'i bod yn cael ei hadolygu'n rheolaidd. Dywedodd mai un o’r heriau oedd bod pobl yn chwilio am ymyrraeth ‘hud’. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gr?p o weithwyr meddygol proffesiynol hyfforddedig a’i fod yn cael ei adolygu’n briodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a ellid atgyfeirio i’r system heb fynd drwy feddyg teulu. Dywedodd nad oedd meddygon teulu wastad, o reidrwydd, yn deall anghenion unigolion ac nad oedd timau tai chwaith yn deall anghenion unigolion ar achlysuron. Cyfeiriodd Lesley Singleton at y Ganolfan Argyfwng a oedd wedi’i sefydlu yn Wrecsam a dywedodd fod BIPBC yn trafod gyda Chyngor Sir y Fflint yngl?n â sefydlu gwasanaeth tebyg yn Sir y Fflint. Cyfeiriodd at y bartneriaeth therapïau siarad PARABL a oedd ar waith ar draws Gogledd Cymru a dywedodd ei bod yn bosib' hunanatgyfeirio at y rheiny. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Healey, cadarnhaodd Lesley Singleton fod BIPBC yn edrych ar weithredu menter y ganolfan argyfwng yn Sir y Fflint am un diwrnod yr wythnos.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y stigma a oedd ynghlwm ag Iechyd Meddwl a phroblemau Iechyd Meddwl yn y gweithle. Ychwanegodd Lesley Singleton fod stigma Iechyd Meddwl yn y gweithle wedi para’n broblem ond roedd rhai enghreifftiau cadarnhaol yn dechrau datblygu. Dywedodd fod yr elusen Awyr Las yn hyrwyddo ymgyrch ‘I CAN’ ar Iechyd Meddwl i herio’r stigma ad Iechyd Meddwl, gan bwysleisio rhoi cyfle i bobl ddechrau sgwrs ‘anodd'. Dywedodd ei fod hefyd yn ymwneud â'r cyfle i gael cyflogwyr i ddechrau meddwl am Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a chefnogaeth i helpu gweithwyr i fynd yn ôl i'r gwaith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Gogledd Cymru.

15.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas: Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai diben Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau a oedd yn hyrwyddo eu lles pobl ac yn eu helpu i gyflawni eu deilliannau personol.

 

                        Trafododd y Prif Swyddog y prif ystyriaethau, fel maent wedi’u nodi yn yr adroddiad, a thynnodd sylw at y blaenoriaethau i wella a nodwyd ar gyfer 2018/19 a oedd hefyd wedi’u hamlinellu yn Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18.

 

                        Bu i'r Cynghorydd Kevin Hughes longyfarch y Prif Swyddog a’i dîm am gynnwys yr adroddiad ac am eu gwaith caled. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/18; a 

 

 (b)      Llongyfarch y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm am y gwaith a wnaed.

16.

Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2017/18 y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18.  Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar ddiwedd y flwyddyn ar flaenoriaeth ‘Cyngor Cefnogol’ Cynllun y Cyngor a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 83% o’r gweithgareddau wedi gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 74% wedi cyflawni’r canlyniad a ddymunid. Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 56% yn cyflawni neu bron a chyflawni targed y cyfnod. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (63%), mân risgiau (8%) neu’n risgiau ansylweddol (6%). 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog fod y dangosyddion perfformiad canlynol yn dangos statws coch o ran perfformiad ar hyn o bryd yn erbyn y targed ar gyfer y Pwyllgor:

 

  • Canran y cartrefi gofal wedi cyrraedd safon efydd sydd hefyd wedi cyrraedd y safon arian o ran cynnydd ar gyfer darparwyr

 

Gan gyfeirio at y dangosydd uchod, eglurodd y Prif Swyddog fod y targed wedi bod yn rhy uchelgeisiol gan fod y perfformiad gwirioneddol yn rhagorol, a’r Cyngor wedi gwneud cynnydd a oedd ar flaen y sector wrth ennill y wobr efydd mewn 10 cartref. Parhaodd i ddweud fod y dull wedi’i gynnwys ar y rhestr fer ym mis Medi 2018 yn y Gwobrau Gofal sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn.

 

  • Canran y gweithwyr sydd wedi cwblhau’r pecyn hyfforddiant e-ddysgu lefel 1 i fodloni gofynion y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cynllun gweithredu’n cael ei lunio ar gyfer pob dangosydd perfformiad a oedd â statws goch, a fyddai'n edrych yn fanwl ar y camau posib' i atal tanberfformio yn y dyfodol ac ystyried a ddylid parhau â'r dangosydd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y risgiau mawr canlynol wedi’u nodi a bod y cynnydd ar y risgiau yng Nghynllun y Cyngor wedi’i gynnwys yn atodiadau’r adroddiad.

 

  • mae llawer mwy o alw am welyau mewn cartrefi nyrsio a gofal preswyl na’r nifer sydd ar gael

 

  • nid yw gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddiogelu wedi’u datblygu’n ddigonol ym mhob portffolio

 

  • gallai methu â darparu hyfforddiant ar ddiogelu effeithio ar achosion drwy beidio â’u hadnabod yn gynnar

 

Gan gyfeirio at ddangosydd 1.4.2.1 ar dudalen 86, gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd darparu copi o’r data cenedlaethol y cyfeirir ato yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu'r wybodaeth. Dangosydd 1.5.1.2 tudalen 188.

 

Bu i’r Cadeirydd longyfarch y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a’i dîm ar y perfformiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

17.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i fynd ar ôl yr amserlen o ymweliadau rota at y dyfodol.

18.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 4 Hydref 2018. 

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cytunodd yr Hwylusydd i ysgrifennu at BIPBC ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a godwyd yn y cyfarfod.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

19.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.