Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Annibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol.    Gan y penodwyd y Cynghorydd Carol Ellis i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Carol Ellis fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Cindy Hinds y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 29 Mawrth 2018.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2018.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 7, eitem 54: Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman bod ei hymweliad â Chroes Atti wedi bod yn un cadarnhaol a gofynnodd i hynny gael ei gofnodi yn y cofnodion.

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. 

 

5.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Y Trydydd Sector pdf icon PDF 101 KB

Adolygiad blynyddol o’r gweithgaredd gofal cymdeithasol a wnaed gan y trydydd sector yn Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am adolygiad blynyddol o weithgarwch gofal cymdeithasol a gynhaliwyd gan y Trydydd Sector yn Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn manylu ar waith diweddar a gynhaliwyd i adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd drwy’r Trydydd Sector ac yn darparu trosolwg o’r ystod eang o wasanaethau a gefnogir gan y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y dull gwaith a ddefnyddir i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd ac arloesol gan gynnwys y gwasanaeth anabledd a fyddai’n cael ei gaffael dros y misoedd nesaf a’r gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu. 

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at brif ystyriaethau’r adroddiad a dywedodd bod gan Sir y Fflint sector gwirfoddol / trydydd sector ffyniannus sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau i breswylwyr Sir y Fflint.  Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi gweld datblygiad pellach mewn gwasanaethau i sicrhau bod dyletswyddau o fewn y Ddeddf yn cael eu cyflawni. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint yn sefydliad ymbarél a oedd yn cefnogi dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint a’i fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o bartneriaethau lleol a rhanbarthol. Fe gyflwynodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC, a’i gwahodd i roi trosolwg o’r gefnogaeth a ddarperir i’r Cyngor gan FLVC i brosiectau a datblygiadau.

 

Dywedodd MrsWoods bod FLVC yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Statudol a’r Trydydd Sector i hyrwyddo, cefnogi a datblygu dulliau gweithio aml-asiantaeth i ddarparu Gwasanaeth Cyhoeddus. Dosbarthodd bapur a oedd yn darparu rhai enghreifftiau o’r mentrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oedd y Cyngor ac FLVC yn cydweithio arnynt. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Cindy Hinds, dywedodd MrsWoods mai rôl yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd cysylltu â'r gymuned leol a chysylltu unigolion â gwasanaethau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd cyfeirio pobl at wasanaethau’n electronig trwy ap sy’n gysylltiedig â gwefan Sir y Fflint. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod hyn yn rhywbeth i’w ystyried. Dywedodd y Prif Swyddog (FLVC) bod gwefannau’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a DEWIS yn ddwy fenter gyfeirio ddefnyddiol. 

           

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at baragraff 1.10 yr adroddiad yn ymwneud â bwriad y Cyngor i sefydlu proses o gyd-gynhyrchu ar gyfer datblygu gwasanaeth a gofynnodd a fyddai newid i broses dendro yn arwain at golli gwasanaethau.  Esboniodd y Rheolwr Comisiynu na fyddai unrhyw wasanaethau’n cael eu colli, ond, mae’n bosibl y byddai newid yn y ffordd y darperir gwasanaethau anabledd. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hughes sylwadau hefyd am gyllid ar gyfer gwasanaethau gofalwyr a gofynnodd a oedd unrhyw sicrwydd y byddai’r cyllid a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau.  Er na allai roi sicrwydd hirdymor yngl?n â chyllid, dyweodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd unrhyw ostyngiadau pellach yn yr arfaeth i gyllid gan yr Awdurdod.   Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu y byddai cyllid gan BIPBC yn parhau am 18 mis arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion pdf icon PDF 132 KB

Ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar weithdrefn  Canmoliaeth a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar Weithdrefn Gwynion a Chanmoliaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Rhoddodd wybodaeth gefndirol a hysbysodd bod canran y cwynion gan oedolion am y gwasanaethau a dderbyniwyd wedi gostwng ers y flwyddyn flaenorol er bod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu.  Esboniodd y Prif Swyddog bod yr holl gwynion yn cael eu harchwilio a’u defnyddio i wella'r ddau wasanaeth fel rhan o broses ‘gwersi a ddysgwyd’.    Gwahoddodd y Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Cyfeiriodd y Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, sy’n ymwneud â chwynion a dderbyniwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant.  Eglurodd fod crynodeb o gwynion ar draws y ddau wasanaeth wedi eu hatodi at yr adroddiad. 

 

Cynghorodd y Swyddog Cwynion hefyd bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi derbyn 204 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn a oedd yn swm mwy na'r flwyddyn flaenorol a bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi derbyn 82 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn gan deuluoedd a'r Llysoedd.  Roedd crynodeb o’r canmoliaethau a dderbyniwyd wedi’u hatodi wrth yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog Cwynion bod ymateb i gwynion yn brydlon yn fater a fyddai’n cael ei godi eto gyda rheolwyr yng nghyfarfod mis Mai mewn ymateb i’r gostyngiad mewn amseroedd ymateb gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill bod nifer o’r cwynion yn ymwneud â’r angen am “well” cyfathrebu ag unigolion a gofynnodd sut y byddai’r Gwasanaeth yn ceisio gwella hyn.   Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd y Gwasanaeth yn hunanfodlon a dywedodd bod asiantaethau partner hefyd yn gysylltiedig â darparu gwasanaeth. Dywedodd ei fod yn cydnabod yr angen i geisio gwella dulliau cyfathrebu ag unigolion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod rhai o’r cwynion a dderbyniwyd yn ymddangos i fod yn yn gwynion lluosog gan yr un person.  Cadarnhaodd y Swyddog Cwynion nad oedd hyn yn wir.

 

Holodd y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â’r terfyn amser ar gyfer ymdrin â chwynion.  Esboniodd y Swyddog Cwynion y byddai’r rhan fwyaf yn cael eu datrys cyn pen 10 diwrnod er bod rhai cwynion yn cymryd mwy o amser i’w datrys.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Ian Smith, cytunwyd y byddai rhestr o bob acronym a ddefnyddir mewn adroddiadau i'r Pwyllgor yn cael eu darparu i Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu nad oedd unrhyw gwynion wedi cael eu derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant mewn cysylltiad ag Adolygiad Achos Difrifol.  Rhoddodd sylwadau am ddysgu oddi wrth adolygiadau diogelu rhanbarthol ac adolygiadau ymarfer plant trawsffiniol.

             

PENDERFYNWYD:

Nodi effeithiolrwydd y drefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth.

 

7.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad  llafar gan Aelodau'r Pwyllgor

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Kevin Hughes am ei ymweliad ag AROSFA. Dywedodd bod ei ymweliad wedi bod yn gadarnhaol a’i fod wedi ei blesio â safon uchel y gofal a ddarparwyd gan staff.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

 

8.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin a thynnodd sylw at yr ymweliad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gofynnodd i Aelodau anfon unrhyw gwestiynau penodol y dymunant eu codi gyda’r cynrychiolydd ati erbyn dydd Gwener 18 Mai. 

 

Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i waith.  .

 

Cytunwyd hefyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 (c)      Gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche Sir y Fflint i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u gwaith.

 

 (d)      Gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.  

 

 

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.