Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

47.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

48.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Waith gyfredol a’r broses o ran Olrhain Camau Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad ac atgoffodd aelodau nad oeddent wedi ymateb i’w neges e-bost i roi gwybod iddi a allent ddod i’r ymweliad safle / gweithdy a oedd i’w gynnal ar 13 Mawrth 2024.  Dywedodd y byddai rhagor o fanylion yn ymwneud â’r ymweliad yn cael ei ddosbarthu’n fuan.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie yn ymwneud â’r ddwy raglen drom ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hyn o ganlyniad i’r ffaith fod y cyfarfodydd a oedd i’w cynnal yn Ebrill a Mai wedi eu canslo o ganlyniad i Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a oedd yn cael ei gynnal ym mis Mai.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Waith;

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen; a

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu nad ydynt wedi’u cwblhau.

49.

Adroddiad Blynyddol ar Unigolion Cyfrifol pdf icon PDF 141 KB

Pwrpas:        Y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad y gwasanaethau darparwyr mewnol mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol ei hun fel yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint a oedd yn sicrhau fod gwasanaethau darparwyr yn bodloni’r gofynion statudol fel y nodir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 (RISCA).  Adroddodd sut roedd y gwasanaethau mewnol rheoledig a restrir isod wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf:

 

·      Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n – Marleyfield House, Llys Gwenffrwd a Croes Atti

·      Tai Gofal Ychwanegol – Llys Eleanor, Llys Jasmine, Llys Raddington, Plas Yr Ywen.

Ywen.

·      Cefnogaeth Gymunedol i Bobl H?n – ardaloedd Treffynnon, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug.

·      Seibiant tymor byr i bobl ag anableddau dysgu – Hafod a Woodlee.

·      Byw â Chymorth – 17 cartref ar hyd a lled Sir y Fflint

 

A hyd at yn ddiweddar

 

·      Gwasanaethau Plant - T? Nyth, Park Avenue a’r Cartrefi Grwpiau Bychan.  Ond o ganlyniad i faint y portffolio mae Melvin Jones wedi ei benodi fel yr Unigolyn Cyfrifol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau Darparwr Mewnol / Swyddog Cyfrifol fod staffio yn her ac ers y pandemig roedd yna 50,000 yn llai o weithwyr gofal ar draws y DU.  Dywedodd fod blaenoriaeth wedi ei roi i staffio a’u bod wedi dechrau gweld ychydig o welliant er bod y cyflog yn her o ran cadw staff.  Eglurodd fod y staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, yn arbennig os oeddent wedi cael diwrnod heriol.  Dywedodd mai un fantais i staff oedd eu bod yn gallu defnyddio un o’r 6 car trydan ar sail rota i atal traul ar eu car eu hunain a hefyd roedd yn eu galluogi i fynd i’r gwaith os oedd problem gyda’u car eu hunain. Dywedodd wrth aelodau eu bod yn ystyried cael mwy o geir yn y dyfodol. 

 

 Dywedodd fod yr 16 gwely yn Marleyfield yn welyau i bobl sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ac roedd anghenion unigolion yn cael eu hasesu yn Marleyfield House gan dîm gofal estynedig i gefnogi eu hasesiad a hefyd eu hailalluogi gan ystyried eu hanghenion yn y tymor hirach.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth gyd-destun y gair heriol yn yr adroddiad mewn perthynas â’r 16 gwely yn Marleyfield ar gyfer rhyddhau’n uniongyrchol o’r ysbyty.  Eglurodd fod ffurfio partneriaeth gydag ysbytai yn anochel yn gallu achosi pwysau gan yr ysbytai ar y rheolwr yn Marleyfield pan maent yn ymwybodol fod gwelyau ar gael. Ychwanegodd eu bod dros y misoedd diwethaf wedi bod yn gweithredu yn gyson gyda 14 i 15 o welyau’n cael eu defnyddio.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Oedolion ei bod yn heriol ar brydiau i ddod o hyd i’r bobl briodol gyda’r potensial adferol os oeddent mewn gwely ysbyty acíwt gan fod pobl yn colli sgiliau’n gyflym ac yn colli annibyniaeth.  Eglurodd fod yna sgil benodol o ran adnabod y bobl sydd â’r potensial i ddod yn ôl i’w lleoliad a gwella a nododd fod pethau wedi gwella dros y 12 mis diwethaf  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Cytundeb Cyllideb Gyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hyn pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith Gr?p Cyllideb Gyfun Gogledd Cymru i fodloni gofynion cyfreithiol a pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau cyfun rhwng llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu yr adroddiad a oedd i geisio cymeradwyaeth yn ymwneud â’r trefniadau partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws rhanbarthau a phwysigrwydd cydweithio er budd y rhai hynny sy’n derbyn gwasanaethau.  Eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Iechyd ac Awdurdodau Lleol gydweithio’n ariannol yn ogystal â’r ffaith ei fod yn cael ei yrru gan y gwasanaeth.  Yng Ngogledd Cymru fe fabwysiadwyd y ddeddfwriaeth ac ym mlwyddyn ariannol 2019/20 cytunwyd ar gyllideb gyfun ranbarthol unigol ar gyfer y 6 Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Mackie eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu fod y ddeddfwriaeth wedi dod i fodolaeth yn 2016 ond fod cyllidebau cyfun yn strwythurau cymhleth a bod angen i bob un o’r 7 partner ddod i gytundeb yngl?n â sut y gellid ei gyflawni ac roedd hynny wedi cymryd amser ac o ganlyniad fe gymrodd tan fis Gorffennaf 2019 iddo fod yn cydymffurfio, ond cafodd ei ôl-ddyddio i’r flwyddyn ariannol newydd yn Ebrill 2019 fel rhan o’r cynnig gwreiddiol.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu wrth aelodau fod cyllideb gyfun yn rhannu risgiau ariannol a gan fod yna angen i gydnabod dyhead Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio’n fwy agos gyda’r Bwrdd Iechyd, cytunwyd fod yr holl Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn rhoi’r gyllideb y byddent yn ei gwario ar ofal ac iechyd pobl h?n o fewn y farchnad gofal cartref yn y gyllideb gyfun. Dywedodd fod hyn yn bodloni gofyniad deddfwriaeth statudol a bod Llywodraeth Cymru’n hapus gyda’r trefniant. Dywedodd nad yw pawb yn rhoi’r un swm i mewn ond roedd y swm a roddir i mewn yr un fath â’r swm a ddaw allan.  Yn 2022/23 rhoddodd Sir y Fflint £10.5 miliwn i mewn.  Dywedodd fod yna gost weinyddol a rannwyd o £20,000 y flwyddyn, a dalwyd i Sir Ddinbych am gynnal y gyllideb ar ran y 6 awdurdod a’r Bwrdd Iechyd, ac roedd yn talu am y broses o adrodd yn fisol i Lywodraeth Cymru ac archwilio a chostau gweinyddol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn ymwybodol o fwriadau’r Gweision Sifil a luniodd y rheoliadau ond y dewis arall fyddai cyllideb gyfun gyflawn lle byddent i gyd yn rhoi’r hyn maent yn ei wario ar gartrefi gofal ar draws y rhanbarth i mewn gyda hynny wedyn yn cael ei gyfuno mewn un gyllideb fawr, ond roedd gormod o risgiau’n perthyn i’r dull hwnnw.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf 2014 sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; a

 

(b)         Bod yr aelodau’n cefnogi’r Cyngor i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, a fyddai’n rheoleiddio  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Diogelu Cyd-destunol pdf icon PDF 347 KB

Pwrpas:        Cynghori ar ddull Sir y Fflint o ddiogelu plant a phobl ifanc drwy Ddiogelu Cyd-destunol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Reolwr Tîm gyda’r Gwasanaeth Ymyriadau Cynnar o fewn y Gwasanaethau Plant, a oedd wedi bod yn ymwneud â datblygiad yr ymagwedd Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Sir y Fflint. Eglurodd yn gryno mai ymagwedd oedd hon yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn pobl ifanc a oedd mewn perygl o niwed teuluol ychwanegol, a oedd yn niwed y tu allan i aelwyd y teulu.

 

            Wrth ymateb i’r Cynghorydd Bateman, dywedodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar fod yr ystod oed o 10-25 o’r ymchwil gwreiddiol a wnaed ac wedi ei seilio ar ddatblygiad yr ymennydd nad oedd, eglurodd, hyd at 25 oed wedi datblygu’n llawn. Dywedodd fod y ffocws yn Sir y Fflint ar 18 oed ac y gallai fynd yn is na 10.  Cadarnhaodd fod diogelwch ar-lein yn fater cymhleth a’u bod yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Lucy Faithful sy’n cynnig cefnogaeth.  Cadarnhaodd fod y tîm ar hyn o bryd yn ei chynnwys hi ei hun o’r Gwasanaethau Plant ac asiantaethau partner eraill.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar, yr ymdrinnir ag achosion yn ymwneud â Llinellau Sirol fesul achos yn dibynnu ar lefel y risg a bod rhai unigolion yn cael eu symud allan o’r Sir i leoliad diogel a oedd yn eu galluogi i wneud yr amgylchedd yn fwy diogel ar gyfer pan fyddant yn dychwelyd a hefyd ar gyfer eraill o fewn yr ardal honno.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd y Dirprwy Reolwr Tîm, y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar fod y modd roeddent yn ymdrin â chamfanteisio yn dod o Ymchwiliad Rochdale.  Eglurodd eu bod yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru o ran diogelwch ar-lein drwy ddarparu gwybodaeth a chuddwybodaeth i’w galluogi i dargedu’r ardaloedd cywir.  Roeddent hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Ieuenctid i ddarganfod beth oedd ei angen i dynnu sylw’r bobl ifanc ac roedd eu canfyddiadau’n awgrymu nad oedd y bobl ifanc eisiau clybiau ieuenctid wedi eu trefnu, roeddent eisiau lle cynnes a diogel gyda Wi-Fi lle gallent gyfarfod eu ffrindiau. Ond yn anffodus nid oedd ganddynt yr adnoddau, ond byddent yn defnyddio’r wybodaeth i lunio sail dystiolaeth gydag ychydig o’r gwaith ar wahân a oedd yn digwydd.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r datblygiad parhaus a’r dull cydlynol yn ymwneud â diogelu cyd-destunol sy’n gwneud y mwyaf o adnoddau er mwyn galluogi ymagwedd syml ac effeithiol ar gyfer diogelu unigol a chyd-destunol.

52.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.