Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Gorffennaf 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ymatebodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd i gwestiwn y Cynghorydd McGuill yngl?n â phryd y byddai’r gweithdy i Aelodau yng Nghanolfan Westwood, Bwcle yn cael ei gynnal fel yr amlinellwyd yng nghofnodion 20 Gorffennaf 2023, drwy ei chynghori y byddai hyn yn cael ei drafod yn yr eitem nesaf.
Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023 eu cymeradwyo, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol fel y nodir yn yr adroddiad. Fe ychwanegodd bod trefniadau yn cael eu gwneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fynychu’r cyfarfod ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Dywedodd ei bod wedi derbyn rhai ymatebion da gan Aelodau mewn perthynas â’r eitemau roeddent eisiau eu trafod yn y cyfarfod hwnnw. Cynghorwyd yr Aelodau bod y gweithdy i’w gynnal yng Nghanolfan Westwood, Bwcle yn cael ei ddatblygu.
Gofynnodd y Cynghorydd Bateman os oedd yr eitem yr oedd wedi’i hawgrymu ar E-ymgynghoriadau mewn Meddygfeydd am gael ei thrafod yng nghyfarfod BIPBC. Cytunodd yr Hwylusydd y byddai’r eitem yn cael ei chynnwys ar y rhestr. Cadarnhaodd yr eitemau a oedd wedi’u derbyn hyd yma, sef:-
· Mynediad at ofal deintyddol · E-ymgynghoriadau · Gwneud apwyntiadau gyda Meddygon Teulu · Y sefyllfa bresennol o ran y Bwrdd Iechyd · Heintiau mewn ysbytai · Gwrthdaro rhwng llawdriniaethau brys a dewisol
Mewn perthynas â’r mater a godwyd gan y Cynghorydd Bateman ar E-ymgynghoriadau, argymhellodd y Cynghorydd Ellis ei bod yn trafod unrhyw gwynion gyda Mark Isherwood AS. Diolchodd y Cynghorydd Bateman iddi am ei chyngor.
Ychwanegodd y Cynghorydd McGuill at y rhestr o gwestiynau fel a ganlyn:-
· sut yr oedd y Bwrdd Iechyd yn gweithredu E-ymgynghoriadau’r System Ysbyty yn y Cartref · sut yr oeddent yn dosbarthu gwybodaeth i bobl a fyddai’n elwa o’r gwasanaeth · cyswllt i Wasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn i bobl fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad at yr offer oherwydd roedd yn anodd iawn cael mynediad ato oni bai bod cais yn cael ei wneud drwy Weithiwr Cymdeithasol
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion PDF 129 KB Ystyried yr adroddiad Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion Blynyddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndir i’r adroddiad gan nodi fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaeth a oedd yn canolbwyntio ar bobl ac yn cefnogi miloedd o drigolion Sir y Fflint, ac er bod rhai trigolion wedi croesawu’r gefnogaeth ac wedi rhoi adborth cadarnhaol, nid oedd eraill o’r un farn ac fe arweiniodd hyn at gwynion. Trosglwyddodd yr awenau i’r Swyddog Cwynion i egluro’r ystadegau.
Rhoddodd y Swyddog Cwynion ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant drosolwg cryno o’r adroddiad ar gyfer y ddau faes yn cynnwys:-
· Trosolwg o gwynion · Cam 2 (Archwiliad Annibynnol) · Ombwdsmon · Gwersi a ddysgwyd
Wrth grynhoi, dywedodd fod 212 sylw o ganmoliaeth wedi cael eu derbyn ar draws y gwasanaeth a bod nifer y cwynion wedi amrywio ond wedi parhau’n gyson.
Cytunodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad yn debyg i adroddiadau blaenorol a bod y cwynion yn cael eu trin yn briodol. Dywedodd hefyd fod pobl yn fwy tebygol o gwyno ac roedd yn falch iawn o weld fod cymaint o ganmoliaethau wedi dod i law. Cytunodd y Cynghorydd McGuill gyda’r Cynghorydd Mackie a dywedodd ei bod hithau wedi’i phlesio gyda sut yr oedd arferion yn cael eu haddasu o ganlyniad i’r cwynion a dderbyniwyd.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Linda Thomas a’i eilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n croesawu effeithiolrwydd y drefn ganmoliaethau a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth. |
|
Diweddariad C2A (i gynnwys lleoliadau ychwanegol Arosfa) PDF 115 KB Amlygu’r gwaith a wnaed o fewn y Tîm Plentyn i Oedolyn (C2A) i aelodau etholedig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion wrth yr Aelodau ei bod yn awyddus iawn i’r Tîm Plentyn i Oedolyn rannu rhywfaint o’r gwaith rhagorol yr oeddent wedi’i wneud.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant ag Anableddau ac Oedolion dan 65 oed wybodaeth gefndir i’r adroddiad am fan dechrau’r gwasanaeth, sut y gwnaethant ddysgu a datblygu’n barhaus a ble’r oeddent arni heddiw. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleuster Gweithredu dros Blant a oedd wedi cael ei gomisiynu yn Arosfa a oedd wedi’i leoli yn Yr Wyddgrug ac yn darparu gofal seibiant.
Diolchodd y Cynghorydd Mackie iddynt am yr adroddiad a oedd yn trafod ac yn egluro’r gwasanaeth ac roedd hefyd eisiau diolch i’r staff am eu gwaith. Gofynnodd pam fod y rhaniad oedran yn 14 oed ac fe gafodd wybod fod hyn oherwydd bod angen staff â sgiliau gwahanol ar gyfer yr oedran hwnnw, i gynllunio eu dyfodol mewn perthynas ag addysg bellach a chyflogaeth yn ogystal â budd-daliadau a byw â chymorth.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut yr oeddent yn helpu pobl ifanc 21-22 mlwydd oed a oedd newydd symud i’r ardal ac yn anhysbys iddynt cyn hynny. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Plant ag Anableddau ac Oedolion dan 65 oed eu bod yn eu hatgyfeirio at Wasanaethau Oedolion oherwydd bod y tîm Un Pwynt Mynediad yn derbyn ymholiadau ac yn casglu gwybodaeth, ac yn defnyddio’r wybodaeth honno i drosglwyddo’r unigolyn at y tîm priodol. Cadarnhaodd y byddai gofal seibiant hefyd yn cael ei ddarparu os oedd angen (ond nid yng nghyfleuster Arosfa oherwydd ei fod ond wedi cofrestru i ddarparu gwasanaethau i unigolion hyd at 18 oed) ond roedd dau gartref gofal tymor byr i oedolion yn Sir y Fflint. Ychwanegodd fod taliadau uniongyrchol am ofal seibiant, lle’r oedd pobl yn gallu talu ffrind i’r teulu neu berthynas i ofalu ar yr unigolyn i roi seibiant i’r teulu, hefyd yn opsiwn.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Aelodau yn cael eu hysbysu yngl?n â’r gwaith a wnaed o fewn y Tîm C2A;
(b) Bod Aelodau yn cael eu hysbysu yngl?n â darparu seibiant yn Arosfa yn yr Wyddgrug; a
(c) Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor i staff y Gwasanaeth C2A yn eu llongyfarch ac yn diolch iddynt am yr holl waith a wnaed gan y Tîm. |
|
Blaenoriaethau’r Cynllun Cyfalaf Strategol PDF 108 KB Sicrhau bod yr aelodau’n gefnogol i’r cynlluniau sydd wedi’u blaenoriaethu, a fydd yn cael eu cyflwyno gydag achosion busnes i Lywodraeth Cymru (LlC) i’w hystyried am gyllid cyfalaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndir i’r adroddiad gan nodi bod y chwe rhanbarth yng Nghymru wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd i grynhoi’r datblygiad allweddol sy’n ofynnol gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol gyda budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chymunedol, yn benodol lle fyddai angen cyllid LlC i gefnogi’r datblygiadau hynny. Roedd yn rhaid i bob rhanbarth gael Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle’r oedd arweinwyr strategol mewn gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn dod at ei gilydd i greu gwasanaeth effeithiol ar gyfer y bobl yn y rhanbarth hwnnw. Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fyddai’n gyfrifol am oruchwylio gweithrediad y cynllun. Eglurodd fod y rhaglenni ariannu newydd wedi cael eu sefydlu a bod yr adroddiad hwn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 10 mlynedd a sut y byddai’n cael ei symud yn ei flaen. Trosglwyddodd yr awenau i’r Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol i egluro sut yr oeddent yn sicrhau bod y datblygiadau cyfalaf yn cyd-fynd, yn cefnogi ac yn diwallu anghenion trigolion Sir y Fflint.
Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol ymddiheuriadau ar ran awdur yr adroddiad, sef Swyddog Arweiniol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn Sir y Fflint. Eglurodd fod y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol wedi disodli’r Gronfa Gofal Integredig yn 2022 a’i bod yn cynnwys elfennau o gyllid refeniw a chyllid cyfalaf. Atgoffodd yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad hwn oedd i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y broses newydd i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer datblygiadau cyfalaf a oedd yn diwallu anghenion y rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gogledd Cymru a oedd yn seiliedig ar y cyllid o’r cronfeydd cyfalaf canlynol:-
· Y Gronfa Tai â Gofal - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn cynyddu’r stoc dai i ddiwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth. · Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn darparu canolbwyntiau cymunedol a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig neu’n ailgydbwyso’r farchnad ofal drwy fuddsoddi mewn lleoliadau cymunedol ac eiddo gofal preswyl.
Eglurodd mai nid ceisio cytundeb ar gyfer datblygiad neu gyllid cyfalaf oedd bwriad yr adroddiad ond i Aelodau gael deall y broses newydd a’r gofyniad i ddatblygu cynllun 10 mlynedd. Dywedodd fod y cynlluniau o Sir y Fflint a oedd wedi cael eu nodi i’w cynnwys yn y cynllun eisoes wedi cael eu cymeradwyo ac yn rhan o’r rhaglen asedau cyfalaf.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Christine Jones wrth y Cynghorydd Woolley, fel y nodwyd yn yr adroddiad, nad oedd hyn wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac y byddai trafodaethau heddiw yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.
Mynegodd y Cynghorydd Mackie bryderon ac fe ofynnodd am eglurhad ynghylch y Cynllun Rhanbarthol a’i fod yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a’r broses gymhleth yr oedd angen ei dilyn i gyflwyno Prosiectau Cyfalaf yn seiliedig ar ... view the full Cofnodion text for item 23. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |