Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y Cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyd-gyfarfod a gynhaliwyd gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin 2021. Cymeradwywyd y cofnodion a’u cynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Cyllideb 2022/23 - Cam 2 PDF 110 KB Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn rhoi sylwadau ar bwysau ariannol y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r strategaeth gyllideb gyffredinol ac yn cynghori ar unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost yr hoffai eu harchwilio ymhellach Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.
Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym Mehefin yn darparu’r sefyllfa ddiwygiedig ar y gyllideb ar gyfer 2022/23. Cafodd y pwysau o ran costau a nodwyd eu hatgyfeirio ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod oll yn cyflawni adolygiad trylwyr. Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Darparodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu), Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu ac Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, gyflwyniad ar y cyd a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y Pwysau Gwasanaethau Cymdeithasol (1) mewn perthynas â Chartref Gofal Preswyl i Blant ac awgrymodd, gan fod y Pwyllgor wedi cytuno ar y swm hwn y llynedd, y dylai’r Pwyllgor gytuno ar y pwysau eleni.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y newidiadau a gyhoeddwyd mewn perthynas ag Yswiriant Gwladol ac y byddai’r costau yn effeithio ar y Cyngor fel cyflogwr, a hefyd ar y sector preifat, ac y byddai’n cael goblygiadau ar gyllido’r sector preifat wrth symud ymlaen. Cytunodd y Prif Weithredwr ac amlinellodd sefyllfa’r Cyngor. Dywedodd fod hyn wedi cael ei uwchgyfeirio i Weinidogion a disgwylir y bydd cyrff sector cyhoeddus allweddol sy’n comisiynu a darparu gofal cymdeithasol yn cael ychwanegiadau er mwyn ysgwyddo eu costau Yswiriant Cenedlaethol eu hunain. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi rhoi achos ymlaen i Weinidogion gyda’r golwg y bydd darparwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael eu heithrio rhag cyfradd cyflogwyr Yswiriant Gwladol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at y pwysau o £1.952 miliwn o dan Gomisiynu Gofal Cymdeithasol a theimlai nad oedd hyn yn adlewyrchu’r prinder a phwysau cyfredol mewn perthynas â recriwtio staff - gyda phwysau o bosibl yn llawer uwch na £1.952 miliwn. Gofynnodd faint o gyllid oedd wedi cael ei neilltuo yn y SACT i fodloni’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ a chostau ychwanegol darparwyr gofal, a faint o gymorth oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC). Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr fod llythyr gan chwe arweinydd y Cyngor yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth yr Heddlu, Ambiwlans, Iechyd a phartneriaid eraill, yn cael ei gyflwyno i LlC gyda gofyniad wedi ei gostio o amgylch y materion a godwyd er mwyn lleihau’r pwysau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dyfodol pwysau busnes mewn perthynas â Chartrefi Gr?p Gwasanaethau Plant, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod achos busnes wedi cael ei ddatblygu ... view the full Cofnodion text for item 35. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.32am)
|
|
Attendance and Apologies Dogfennau ychwanegol: |