Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn y Cyfarfod Blynyddol, bydd y Cyngor yn penderfynu pa Gr?p fydd yn cadeirio’r Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cael gwybod am Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol a bod y Cynghorydd Hilary McGuill wedi’i phenodi i’r swydd hon am y flwyddyn ddinesig.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad Cynghorydd McGuill fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENODI IS-GADEIRYDD
Enwebwyd y Cynghorydd Gladys Healy gan y Cynghorydd Cindy Hinds yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn. Nid oedd rhagor o enwebiadau. Yn dilyn pleidlais, derbyniwyd yr enwebiad.
PENDERFYNWYD:
Fod Cynghorydd Gladys Healy i’w phenodi’n Is-Gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Mawrth 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021.
Cynigiwyd fod y cofnodion yn gywir gan y Cynghorydd Gladys Healey ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir i’w llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen gyfredol o Waith i’r dyfodol. Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yn y cyfarfodydd oedd i’w cynnal ar 17 Mehefin ac 1 Gorffennaf 2021, a dywedodd y byddai’r eitemau ar Asesu Dwys a Chymorth Therapiwtig, a’r Prosiect Therapi Aml-Systemig i’w trafod yn y cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin, yn cael eu cyfuno mewn un adroddiad.
Adroddodd yr Hwylusydd y byddai’r Rhaglen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r rhestr cyfarfodydd ar gyfer 2021/22 a gafodd ei chymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 25 Mai.
Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cadeirydd wedi awgrymu gwahodd Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfarfod o’r Pwyllgor cyn mis Medi. Roedd y Pwyllgor o blaid hyn.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad olrhain gweithredu a oedd wedi’i atodi wrth yr adroddiad a dywedodd fod y gweithredoedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr aelodau i godi unrhyw eitemau y dymunent eu gweld ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.
Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis bryderon am yr anhawster presennol mewn cael apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda Meddygon Teulu a soniodd am y problemau y mae preswylwyr lleol yn eu cael gyda’r broblem hon. Gofynnodd am gael cynnwys eitem ar hyn ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol i gael trafodaeth. Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod llythyr yn cael ei ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i BIPBC at sylw Rob Smith a Gareth Bowdler a bod hyn hefyd yn cael ei godi gyda Phrif Weithredwr BIPBC pan fydd hi’n dod i gyfarfod o’r Pwyllgor.
Mynegodd y Cynghorydd Cindy Hinds bryderon am y diffyg cefnogaeth sydd ar gael i breswylwyr sy’n dioddef symptomau Covid hir. Awgrymodd y Cadeirydd godi hyn hefyd gyda BIPBC yn dilyn y cyfarfod.
Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel mae’r angen yn codi; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gwblhau’r gweithredoedd oedd yn weddill
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr PDF 93 KB Ystyried yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyn cyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog (Gwas. Cymdeithasol) adborth llafar anffurfiol ar ganlyniad adolygiad sicrwydd Arolygiaeth Comisiynu Cymru a gynhaliwyd yn yr wythnos yn dechrau 19 Ebrill. Dywedodd fod yr adborth a gafwyd gan y Comisiwn hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ac yn adlewyrchu sawl elfen o arfer da iawn yn Sir y Fflint. Teimlai’r Arolygiaeth yn fodlon fod pobl fregus (plant ac oedolion) a’u teuluoedd yn cael cefnogaeth dda yn Sir y Fflint ac yn ystod Covid, rhoddwyd lefel dda o gefnogaeth yn gorfforaethol ac o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd rhai llefydd i wella wedi’u nodi ac roedd cynllun gweithredu wedi’i gychwyn mewn ymateb. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r Arolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.
Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod drafft o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 a Blaenoriaethau 2021/22 ynghlwm fel Atodiad 2. Talodd y Prif Swyddog deyrnged i waith a chyfraniad y gweithwyr allweddol ar bob lefel wrth helpu pobl fregus drwy bandemig Covid-19 a soniodd am arloesedd, llwyddiant, ac ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol mewn nifer o feysydd.
Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd y Rheolwr Comisiynu sylw at y blaenoriaethau gwelliant a nodwyd ar gyfer 2021/22 sydd yn adran 1.11 o’r adroddiad eglurhaol. Ategodd y sylwadau a fynegwyd gan y Prif Swyddog o ran heriau’r pandemig a dywedodd, er hynny, fod prosiectau a chynlluniau wedi parhau o ddifri er gwaetha’r cyfyngiadau ac roedd ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau wedi cael eu datblygu.
Llongyfarchodd y Cadeirydd y Prif Swyddog a’i dîm, a phawb oedd yn rhan o ganlyniad adolygiad yr Arolygiaeth. Llongyfarchodd y Swyddogion hefyd ar safon uchel yr adroddiad ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar effaith Covid-19 ar ddarparu micro-ofal, eglurodd y Rheolwr Comisiynu, oherwydd y pandemig bu mwy o ddiddordeb ac o ganlyniad i ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth ar-lein, roedd 19 o gyrff micro-ofal wedi’u sefydlu erbyn hyn a oedd yn cynnig opsiwn arall yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol.
Siaradodd yr aelodau i gefnogi’r adroddiad a llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i weithlu ar ddarpariaeth arloesol o safon uchel y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint. Mynegodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei ddiolch i’r Cyngor am gymorth parhaus Double-Click.
Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at nifer o wallau teipograffyddol ar yr adroddiad drafft. Gofynnodd hefyd am roi ystyriaeth i fformatio’r adroddiad fel ei fod yn hawdd ei gyrchu ar ddyfeisiau electronig.
Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Mike Lowe ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod yr Adroddiad Blynyddol drafft yn cael ei nodi; a
(b) Bod yr Adroddiad Blynyddol terfynol yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf, 2021.
|
|
Ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru – Ailgydbwyso Gofal a Chymorth PDF 121 KB Roedd y ddogfen ymgynghori yn gofyn am farn am gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r weledigaeth sydd wedi’i nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen chymorth.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i ystyried y Papur Gwyn; nodi’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan Sir y Fflint; a chymeradwyo’r adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chrynodeb byr o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Comisiynu drosolwg o’r Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth a’r achos dros newid. Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau y manylir arnynt yn yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn cytuno fod angen newid pellach a bod angen ymrwymiad i adnoddau a chyllid ar gyfer strwythurau newydd er mwyn creu effaith ar lefel leol. Cytunodd y Cyngor hefyd fod angen buddsoddiad cynaliadwy mawr mewn gofal cymdeithasol o safbwynt refeniw a chyfalaf, a dywedodd nad oedd y model cyllid presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â’r galwadau cynyddol ar ofal cymdeithasol yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Comisiynu hefyd fod angen i’r Papur Gwyn ganolbwyntio ar sicrhau fod y gweithlu’n cael ei dalu’n deg drwyddi draw. Dywedodd na fu ateb eto gan Lywodraeth Cymru i ymateb y Cyngor ar y ddogfen ymgynghori.
Mynegwyd pryderon gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Paul Cunningham am y cynigion yn y Papur Gwyn a phwysleisiwyd yr angen am gyllid ychwanegol ar lefel leol.
Cynigiwyd derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.
PENDERFYNWYD:
Fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad ac yn nodi’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan Sir y Fflint, fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru PDF 107 KB Derbyn adroddiad ar gynnydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Plant yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar weithgareddau a datblygiad Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) am y cyfnod Ebrill 2020-Mawrth 2021. Rhoddodd sylwadau ar effaith COVID 19 dywedodd serch hynny fod GMGC yn cyrraedd ei dargedau ac yn dangos lefel uchel o berfformiad.
Adroddodd y Rheolwr Adnoddau Plant ar y prif ystyriaethau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at farchnata a recriwtio, hyfforddiant, darpar fabwysiadwyr mewn asesiad, plant yn barod i’w mabwysiadu, y panel mabwysiadu, staffio, a’r gwasanaethu cymorth ar ôl mabwysiadu. Adroddodd fod Adroddiad Terfynol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru - Gwerthuso’r Fframwaith Cymorth Mabwysiadu, Chwefror 2021, wedi’i atodi wrth yr adroddiad. Yn fras, dywedodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod GMGC yn gwneud cynnydd sylweddol ac yn cyflwyno gwasanaethau cadarn, prydlon o ansawdd uchel ar lefel leol yn y gwasanaeth mabwysiadu.
Siaradodd yr aelodau i gefnogi gwaith GMGC a diolchwyd i’r Rheolwr Adnoddau Plant am ei waith caled ac am adroddiad cynhwysfawr.
Roedd gan y Cynghorydd Dave Mackie bryderon am yr effaith y mae’r trosiant mewn gweithwyr cymdeithasol yn ei chael ar blant a phobl ifanc mabwysiedig, rhieni mabwysiadol, a gofalwyr maeth, a soniodd am effaith diffyg dilyniant. Gan gyfeirio at dudalen 255 yr adroddiad, gofynnodd y Cynghorydd Mackie gwestiwn am y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc mabwysiedig mewn ysgolion a cholegau. Eglurodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod anghenion ychwanegol plant a phobl ifanc mabwysiedig yn cael eu deall a dywedodd fod ysgolion yn cael gwybod am gefndir a ‘siwrnai’r plentyn. Rhoddodd sicrwydd fod gwaith cydweithredol yn digwydd gydag ysgolion i roi cymorth parhaus i’r plentyn/person ifanc mabwysiedig a dywedodd nad oedd unrhyw bryderon sylweddol wedi’u codi gan ysgolion yn Sir y Fflint am ymddygiad plant neu bobl ifanc oedd wedi cael eu mabwysiadu. Ymatebodd y Rheolwr Adnoddau Plant yn ogystal i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am wasanaethau cymorth ar ôl mabwysiadu a dywedodd fod y gwaith o amgylch y materion cymhleth hyn yn parhau i wella ac yn cael ei wreiddio mewn arferion dydd i ddydd.
Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am drosiant staff, soniodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, am her recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol ac eglurodd fod Gogledd Cymru wedi sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i edrych ar sut i ddenu a chadw gweithwyr cymdeithasol yn y Gwasanaethau Plant. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gwrdd â gweithwyr cymdeithasol i drafod y ffordd orau o gefnogi eu hanghenion, eu gyrfa broffesiynol a’u lles gyda’r awdurdodau lleol. Dywedodd fod gwaith lleol wedi digwydd hefyd i ehangu’r cyfleoedd gyrfa a’r strwythur i weithwyr cymdeithasol.
Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Dave Mackie, awgrymodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu, ofyn i bobl ifanc drafod yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw mewn cyfarfod o’r Fforwm Gwasanaethau Plant, a dod yn ôl â’u hymatebion i’r Pwyllgor eu hystyried.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Darparu manylion y model gwasanaeth newydd a’r gwahaniaeth a fydd yn ei gael i blant a phobl ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi manylion am y model gwasanaeth newydd. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd y byddai’r gwasanaeth newydd yn cynnig cefnogaeth i bump o blant a’i fod yn rhan o gynllun strategol y Cyngor i leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i’r sir. Gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â’r cyfleuster i gael gweld y gwaith adnewyddu a wnaed (yn amodol ar ofynion Covid). Gofynnodd yr Uwch Reolwr i’r Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Adferiad a Dilyniant roi gwybodaeth bellach am y model gofal a’r trefniadau rhannu’r gofal yn Arosfa.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu trosolwg a dywedwyd fod yr adroddiad yn ysbrydoledig. Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Plant fod yr awyrgylch yn y cyfleuster yn gynnes, cartrefol a gofalgar, a bod anghenion y plentyn yn cael y lle blaenaf.
Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie ei gefnogaeth i’r gwasanaeth ychwanegol a dywedodd fod y cyfle i leihau dibyniaeth ar wasanaethau drud y tu allan i’r sir i’w groesawu, ynghyd â’r potensial i gael mwy o lefydd i gynnig darpariaeth seibiant i helpu plant a’u teuluoedd yn Sir y Fflint.
Cynigiwyd derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Wisinger ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
Fod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed yn Arosfa, ac yn cefnogi’r cyfle i gynnig cefnogaeth hyblyg ychwanegol i hyd at bump o blant a’u teuluoedd, ar unrhyw un adeg, gyda’r nod o gadw teuluoedd gyda’i gilydd ac yn agos at gartref.
|
|
Datblygu Gofal Preswyl Mewnol ar gyfer Plant PDF 118 KB Cefnogi’r symudiad i ddod yn ddarparwr uniongyrchol o Ofal Preswyl ar gyfer Plant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) adroddiad i gefnogi’r cynnig i’r Cyngor fod yn ddarparwr uniongyrchol o ofal preswyl i blant. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd ei bod yn bwysig fod datblygu Cartref Gofal Plant preswyl mewnol yn cael ei weld fel rhan o agwedd system gyfan at gefnogi plant a phobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys nifer o brosiectau ategol a oedd wedi’u hanelu at ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal a chefnogi mwy o blant drwy faethu gan yr awdurdod lleol, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y Cyngor yn dibynnu ar y sector annibynnol i ddarparu Gofal Preswyl i Blant a bod hynny’n ddrud ac yn anghynaladwy. Roedd y lleoliadau’n aml y tu allan i’r ardal oedd yn golygu fod plant yn cael eu lleoli i ffwrdd o’u teuluoedd, eu ffrindiau, a’u cymunedau lleol. Er mwyn sicrhau newid, roedd y Cyngor wedi gosod ymrwymiad yn ystod y tair blynedd ariannol nesaf i adolygu’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc gyda golwg ar leihau ac o bosibl cael gwared ar yr angen am leoliadau y tu allan i’r sir. Roedd yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau Tai ac Addysg y Cyngor, a’r Gwasanaeth Iechyd i alluogi plant i gael gofal yn lleol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd rhoddodd yr Uwch Reolwr eglurder am y costau ariannol sy’n gysylltiedig â darpariaeth Cartref i Gr?p Bychan a chyfeiriodd at gostau refeniw a chyfalaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey dywedodd yr Uwch Reolwr nad oedd gan y Cyngor gyfrifoldeb rhianta corfforaethol dros blant o Gyngor Bwrdeistref Wrecsam. Eglurodd fod cytundeb cyfreithiol yn cael ei ddrafftio i alluogi Cyngor Bwrdeistref Wrecsam fel partner i wneud cyfraniad priodol at gost darparu gofal.
Roedd yr Aelodau’n gryf o blaid y cynlluniau rhagweithiol a gynigiwyd a diolchwyd i’r Swyddogion am eu gwaith. Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r symudiad i fod yn ddarparwr uniongyrchol o Ofal Preswyl i Blant; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r prosiectau blaenoriaeth ar gyfer datblygiadau mewnol; Arosfa, T? Nyth, Darpariaeth Argyfwng a Chartrefi Gr?p Bychan, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sir y Fflint PDF 138 KB Tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd meddwl a’r effaith y mae Covid 19 yn ei gael ar iechyd meddwl y boblogaeth leol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethu Integredig ac Arweinydd Oedolion; adroddiad i dynnu sylw at yr heriau a wynebwyd yn y Gwasanaethu Iechyd Meddwl ac effaith Covid-19 ar iechyd meddwl y boblogaeth leol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd fod ymarferwyr lleol, ar draws y timau iechyd meddwl amlddisgyblaethol yn Sir y Fflint, mewn iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol wedi gweithio’n gydweithredol. Gyda’r gwaith hwn ochr yn ochr â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Drawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, roedd cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau yn lleol a oedd yn ataliol, ac yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a chydnerthu cymunedol a ddylai arwain at well deilliannau i’r boblogaeth leol a lleihau’r angen am wasanaethau statudol.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Adferiad a Dilyniant y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar wasanaethau iechyd meddwl yn Sir y Fflint mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid lleol y trydydd sector. Dywedodd fod gwybodaeth ychwanegol ar y gwasanaethau sy’n helpu iechyd meddwl a lles ynghlwm wrth yr adroddiad fel atodiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am adroddiad cynhwysfawr ac awgrymodd fod yr wybodaeth ychwanegol a atodwyd at yr adroddiad yn cael ei chynnwys ar wefan y Cyngor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Cytunwyd hefyd anfon copi o’r llawlyfr hyfforddiant Dysgu Er Adferiad a Lles yn Sir y Fflint a dolen i wefan y rhaglen Les i holl Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn gefnogol i’r gwasanaethau niferus yn yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i helpu pobl i gael mynediad at yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham hefyd yn canmol yr agwedd ragweithiol a’r cynlluniau a roddwyd ar waith gan y Cyngor i hybu materion iechyd a lles meddyliol a diolchodd i’r Swyddogion am eu gwaith.
Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am broblem iechyd meddwl a gorbryder ymhlith pobl ifanc ac oedolion a holodd faint o seiciatryddion a seicolegwyr oedd ar gael yn Sir y Fflint. Ymatebodd yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion; i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Healey ac eglurodd fod rhestr aros am seicoleg, a chyfeiriodd at recriwtio, cyllid newydd i iechyd meddwl, ac asesiad newydd o anghenion a fyddai’n dangos yr angen am fwy o gyllid a chefnogaeth i iechyd meddwl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Anabledd Adferiad a Dilyniant fod tri thîm iechyd cymunedol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion gyda seiciatryddion a seicolegwyr ym mhob tîm ac eglurodd fod y galw ar y gwasanaethau yn uchel iawn. Roedd seiciatryddion a seicolegwyr i blant wedi’u lleoli yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a hefyd Darpariaeth Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru.
Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Gladys Healey, cytunwyd ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai cyfran o’r cyllid ychwanegol a ddarperir i Fyrddau Iechyd ar draws Cymru yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ac ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd aelodau i’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 12.30 pm) |