Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

31.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

32.

Cofnodion pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 21 Ionawr 2021..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021. 

 

Cywirdeb

Tudalen 7: Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at wall teipograffyddol yn y trydydd paragraff (yn y cofnodion Saesneg) a dywedodd y dylai’r gair “crease” fod yn “increase”.  

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’u heilio gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.

           

33.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol.Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf a chyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.Fe dynnodd sylw at y Seminar i Bob Aelod i drafod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a fydd yn cael ei gynnal ar 22 Mawrth am 2.00pm, ac at yr eitemau pellach sydd wedi’u trefnu ar gyfer y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o fis Medi 2021. 

 

Fe gyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad olrhain camau gweithredu sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.Dywedodd ei bod dal yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r llythyr ar y cyd a anfonwyd gan Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn ymwneud ag addysgu o gartref. Dywedodd bod pob cam gweithredu wedi cael eu cwblhau a rhoddodd ddiweddariad am gynnydd cais y Pwyllgor ar gyfer adroddiad am wahaniaethu ar sail anabledd a fydd yn cael ei gyflwyno i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.  

Gwahoddodd aelodau i godi unrhyw eitemau roeddynt yn dymuno i gael eu cynnwys ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod eitem am wasanaeth prydau bwyd ysbyty yn cael ei drefnu.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod Aelod wedi cael ei enwebu i gynrychioli’r Cyngor ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

           

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill

 

 

34.

Mockingbird – y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen pdf icon PDF 255 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr – Plant a Gweithlu adroddiad i roi trosolwg o weithredu Mockingbird. Fe soniodd am uchelgais y Cyngor i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn lleol a darparu gwasanaeth maethu effeithiol i blant a gofalwyr maeth. Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd Steph Martin, Swyddog Cyswllt Mockingbird, i roi’r newyddion diweddaraf am Brosiect Maethu Mockingbird.

 

Dywedodd y Swyddog Cyswllt bod y Cyngor wedi lansio ei glwstwr Mockingbird cyntaf yn Sir y Fflint ym mis Ionawr 2021 (yr enw a roddir i bob gr?p sy’n cynnwys rhwng 6-10 teulu maeth sy’n cael eu cefnogi gan un gofalwr maeth profiadol neu ofalwr Hwb).Fe soniodd am y cynnydd cadarnhaol sydd wedi’i wneud a dywedodd bod plant yn y grwpiau yn meithrin perthnasau da ac yn gallu cael gafael ar raglenni cymunedol.Fe lansiwyd ail glwstwr ym mis Chwefror 2021 sydd â 5 teulu lloeren, 8 o blant sy’n derbyn gofal, 10 o blant biolegol 2 o blant yn ‘Pan rwy’n barod’. Dywedodd sut mae’r gwasanaeth yn cael ei ehangu trwy’r anogaeth a chefnogaeth sy’n cael ei ddarparu gan ofalwyr maeth profiadol i ofalwyr maeth newydd. Uchelgais y Cyngor yw bod clwstwr Mockingbird arall yn cael ei ffurfio yn 2021 ynghyd ag ymgyrch ddwys i recriwtio rhagor o ofalwyr maeth cyffredinol.   

 

Fe soniodd y Swyddog Cyswllt am effaith pandemig Covid-19 ar brosiect Mockingbird a’r gymuned faethu ond dywedodd eu bod wedi aros ar y trywydd iawn er mwyn ei ddatblygu a’i weithredu.Gan gyfeirio at fenthyciad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhaglenni cymdeithasol arloesol dywedodd bod LlC wedi cytuno i ymestyn y cyfnod i ad-dalu’r benthyciad yn sgil cyfyngiadau parhaus Covid yn dilyn ymgynghoriad.Fel rhan o drefniant y benthyciad fe eglurodd y Swyddog Cyswllt y bu cytundeb i oedi cam gwerthusiad allanol Mockingbird yn Sir y Fflint o 12 mis er mwyn galluogi’r gwerthusiad i ymdrin â’r cyfnod pan roedd y prosiect yn gwbl weithredol.

 

Fe soniodd yr Aelodau am safon uchel yr adroddiad gan ddweud eu bod yn cefnogi’r Prosiect gan longyfarch y swyddogion am eu gwaith.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cadeirydd fe eglurodd y Swyddog Cyswllt beth oedd y gwaith cynllunio a gweithgareddau i feithrin perthnasau ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd o fewn y clystyrau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Carol Ellis a oedd modd darparu ychydig o senarios yn y dyfodol i ddangos sut roedd rhaglen Mockingbird yn gwella’r gwasanaeth gofal maeth. 

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi gweithrediad clystyrau un a dau a bod clwstwr rhif tri yn cael ei sefydlu yn hydref 2021; a

 

 (b)      Bod effeithiolrwydd y model o ran dadansoddiad cost a budd cymdeithasol yn cael ei nodi.

 

 

35.

Diweddariad Arosfa pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr – Plant a’r Gweithlu adroddiad i roi diweddariad am ailwampio Arosfa.Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod adain o’r adeilad nad yw’n cael ei ddefnyddio wedi cael ei ailwampio i ddarparu dau le ychwanegol ar gyfer gwelyau.Dywedodd bod y gwaith adeiladu wedi cael ei gwblhau ac roedd y gwaith addurno mewnol yn mynd rhagddo.Mae Gweithredu dros Blant yn gweithio i ymestyn capasiti staff a sicrhau’r gymeradwyaeth ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru i ymestyn y gwasanaeth.Dywedodd bod asesiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adnabod y plant/teuluoedd a fyddai’n elwa fwyaf o’r ddarpariaeth a’r model cefnogi cysylltiedig.Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud o safon uchel ac wedi’i ddylunio i fodloni anghenion cymhleth plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham am leoliadau y tu allan i’r sir, fe eglurodd yr Uwch-reolwr y gallai cefnogaeth briodol ac amserol helpu teuluoedd i aros gyda’u gilydd a lleihau’r perygl bod y teulu’n chwalu.  Roedd y Gwasanaeth yn ceisio adnabod y teuluoedd hynny lle byddai cefnogaeth o’r fath yn helpu i osgoi lleoliadau y tu allan i’r sir. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Mike Lowe a’i eilio gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r gwaith ailwampio sydd wedi cael ei gyflawni a chefnogi’r cynnydd i gam nesaf modelu’r gwasanaeth ac agor y ddarpariaeth pan fydd yr amodau rheoleiddio priodol wedi cael eu bodloni.

 

 

36.

Strategaeth Dementia Gogledd Cymru a Strategaeth Lleol Sir y Fflint pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf am ddatblygu strategaeth ar gyfer gwasanaeth gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia yn Sir y Fflint. Rhoddodd drosolwg o’r gefnogaeth a gweithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal yn Sir y Fflint i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.Fe soniodd hefyd am y gwaith cydweithio, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant y mae’r Cyngor wedi’i wneud gyda sefydliadau, busnesau, eglwysi, ysgolion, cartrefi gofal a nyrsio lleol.Fe soniodd yr Aelod Cabinet am heriau pandemig Covid-19 a dywedodd bod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ac o gadw cysylltiad wedi cael eu croesawu er mwyn sicrhau nad yw pobl a’u gofalwyr yn cael eu hynysu ac yn parhau i gael eu cynnwys a derbyn gofal a chefnogaeth.  

 

Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at y strategaeth dementia rhanbarthol a chynllun gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a dywedodd mai’r bwriad oedd cynnwys rhai elfennau o’r strategaethau hynny mewn i’r cynllun gweithredu lleol ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd y byddai cyllid y cynllun gweithredu dementia oedd yn rhan o raglen Cronfa Gofal Integredig yn parhau.Fe gyflwynodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth a gyflwynodd yr adroddiad.

 

Fe soniodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth am ddyfodol a blaenoriaethau wrth symud ymlaen, cychwyn prosiectau a syniadau newydd, cyfle ar gyfer strategaeth rhanbarthol a rhannu arfer orau gydag awdurdodau eraill. Dywedodd bod y Cyngor yn ymrwymedig i gael ei strategaeth dementia ei hun ar gyfer Sir y Fflint a dywedodd y byddai’r blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u diweddaru a’u gosod gan weithwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd proffesiynol, pobl oedd â phrofiad o ddementia, a grwpiau cymunedol, a sefydliadau trydydd sector. Fe soniodd am y prif themâu yn y Strategaeth Rhanbarthol, sef iechyd a chymuned oedd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol (fel y manylir yn yr adroddiad).  

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arweiniol hefyd at y prif flaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Dementia Sir y Fflint oedd i’w gweld ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.Dywedodd bod y Strategaeth yn ei ffurf drafft ar hyn o bryd a bod ymgynghori a chydweithio wedi digwydd gyda budd-ddeiliaid allweddol.Byddai’r Strategaeth gyflawn yn cael ei dilysu gyda Gr?p Llywio Strategaeth Dementia Rhanbarthol ym mis Mawrth 2021 er mwyn ei chyhoeddi a gweithredu’r prif gamau gweithredu o fis Ebrill 2021.

 

Fe soniodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion am flaenoriaeth newydd sydd yn ymwneud â chefnogaeth min nos ar gyfer gofalwyr sy’n edrych ar ôl pobl gyda dementia, y gofal estynedig, a’r gefnogaeth ar gyfer gofal diwedd oes.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cadeirydd yngl?n â dryswch y gallai rhywun gyda dementia ei gael oherwydd y nifer uchel o weithwyr gofal sydd yn rhan o’u gofal, fe eglurodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod y Cyngor ac asiantaethau eraill wedi cyflwyno mesurau i helpu i feithrin perthynas rhwng y defnyddiwr gwasanaeth, eu gofalwr a’r gweithiwr gofal.Fe gyfeiriodd at ddefnyddio lluniau o weithwyr gofal a  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi cipolwg ar y cynllunio adferiad ar gyfer meysydd portffolio’r Pwyllgor. Cafodd diweddariad am gofrestr risg y portffolio a chamau i liniaru risg eu atodi i’r adroddiad.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn sgil y pandemig wedi gwella’n ddiweddar. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau fel y manylir ym mharagraff 1.05 yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gofrestr risg sydd wedi’i atodi i’r adroddiad hwn. Gan gyfeirio at risg SS01 yngl?n â gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir, fe soniodd am y cymhlethdodau sy’n rhan ohono.Gan gyfeirio at risg SS11 sy’n ymwneud ag amharodrwydd i fodloni anghenion cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, dywedodd fod y gwasanaeth wedi gwella llawer ac roedd swyddogion wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ddatrysiadau cyflym ac ymatebol i’r broblem.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod nifer o wasanaethau wedi cael eu cynnal trwy gydol y pandemig ac fe soniodd am enghreifftiau o wasanaethau diogelu, gwasanaethau ar gyfer plant diamddiffyn a phlant sy’n derbyn gofal, gwasanaethau plant, Mockingbird, datblygu DMST, datblygu Marleyfield, a gwasanaethau iechyd meddwl. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a gofynnodd bod diolch y Pwyllgor yn cael ei basio i’w dîm am eu gwaith caled ac ymroddiad trwy gydol y pandemig.

 

Gan gyfeirio at Raglen Brechu rhag Covid-19 gofynnodd y Cadeirydd a oedd cyflenwad o’r brechlyn ar gael yn y cartrefi gofal a nyrsio er mwyn i staff cymwys yn y cartrefi roi ail frechlyn i breswylwyr a staff. Fe siaradodd y Prif Swyddog am lwyddiant cyflenwi a gweithredu’r rhaglen frechu yng Nghymru ac yn lleol yn Sir y Fflint. Dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu bod yr ystadegau ar gyfer yr ail ddos o frechlyn i breswylwyr yn y cartrefi gofal eisoes yn 85% a mwy.Fe eglurodd mai’r bwriad yw rhoi yr ail ddos i holl staff iechyd a gofal cymdeithasol, gweddill y preswylwyr yn y cartrefi gofal a nyrsio, a’r grwpiau blaenoriaeth sy’n weddill.Fe ddywedodd hi hefyd fod y rhaglen frechu yn datblygu’n dda.

 

Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis bryder bod yna brinder o frechlyn yng Nghymru ac anghysonderau yn y rhaglen frechu.Dywedodd y Cadeirydd fod yna anghysonderau rhwng meddygfeydd a’r ganolfan frechu yng Nghanolfan Frechu Glannau Dyfrdwy a gofynnodd a oedd modd rhoi gwybod i’r Gr?p Brechu Strategol.Dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu bod amhariad wedi’i gynllunio i’r cyflenwad o frechlyn yn ystod y pythefnos diwethaf, ond yr wythnos nesaf, byddai de Sir y Fflint yn rhoi 5000 o frechlynnau’r wythnos, byddai Gogledd Ddwyrain Sir y Fflint yn rhoi 1000 a Gogledd Orllewin Sir y Fflint yn rhoi 3000. 

 

Gan ymateb i bryder gan y Cynghorydd Davie Mackie am risg SS08 (methiant Clipper Finance System oherwydd oedran y feddalwedd a’i anghydweddiad gyda thechnoleg gweinyddion newydd) fe eglurodd y Prif Weithredwr bod gwaith yn mynd yn ei flaen i ailosod y system bresennol a oedd yn hen system,  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.