Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

57.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

58.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Mae cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod i:

 

(1) Roi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;

(2) Ymateb i ganlyniad y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor Sir ar 28 Ionawr 2020 (wedi’i amgáu); ac

(3) Ystyried cwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau (wedi’i amgáu).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod, a diolchodd iddynt am fynychu. 

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y rhesymau pam fod cynrychiolwyr BIPBC wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod, fel a ganlyn:-

 

  1. Rhoi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;
  2. Ymateb i ganlyniad y Rhybudd o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor Sir ar 28 Ionawr 2020; ac
  3. Ystyried cwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr er mwyn rhoi sicrwydd dros drefniadau dan gontract gydag Ysbyty Iarlles Caer a pharhad gwasanaeth;

 

            Dywedodd Mark Polin bod awgrym mai BIPBC oedd ar fai am y materion o ran trefniadau dan gontract gydag Ysbytai Iarlles Caer, ond dywedodd nad hynny oedd yr achos. Nid oedd yn rhagweld y byddai’r mater yn codi yn y dyfodol ac roedd cyfarfodydd i sicrhau bod Ysbyty Iarlles Caer yn bodloni eu trefniadau dan gontract, yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau y byddai’r contractau yn cael eu harwyddo’n fuan.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd o ran terfynau amser, dywedodd Sue Hill y rhagwelwyd y byddai’r contract yn cael ei arwyddo ddiwedd mis Mawrth. Awgrymodd y Prif Weithredwr y gallai adborth gael ei rannu gydag Aelodau, unwaith i’r contract gael ei arwyddo.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carol Ellis o amgylch y term ‘gweithgaredd heb ei ddarparu’, eglurodd Mark Polin nad oedd yr holl weithgareddau oedd i gael eu darparu gan Ysbyty Iarlles Caer drwy’r trefniant dan gontract wedi cael eu darparu, ac felly roedd gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddeall hyn yn well cyn arwyddo’r contract newydd. Eglurodd Simon Dean mai dyma’r broses arferol er mwyn sicrhau bod y nifer o gleifion a gaiff eu hatgyfeirio a’u trin gan Ysbyty Iarlles Caer ar y lefel iawn er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd Sue Hill nad oedd unrhyw gynigion i newid y llwybr er mwyn i drigolion Sir y Fflint gael mynediad at wasanaethau yn Ysbyty Iarlles Caer.  Dywedodd Gill Harris yr hoffai weld cynnydd mewn gwasanaeth, yn arbennig o ran gwasanaethau mamolaeth. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd gynrychiolwyr BIPBC i ddarparu ymateb i gwestiynau penodol a amlinellwyd o fewn y Rhybudd o Gynnig a ystyriodd y Cyngor ar 28 Ionawr; 2020.

 

1. Oes digon o le yn ysbytai Maelor Wrecsam, Glan Clwyd ac Iarlles Caer?

 

            Gwahoddodd Mark Polin, Imran Devji i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar fesurau ataliol a’r gwaith partneriaeth sy’n digwydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

 

            Adroddodd Imran Devji bod adolygiad o ran cleifion oedd yn cyrraedd yr uned ddamweiniau ac achosion brys a oedd angen gofal brys, wedi cael ei gynnal er mwyn rheoli llwybrau a blaenoriaethu cleifion. Yn ystod yr adolygiad, ystyriwyd nifer o ffactorau, gan gynnwys 1) proffil awr wrth awr yr uned ddamweiniau ac achosion brys dros y 5 mlynedd ddiwethaf; a 2) shifftiau nyrsio dros 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Yn dilyn yr adolygiad, gwnaed gwelliannau allweddol, yn arbennig o amgylch  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg oedd yn bresennol.