Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

29.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

 

 

30.

AMRYWIO TREFN Y RHAGLEN

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai newid yn nhrefn y rhaglen ac y byddai’r eitem ‘Ymweliadau ar Rota’ yn cael ei dwyn ymlaen.

31.

Cofnodion pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Hydref 2019

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2019.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie i gymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. 

32.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 16 Rhagfyr (sydd wedi’i ail-drefnu yn lle 12 Rhagfyr oherwydd bod yr Etholiad Cyffredinol ar yr un diwrnod).  Cyfeiriodd at gyflwyniad ar y Storfa Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i’w ddarparu yn y cyfarfod ar 30 Ionawr 2020, a dywedodd y cynhelir y cyfarfod yn NEWCES. Hefyd dywedodd yr Hwylusydd y cynhelir cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 yn Hwb Cyfle. Gwahoddodd yr Aelodau i gysylltu â hi neu’r Cadeirydd gydag unrhyw eitemau yr hoffent ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a godwyd o’r cyfarfodydd blaenorol. Eglurodd bod yr holl gamau gweithredu wedi’u cwblhau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

 

33.

Ymweliadau Rota

Pwrpas:           I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Soniodd y Cynghorydd Mike Allport am ei ymweliad â Chartref Anableddau Dysgu Woodlee. Dywedodd bod yr ymweliad wedi bod yn gadarnhaol a roedd wedi ei fwynhau, a nid oedd unrhyw faterion i’w nodi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

34.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 306 KB

Pwrpas: Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) adroddiad i ddarparu’r sefyllfa cyllid diweddaraf ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion penodol ar gyfer y Portffolio.  Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi'r rhagolwg ariannol cyfredol a’r ‘bwlch’ a rhagwelir yng ngofyniad cyllideb y Cyngor ar gyfer 2020/21. Mae’r bwlch llawn o flaen datrysiadau cyllideb wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, a chyn Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21, yn £16.2m ar hyn o bryd. Roedd crynodeb o’r rhagolygon a’r newidiadau i sefyllfa’r rhagolygon a adroddwyd yn flaenorol wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Parhaodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg a Systemau Strategol) bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa genedlaethol a strategaeth y Cyngor i gyflawni cyllideb gytbwys a diogel ar gyfer 2020/21. Roedd Llywodraeth Cymru angen Setliad cyllid gwell, ac roedd Sir y Fflint yn ddibynnol ar ymgodiad sylweddol ar ei gyfraniad Grant Cynnal Refeniw blynyddol petai mewn sefyllfa i osod cyllideb gytbwys gyfreithiol a diogel. Cyflwynodd yr adroddiad yr holl arbedion effeithlonrwydd cyllideb arfaethedig a’r pwysau o ran costau i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21/ Amlygodd yr adroddiad yr arbedion effeithlonrwydd penodol a’r pwysau o ran costau i Wasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor eu hystyried fel rhan o’i gyfrifoldebau portffolio. Roedd hwn yn adroddiad terfynu cyllideb dros dro yn aros am waith parhaus gael ei gwblhau ar opsiynau cyllid corfforaethol a datrysiad o gyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Cyfrifeg a Systemau Stratgeol at y brif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad, a tynnwyd sylw penodol at yr wybodaeth a ddarparwyd ar bwysau’r Gofal Cymdeithasol ac arbedion effeithlonrwydd Gofal Cymdeithasol. 

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Cyllid ddiolch i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i Dîm am eu gwaith a’r diweddariad manwl cyn cyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020/21.

 

Gan gyfeirio at bwysau’r Gofal Cymdeithasol, codwyd cwestiynau gan yr Aelodau ynghylch y gost o leoliadau y tu allan i’r sir. Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey pa gyfraniadau ariannol a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Plant a’r Gweithlu bod monitro manwl yn cael ei gynnal ar gyfraniadau ariannol a dderbynir gan y Bwrdd Iechyd.

 

Mewn ymateb i'r cwestiwn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ynghylch y gyllideb ranedig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir, cadarnhawyd ei fod yn £1.860 miliwn i Wasanaethau Cymdeithasol, a £638,000 ar gyfer Gwasanaethau Addysg.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Carol Ellis yr angen i amlygu’r pwysau ar leoliadau y tu allan i’r sir fel maes o bryder. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Cyfrifeg a Systemau Strategol bod y sefyllfa gyllideb lleoliadau y tu allan i’r sir yn cael eu monitro bob mis gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Wisinger. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn ardystio cynigion effeithlonrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn ardystio pwysau costau’r Gwasanaethau Cymdeithasol a argymhellir ar gyfer ei gynnwys yng nghyllideb ar gyfer 2020/21. 

 

 

35.

Arloesedd i leihau dibyniaeth ar leoliadau tu allan i'r sir pdf icon PDF 325 KB

Pwrpas:        Adolygu gwaith er mwyn lleihau dibyniaeth ar ofal preswyl hir dymor i blant sy’n derbyn gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad i adolygu’r gwaith i leihau dibyniaeth ar ofal preswyl hirdymor i blant sy'n derbyn gofal. Eglurodd bod yr adroddiad wedi darparu trosolwg ar yr arloesi sy’n cael ei yrru ymlaen i sicrhau newid trawsnewidol wrth ddarparu Strategaeth Lleoliad a Chymorth y Gwasanaeth. Cafdd y gwaith ei grynhoi yn atodiad i’r adroddiad. 

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu heb fuddsoddiad mewn arloesi a dulliau newydd i’r ddarpariaeth gwasanaeth, bydd y nifer o blant sydd eisiau lleoliadau preswyl ac Asiantaeth Faethu Annibynnol yn parhau i gynyddu ar gyfradd anghynaladwy gyda chanlyniadau ariannol annailadwy. Tynnodd sylw at y gwaith a’r mentrau, fel y nodwyd yn atodiad yr adroddiad, i effeithio newid. Gan gyfeirio at y Model Mockingbird i faethu, cyflwynodd y Swyddog Marchnata a Recriwtio a’i gwahodd i roi trosolwg a chyflwyniad ar y Model Mockingbird. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:

 

  • heriau
  • rhagolwg 7 mlynedd
  • cadw plant mewn gofal Awdurdod Lleol
  • Cadw gofalwyr
  • Lleoliadau y tu allan i’r sir
  • atal methiannau mewn lleoliadau.
  • themâu o gyfarfodydd ymyrraeth
  • arbedion ar sail isafswm targedau
  • sefydlogi dyfodol lleoliadau y tu allan i’r sir

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu mai’r uchelgais oedd datblygu hyd at 5 canolfan dros gyfnod o 3 blynedd i gefnogi 80 o blant. Mae benthyciad dim llog o £1.1m ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun a roedd rhaid ei ad-dalu dros gyfnod o 7 mlynedd. 

 

Roedd yr Aelodau o blaid y model Mockingbird a mynegwyd diolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith i leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i’r sir.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y rhaglen arloesi wedi’i anelu at leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i'r sir yn cael ei nodi.

 

36.

Osgoi mynd i’r ysbyty pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad am waith sy’n cael ei wneud er mwyn osgoi gorfod mynd i’r ysbyty.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwaith a gyflawnir i osgoi mynd i’r ysbyty.Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd y Rheolwr Tîm Ardal i gyflwyno’r adroddiad.

 

            Eglurodd y Rheolwr Tîm Ardal bod pob cais newydd am gymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol yn dod drwy’r Un Pwynt Mynediad ac yn dod gan y cyhoedd ac unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol sydd yn gweithio gydag unigolyn neu deulu.  Dywedodd bod nifer o dimau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd yn anelu i gefnogi pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac adnabyddir timau gwaith cymdeithasol, timau therapi galwedigaethol, timau ailalluogi a thimau adolygu fel enghreifftiau. Mae’r timau hyn yn gallu adnabod pobl sydd yn profi cyfnod byr o salwch. Lle bo’n bosibl, os yw’n ddiogel i wneud hyn, a chyda chaniatâd, bydd gwasanaethau cynnal yn helpu i alluogi unigolyn aros gartref. Amlygodd y Rheolwr Tîm Ardaloedd gwaith y Tîm Adnoddau Cymunedol, Tîm Ailalluogi, Timau Gwaith Cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os oedd Meddygon Teulu yn ymwybodol ac yn hyrwyddo'r Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol. Cadarnhaodd y Rheolwr Tîm Ardaloedd bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n dda.

 

            Roedd yr Aelodau yn cefnogi'r gwasanaeth ailalluogi a diolchwyd i’r Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolyn, a'i thîm am eu gwaith i gefnogi pobl gartref ac i osgoi'r angen am dderbyniad i'r ysbyty..  Agwrymodd y Cynghorydd Dave Mackie bod angen am well gyhoeddusrwydd o’r ystod rhagorol o wasanaethau cynnal sydd ar gael.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carol Ellis gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNIAD:

 

Bod y gwaith a gyflawnir i gefnogi pobl a’u teuluoedd gartref, gan osgoi

derbyniadau i'r ysbyty, yn cael ei ardystio.

 

37.

Cefnogi adeiladu cymunedau gwydn trwy ddatblygu’r rôl presgripsiynwr cymdeithasol yn yr Un Pwynt Mynediad pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion adroddiad i ddarparu diweddariad ar y gwaith a gyflawnwyd ar Wasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol sy’n gweithredu o Un Pwynt Mynediad Sir y Fflint (SPOA).  Cyflwynodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr ac Arweinydd Partneriaeth, ac Ann Woods, Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr ac Arweinydd Partneriaeth yr adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd ei fod yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint, mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion fel y gallent gael eu cynorthwyo i gyflawni “Beth sydd o Bwys” iddynt lle mae’r datrysiadau o fewn y cymuned neu ddatblygiad o'u sgiliau neu hyder eu hunain.  Yn ogystal i'r gwasanaeth ar gael ar gyfer hunanatgyfeiriad, gellir gwneud atgyfeiriadau gan unrhyw un arall sydd â chyswllt gyda’r unigolyn.  Maes penodol o ddatblygiad cyfredol ac yn y dyfodol yw annog Meddygon Teulu i atgyfeirio i mewn i’r gwasanaeth i gefnogi cleifion sydd yn dod ger eu bron gyda phryderon nad ydynt yn glinigol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint drosolwg ar y Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol drwy’r Un Pwynt Mynediad ac eglurodd rôl y Presgripsiynwr Cymdeithasol a sut mae’r Gwasanaeth yn gweithio yn Sir y Fflint.

 

Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a'i dîm gan yr Aelodau ar lwyddiant y Gwasanaeth.  Rhoddodd y Prif Swyddog sylw ar yr adborth gadarnhaol ar sut mae’r Gwasanaeth wedi gwella ansawdd bywyd yr unigolion yn arw. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod effaith y Presgripsiynu Cymdeithasol ar hyrwyddo annibyniaeth a lles yn cael ei gefnogi; a

 

 (b)      Bod yr Aelodau yn cyfeirio preswylwyr Sir y Fflint at y gwasanaeth. 

 

38.

Newidiadau i'r Polisi Cartref Gofalwyr Maeth pdf icon PDF 285 KB

Pwrpas:        Amlinellusut y gellir cefnogi mwy o deuluoedd i gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant 30 awr a chynigion ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y gwaith hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y  Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ar gynigion i gyflwyno ‘Polisi Addasiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth’ i roi cyfrifoldeb i Sir y Fflint a’r plant i gael mwy o ddewis ac opsiynau o leoliadau a all gynnig gwell gwerth am arian i’r Awdurdod. 

 

            Eglurodd y Prif Swyddog mewn rhai amgylchiadau bod amgylchedd cartref gofalwyr maeth yn cyfyngu ar gyfleoedd lleoliad. Mae’r Polisi yn ceisio cyflwyno cynllun grant sydd yn cynnig cefnogaeth ariannol i ofalwyr maeth i wneud addasiadau i’w cartrefi presennol, neu gymorth ariannol tuag at brynu eiddo newydd mwy neu un mwy addas (hyd at werth £36,000 ar gyfer addasiadau neu £20,000 i ail-leoli i eiddo newydd). Byddai’r grant yn destun telerau ac amodau a amlinellir mewn Cytundeb Cymorth Ariannol a byddai adfachiad yn berthnasol dan amodau penodol i ddiogelu cyllid cyhoeddus. 

 

            Gofynnodd y Cadeirydd os oedd y Gofalwyr Maeth a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn gallu cael sicrwydd yswiriant i sicrhau costau ad-dalu os byddai angen. Tynnodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu sylw at yr wybodaeth a ddarparwyd ar y Cyllid Grant ar gyfer Addasiadau yn y Polisi arfaethedig a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd bod gan Sir y Fflint ddisgresiwn i hawlildio hyd at £10,000 o gyllid grant, yn ddibynnol ar asesiad ariannol y gofalwr maeth a/neu berchennog eiddo, a’r trefniadau lleoli plentyn arfaethedig.Dywedodd bod Gofalwyr Maeth yn cael eu hannog a’u cefnogi’n ariannol i geisio cyngor ariannol annibynnol cyn ymuno â’r cynllun. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr mai bwriad y cynllun oedd cynorthwyo Gofalwyr Maeth gyda’r gost o wneud addasiadau i’w cartref ac i ddarparu lle digonol i blant a phobl ifanc fyw a ffynnu dan eu gofal. Bwriad y cyllid oedd ategu ystod o wasanaethau cefnogi a ddarperir i Ofalwyr Maeth. 

 

            Awgrymodd y Cynghorydd David Mackie i dynnu'r gair ‘adfachiad’ o’r polisi gan y teimlai bod y gair 'ad-daladwy' yn fwy priodol. Hefyd cyfeiriodd at y telerau ac amodau ynghlwm â’r ddarpariaeth o gyllid drwy Grantiau Cyfleuster Anabl ac awgrymodd bod angen ystyried wrth weithredu'r un broses i roi cyllid ar gyfer addasiadau.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y DFG ac awgrymodd bod aelodau o’r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey i gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Polisi Addasiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth yn cael ei gefnogi.

 

39.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 295 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r perfformiad ar y pwynt canol blwyddyn yn 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Cyngor Diogel a Glân’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd bod yr adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 90% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Roedd 77% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at ddwy risg fawr a nodwyd i’r Pwyllgor fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalen 115 (CP1.1.4MO2) a dywedodd nad oedd unrhyw ddata ar duedd dangosydd perfformiad a thudalen 116 (CP1.2.2MO1) a (CP1.2.2.MO2) a dywedodd bod y targedau cyfnod ar goll. Rhoddodd y Swyddogion eglurhad ynghylch y dadansoddiad a gyflwynwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r adroddiad.

 

 

40.

Ymgysylltiad ac Ymgynghoriad Gwasanaethau Rheoledig pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Ystyried yr ymgynghoriad drafft.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion adroddiad i ystyried yr ymgynghoriad drafft. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y broses a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau, ac wedi'i ddylunio i fod yn gynhwysfawr, cadarn a chynaliadwy, yn bodloni gofynion rheoliadol, a hefyd yn darparu’r wybodaeth sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaethau’r Awdurdod o ansawdd uchel ac yn parhau i fodloni anghenion yr unigolion sy’n cael eu cefnogi. 

 

Roedd y prosesau ymgysylltu a drafodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gofal preswyl pobl h?n mewnol, gofal ychwanegol, gofal cartref a byw â chymorth, a gofal tymor byr i bobl gydag anableddau dysgu.  Amcan cyffredinol oedd gweithredu proses adolygu o ansawdd ar draws y gwasanaeth gyfan a dysgu a rennir ar draws y sector mewn perthynas â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda ac unrhyw wersi neu adlewyrchiadau i wella.  Gwahoddodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod gofyniad dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol newydd (Cymru) 2016 (RISCA) i’r Unigolyn Cyfrifol i ymgysylltu ac ymgynghori gydag unigolion sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Awdurdod yn rheolaidd ac mewn modd effeithiol. Mae Rheoliad 76 y RISCA yn nodi’r gofynion, fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeirioedd at y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd a’r fethodoleg sy’n tanategu’r gwaith a oedd wedi seilio ar ddull ‘dweud stori’. Darparwyd gynllun cyfathrebu i danategu’r broses gyfan. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod RISCA wedi gosod ansawdd gwasanaeth a gwelliant yng ngwraidd rheoliad. Bydd y dull hwn yn dangos bod gan gofal a gwasanaethau cynnal y Cyngor ddiwylliant o wella ansawdd, gan ddefnyddio dulliau o gyd-gynhyrchu, gan ffocysu ar ganlyniadau a phrofiad ar gyfer yr unigolyn a thrwy wrando ar newid cadarnhaol.

 

Roedd yr Aelodau yn cefnogi’r broses ymgysylltu a’r ymgynghoriad, a diolchwyd i'r Uwch Reolwr a’r Rheolwr Gwasanaeth am eu gwaith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac eilwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghoriad i fodloni anghenion y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) yn cael ei ardystio; a

 

 (b)      Bod y cynnydd a cham 2 y gwaith ar y gweill a fydd yn ffurfio rhan o adroddiad blynyddol yr unigolyn cyfrifol, yn cael ei nodi.

 

 

41.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.