Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Gorffennaf 2017. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 10: Adroddiad Deilliannau Cynllun Gwella 2016/17 – cyfeiriodd y Prif Swyddog at drafodaeth ar gartrefi gofal a chadarnhaodd bod y targed wedi’i ostwng.
Cofnod rhif 11: Cynllun (Gwella) y Cyngor 2017-13 – Cytunodd yr Uwch-reolwr Plant a'r Gweithlu i ddosbarthu'r fideo ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 142 KB Pwrpas:Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i amlinellu sefyllfa'r rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2018/19 a cheisio barn ar Gam 1 o gynigion cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddai cynigion ar gyfer portffolios eraill yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn cyflwyno i’r Cabinet fis Tachwedd/Rhagfyr. Yn rhan o’r dull fesul cam mewn perthynas â’r gyllideb, dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd y diffyg o £11.7 miliwn (a ragwelid ar hyn o bryd) yn cynnwys unrhyw fodelu o ran lefelau Treth y Cyngor.
Nid oedd y Prif Weithredwr yn dymuno dyfalu yngl?n â'r sefyllfa genedlaethol tan y cyhoeddiad ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro a oedd ar ddod. Ni wyddys a fyddai unrhyw ostyngiad ariannol i'r cyllid yn cynnwys unrhyw ostyngiadau i grantiau penodol a ph’un a fyddai cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol. Roedd yn bwysig parhau i adolygu pwysau ariannol ar y portffolio. Anogwyd yr Aelodau i graffu ar y datganiadau gwytnwch a oedd yn dangos y sefyllfa bresennol o ran risg mewn gwasanaethau.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) drosolwg o'r datganiadau gwytnwch. Roedd lefel risg nifer o feysydd gwasanaeth wedi’i hasesu’n ‘Oren’ ac roedd pwysau yn y sector gofal yn effeithio ar y galw am wasanaethau. Ni fu erioed gymaint o atgyfeiriadau diogelu na phwysau ar dimau rheng flaen.
Darparodd y Rheolwr Cyllid wybodaeth am gamau a gymerwyd i leihau’r pwysau penodol ar bortffolios ynghyd ag effaith newidiadau i’r ddeddfwriaeth a meini prawf cymhwyso. Cyfanswm yr opsiynau effeithlonrwydd ar gyfer y portffolio oedd £0.450 miliwn ac roeddent yn cynnwys cynnydd yn y cap codi tâl am ofal cartref a oedd wedi’i gytuno’n flynyddol gyda Llywodraeth Cymru (LlC).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid nad oedd y pwysau a oedd yn dod i’r wyneb a adroddwyd wrth y Cabinet yn cynnwys pwysau o ran gofal cymdeithasol, fel lleoli y tu allan i’r sir (tua £0.700 miliwn) a oedd yn destun adolygiad parhaus.
Cwestiynodd y Cynghorydd Hilary McGuill gywirdeb y cynnydd amcanol mewn chwyddiant ac fe ddywedwyd wrthi ei fod wedi’i seilio ar y wybodaeth genedlaethol ddiweddaraf.
Wrth gynorthwyo ag amserlen y gyllideb ar gyfer 2018/19, dywedodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Gorfforaethol a Systemau) y byddai dadansoddiad manwl o’r deilliannau o'r setliad dros dro'n pennu deilliannau a oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Fe soniodd y Prif Weithredwr am yr angen i gynllunio ymlaen llaw er mwyn cyflawni nifer o’r opsiynau effeithlonrwydd. O ran pwysau penodol, er bod ymrwymiad LlC i ddiogelu'r grant Cefnogi Pobl yn cael ei groesawu, roedd pwysau o £0.387 miliwn yn parhau ar wasanaethau craidd nad oeddent yn gymwys i gael cymorth grant. Tri maes i’w trafod oedd: achos cryf i’w wneud dros gwrdd â'r cynnydd yn ffioedd y sector annibynnol yn wladol; refeniw o'r Gronfa Gofal Canolraddol i gael ei neilltuo; ac eithriad o’r cynnydd fesul cam mewn ffioedd gofal canolraddol i gasglu’r swm mwyaf posib’ o incwm yn 2018/19.
Dywedodd y Prif Swyddog ... view the full Cofnodion text for item 20. |
|
Pwrpas: Galluogi Aelodau i adolygu cynnydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Adnoddau) yr adroddiadau ar weithgarwch mabwysiadu cenedlaethol a rhanbarthol yn 2016-17 ynghyd ag amcanion ar gyfer 2017-18. Fel swyddog arweiniol y Cyngor ar fabwysiadu, amlygodd yr effaith roedd y broses fabwysiadu'n ei chael ar bobl drwy gydol eu hoes.
Roedd nifer o heriau a chamau gweithredu allweddol wedi'u nodi o'r adroddiadau gan gynnwys yr angen am lawer o gymorth ar ôl mabwysiadu i fabwysiadwyr plant ag anghenion cymhleth. Roedd canfyddiadau’r adroddiad rhanbarthol yn dangos nifer isel o leoliadau amharedig, a oedd yn adlewyrchu dull rhagweithiol Sir y Fflint.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a allai canolbwyntio ar fywyd y plentyn cyn ei fabwysiadu, o bosibl’, gael effaith niweidiol ar yr unigolyn a'r rhai sy'n mabwysiadu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod tystiolaeth, yn gyffredinol, yn dangos ei bod yn bwysicach i blant ddeall hanes eu bywyd a bod y gwasanaeth yn ymrwymo i weithio gyda mabwysiadwyr i'w helpu i gydymdeimlo â'r profiad hwnnw wrth i'r plentyn dyfu'n h?n. O ran plant mabwysiedig yn dymuno cysylltu â'u brodyr a'u chwiorydd, roedd hwn yn fater sensitif sy'n fwy heriol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol.
Teimlai’r Cynghorydd Kevin Hughes y gallai'r lluniau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad cenedlaethol fod wedi cynnwys cynrychiolaeth ehangach o gefndiroedd ethnig. Soniodd Rheolwr y Gwasanaeth am y dull blaengar roedd y gwasanaeth yn ei ddefnyddio i adnabod anghenion plant wedi'u mabwysiadu.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gladys Healey, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth, er nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar oed mabwysiadwyr posib', bod nifer o ffactorau'n cael eu hystyried er mwyn diwallu anghenion pawb a oedd ynghlwm. Dywedodd bod nifer o fabwysiadwyr yn ffafrio merched iau na 3 oed ac y byddai’n darparu manylion plant a oedd ar y rhestr aros ar hyn o bryd.
Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â hanes meddygol teulu biolegol y plentyn a dywedwyd wrthi bod hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r broses fabwysiadu i gynorthwyo ag unrhyw broblemau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol; a
(b) Nodi’r adroddiad blynyddol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. |
|
Strategaeth Rhianta Corfforaethol PDF 107 KB Pwrpas: Craffu a chefnogi’r camau gweithredu arfaethedig i ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd. Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) yr adroddiad ar ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd yng nghyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a datblygiadau cenedlaethol ar rianta corfforaethol.
Tynnodd sylw at weithdy i Aelodau ar ddiogelu a rhianta corfforaethol i’w gynnal y mis canlynol ac fe ddywedodd bod 220 o blant yn derbyn gofal ar hyn o bryd yn Sir y Fflint. Roedd gwybodaeth a gafwyd o weithgarwch rhianta corfforaethol rhanbarthol a chenedlaethol wedi’i chasglu ynghyd ag adborth gan blant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i chwe thema sydd ag ymrwymiadau wrth eu gwraidd wedi’u hategu gan gynllun gweithredu. Roedd datblygu'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn gysylltiedig ag adolygiad o fforymau cyfranogiad presennol a phenodi Swyddog Cyfranogiad newydd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn y sir yn cael dweud eu dweud.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod y Fforwm Gwasanaethau Plant wedi dod yn fwy addas i blant dros gyfnod ond roedd yn teimlo bod angen i blant sy’n derbyn gofal ac Aelodau etholedig ymgysylltu mwy. Eglurodd yr Uwch-reolwr y byddai'r adolygiad yn canfod y cyfleoedd gorau i ymgysylltu â phobl ifanc a bod y Cyngor â chyfrifoldeb dros rai a oedd yn gadael gofal tan oeddent yn 25 oed. O ran y broses asesu ar gyfer gofalwyr sy'n berthnasau, nodwyd bod terfynau amser heriol wedi’u gosod gan y llys ond bod un unigolyn o bob ochr i deulu’r plentyn yn cael eu hystyried i benderfynu pwy oedd fwyaf addas yn yr achosion hynny. Roedd lansio’r fenter Cyflogwr Cyfeillgar i Deuluoedd ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir y Fflint wedi helpu i ennyn mwy o ddiddordeb gan ofalwyr maeth posibl.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill, eglurwyd bod lwfansau maethu ar gael i ddiwallu anghenion y plant maeth a bod adborth o adolygiadau’n dangos bod gofalwyr maeth yn cyflawni eu dyletswydd i ofalu drwy helpu â chludo i ddigwyddiadau cymdeithasol/chwaraeon, ac ati.
Fel cyn-ofalwr maeth, teimlai'r Cynghorydd Kevin Hughes nad oedd digon o gefnogaeth ar gael iddo ar y pryd. Dywedodd yr Uwch-reolwr bod pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc a’u gyrfaoedd yn cael ei gydnabod a bod y Gwasanaeth Dychwelyd ac Atal wedi'i ddatblygu i ategu'r trefniadau.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Allport faint oedd y cyfnod cyfartalog mewn gofal a dywedwyd wrtho ei fod yn amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor. Roedd sawl llwybr i adael gofal ac roedd y fenter ‘Pan Wyf i'n Barod' yn rhoi'r cyfle i aros mewn gofal ar ôl troi'n 18 oed.
Gofynnodd y Cynghorydd Dave Wisinger am y camau i ddarparu ar gyfer lles cymdeithasol ac economaidd plant sy’n derbyn gofal. Eglurwyd bod llwybrau’n cynnwys ystod o gefnogaeth i helpu i baratoi'r person ifanc am y newid i fod yn oedolyn, fel arweiniad ar faterion ariannol ac ymgynghorwyr personol wedi'u neilltuo.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddwyd sicrwydd bod llety i rai a oedd yn gadael gofal ymysg y blaenoriaethau, ond pe bai'r unigolyn yn dewis gadael Sir y Fflint, byddent yn colli'r statws ... view the full Cofnodion text for item 22. |
|
Pwrpas: I roi diweddariad i Aelodau ar y sefyllfa bresennol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar newidiadau a oedd yn digwydd yn y sector gofal yng Nghymru a Lloegr a'r heriau a wynebai’r Cyngor, gan gynnwys y cynnydd mewn ffioedd ychwanegol gan drydydd partïon wedi'u codi gan ddarparwyr y sector annibynnol. Roedd yr adroddiad yn cyfleu pwysigrwydd cydweithio a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion i sefydlogi’r sector gofal bregus.
Darparodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) gefndir i'r cynnydd mewn ffioedd ychwanegol gan drydydd partïon o ganlyniad i lawer o bwysau ariannol o'r sector cartrefi gofal annibynnol. Er nad oedd y tri chartref gofal a oedd yn eiddo i’r Cyngor yn codi ffioedd ychwanegol, amcangyfrifwyd bod y rhan fwyaf o ddarparwyr cartrefi gofal annibynnol yn Sir y Fflint yn codi tâl wythnosol o tua £16.50-£60. Roedd nifer o amcanion tymor byr, canolig a mwy hirdymor wedi’u nodi i ddatblygu atebion a sicrhau cymaint â phosib' o gyfleoedd cyllid i gefnogi'r sector gofal. Rhannwyd canfyddiadau adolygiad cynaliadwyedd o 18 o gartrefi gofal annibynnol y sir hefyd.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â’r cyfraniad gan GIG Cymru tuag at gostau gofal unigol a dywedwyd wrthi bod hon yn gyfradd y cytunwyd arni ymlaen llaw o £147.50. Cynigodd y dylai’r Pwyllgor anfon sylwadau ysgrifenedig at yr Aelodau Cynulliad, a chytunodd y Cadeirydd.
Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorwyr Ian Smith a Gladys Healey, eglurodd yr Uwch-reolwr y broses ymgeisio ar gyfer achosion lle gallai teuluoedd a oedd yn dangos nad oeddent yn gallu cwrdd â chostau gofal gael cymorth gan y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynnydd disgwyliedig yn niffyg y gwelyau preswyl ar gyfer henoed bregus eu meddwl a gofynnodd faint o unigolion oedd ar y rhestr aros ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai y tu allan i’r sir, a faint o bobl oedd yn aros am leoliadau gofal preswyl. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) bod y data hwn yn newid o ddydd i ddydd a bod ymarfer mapio gwelyau wythnosol yn helpu i nodi'r wybodaeth ar yr adeg honno. Fel yr oedd hi y diwrnod cynt, roedd lleoedd ar gael ym mhob categori gofal (tua 3-4- lle ym mhob un) ond heb unrhyw hyblygrwydd o ran lleoliad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod yr heriau ar hyn o bryd a rhai mwy hirdymor a wynebid yn Sir y Fflint;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r mentrau tymor byr, canolig a hir i gefnogi’r sector gofal yn Sir y Fflint;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r angen am ddiwygiad cenedlaethol i drefniadau ariannu’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn cymeradwyo'r safbwynt i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion ar frys; a
(d) Bod yr Hwylusydd yn paratoi llythyr i’w lofnodi gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor i wneud sylwadau i Aelodau’r Cynulliad am gyfraniad tecach gan GIG Cymru tuag at gostau gofal. |
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor. Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn y sesiynau hyfforddiant diweddar, bod yr holl Aelodau newydd wedi’u hyfforddi ar ymweliadau rota.
Rhoddodd y Cynghorwyr Marion Bateman a Rita Johnson adborth cadarnhaol ar eu hymweliad â Llys Gwenffrwd, gan grybwyll Jeff Horskill a Norman yn benodol – dau yr oeddent yn dymuno eu gwahodd i ymweld â Neuadd y Sir. Nododd y swyddogion y cais hwn ac awgrymiadau i wella cyfleusterau parcio ceir, arwyddion a mesurau gostegu traffig i gynorthwyo cerbydau sy’n mynd at y cartref gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod ei ymweliad â Growing Places yn Shotton wedi bod yn well na’r disgwyl.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai sesiwn diogelu corfforaethol cyn y cyfarfod nesaf. Dywedodd hefyd y byddai’r cyfarfod fis Rhagfyr gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn debygol o gael ei symud i 13 Rhagfyr ac y byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor am hyn pan oedd cadarnhad.
Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad cryno ar yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer Canolfan Iechyd y Fflint (disgwylid iddi fod ar agor yn gynnar fis Mehefin 2018) a chytunodd i ddosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |