Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

42.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

43.

Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25 pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r cynnydd hyd yn hyn ac yn adlewyrchu ar y cyllid siomedig a gafwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Darparodd amlinelliad o’r effaith ar bortffolios y Cyngor a’r cynigion ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cael eu cyflwyno heddiw.

 

            Nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y portffolio wedi gwneud ei ran er mwyn galluogi’r Cyngor i osod cyllideb gytbwys. 

 

            Cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant at y cynigion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Plant sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar 5 eiddo gofal preswyl y Cyngor, gwybodaeth ar adolygiad gwasanaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion a’r defnydd o gyfleoedd am grantiau.

 

            Cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at y gwaith a wnaed o ran ystyried nifer o feysydd gan geisio rhwystro’r effaith ar wasanaethau rheng flaen.  Darparwyd y wybodaeth ar adolygiad y Gwasanaethau Oedolion, gwasanaethau mewnol effeithiol i gadw pobl allan o’r ysbyty a’r anawsterau o ran recriwtio.  Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Marleyfield ac ymagwedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i gynyddu’r cyllid a ddarperir ganddynt ar gyfer y gwasanaeth.  Cafwyd trosolwg o’r adolygiad a gynhaliwyd gyda GOGDdC o ran yr eitemau storfa a brynwyd ynghyd â gwybodaeth o ran y gwahaniaethau o ran targedu a defnyddio cyllid grant. 

 

            Darparodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu wybodaeth o ran sut yr oedd rheoli swyddi gweigion a’r heriau recriwtio ar gyfer rolau’r rheng flaen yn cael eu diogelu.  Cyflwynwyd gwybodaeth am y gostyngiad yn y cyfraniad rhanbarthol a’r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r tîm cydweithio Rhanbarthol.  Yna fe gyfeiriodd at godi tâl am Wasanaeth Penodai a Dirprwyaeth, y gwaith a wnaed wrth geisio arbedion effeithlonrwydd o fewn contractau gyda’r trydydd sector ac oedolion ifanc sy’n mynychu colegau preswyl.  Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am Gomisiynu Pobl H?n a Chomisiynu Gofal.

 

            Eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod pwynt 1.07 yr adroddiad yn cyflwyno rhestr o risgiau parhaus ar gyfer y portffolio, gyda’r effaith andwyol yn sgil yr anawsterau o ran recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol.  Cyfeiriodd at y grantiau gan y Llywodraeth yn ystod y flwyddyn a’r twf mewn galw am wasanaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r swyddogion am yr holl waith a wnaed a’r gwaith ychwanegol a wnaed i fynd i’r afael â’r toriadau yn y gyllideb.  Cyfeiriodd at yr adran yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud â gofyn i’r holl Bortffolios ailystyried eu costau sylfaenol gan edrych am ffyrdd eraill o leihau cyllidebau neu waredu pwysau o ran costau i gyfrannu mwy tuag at ddiwallu’r bwlch sy’n weddill, a gofyn a oedd Portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gosod targed ar gyfer lleihau’r gyllideb ymhellach?

 

Mewn perthynas â’r ffi arfaethedig ar gyfer gwasanaethau penodai, holodd y Cynghorydd Mackie faint fyddai’r gost y pen ac mewn perthynas â’r costau arfaethedig gan y Gwasanaeth Anableddau ar gyfer lleoliadau coleg, faint fyddai’r costau?

 

Eglurodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Gwasanaethau Statudol ac Anstatudol - Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Darparu rhestr o wasanaethau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol yn dynodi pa rai oedd yn statudol ac anstatudol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai’r diben oedd nodi pa wasanaethau sy’n statudol ac anstatudol gan nad oedd cytundeb cenedlaethol ar waith.  Roedd pwynt 1.01 yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiol ddeddfwriaethau sydd yn eu lle ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol gyda Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn brif ddeddfwriaeth ar gyfer y portffolio. Roedd pwynt 1.04 yr adroddiad yn nodi bod mwyafrif y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn statudol gyda thri nad ydynt yn statudol sef Cronfa Trawsnewid Anableddau Dysgu, Dechrau’n Deg a Rheoli Swyddi Gweigion.

 

            Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Gladys Healey. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi darpariaeth y gwasanaethau statudol ac anstatudol a ddarperir.

45.

Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru pdf icon PDF 2 MB

Pwrpas:        Ceisio cytundeb bod Cyngor Sir y Fflint y mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol: ‘Addewid Cymru’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad cyfeiriodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Plant at lansiad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Siarter Rhianta Corfforaethol: Addewid Cymru ym mis Medi 2023.  Darparwyd gwybodaeth ar yr 11 o egwyddorion a 9 o addewidion a nodwyd yn y Siarter  ac a oedd yn ffurfio  rhan o weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid Gwasanaethau Plant Cymru.  Eglurwyd sut yr oedd y Llysgenhadon Ifanc a fynychodd Uwchgynhadledd y Rhai sy’n Gadael Gofal ac a gafodd gyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol, roedd y rhain yn cynnwys pobl ifanc o Sir y Fflint.  Eglurwyd pe byddai Sir y Fflint yn llofnodi’r Siarter a’r Addewidion y byddai’n rhaid sicrhau bod yr addewidion a’r uchelgeisiau’n cael eu clywed yn y Cyngor gyda lleisiau’r ifanc hefyd yn cyfranogi. Gwnaed gwaith i gyflwyno hyn i sicrhau ei fod yn llwyddiant ac ar ôl i’r Cyngor lofnodi’r siarter cynigir y dylid cyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynnydd a’r gwahaniaeth yr oedd yn ei wneud.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carol Ellis, cadarnhaodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor llawn er mwyn sicrhau bod pob aelod yn rhan o’r broses. 

 

            Roedd y Cynghorydd Hilary McGuill yn falch ei fod yma i’r holl Gynghorwyr ei lofnodi ac fe gyfeiriodd at y gwaith a wnaed gan y plant ar y Fforwm Gwasanaethau Plant a oedd wir yn ased i’r Cyngor.  Roeddent wedi cynorthwyo gyda’r prosesau o ran y broses gyfweld a thai ac roedd eu cyfraniadau’n amhrisiadwy.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad cyntaf gan y Cynghorwyr Hilary McGuill a Carol Ellis.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr ail argymhelliad gan y Cynghorwyr Gladys Healey a Mel Buckley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod y pwyllgor yn argymell bod Cyngor Sir y Fflint yn llofnodi’r ‘addewid’ a mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol:  ‘Addewid Cymru’.

 

(b)       Bod y Fforwm Gwasanaethau Plant yn arwain y gwaith o fesur llwyddiant ac ymrwymiad sefydliadol i’r Siarter Rhianta Corfforaethol.

46.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.