Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cynghorydd Mackie ei fod wedi siarad gyda Mr James Hunt gan Nanny Biscuit mewn perthynas i rannu syniadau fel y nodwyd yn nhudalen 7 y cofnodion ar 2 Mawrth 2023.
Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023 eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Debbie Owen.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 81 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol yn nodi nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a oedd wedi’u rhestru. Bydd dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol o fis Medi yn cael eu hychwanegu ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a’u cymeradwyo yn y cyfarfod blynyddol o’r Cyngor i’w gynnal ar 4 Mai 2023.
Gofynnodd y Cynghorydd Ellis i ychwanegu eitem ynghylch Mynediad at Feddygon teulu oherwydd y nifer o gwynion yr oedd wedi’i gael am bobl yn methu â chael apwyntiadau Meddyg Teulu. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Ellis ysgrifennu ati gyda’r problemau yr oedd wedi’i gael, ac yna byddai’n ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ran y Pwyllgor.
Hefyd roedd y Cadeirydd eisiau ychwanegu eitem ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i drafod yn y Cyd-gyfarfod nesaf gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, ac yr oedd wedi trafod gyda’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) cyn dechrau’r cyfarfod. Dywedodd y Prif Swyddog ei fod wedi cael cyflwyniad cadarnhaol gan unigolyn ifanc gydag anabledd a oedd yn hunan-eiriolwr ac wedi helpu ei hun ac eraill i mewn i’r byd gwaith, ac wedi awgrymu ei bod yn cael ei gwahodd i roi cyflwyniad i Aelodau yn y cyfarfod ar y cyd sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mehefin. Roedd y Pwyllgor o blaid yr awgrym hwn.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd David Mackie.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |
|
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Archwilio Cymru PDF 850 KB Pwrpas: Rhoi sicrwydd i’r Aelodau bod argymhellion adroddiad Archwilio Cymru wedi eu cymryd i ystyriaeth yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynllun y Cyngor 2023-28 PDF 94 KB Pwrpas: Rhannu cynnwys drafft Rhan 1 a Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 er mwyn ceisio adolygiad/adborth cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 107 KB Pwrpas: Aelodau i ddarllen Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol drafft a rhoi adborth ar y cynnwys drafft a ystyrir i’w gynnwys, sy’n cynnwys datblygiadau allweddol y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dogfennau ychwanegol: |
|
Lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal Pwrpas: I’r aelodau adolygu’r polisi ar gyfer trefnu a rheoli lleoliadau heb eu cofrestru na’u rheoleiddio pan fydd eu hangen dan amgylchiadau eithriadol. |