Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Hydref 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Robert Davies.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a'r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol a dywedodd wrth yr Aelodau y byddai Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn ar Gynllun y Cyngor 2022-23 yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar 19 Ionawr 2023 ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet Anffurfiol. Dywedodd hefyd wrth yr Aelodau fod Nanny Biscuit wedi cadarnhau y byddent yn mynychu'r cyfarfod ar 2 Mawrth 2023 i roi cyflwyniad ar y gwaith y maent yn ei wneud yn y Gymuned ac yn Sir y Fflint. Dywedodd mai'r gobaith oedd y byddai Aelodau'n gallu ymweld â Gwasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) cyn y cyfarfod ar 20 Ebrill a fyddai o fudd i Aelodau newydd. Wrth symud ymlaen roedd disgwyl y byddai eitem yn cael ei rhoi ar raglen yn y dyfodol i drafod Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Therapi Galwedigaethol a godwyd mewn cyfarfod diweddar gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Adroddodd fod y Cynghorydd Mackie wedi derbyn ymateb mewn perthynas â'r ymholiadau oedd ganddo am Gynllun y Cyngor ac ar gais y Cadeirydd, byddai'r holl Aelodau yn derbyn copi o'r ymateb hwnnw.
Anogwyd yr aelodau i gysylltu â'r Hwylusydd os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr hoffent eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2) Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach. Cofnodion: Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Owen, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Robert Davies.
Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyflwyniad, a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-
· Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor · Pwysau costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol · Gostyngiad yng Nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol · Effeithlonrwydd y Gorffennol - Gwasanaethau Cymdeithasol · Risg, Materion a Chydnerthedd- Gofal Cymdeithasol i Oedolion · Risg, Materion a Chydnerthedd - Gwasanaethau Plant · Risg, Materion a Chydnerthedd - Diogelu a Chomisiynu · Pwysau Costau y Tu Allan i’r Sir · Gweithdrefn y gyllideb – Cam 2 · Gweithdrefn y gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
Yn dilyn y cyflwyniad, fe wnaeth y swyddogion ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Owen.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi pwysau costau portffolios Gofal Cymdeithasol;
(b) Nodi dewisiadau portffolios Gofal Cymdeithasol i leihau cyllidebau; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cynghori ar unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost y mae'n credu y dylid eu harchwilio ymhellach. |
|
Adroddiad Blynyddol 2021/22 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru PDF 93 KB Pwrpas: Darparu gwybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’i weithgareddau yn ystod 2021/22. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu'r adroddiad a oedd yn ofyniad o fewn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yn paratoi, yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (LlC).
Pwrpas Rhan 9 y Ddeddf oedd gwella canlyniadau a lles pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darpariaeth y gwasanaeth. Prif amcanion cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio oedd:-
· Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth · Gwella canlyniadau ac iechyd a lles · Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn · Defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol
Cytunodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i ofyn i'r Bwrdd Rhanbarthol am bob un o'r 125 a oedd wedi'u cynnwys ar restr Prosiect Cronfa Gofal Integredig ar gais y Cadeirydd.
Roedd y Cynghorydd Mackie yn bryderus ynghylch y gwall ar dudalen gynnwys adroddiad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a holodd hefyd a oedd yr adroddiad yn adroddiad cyffredinol a oedd wedi'i ysgrifennu gan ddilyn canllawiau LlC gan ei fod yn anodd craffu arno oherwydd y diffyg gwybodaeth a oedd yn yr adroddiad.
Ymatebodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu i'w bryderon gan egluro bod strwythur yr adroddiad wedi ei osod o fewn deddfwriaeth ond cytunodd nad oedd hyn yn wir am strwythur y cynnwys. Cadarnhaodd y byddai'n cysylltu â'r Tîm Cydweithredu Rhanbarthol a ysgrifennodd yr adroddiad i roi’r sylwadau gan ei bod yn bwysig os nad yw eraill wedi nodi'r pwyntiau a godwyd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod ef a’r Cynghorydd Jones ill dau yn aelodau o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac y byddent yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd ond tynnodd sylw at y ffaith bod rhai camau cyflawni wedi’u cynnwys yn yr adroddiad o fewn siart cylchol, ond cytunodd y dylai’r un lefel o ddarpariaeth fod ar lefel ranbarthol ag ar lefel leol. Ychwanegodd fod cymorth gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi helpu ac nad oedd hyn yn amlwg o'r adroddiad.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r gwaith y mae angen i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei wneud; a
(b) Nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed yn 2021/22 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. |
|
Pwrpas: Derbyn diweddariad ar wasanaethau a ddarperir gan fenter gymdeithasol Double Click. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Oedolion o dan 65 oed yr adroddiad, gan ddweud wrth yr Aelodau bod Menter Gymdeithasol Double Click yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl gyda chyflawniad galwedigaethol. Eglurodd ei fod yn gynllun gwaith Gwasanaethau Cymdeithasol yn flaenorol ond ei fod wedi ei drawsnewid yn Fenter Gymdeithasol yn 2016 a’u bod wedi’u lleoli yn Rowley’s Drive yn Shotton a’u bod yn darparu gwasanaethau dylunio ac argraffu i’r cyhoedd ac yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau cyflogaeth i dros 20 o bobl â phroblemau iechyd meddwl ar unrhyw un adeg. Cyflwynodd Andy Lloyd-Jones, Rheolwr Cyffredinol Double Click, a oedd yn y cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddent i gyd yn cael canllaw cynnyrch a chalendr fel sampl o'u gwaith a gynhyrchwyd gan gyn-hyfforddai a oedd bellach yn wirfoddolwr ac roedd wedi mentora dau hyfforddai mewn ffotograffiaeth yn Double Click. Ychwanegodd ei bod wedi ei syfrdanu mewn ymweliad diweddar gan y cynnydd yn hyder rhai o'r bobl.
Cyfaddefodd y Cynghorydd Mackie nad oedd yn meddwl y byddai Double Click yn gweithio pan ddarllenodd y cynllun busnes nifer o flynyddoedd yn ôl ond ei fod wedi cael ei brofi'n anghywir a chytunodd eu bod yn gwneud gwaith gwych.
Gan ymateb i bryder gan y Cynghorydd Mackie, cadarnhaodd y Rheolwr Cyffredinol fod nifer o fusnesau o'r enw 'Double Click' ond nad oedd am newid yr enw gan fod y bobl sy'n eu defnyddio yn fusnesau lleol ffyddlon ac yn ogystal â bod yn fusnes masnachol, roeddent hefyd yn uned cymorth hyfforddi a datblygu. Ychwanegodd fod incwm wedi cynyddu bob blwyddyn ers iddo ddechrau yn 2016 hyd yn oed yn ystod y pandemig ac roedd yn falch iawn ohono. Ychwanegodd fod cyflwyno hyfforddiant ar-lein yn ystod y cyfnod hwnnw yn beth cadarnhaol ac roedd yn rhywbeth yr oeddent yn gobeithio ei gyflwyno eto yn y dyfodol a fyddai o fudd i bobl a oedd yn rhy bryderus i fynd allan. Croesawodd unrhyw Aelodau i ymweld â nhw i weld y gwaith yr oeddent yn ei wneud.
Gofynnodd y Cynghorydd Owen sut i gyfeirio pobl at Double Click, a, gan ymateb, dywedodd y Rheolwr Cyffredinol mai'r pwynt cyswllt cyntaf oedd Alison Adams cyn i bobl gael eu cyfeirio am gyfarfod anffurfiol gyda Double Click i wneud yn si?r bod Double Click yn iawn i'r unigolyn a bod Double Click yn iawn iddyn nhw ond yn anffodus roedd rhestr aros. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Oedolion o dan 65 Oed wrth yr Aelodau fod Alison Adams, a oedd yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer Double Click a gwahanol ddewisiadau iechyd meddwl eraill, yn gweithio o fewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl i Gyngor Sir y Fflint ac y byddai'n darganfod pa mor hir yw’r rhestr aros a rhoi gwybod i’r Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oeddent yn recriwtio unigolion sydd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a hyder isel. Dywedodd y Rheolwr ... view the full Cofnodion text for item 36. |
|
Growing Places and HFT PDF 114 KB Pwpras: Derbyn adroddiad cynnydd ar Growing Places a HFT. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Comisiynu'r adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaethau Dydd a Chyfleoedd Gwaith i Bobl ag Anableddau Dysgu a'r sefyllfa gytundebol gyfredol gyda sefydliad partner o'r enw Hft. Roedd Hft yn sefydliad elusennol cenedlaethol gyda chontract 5 mlynedd i ddarparu’r gwasanaeth gyda’r Cyngor yn weithredol o fis Chwefror 2018 gyda dewis yn y contract i ymestyn am 2 flynedd arall tan fis Ionawr 2025. Roeddent yn darparu gweithgareddau ystyrlon ar draws nifer o ganolfannau dydd ac amgylcheddau gwaith a hefyd yn darparu seibiant i bobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau, ac i'w teuluoedd a'u gofalwyr. Roedd y gwasanaeth yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau newydd, paratoi ar gyfer gwaith cyflogedig a gwaith gwirfoddol, hybu annibyniaeth a datblygu rhwydweithiau cymdeithasol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod Hft yn llwyddiant ariannol tebyg i Double Click a'i fod wedi dod â gwerth ychwanegol enfawr o'u hadnoddau eu hunain yn ariannol ac yn greadigol. Roedd adfywiad y gr?p o wasanaethau yn syfrdanol gan fod angen adnewyddu rhai o'r gwasanaethau oedd ganddynt, e.e. Hwb Cyfle yn ganolbwynt. Cyfeiriodd at bwynt 2.02 yn yr adroddiad a dywedodd y dylai adnewyddu'r contract adlewyrchu y dylid ystyried staff nad ydynt yn TUPE ar gyfer codiadau chwyddiannol ynghyd â chostau rhedeg eraill.
Diolchodd y Cynghorydd Mackie i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) am ei sylwadau a gwerthfawrogodd na ellid rhoi’r holl wybodaeth yn yr adroddiad gan ei fod yn fasnachol sensitif ond awgrymodd y dylai’r holl wybodaeth yr oedd newydd ei rhoi ar lafar gael ei chynnwys yn yr adroddiad er mwyn cytuno i ymestyn y contract 2 flynedd.
Gan ymateb, derbyniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei bwynt a gobeithiai y byddai'r estyniad 2 flynedd yn cael ei gadarnhau ac y byddai mwy o fanylion am eu llwyddiant yn cael eu trafod yn ddiweddarach.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Mackie ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed drwy'r bartneriaeth gyda Hft a chefnogi i ymestyn y contract yn unol â'r cymal ymestyn. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |