Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Medi 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Wisinger a’u heilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol. Nododd fod gan y cyfarfod nesaf ar 9 Rhagfyr raglen drom a rhoddodd amlinelliad o'r eitemau oedd i'w cyflwyno. Yna cyfeiriodd at gyfarfod 20 Ionawr a rhoddodd ddiweddariad o'r eitemau ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Cyfarfod mis Ionawr oedd yr olaf ym mlwyddyn y cyngor oherwydd yr Etholiadau lleol. Os hoffai unrhyw aelod ychwanegu unrhyw eitemau ychwanegol at y Flaenraglen Waith gallent wneud hynny drwy gysylltu â hi.
Yna cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, gan gadarnhau bod y wybodaeth am Apwyntiadau Meddygon Teulu wyneb yn wyneb a'r diweddariad ar Covid Hir wedi'u dosbarthu. Ni chafwyd unrhyw ymateb gan LlC ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Sir y Fflint, ond cadarnhaodd yr eir i’r afael â hyn. Yna cyfeiriodd at yr awgrym gan y Cynghorydd Marion Bateman bod y pwyllgor yn cerdded o amgylch canol tref neu Barc Manwerthu i gael dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu pobl anabl bob dydd. Nid oedd hyn yn cael sylw ar hyn o bryd ond roedd ar y radar a byddai'n cael ei gynnwys yn rhaglen y flwyddyn ddinesig newydd. Roedd yr holl gamau gweithredu eraill wedi’u cwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
|
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Derbyndiweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mark Polin, Jo Whitehead a Rob Smith o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod.
Diolchodd Mark Polin (Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i ddod i'r cyfarfod i ddarparu ymatebion i'r cwestiynau a godwyd. Roedd hwn hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y berthynas waith dda oedd yn bodoli rhwng y Byrddau Iechyd a’r Awdurdodau Lleol, yn enwedig yn ystod Pandemig Covid. Eglurodd nad oedd modd datrys rhai o'r pwysau yn y byrdymor ond roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio lliniaru'r rhain.
Diolchodd Jo Whitehead (Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i'r pwyllgor am y cyfle i siarad, a thalodd deyrnged i'r Prif Swyddog, yr Uwch Dîm Arwain a Phartneriaid sy'n darparu gwasanaethau yn Sir y Fflint. Roedd y gwaith hwn wedi galluogi modelau gwasanaeth gofal diddorol a blaengar a oedd yn gwneud gwahaniaeth i'r boblogaeth. A hithau ond wedi bod yn ei swydd am 10 mis, roedd Jo Whitehead yn falch, er gwaethaf yr heriau, fod ffocws a rennir ar anghenion pobl Sir y Fflint. Roedd BIPBC yn gofalu am boblogaeth o tua 700,000 a disgwylir i'r ystod oedran dros 85 gynyddu 154%. Roedd cynlluniau hanfodol fel Marleyfield mor bwysig.
Yna rhoddodd Jo Whitehead wybodaeth am nifer yr achosion Covid a diweddariad ar y Rhaglenni Brechu a’r Pigiad Atgyfnerthu. Roedd lefel y cleifion mewn ysbytai ledled Cymru mor uchel â mis Chwefror ond roedd paratoadau ar y gweill i weithredu'r Cynllun Ymchwydd ar gyfer UThD. Roedd goblygiadau Covid Hir, effeithiau ar blant a gofalwyr hefyd yn cael eu hystyried. Yna rhoddodd drosolwg o'u blaenoriaethau sefydliadol a'r Strategaeth Gwasanaethau Clinigol. Darparwyd gwybodaeth hefyd am y tri phrif safle acíwt a oedd yn cynnwys Adrannau Achosion Brys, Mamolaeth ac ystod o wasanaethau craidd. Roedd arian LlC wedi galluogi gwelliannau i safleoedd Maelor a Bangor, gyda thrafodaethau ar y gweill ynghylch creu nifer o ganolfannau triniaeth rhanbarthol. Yna cyfeiriodd Jo Whitehead at y mentrau rhestrau aros a rhoddodd enghraifft i’r cleifion hynny a oedd yn aros am gataractau neu lawdriniaeth llygaid a oedd bellach yn teithio i Gilgwri, er mwyn lleihau amseroedd aros.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar y Timau Ardal, cadarnhawyd bod y Model Gweithredu yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno'r ddarpariaeth yn lleol ac yn ddiogel. Roedd y strwythurau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd ac roedd Jo Whitehead am barhau i ganolbwyntio ar ardaloedd y Dwyrain, y Gorllewin a'r Canolbarth gan ddatblygu systemau rheoli gofal iechyd integredig.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r uned mân anafiadau a addawyd yn cael ei gosod yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy. Cadarnhawyd bod opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Glannau Dyfrdwy i liniaru'r achosion gofal brys yn y Maelor. Nid oedd amserlen ar gyfer y gwaith hwn, ond roedd yn un o'r opsiynau y gobeithiwyd ei barhau.
Cwestiynau gan y Pwyllgor
1. Rhowch ddiweddariad ... view the full Cofnodion text for item 40. |
|
Attendance and Apologies Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|