Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Margaret Parry-Jones 01352 702427 E-bost: maureen.potter@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Dave Mackie gysylltiad personol a datganodd y Cynghorydd Sean Bibby gysylltiad hanesyddol ag eitem rhif 6. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Ionawr 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2025 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau. Dywedodd y byddai Ymweliadau Rota yn cael eu cynnal ag Aelodau’r Pwyllgor ac y byddai adroddiad ar Garbon Sero ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod ym mis Mawrth. Cadarnhaodd y byddai’r gân roedd Marleyfield House wedi’i recordio gyda gr?p Celfyddydau a Cherddoriaeth ar sut y gwnaeth y pandemig eu heffeithio, yn cael ei hanfon at yr Aelodau fel y gofynnwyd mewn cyfarfod blaenorol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a fynychodd yr Ymweliad Climbie yn Swyddfeydd y Fflint ar 17 Chwefror.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi nodi’r cynnydd a wnaed ar gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wasanaethau Gofalwyr Di-dâl yn Sir y Fflint Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y gwasanaethau gofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint ar hyn o bryd gan gynnwys canlyniad yr ymarfer caffael diweddar a’r adolygiad gan yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu a Claire Sullivan (GOGDdC) ddiweddariad mewn perthynas â’r adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) ar wasanaethau gofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint yn cynnwys canlyniad yr ymarfer caffael diweddar a’r adolygiad gan yr Ombwdsmon.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Claire Sullivan am drefnu’r ymweliad hynod ddiddorol i’r Ganolfan GOGDdC yn yr Wyddgrug a gynhaliwyd cyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn
cydnabod y diweddariad i’r broses o ailgomisiynu gwasanaethau
gofalwyr di-dâl; (b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod canlyniad yr Ymchwiliad ar ei “Liwt ei Hun” i Wasanaethau Gofal gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r cynllun gweithredu dilynol;
(c) Bod y Pwyllgor yn cydnabod canlyniad Adroddiad “Dilyn y Ddeddf” Gofalwyr Cymru; a
(d) Bod y Pwyllgor cymeradwyo’r gwaith cadarnhaol sy’n mynd rhagddo gyda GOGDdC i ddatblygu gwasanaethau gofalwyr di-dâl a’r Ganolfan i Ofalwyr fel canolbwynt i ofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint. |
|
Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028 Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth a chefnogaeth yr Aelodau ar gyfer y safleoedd sydd wedi’u nodi gan Dîm Cyfalaf y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, ac ar gyfer dechrau’r gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu ar gyfer y safleoedd arfaethedig, er mwyn sicrhau cyllid drwy gyflwyno Achosion Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Ganolfan i Deuluoedd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth a chefnogaeth yr Aelodau ar gyfer y safleoedd a oedd wedi’u nodi gan Dîm Cyfalaf y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, ac ar gyfer dechrau’r gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu ar gyfer y safleoedd arfaethedig, er mwyn sicrhau cyllid drwy gyflwyno Achosion Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru.
Cytunodd i ddosbarthu rhestr o ffrydiau cyllido i’r Aelodau ac mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mackie, cytunodd i gwrdd ag ef y tu allan i’r cyfarfod ar gyfer trafodaethau pellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r safleoedd cyfalaf a nodwyd yn Sir y Fflint at ddiben sicrhau’r Grant Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028 (cam 3) gan Lywodraeth Cymru; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu a chyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer y safleoedd arfaethedig. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |