Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid meeting

Cyswllt: Margaret Parry-Jones 01352 702427  E-bost: maureen.potter@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

42.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

43.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Rhagfyr 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.

44.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith gyfredol (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau.  Dywedodd hefyd y byddai Hyfforddiant ar Ymweliadau Rota yn cael ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor a oedd heb eu hyfforddi eto.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau.

45.

Cofrestr Risgiau Gorfforaethol pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        I adolygu Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ragarweiniad bras a chyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) i adolygu Cofrestr Risgiau Gorfforaethol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi adolygu’r adroddiad ar Gofrestr Risgiau Gorfforaethol y Cyngor, yn enwedig risg RSS54 – Cynaliadwyedd Darpariaeth Gofal; a

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau yngl?n â’r trefniadau a oedd ar waith i reoli risg RSS54 – Cynaladwyedd Darpariaeth Gofal.

 

46.

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25 pdf icon PDF 106 KB

Pwrpas:        Adolygu a monitro perfformiad canol blwyddyn y Cyngor, gan gynnwys camau gweithredu a mesurau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i’r Aelodau adolygu a monitro perfformiad y Cyngor ar ganol blwyddyn 2024/25, gan gynnwys camau gweithredu a mesuryddion, fel yr oedd Cynllun y Cyngor (2023-28) yn ei nodi.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol wrth yr Aelodau fod gweithdy ar Gynllun y Cyngor wedi’i drefnu ar gyfer yr holl Aelodau ym mis Ebrill 2025.  Awgrymodd hefyd y dylai cynlluniau yn y dyfodol gynnwys materion ar draws portffolios yn rhan greiddiol ohonynt, gan ddangos y cyfrifoldeb sydd ar draws portffolios e.e. caffael.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu wrth yr Aelodau y byddai adroddiad arbennig ar y siwrnai i sero net o safbwynt y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 i’w cyflawni o fewn 2024/25;

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r perfformiad cyffredinol ar ddangosyddion / mesurau perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a

(c)        Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.

47.

Adroddiad Gwasanaethau Rheoledig Mewnol pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Disgrifio sefyllfa bresennol gwasanaethau mewnol i oedolion mewn perthynas â gofynion rheoleiddio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cyfrifol adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i roi gwybod i’r Aelodau am sefyllfa bresennol gwasanaethau mewnol ar gyfer oedolion mewn perthynas â gofynion rheoleiddiol.  Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai rhagor o ystyriaeth yn cael ei roi i brosiectau hanesyddol cymdeithasol a chyfleoedd eraill i weithio gyda Theatr Clwyd yn y dyfodol.  Cytunodd hefyd i anfon y gân yr oedd staff Marleyfield House wedi’i recordio gyda gr?p celfyddydau a cherddoriaeth ar sut y gwnaeth y pandemig effeithio arnynt at yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor wedi adolygu asesiad yr Unigolyn Cyfrifol a oedd wedi dynodi lefel uchel o hyder ym mhob un o feysydd y gwasanaeth; a

(b)       Bod y Pwyllgor wedi nodi bod y safon uchel o ofal yn dda ar draws y gwasanaeth a bod enghreifftiau lle’r oedd y gofal a’r cymorth wedi cyrraedd safon ragorol.

48.

Diweddariad ar y newidiadau i Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr fel y nodir gan Lywodraeth Cymru

Pwrpas:        Darparu diweddariad llafar ar newidiadau arfaethedig i Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ragarweiniad bras a rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu ddiweddariad ar lafar i’r Aelodau ar ddarpar newidiadau i Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr. 

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai drafft cynnar o’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

49.

Cynllun Gweithredu gorwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried adrannau o’r Cynllun Gweithredu gorwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 sy’n berthnasol I’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried rhannau o’r Cynllun Gweithredu ar orwariant yn ystod y flwyddyn 2024/25 a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r mesurau o fewn cynllun gweithredu 2024/25 a oedd yn cael eu hystyried i’w cynnwys er mwyn gwella’r sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

50.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.